dcsimg

Gwybodaeth am y Drwydded Deledu

Rydym yn gweithio gyda chyflenwr newydd ar gyfer llythyrau ac e-byst i gwsmeriaid Trwyddedu Teledu. Rhai anfonir llythyrau yn Saesneg yn unig dra byddwn yn newid i’r cyflenwr newydd. Gallwch weld eich trwydded ar-lein yn Gymraeg o hyd yn y cyfamser. Ffoniwch ni ar 0300 790 6042 os oes angen unrhyw help arnoch. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gall hyn ei achosi.

Mae eich Trwydded Deledu yn gadael i chi fwynhau amrywiaeth enfawr o deledu. Mae’r drwydded yn eich caniatáu chi i wylio:

  • Pob sianel teledu, fel BBC, ITV, Channel 4, Dave a sianeli rhyngwladol
  • Gwasanaethau teledu talu, fel Sky, Virgin Media a BT
  • Teledu byw ar wasanaethau ffrydio, fel YouTube a Amazon Prime Video.
  • Popeth ar BBC iPlayer.

Mae hyn yn cynnwys recordio a lawr lwytho ar unrhyw ddyfais.

Mae Trwydded Deledu lliw safonol yn costio £169.50. Gallwch dalu’r cyfan ar unwaith neu ddewis rhannu’r gost. Mae’r dudalen yma hefyd yn rhoi gwybod i chi am y gwahanol ffyrdd y gallwch dalu, trwyddedau ar gyfer busnesau, ac a ydych yn gymwys i gael consesiwn.

Mae rhai dolenni ar y dudalen yma’n mynd i dudalennau Saesneg. Petai’n well gennych siarad â ni, ffoniwch ein Llinell Gymorth Gymraeg ar 0300 790 6042*.

 
A oes arnoch angen Trwydded Deledu?

Yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw, mae arnoch angen Trwydded Deledu os ydych yn

  • gwylio teledu ar unrhyw sianel fel BBC, ITV, Channel 4, Dave a sianeli rhyngwladol
  • gwylio teledu ar wasanaeth talu fel Sky, Virgin Media a BT
  • gwylio teledu byw ar wasanaeth ffrydio fel YouTube a Amazon Prime Video
  • Defnyddio BBC iPlayer*

Mae hyn yn cynnwys recordio a lawr lwytho ar unrhyw ddyfais.

*Nid oes angen trwydded i wylio rhaglenni S4C ar alw.

Fel arfer bydd arnoch angen un Drwydded Deledu yn unig ar gyfer pob cyfeiriad, hyd yn oed os byddwch yn defnyddio llawer o ddyfeisiau. Mae gwahanol amodau yn gymwys ar gyfer cartrefi heb gytundeb cyd-denantiaeth a busnesau, ble gallai fod angen mwy nag un drwydded. Os oes gennych ail gartref, bydd arnoch angen trwydded ar wahân ar gyfer y cyfeiriad hwnnw. Cewch wybod mwy trwy ffonio 0300 790 6042.

Rydych yn torri’r gyfraith os ydych yn gwylio neu’n recordio rhaglenni teledu byw ar unrhyw sianel neu ddyfais, neu’n lawrlwytho neu’n gwylio rhaglenni’r BBC ar BBC iPlayer, heb drwydded. Rydych yn mentro cael eich erlyn a dirwy o hyd at £1,000 ynghyd ag unrhyw gostau cyfreithiol a/neu iawndal y gallech gael eich gorchymyn i’w talu.

Does dim rhaid i chi gael Trwydded Teledu ar gyfer BBC iPlayer os mai dim ond teledu ar alw S4C ydych chi’n ei wylio neu ddim ond yn gwrando ar y radio.

Ydych chi wedi symud tŷ yn ddiweddar?

Os ydych wedi symud tŷ, neu os yw’r manylion sydd gennym amdanoch yn anghywir neu wedi newid, rhowch fanylion eich cyfeiriad newydd i ni.

Ddim yn gwylio teledu byw neu BBC iPlayer?

Os na fyddwch byth yn gwylio neu’n recordio unrhyw raglenni teledu byw ar unrhyw sianel neu ddyfais, ac na fyddwch byth yn lawrlwytho neu’n gwylio rhaglenni’r BBC ar BBC iPlayer, does arnoch ddim angen Trwydded Deledu. Rhowch wybod i ni nad oes arnoch angen trwydded neu ffoniwch 0300 790 6042*. Mae amodau gwahanol yn gymwys i fusnesau.

