dcsimg
 

Safonau'r Gymraeg a Thrwyddedu Teledu / Welsh Language Standards and TV Licensing

Safonau'r Gymraeg a Thrwyddedu Teledu

Roedd y gwasanaeth Cymraeg a ddarparwyd gan Drwyddedu Teledu yn cael ei reoli gan ein Cynllun Iaith Gymraeg tan ddiwedd Mawrth 2017. Fodd bynnag pasiwyd deddfwriaeth yn Chwefror 2016 sy'n gymwys i sefydliadau gan gynnwys y BBC mewn perthynas â Thrwyddedu Teledu (yn ogystal ag mewn perthynas â rhai o swyddogaethau eraill y BBC). Mae'r ddeddfwriaeth hon (Rheoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 2) 2016) yn disodli ein cynllun Iaith Gymraeg presennol ac mae'n golygu o 30 Mawrth 2017 fod safonau penodol y Gymraeg yn gymwys i Drwyddedu Teledu.

Mae Hysbysiad llawn Safonau'r Gymraeg a gyflwynwyd i'r BBC ar 30 Medi 2016 i'w gael ar y dudalen ganlynol ar wefan BBC Cymru: https://www.bbc.co.uk/aboutthebbc/cymruwales/about/safonauiaith/cy.

Fodd bynnag mae manylion y safonau penodol a gafodd eu cymhwyso i Drwyddedu Teledu ac sy'n berthnasol i Drwyddedu Teledu i'w cael yn y dogfennau isod (fersiynau Cymraeg a Saesneg). Dylech nodi bod y rhain yn fersiwn golygedig o Hysbysiad llawn Cydymffurfio â Safonau'r Gymraeg a gyflwynwyd i'r BBC gan Gomisiynydd y Gymraeg. Fe gafodd y fersiwn hon o'r hysbysiad ei haddasu i adlewyrchu'r safonau hynny'n unig a gafodd eu cymhwyso i Drwyddedu Teledu ac sy'n berthnasol i Drwyddedu Teledu, ynghyd ag unrhyw amgylchiadau cysylltiedig y mae'r safon yn gymwys iddynt. Y mae hefyd yn adlewyrchu gosod terfynau amser sy'n berthnasol i Drwyddedu Teledu. Fel y nodir uchod, mae'r fersiwn lawn heb ei golygu o'r hysbysiad hwn (gyda manylion yr holl safonau sy'n gymwys i'r BBC) ar gael ar wefan BBC Cymru.

Mae Trwyddedu Teledu yn cymryd ei gyfrifoldeb tuag at y Gymraeg o ddifrif ac rydym yn gweld y safonau newydd yn gyfle i gadarnhau hyn a darparu gwasanaethau Cymraeg o ansawdd uchel i'r cyhoedd yng Nghymru. Rydym yn cydnabod hawl unigolion i fyw eu bywydau trwy gyfrwng y Gymraeg ac ni fyddwn yn trin yr iaith yn llai ffafriol na'r Saesneg pan fyddwn yn cyflawni gwasanaethau Trwyddedu Teledu sy'n dod dan y safonau.

Rydym yn croesawu negeseuon oddi wrth y cyhoedd a'n rhanddeiliaid yng Nghymru yn Gymraeg ac yn Saesneg ac ni fydd cysylltu â ni yn Gymraeg yn arwain at unrhyw oedi cyn ymateb.

Gallwch...

  • Ein ffonio a disgwyl gwasanaeth dwyieithog
  • Ysgrifennu llythyr atom neu anfon e-bost atom yn Gymraeg neu yn Saesneg
  • Anfon cwyn atom yn Gymraeg os na fyddwn yn cael pethau'n iawn
  • Hawlio ad-daliad yn Gymraeg

Byddwn yn...

