dcsimg

Cydraddoldeb

Cydraddoldeb a Thrwyddedu Teledu

Mae Trwyddedu Teledu wedi ymrwymo i gydraddoldeb ac amrywiaeth ac mae'n gweithio'n barhaus i wella ansawdd a hygyrchedd y gwasanaeth i'w gwsmeriaid, yn unol â'r dyletswyddau a nodir uchod.

Mae ein gwaith yn y maes hwn yn cyd-fynd â'r amcanion a ddisgrifir yn Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant y BBC 2021-2023 ac fe’i trefnir dan reolaeth Fforwm Cydraddoldeb Trwyddedu Teledu a gweithgorau eraill.

Rydym yn ceisio delio ag anghenion unigol ein cwsmeriaid i gyd. Mae gennym hefyd nifer o ddarpariaethau i'w gwneud yn haws i gwsmeriaid gysylltu â ni a rheoli eu Trwydded Deledu, fel gwybodaeth mewn gwahanol ieithoedd a fformatau amgen.  Mae rhagor o wybodaeth ar y cymorth sydd ar gael ar ein tudalen Hygyrchedd.

 

Deddf Cydraddoldeb 2010

Disodlodd Deddf Cydraddoldeb 2010 wahanol ddarnau o ddeddfwriaeth, gan gynnwys:

  • Deddf Cysylltiadau Hiliol 1976
  • Deddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995
  • Deddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1975

Mae naw o nodweddion gwarchodedig yn dod o dan y Ddeddf.  Sef:

1. Oed
2. Anabledd
3. Ailbennu rhywedd
4. Priodas a phartneriaeth sifil
5. Beichiogrwydd a mamolaeth
6. Hil
7. Crefydd neu gred
8. Rhyw
9. Cyfeiriadedd rhywiol.

Mae'r Ddeddf Cydraddoldeb yn rhoi dyletswydd statudol ar awdurdodau cyhoeddus o ran sut maen nhw'n gweithredu eu swyddogaethau.  Mae gofyn i sefydliadau roi 'ystyriaeth briodol' i'r canlynol:

  • Dileu gwahaniaethu anghyfreithlon, aflonyddu, erledigaeth ac ymddygiad arall a waherddir gan y Ddeddf
  • Hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng unigolion sy'n rhannu nodwedd warchodedig ac unigolion nad ydynt yn ei rhannu
  • Meithrin perthynas dda rhwng unigolion sy'n rhannu nodwedd warchodedig ac unigolion nad ydynt yn ei rhannu

Adolygiad ar Anghyfartaledd rhwng y Rhywiau 2023

Bydd mwy o fenywod na dynion yn cael eu herlyn am osgoi talu ffi’r Drwydded Deledu. Mewn adolygiad gan y Llywodraeth yn 2015 canfuwyd nad oedd y BBC yn gweithredu polisi gwahaniaethol ond argymhellodd y dylai edrych ar y mater mewn mwy o fanylder. O ganlyniad, cynhaliodd y BBC adolygiad manwl yn 2017 a chanfu mai ffactorau cymdeithasol sylfaenol sy’n sbarduno’r anghyfartaledd hwn. Yn dilyn hyn, gwnaed newidiadau i brosesau Trwyddedu Teledu mewn ymgais i'w leihau.

Ymrwymodd y BBC i gynnal ail adolygiad, a gyhoeddwyd yn 2023, er mwyn dod i ddeall yn well pam mae’r anghyfartaledd yn dal i fodoli yn ogystal ag edrych ar sut mae Trwyddedu Teledu yn gweithredu ac a ellid gwneud gwelliannau.


Adroddiad ar Anghyfartaledd rhwng y Rhywiau 2023 (Adroddiadau’r BBC yn agor mewn ffenestr newydd)


Adroddiad ar Anghyfartaledd rhwng y Rhywiau 2017 (PDF 453 Kb yn agor mewn ffenestr newydd)