Os byddwch chi'n dweud wrthym nad ydych angen trwydded, efallai y byddwn yn ymweld â chi i gadarnhau hynny. Mae angen yr ymweliadau hyn oherwydd, pan fyddwn ni'n cysylltu, bydd un o bob deg* o bobl oedd wedi dweud wrthym nad oedden nhw angen trwydded, angen un mewn gwirionedd.

* Ar Ebrill 2023

Ddim angen eich trwydded erbyn hyn?

Os oes gennych Drwydded Deledu ond nad ydych yn gwylio neu’n recordio unrhyw raglenni teledu byw ar unrhyw sianel neu ddyfais erbyn hyn, ac nad ydych yn lawrlwytho neu’n gwylio rhaglenni’r BBC ar BBC iPlayer erbyn hyn, fe allech fod yn gymwys i gael ad-daliad. I gael gwybod mwy, ffoniwch ni ar 0300 790 6042*.

Beth yw cost Trwydded Deledu?

Mae trwydded teledu lliw'n costio £169.50 y flwyddyn. Os ydych chi'n ddall (nam difrifol ar y golwg), neu'n 74 oed neu drosodd, efallai y gallech chi fod â hawl i gael trwydded am lai o ffi neu drwydded am ddim.

Gallwch dalu am eich Trwydded Deledu neu ei hadnewyddu ar lein gyda cherdyn debyd neu gredyd. Neu, mae’r holl ffyrdd gwahanol o dalu am drwydded i'w gweld isod. Os ydych yn adnewyddu eich Trwydded Deledu, bydd arnoch angen rhif eich trwydded bresennol.

Sut i dalu am eich Trwydded Deledu

Gallwch dalu’r cyfan ar unwaith neu ddewis rhannu’r gost bob chwarter, bob mis neu bob wythnos.

Y ffordd hawsaf o dalu am eich Trwydded Deledu yw ar lein, trwy Ddebyd Uniongyrchol neu gyda cherdyn debyd neu gredyd.

Ffyrdd o dalu:

Debyd Uniongyrchol

Rhannwch gost eich Trwydded Deledu bob mis, bob chwarter neu bob blwyddyn. Fe wnawn ni gasglu’r taliadau ar gyfer eich trwydded yn awtomatig, fel na fydd raid i chi boeni am fethu taliad fyth eto.

Ar ôl trefnu eich Debyd Uniongyrchol, fe fydd eich trwydded yn cael ei hadnewyddu’n awtomatig ar eich rhan bob blwyddyn, fel na fyddwch byth yn mentro bod heb drwydded.

Os byddwch yn symud tŷ, cofiwch roi gwybod i ni fel y gallwn symud eich Trwydded Deledu i’ch cyfeiriad newydd.

Gallwch drefnu Debyd Uniongyrchol yn Gymraeg un ai:

  • Drwy ffonio 0300 790 6042 * gyda’ch manylion banc wrth law
  • Neu drwy lawrlwytho a chwblhau ac e-bostio copi wedi’i sganio o ffurflen gyfarwyddyd Debyd Uniongyrchol at trwyddedu.teledu@tvlicensing.co.uk neu bostio copi papur at Yr Adran Gymraeg, Trwyddedu Teledu, Darlington DL98 1TL.

Cyfarwyddyd Debyd Uniongyrchol Cymraeg (PDF 41 Kb yn agor mewn ffenestr newydd)

Neu gallwch drefnu Debyd Uniongyrchol ar lein yn Saesneg.

Cofiwch os byddwch yn penderfynu talu bob chwarter, byddwn yn ychwanegu premiwm o £1.25 at bob taliad.

Cerdyn debyd/credyd

Talwch am eich Trwydded Deledu gyda cherdyn debyd neu gredyd ar lein, dros y ffôn neu gyda’ch cerdyn debyd mewn PayPoint. Cofiwch sicrhau fod eich manylion wrth law pan fyddwch yn talu. Os ydych yn adnewyddu eich Trwydded Deledu fe fydd yn ddefnyddiol cael rhif eich trwydded bresennol wrth law.