  • Anfon gohebiaeth safonol yng Nghymru yn Gymraeg ac yn Saesneg
  • Ymateb yn Gymraeg (ac yn Saesneg) i unrhyw un sy'n cysylltu â ni yn Gymraeg
  • Cynhyrchu dogfennau y byddwn yn eu cyhoeddi, ac sy'n cael eu cyfeirio at y cyhoedd yng Nghymru (er enghraifft Adolygiad Blynyddol Trwyddedu Teledu) yn ddwyieithog
  • Dod o hyd i wybodaeth allweddol, er enghraifft am ein polisïau, ar y wefan hon yn Gymraeg ac yn Saesneg
  • Cyflwyno brand Trwyddedu Teledu yng Nghymru yn Gymraeg ac yn Saesneg

Dogfen Safonau'r Gymraeg – Safonau sy'n gymwys i Drwyddedu Teledu – Cymraeg (PDF 436 Kb yn agor mewn ffenestr newydd)


Adroddiad Blynyddol Trwyddedu Teledu y BBC 2021/22 – Safonau’r Gymraeg

Fel sy’n ofynnol dan Safonau’r Gymraeg, rydym wedi llunio’r Adroddiadau Blynyddol hyn sy’n cwmpasu gwaith Trwyddedu Teledu.

Safonau’r Gymraeg Trwyddedu Teledu y BBC Adroddiad Blynyddol 22-23 (PDF 270 Kb yn agor mewn ffenestr newydd)

Safonau’r Gymraeg Trwyddedu Teledu y BBC Adroddiad Blynyddol 21-22 (PDF 266 Kb yn agor mewn ffenestr newydd)

Safonau’r Gymraeg Trwyddedu Teledu y BBC Adroddiad Blynyddol 20-21 (PDF 240 Kb yn agor mewn ffenestr newydd)

Welsh Language Standards and TV Licensing

The Welsh language service provided by TV Licensing was governed by our Welsh Language Scheme until the end of March 2017. However legislation was passed in February 2016 which is applicable to organisations including the BBC in respect of TV Licensing (as well as in respect of some of the BBC’s other functions). This legislation (the Welsh Language Standards (No.2) Regulations 2016) replaces our current Welsh Language scheme and means that from 30 March 2017 specific Welsh Language standards are applicable to TV Licensing.

The full Welsh Standards Notice served on the BBC on 30 September 2016 can be found on the following page of the BBC Wales website: https://www.bbc.co.uk/aboutthebbc/cymruwales/about/safonauiaith/.

However details of the specific standards which have been applied to and are relevant to TV Licensing are contained in the documents provided below (Welsh and English versions). Please note these are an edited version of the full Welsh Language Standards Compliance Notice served on the BBC by the Welsh Language Commissioner. This version of the notice has been amended to reflect only those standards which have been applied to and are relevant to TV Licensing, along with any related circumstances in which the standard applies. It also reflects the imposition deadlines applicable to TV Licensing. As noted above, the full unedited version of this notice (which details all the standards applicable to the BBC) is available on the BBC Wales website.

TV Licensing takes its responsibility towards the Welsh language seriously and we see the new standards as an opportunity to reinforce this and to provide high quality Welsh language services to the public in Wales. We recognise the right of individuals to live their lives through the medium of Welsh and we will not treat the language less favourably than English when we deliver the TV Licensing services covered by the standards.

We welcome communication from the public and our stakeholders in Wales in Welsh and English and contacting us in Welsh will not lead to a delay in us responding.

You can...

  • Call us and expect a bilingual service
  • Write us a letter or email us in Welsh or English
  • Complain to us in Welsh if we don't get it right
  • Claim a refund in Welsh

We will...

  • Send standard mailings in Wales in Welsh and English
  • Respond in Welsh (and English) to anyone who contacts us in Welsh
  • Produce documents we publish, and which are directed at the public in Wales (for example the TV Licensing Annual Review) bilingually
  • Find key information, for example about our policies, on this website in Welsh and English
  • Present the TV Licensing brand in Wales in Welsh and English

Welsh Language Standards document – Standards applicable to TV Licensing – English (PDF 414 Kb opens in a new window)


BBC TV Licensing Annual Report 2021/22 – Welsh Language Standards

As required under the Welsh Language Standards, we have compiled these Annual Reports which cover the work of TV Licensing.

BBC TV Licensing Welsh language standards Annual Report 22-23 (PDF 230 Kb opens in a new window)

BBC TV Licensing Welsh language standards Annual Report 21-22 (PDF 233 Kb opens in a new window)

BBC TV Licensing Welsh language standards Annual Report 20-21 (PDF 240 Kb opens in a new window)

General information about TV Licensing is available in other languages: