dcsimg

Ynglŷn â Thrwyddedu Teledu

Y BBC a Thrwyddedu Teledu

Mae'r BBC yn gorfforaeth wedi ei ymgorffori dan Siarter Frenhinol a gyhoeddwyd gan y Frenhines dan yr Uchelfraint Frenhinol. Fe ddaeth Siarter bresennol y BBC i rym ar 1 Ionawr 2017 a bydd yn rhedeg tan 31 Rhagfyr 2027. Mae'n cydnabod annibyniaeth olygyddol y BBC yn glir ac mae'n pennu dibenion cyhoeddus y Gorfforaeth. Caiff y Siarter ei hategu gan Gytundeb Fframwaith rhwng y BBC a'r Ysgrifennydd Gwladol dros Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon. Mae'n pennu rhwymedigaethau cyhoeddus y BBC yn fanwl ac yn cwmpasu rhwymedigaethau rheoleiddiol a threfniadau ariannu'r BBC.

Mae'r Siarter a'r Cytundeb Fframwaith yn darparu sail gyfansoddiadol ar gyfer y BBC. Mae’r BBC yn cael ei lywodraethu gan Fwrdd, sy'n gyfrifol am gyfeiriad strategol a chreadigol y BBC ac mae'n gyfrifol am ymarfer priodol, effeithiol ac annibynnol ar holl swyddogaethau'r BBC yn unol â darpariaethau'r Siarter a'r Cytundeb Fframwaith. Dan arweiniad y Cyfarwyddwr Cyffredinol, mae'r Pwyllgor Gwaith yn gyfrifol am reolaeth weithredol y BBC, sy'n cynnwys cyfarwyddwyr o bob rhan o'r BBC.

Mae'n ofynnol i'r BBC roi Trwyddedau Teledu a chasglu ffi'r drwydded dan Ddeddf Cyfathrebu 2003 (yn agor mewn ffenest newydd). Mae “Trwyddedu Teledu” yn nod masnach a ddefnyddir gan gwmnïau sy’n gweithio dan gontract i’r BBC i weinyddu casglu ffïoedd trwydded deledu a gorfodi’r system trwyddedu teledu. Mae’r rhan fwyaf o waith gweinyddu Trwyddedau Teledu ar gontract i Capita Business Services Limited (‘Capita’). Darperir gwasanaethau dros y cownter gan PayPoint plc (‘PayPoint’) yn y Deyrnas Unedig, a chan Swyddfa’r Post yn Ynys Manaw ac Ynysoedd y Sianel. Grŵp Target Limited (‘Target’) yw'r cyflenwr ar gyfer y Cynllun Talu Syml. Mae gwasanaethau marchnata ac argraffu ar gontract i RAPP Limited. Mae gwasanaethau cyfryngau ar gontract i Havas Media Limited. Mae’r BBC yn awdurdod cyhoeddus parthed ei swyddogaethau trwyddedu teledu ac mae’n dal cyfrifoldeb cyffredinol.

 

*Nid yw galwadau i’n rhifau 0300 yn costio dim mwy na galwad ar gyfradd genedlaethol i rif 01 neu 02, boed o ffôn symudol neu linell dir. Os ydych yn cael munudau cynhwysol, bydd galwadau i rif 0300 yn cael eu cynnwys yn rhad ac am ddim.

Pwy sy’n adolygu, a phwy sy’n arolygu Trwyddedu Teledu?

Rheolir contractau’r BBC gyda chwmnïau a gyflogir i weinyddu’r system drwyddedu teledu gan Dîm Rheoli Trwyddedu Teledu y BBC. Mae’r tîm yn eistedd oddi mewn i Grŵp Prif Swyddog Cwsmeriaid y BBC, ac yn atebol yn y pen draw i Bwyllgor Gwaith y BBC.

Y Swyddfa Archwilio Genedlaethol (“NAO”) yw archwilydd y BBC ac mae'n adolygu datganiadau gan gontractwyr Trwyddedu Teledu fel rhan o archwiliadau annibynnol blynyddol o'r BBC. Mae’r BBC hefyd yn ddarostyngedig i archwiliadau ad hoc y Swyddfa Archwilio Genedlaethol ac archwiliadau mewnol annibynnol blynyddol y BBC. Mae Tîm Rheoli Trwyddedu Teledu yn rhan o’r broses hon, sydd hefyd yn cynnwys archwilio datganiadau gan gontractwyr Trwyddedu Teledu.

Gorfodir ffi'r drwydded dan gyfraith (Deddf Cyfathrebu 2003) (yn agor mewn ffenest newydd) a ddeddfwyd gan Senedd y DU (yn agor mewn ffenest newydd). Cymeradwyir swm ffi'r drwydded gan Senedd y DU mewn Rheoliadau a wnaed yn unol â’r Ddeddf honno. Yr Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (yn agor mewn ffenest newydd) yw’r asiantaeth gyfrifol yn y llywodraeth am ddarlledu yn y Deyrnas Unedig.