Cerdyn talu Trwyddedu Teledu

Gallwch rannu cost eich Trwydded Deledu o gyn lleied â £6.50 yr wythnos gyda cherdyn talu. Gallwch ei ddefnyddio i dalu ar lein, dros y ffôn, trwy neges destun neu mewn unrhyw PayPoint. Os ydych yn adnewyddu eich Trwydded Deledu fe fydd yn ddefnyddiol cael rhif eich trwydded bresennol wrth law.

I gael gwybod mwy a gwneud cais am eich cerdyn talu, ffoniwch 0300 555 0288*.

Lle i dalu:

Ar lein

Gallwch dalu am eich Trwydded Deledu a’i rheoli eich Trwydded Deledu ar ein gwefan. Gallwch hefyd ofyn i gael derbyn eich Trwydded Deledu ac unrhyw negeseuon eraill gennym trwy e-bost, ond rhaid i’ch cyfeiriad e-bost gynnwys rhifau a llythrennau Saesneg yn unig.

Gallwch dalu am eich Trwydded Deledu un ai drwy gerdyn debyd neu gredyd neu drwy drefnu Debyd Uniongyrchol.

Dylech fod â’ch manylion banc wrth law, a chofiwch y bydd y ffurflen dalu yn Saesneg.

Ffôn

Os oes gennych gerdyn debyd neu gredyd - fel Maestro, Delta, Solo, Visa neu MasterCard - gallwch dalu am eich Trwydded Deledu trwy ffonio 0300 790 6042*. Cofiwch wneud yn siŵr fod manylion eich cerdyn wrth law.

PayPoint

Gallwch fynd i unrhyw PayPoint a phrynu Trwydded Deledu gydag arian parod neu gerdyn debyd. Bydd angen i chi roi eich enw a’ch cyfeiriad i’r gweithwyr siop a thalu’r ffi lawn o £169.50 gydag arian parod neu gerdyn debyd.

Mae yna dros 28,000 o safleoedd PayPoint ar hyd a lled y Deyrnas Unedig, sydd i'w cael mewn siopau cyfleus, siopau papurau newydd, siopau trwyddedig, archfarchnadoedd a gorsafoedd petrol. Mae llawer ar agor am oriau hir, saith diwrnod yr wythnos. Gallwch ddod o hyd i’ch PayPoint lleol yma.

Post

Gallwch anfon siec at TV Licensing, Darlington DL98 1TL. Ysgrifennwch y siec i ‘'Trwyddedu Teledu'; am ffi lawn y drwydded, a chofiwch ysgrifennu eich enw, cyfeiriad a chôd post ar gefn y siec. Peidiwch ag anfon arian parod.

Allech chi gael consesiwn?

Dall (nam difrifol ar y golwg)

Os ydych chi'n ddall (nam difrifol ar y golwg) ac yn gallu dangos y dystiolaeth briodol, rydych yn gymwys i gael disgownt o 50%.

Os ydych yn rhannol ddall (nam bychan ar y golwg) dydych chi ddim yn gymwys.

I ymgeisio, ewch ar lein at tvlicensing.co.uk/blind.

74 oed a throsodd

Os ydych chi'n 74 oed neu drosodd, gallech fod â hawl i drwydded am ddim tymor byr.

Busnesau a sefydliadau

Mae angen i’ch safle busnes gael Trwydded Deledu os yw staff, cwsmeriaid neu westeion yn gwylio neu’n recordio rhaglenni teledu byw ar unrhyw sianel, neu’n lawrlwytho neu’n gwylio rhaglenni’r BBC ar BBC iPlayer. Mae hyn yn gymwys i unrhyw ddyfais rydych chi wedi’i darparu, yn ogystal ag unrhyw rai o’u dyfeisiau eu hunain sydd wedi’u plygio i’r prif gyflenwad.

Os mai un safle sydd gan eich busnes, gallech fod angen un Drwydded Deledu yn unig. Mae trwydded yn costio £169.50 y flwyddyn ar gyfer pob cyfeiriad a bydd yn trwyddedu pob dyfais sy’n cael ei defnyddio yn y cyfeiriad hwnnw. Y ffordd hawsaf o dalu am Drwydded Deledu unigol yw ar lein gyda cherdyn debyd neu gredyd, neu drwy Ddebyd Uniongyrchol.

