dcsimg

Ein rolau a'n cyfrifoldebau

Mae gan Drwyddedu Teledu nifer o rolau a chyfrifoldebau. Rydym yn prosesu taliadau ac yn ymateb i ymholiadau gan gwsmeriaid. Rydym yn hysbysu pobl pan fyddant angen prynu Trwydded Deledu ac yn rhoi gwybodaeth am y nifer o ddulliau gwahanol o dalu. Rydym hefyd yn gyfrifol am hysbysu pobl nad ydynt wedi eu trwyddedu’n briodol ac am erlyn pobl sy’n osgoi talu eu Trwydded Deledu. Ein nod yw uchafu refeniw o’r ffi drwyddedu trwy gasglu’r ffi yn y dull mwyaf cost effeithiol posibl.

Sut ydym yn defnyddio’n cronfa ddata

Rydym yn cynnal cronfa ddata o gyfeiriadau trwyddedig a didrwydded yn y Deyrnas Unedig. Defnyddiwn y gronfa ddata hon i nodi a chysylltu â phobl y credwn sy'n gyfarpar derbyn teledu heb Drwydded Deledu ddilys.

 

Gwirio bod gan eiddo drwydded briodol

Fel arfer byddwn yn anfon nifer o lythyrau i atgoffa deiliaid o bwysigrwydd cael trwydded briodol. Yna byddwn yn ceisio cysylltu â nhw dros y ffôn. Os nad ydym yn cael ymateb, gallwn anfon swyddog gorfodi i weld a oes derbynnydd teledu ar yr eiddo. Gall ymweliadau arwain at ddal rhai sy’n osgoi. Ar gyfartaledd, byddwn yn dal tua 1,000 o osgowyr bob dydd.

Dim ond os yw dulliau eraill llai ymwthiol a mwy cost effeithiol wedi eu disbyddu y byddwn ni’n defnyddio offer datgeliad.