Parthed ei rymoedd i ddefnyddio offer datgelu dan Ddeddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio 2000 (yn agor mewn ffenest newydd) a Gorchymyn Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio (y Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig) 2001 (yn agor mewn ffenest newydd), o’r 1af Medi 2017 ymlaen, mae’r BBC yn ddarostyngedig i arolygiaeth annibynnol Swyddfa’r Comisiynydd Pwerau Ymchwilio (“IPCO”) (yn agor mewn ffenest newydd).

Sut ydw i’n gallu cysylltu â Thrwyddedu Teledu?

Gellir cysylltu â Thrwyddedu Teledu trwy:

Pwy yw pennaeth Trwyddedu Teledu?

Shirley Cameron yw’r Cyfarwyddwr Refeniw a Rheoli Cwsmeriaid ac mae’n bennaeth ar Adran Rheoli Trwyddedu Teledu.

Pam mae’r BBC yn defnyddio contractwyr i weinyddu’r system drwyddedu teledu?

Mae’n fwy cost effeithiol na chyflawni’r swyddogaethau hyn yn fewnol gan y BBC. Dyfernir contractau wedi cyflawni prosesau caffael cystadleuol yn unol â Rheoliadau Caffael Cyhoeddus yr UE.

Ceir rhagor o wybodaeth am bartneriaid a chyflenwyr y BBC yn:

www.bbc.co.uk/partnersandsuppliers/

Pa gontractau mawr sydd gan y BBC gyda chwmnïau a gyflogir i weinyddu’r system trwyddedu teledu?

Mae'r BBC wedi dyfarnu contractau i'r cwmnïau a restrir isod i weinyddu casglu ffioedd Trwyddedu Teledu a gorfodi’r system trwyddedu teledu yn y Deyrnas Unedig:

  • RAPP Limited
  • Capita Business Services Limited
  • PayPoint plc
  • Adare
  • Havas Media Limited
  • Target Group Limited
Pwy yw cyfarwyddwyr y cwmnïau a gontractiwyd gan y BBC i weinyddu’r system Trwyddedu Teledu?

Mae’r wybodaeth hon ar gael o wefan Tŷ’r Cwmnïau (yn agor mewn ffenest newydd), asiantaeth y llywodraeth sy’n gyfrifol am gofrestru cwmnïau. Gellir cysylltu â nhw yn:

Ffôn: +44 (0)303 1234 500

E-bost: enquiries@companies-house.gov.uk

Cyfeiriad post:
Tŷ’r Cwmnïau
Ffordd y Goron
Maendy
CF14 3UZ
Caerdydd

Sut mae’r BBC yn monitro perfformiad cwmnïau a gyflogwyd i weinyddu’r system trwyddedu teledu?

Mae Tîm Rheoli Trwyddedu Teledu y BBC yn gyfrifol am sicrhau fod y cwmnïau hyn yn cydymffurfio â rhwymedigaethau cytundebol, a bod safonau gwasanaethau'n gwella yn barhaus. Mae’r contractau yn diffinio lefelau gwasanaeth, ac yn dynodi fod yn rhaid i gontractwyr gydymffurfio, lle bo’n berthnasol, â’r gofynion statudol (megis deddfwriaeth diogelu data a chydraddoldeb) y mae’n rhaid i’r BBC eu bodloni fel yr awdurdod cyhoeddus sy'n gyfrifol am drwyddedu teledu.

Faint o staff sy’n cael eu cyflogi gan gwmnïau sy’n cael eu penodi i weinyddu’r system trwyddedu teledu?

Mae contractwyr Trwyddedu Teledu yn cael eu gwerthuso ar sail gwerth am arian a sut maent yn darparu gwasanaethau. Mater iddyn nhw, ac nid y BBC, yw lefelau staffio.

A yw Trwyddedu Teledu yn cysylltu â phobl ynghylch trwyddedau?

Ydy. Mae Trwyddedu Teledu yn defnyddio negeseuon testun, e-bost a phost i ofyn i bobl brynu neu adnewyddu Trwydded Deledu neu i wneud ymholiadau trwyddedu cyffredinol.

Pwy sy’n darparu gweithgarwch cysylltiadau cyhoeddus ar gyfer Trwyddedu Teledu?

Mae’r swyddogaeth cysylltiadau cyhoeddus genedlaethol yn cael ei chyflawni'n fewnol. Rydym yn parhau i ddefnyddio cefnogaeth cysylltiadau cyhoeddus ranbarthol arbenigol gan asiantaethau sydd wedi’u lleoli yn y cenhedloedd.