Os oes arnoch angen trwyddedu mwy nag un cyfeiriad, y ffordd symlaf o wneud hynny yw gyda Thrwydded Deledu Grŵp i Gwmnïau. Does dim ffurflenni i'w llenwi. Bydd angen i chi wneud un taliad bob blwyddyn yn unig, a byddwch yn derbyn un llythyr atgoffa a fydd yn cael ei anfon i un cyfeiriad. I dalu am Drwydded Deledu Grŵp i Gwmnïau, rhowch alwad i ni ar 0300 790 6165* a byddwn yn falch o helpu.

Nid yw Trwydded Deledu yn trwyddedu:

  • llety preswyl ar eich safle,
  • clybiau lles neu gymdeithasol ar eich safle ond sy’n cael eu rhedeg gan rywun arall,
  • safle sy’n cael ei is-osod gennych i sefydliadau eraill, neu
  • fannau croeso.

Mae rheolau gwahanol hefyd ar gyfer gwestai, hosteli, unedau symudol a gwersyllfeydd.

Cofiwch: os yw cerddoriaeth yn cael ei chwarae ar unrhyw adeg ar eich eiddo ar gyfer cwsmeriaid neu staff – trwy radio, teledu, cyfrifiadur neu CD/DVD, er enghraifft –bydd yn rhaid i chi, fe arfer, brynu trwydded cerddoriaeth gan PPLPRS. Ewch i www.pplprs.co.uk i gael rhagor o wybodaeth.

Beth yw telerau ac amodau Trwydded Deledu safonol?

Mae Chi yn golygu’r sawl sy’n cael ei enwi ar y drwydded.

Pam mae angen Trwydded Deledu?

I ddefnyddio a gosod offer derbyn teledu yn y lle trwyddedig. Mae’n trwyddedu:

  • gwylio a recordio rhaglenni wrth iddyn nhw gael eu dangos ar deledu neu’n fyw ar wasanaeth teledu ar lein, gan gynnwys rhaglenni wedi’u ffrydio dros y rhyngrwyd a rhaglenni lloeren o’r tu allan i’r Deyrnas Unedig, a
  • gwylio a lawrlwytho rhaglenni’r BBC ar alw, gan gynnwys teledu dal i fyny, ar BBC iPlayer.

Gall hyn fod ar unrhyw ddyfais, gan gynnwys setiau teledu, cyfrifiaduron bwrdd gwaith, gliniaduron, ffonau symudol, tabledi, consolau gemau, bocsys digidol neu beiriannau recordio DVD/VHS, neu unrhyw beth arall.

Mae’r drwydded yn gadael i chi ddefnyddio a gosod offer derbyn teledu:

  • Yn y lle trwyddedig gan unrhyw un.
  • Mewn cerbyd, cwch neu garafán:
    • Gennych chi ac unrhyw un sydd fel arfer yn byw yma gyda chi yn y lle trwyddedig (ac eithrio carafanau nad ydynt yn rhai teithiol pan fydd rhywun yn gwylio neu’n recordio teledu yn y lle trwyddedig).
    • Gan unrhyw un sydd fel arfer yn gweithio yn y lle trwyddedig (ar yr amod nad yw’r cerbyd, cwch neu garafán yn cael eu defnyddio am reswm busnes).
  • Defnyddio offer derbyn teledu sy’n rhedeg ar ei fatrïau mewnol ei hun yn unrhyw le gennych chi ac unrhyw un sydd fel arfer yn byw gyda chi yn y lle trwyddedig.

Fel arfer, nid yw’r drwydded yma’n trwyddedu:

  • Mannau lle mae tenantiaid, lojars neu westeion sy’n talu yn preswylio yno’n unig.
  • Mannau sy’n hunangynhwysol.
  • Mannau wedi’u trwyddedu gan drefniadau cyfreithiol ar wahân.
  • Safleoedd busnes sy’n cael eu defnyddio am bwrpas gwahanol.

Trwyddedau du a gwyn

Hyd yn oed os oes gennych deledu du a gwyn, mae arnoch angen trwydded lliw i recordio rhaglenni. Y rheswm yw bod peiriannau recordio DVD, VHS a bocsys digidol yn recordio mewn lliw. Mae trwydded du a gwyn yn ddilys ar yr amod eich bod yn defnyddio bocs digidol sy’n methu recordio rhaglenni teledu.

