dcsimg

Ein hymrwymiad i chi

Byddwn yn ceisio darparu’r safonau uchaf o wasanaeth i gwsmeriaid bob amser.

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu eich preifatrwydd a dilyn y gofynion sydd i'w cael yn GDPR a Deddf Diogelu Data 2018. Edrychwch ar ein Polisi Preifatrwydd Trwyddedu Teledu.

Pan fydd angen i ni weld a oes angen Trwydded Deledu ar eich cartref, byddwn yn gwneud hynny mewn ffordd deg a chan darfu arnoch gyn lleied â phosib.

Byddwn yn ceisio prosesu cwynion yn gyflym a sicrhau bod ein hymchwiliadau i gyd yn drylwyr a theg.

Ein gwasanaeth i gwsmeriaid

Byddwn yn ceisio darparu’r safonau uchaf o wasanaeth i gwsmeriaid.

Byddwn bob amser yn gwrtais.

Byddwn yn ateb pob galwad, llythyr ac e-bost yn gyflym a boneddigaidd. Byddwn yn ceisio cael pethau'n iawn y tro cyntaf.

Byddwn yn gweithredu'n teg a chyson tuag at bob cwsmer o fewn telerau'r gyfraith a pholisïau sy'n rheoli'r Drwydded Deledu. Ewch i Deddfwriaeth a Pholisi i gael gwybod mwy.

Byddwn yn helpu cwsmeriaid i ddod o hyd i'r ffordd o dalu sy'n addas iddyn nhw.


Parchu ein staff

  • Ein rôl ni yw sicrhau bod gennych Drwydded Deledu, pan fydd hynny’n ofynnol yn ôl y gyfraith.
  • Gofynnwn ichi drin ein staff yn yr un ffordd ag yr hoffech gael eich trin.
  • Ni fydd ymddygiad ymosodol yn cael ei goddef

 

Ein swyddogion gorfodi

Pan fydd ein swyddogion gorfodi yn ymweld ag eiddo fe fyddan nhw'n:

Cadarnhau eu bod yn y cyfeiriad cywir ac yn siarad â pherson cyfrifol.

Profi eu hunaniaeth trwy ddangos cerdyn hunaniaeth. Os rydych yn gofyn, mae nhw hefyd yn medru ddarparu rhif ffôn, felly gall y person sydd yn derbyn ymweliad cadarnhau y gwybodaeth ar y cerdyn. Mae’r gwasanaeth hwn ar gael hyd at 6:30pm rhwng Dydd Llun a Dydd Gwener.

Egluro pam eu bod yn ymweld a byddant yn foneddigaidd, cwrtais a theg.

Mynd i mewn i'r eiddo ar ôl cael caniatâd yn unig.

Mewn rhai amgylchiadau, gall swyddogion ofyn am ymweliad canfod, neu wneud cais i’r Llys am warant chwilio os oes rheswm i amod bod rhywun yn y cyfeiriad yn:

  • gwylio teledu ar unrhyw sianel fel BBC, ITV, Channel 4, Dave a sianeli rhyngwladol
  • gwylio teledu ar wasanaeth talu fel Sky, Virgin Media a BT
  • gwylio teledu byw ar wasanaeth ffrydio fel YouTube a Amazon Prime Video
  • defnyddio BBC iPlayer*

Dilyn deddfau, rheoliadau, polisïau a chodau ymarfer perthnasol.

Parchu hawliau pobl i breifatrwydd a chyfrinachedd.

Rhoi stop ar yr ymweliad os gofynnir iddynt adael.

Pan fo angen, cynhaliwch gofnod o gyfweliad dan rybudd, a sicrhau bod y cyfwelai yn ymwybodol o ganlyniadau posibl gwylio neu recordio rhaglenni teledu byw ar unrhyw sianel neu ddyfais, neu lawrlwytho neu wylio rhaglenni’r BBC ar BBC iPlayer heb Drwydded Deledu ddilys.


Parchu ein staff

  • Ein rôl ni yw sicrhau bod gennych Drwydded Deledu, pan fydd hynny’n ofynnol yn ôl y gyfraith.
  • Gofynnwn ichi drin ein staff yn yr un ffordd ag yr hoffech gael eich trin.
  • Ni fydd ymddygiad ymosodol yn cael ei goddef

*Nid oes angen trwydded i wylio rhaglenni S4C ar alw.