Amodau eraill

  • Gallwn ganslo neu newid eich trwydded. Os byddwn yn ei chanslo, fe wnawn ni roi gwybod i chi.
  • Os byddwn yn newid amodau’r drwydded, byddwn yn cyhoeddi hysbysiad cyffredinol ar wefan y BBC ac, os byddwn yn ystyried hynny’n briodol, mewn cyfryngau cenedlaethol eraill.
  • Gall ein Swyddogion ymweld â’r lle trwyddedig i edrych ar ein cofnodion ac archwilio’r offer derbyn teledu. Does dim rhaid i chi adael iddyn nhw ddod i mewn.
  • Rhaid i’r offer derbyn teledu beidio ag achosi ymyriant afresymol i dderbyniad radio neu deledu.

Meddwl efallai fod arnoch angen Trwydded Deledu? Edrychwch nawr.

Sylwch: mae telerau ac amodau ar wahân yn gymwys i’r mathau canlynol o Drwydded Deledu: Trwydded Deledu gwestai ac unedau symudol, Trwydded Deledu gonsesiwn ARC a Thrwydded Deledu unedau adloniant. Os oes gennych un o’r rhain, trowch at eich trwydded am delerau ac amodau penodol neu cysylltwch â ni am wybodaeth.

Cysylltu â thîm y Gymraeg

Pan fyddwch yn ein ffonio neu’n ysgrifennu atom, cofiwch roi rhif eich Trwydded Deledu os oes gennych rif. Gallwch gysylltu â thîm y Gymraeg Trwyddedu Teledu fel a ganlyn:

  • Rhowch alwad i ni ar 0300 790 6042*
  • Ein Ffurflen Cysylltu â ni
  • Ysgrifennwch atom yn Yr Adran Gymraeg, Trwyddedu Teledu, Darlington, DL98 1TL
  • Anfonwch e-bost atom yn trwyddedu.teledu@tvlicensing.co.uk (sylwch – dim ond e-byst Cymraeg neu ddwyieithog sy'n cael eu hanfon at y cyfeiriad hwn fydd yn derbyn ymateb)
Monitro Cydymffurfiad â Safonau’r Gymraeg

Mae Tîm Rheoli Trwyddedu Teledu'r BBC yn gyfrifol am arolygu cydymffurfiad Trwyddedu Teledu â Safonau'r Gymraeg. Ymhlith y trefniadau sydd yn eu lle i oruchwilio cydymffurfiad y mae adroddiadau chwarterol ar fetrigau allweddol yn gysylltiedig â'r Gymraeg (a gwybodaeth mewn perthynas â'r safonau cadw cofnodion y mae'n ofynnol i Drwyddedu Teledu gydymffurfio â nhw) a gweithgor y Gymraeg sy'n cwrdd yn rheolaidd. Y mae'r BBC hefyd yn arolygu pob cwyn mewn perthynas â gwasanaeth Cymraeg Trwyddedu Teledu a chydymffurfio â Safonau'r Gymraeg.

Fel sy'n ofynnol dan y safonau, bydd y BBC yn cyflwyno adroddiad bob blwyddyn i Gomisiynydd y Gymraeg, a gyhoeddir ar y wefan hon hefyd (ar gael ar y brif dudalen Gymraeg (tvlicensing.co.uk/cymraeg). Cyhoeddir hwn ym mis Medi bob blwyddyn.

Gwasanaeth Cymraeg Trwyddedu Teledu a chydymffurfio â Safonau – Y drefn gwynion

Ymdrinnir â chwynion am wasanaethau Cymraeg Trwyddedu Teledu, neu am gydymffurfio â Safonau'r Gymraeg sy'n berthnasol i Drwyddedu Teledu, dan drefn gwynion arferol Trwyddedu Teledu. Er bod y broses ar gyfer cwynion o'r fath yn cyfateb yn y rhan fwyaf o agweddau i'r broses ar gyfer unrhyw gŵyn a dderbynnir gan Drwyddedu Teledu, y mae rhai darpariaethau ychwanegol yn eu lle ynghylch cwynion am y Gymraeg er mwyn cydymffurfio â Safonau'r Gymraeg. Mae'r darpariaethau hyn fel a ganlyn:

  • Rhaid i gwynion a dderbynnir am y gwasanaeth Cymraeg neu am gydymffurfio â Safonau'r Gymraeg gael eu cyfieithu gan dîm y Gymraeg Trwyddedu Teledu
  • Rhaid i gwynion a dderbynnir yn Gymraeg neu yn Saesneg am ein gwasanaeth Cymraeg neu am gydymffurfio â Safonau'r Gymraeg dderbyn ymateb yn Gymraeg ac yn Saesneg (gyda'r Gymraeg yn ymddangos gyntaf).
  • Mae cwynion a dderbynnir yn Gymraeg neu sy'n galw am ymateb yn Gymraeg yn ddarostyngedig i'r un amser ymateb â chwynion Saesneg.
  • Rhaid i bob cwyn sy'n ymwneud â chydymffurfio â Safonau'r Gymraeg neu sy'n ymwneud â Gwasanaeth Cymraeg Trwyddedu Teledu:
    • Gael ei hadolygu gan reolwyr perthnasol sy'n gyfrifol am gydymffurfio â Safonau'r Gymraeg
    • Cael ei hysbysu i'r BBC
    • Cael ei adrodd yn chwarterol.

Bydd pob aelod staff perthnasol yn derbyn hyfforddiant ar y drefn gwynion yn gysylltiedig â'r Gymraeg a bydd yr hyfforddiant hwn yn cael ei adnewyddu'n gyson. Mae'r drefn hefyd yn cael ei diffinio o fewn cyfarwyddiadau gwaith. Cynhelir archwiliadau rheolaidd i sicrhau bod y broses yn cael ei dilyn.

Safonau’r Gymraeg a Thrwyddedu Teledu

Mae’r gwasanaeth Cymraeg a ddarperir gan Drwyddedu Teledu yn cael ei lywodraethu gan Reoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 2) 2016. Mae’r Safonau hyn yn disodli Cynllun Iaith Gymraeg blaenorol Trwyddedu Teledu ac mae’n golygu bod safonau penodol i’r Gymraeg yn gymwys i Drwyddedu Teledu. Ceir rhagor o wybodaeth am y Safonau hyn, gan gynnwys fersiwn wedi’i golygu o’r hysbysiad cydymffurfio sy’n rhoi manylion y safonau sy’n gymwys i Drwyddedu Teledu, ar dudalen Safonau’r Gymraeg.

Gwasanaeth Cymraeg ar lein Trwyddedu Teledu

Gall cwsmeriaid brynu Trwydded Deledu newydd, adnewyddu Trwydded Deledu bresennol a gwneud cais am Drwydded Deledu dros 75 am ddim yn Gymraeg ar wefan Trwyddedu Teledu.

Mae gwybodaeth bellach am y safonau sy’n berthnasol i Drwyddedu Teledu (gan gynnwys fersiwn wedi’i golygu o’r hysbysiad cydymffurfio) ar gael ar wefan Trwyddedu Teledu yn tvlicensing.co.uk/safonaurgymraeg.

Y wybodaeth a rowch i ni

Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio gan Drwyddedu Teledu (y BBC a darparwyr gwasanaethau’r BBC) i weinyddu’r system Trwyddedau Teledu yn unig, gan gynnwys ceisiadau am drwyddedau, casglu ffioedd a gorfodi. Ni fyddwn yn ei rhoi i unrhyw un y tu allan i Drwyddedu Teledu heb gael eich caniatâd chi yn gyntaf, oni bai fod y gyfraith yn mynnu neu’n caniatáu i ni wneud hynny. Dysgwch fwy am ein polisi preifatrwydd yma tvlicensing.co.uk/privacypolicy. Gallwch gyfeirio unrhyw ymholiadau am ddiogelu data at y Data Protection Manager, TV Licensing DL98 1TL.

Nid yw galwadau i’n rhifau 0300 yn costio dim mwy na galwad ar gyfradd genedlaethol i rif 01 neu 02, boed hynny o ffôn symudol neu linell dir. Yn nodweddiadol mae galwadau o linellau tir yn costio hyd at 9c y funud ac mae galwadau o ffonau symudol yn nodweddiadol yn costio rhwng 8c a 40c y funud. Os ydych yn cael munudau cynhwysol gyda’ch ffôn symudol neu linell dir, bydd galwadau i rif 0300 yn cael eu cynnwys.