dcsimg

Gwneud cwyn

Mae yna dros 24.8 miliwn o drwyddedau mewn grym a’n nod yw darparu gwasanaeth da i’n cwsmeriaid i gyd. Lle ceir problem, rydym yn dibynnu ar adborth gan ein cwsmeriaid i geisio unioni pethau cyn gynted â phosib a gwella ein gwasanaethau. Mae sicrhau bod ein proses gwynion yn delio â phryderon ein cwsmeriaid yn bwysig iawn i ni, a dyna pam fod gan ein proses gwyno ardystiad ISO10002.

Sut i gyflwyno cwyn

Cam 1a: Os hoffech wneud cwyn, gwnewch gais trwy lythyr at y cyfeiriad perthnasol isod, neu defnyddiwch ein Ffurflen cysylltu â ni a nodi "Cwyn" o fewn eich cwestiwn.

Cwyn gyffredinol

Customer Relations
TV Licensing
Darlington
DL98 1TL

Cwyn am gynllun cerdyn talu Trwyddedu Teledu

Payment Card Customer Relations
TV Licensing
Darlington
DL98 1TL

Cwyn am gynllun cerdyn cynilo Trwyddedu Teledu

TSC Customer Relations
TV Licensing
Darlington
DL98 1TL

Cwynion am raglenni

Ar gyfer cwynion am un o raglenni’r BBC, cysylltwch â:

BBC Complaints
PO Box 1922
Darlington
DL3 0UR

www.bbc.co.uk/complaints

Ffôn: 03700 100 222

Os hoffech gwyno am raglenni ar sianeli eraill, cysylltwch â’r darlledwr perthnasol yn uniongyrchol.

Problemau/cwynion am dderbyniad

Am help gyda phroblemau derbyniad, cysylltwch â Chyngor Derbyniad y BBC yn:

BBC Reception Advice
PO Box 1922
Darlington
DL3 0UR

Ffôn: 03700 100 123

Gwefan: www.bbc.co.uk/reception

Angen mwy o gymorth neu gyngor? Edrychwch ar ein tudalen Derbyniad teledu a radio.


Os nad ydych yn fodlon â’ch ymateb

Cam 1b: Ysgrifennwch at y Cyfarwyddwr Gweithrediadau yn:

TV Licensing
Darlington
DL98 1TL

Bydd y Cyfarwyddwr Gweithrediadau yn adolygu’ch cwyn wreiddiol a’r ymateb iddi ac yn sicrhau bod ymchwiliad priodol wedi bod i’r mater.

Os nad ydych yn fodlon â’r ymateb hwn, ewch i gam 2.

Sylwch nes y rhoddir rhybudd pellach, dylid anfon pob gohebiaeth cwynion at Gyfarwyddwr Rheoli Refeniw’r BBC at Drwyddedu Teledu yn Darlington.

Lle mae’n bosib, rydym yn eich annog i gynnwys cyfeiriad e-bost er mwyn osgoi oedi ychwanegol.

Cam 2: Ysgrifennwch at Gyfarwyddwr Rheoli Refeniw’r BBC yn:

Director of Revenue and Customer Management
BBC TV Licensing
Customer Relations
TV Licensing
Darlington
DL98 1TL

Dylech gysylltu â’r Cyfarwyddwr Rheoli Refeniw o fewn 20 diwrnod gwaith o’r dyddiad y cawsoch yr ymateb yng Ngham 1b.

Bydd y BBC yn adolygu pob gohebiaeth am eich cwyn ac yn gofyn i Drwyddedu Teledu esbonio’r camau a gymerwyd. Byddant yn barnu a oedd y camau hyn yn ddigonol ac a oedd Trwyddedu Teledu wedi gweithredu’n briodol. Nod y BBC yw ateb cwynion cymhleth o fewn 35 diwrnod gwaith.

Mae’r BBC yn anelu at ateb cwynion cymhleth o fewn 35 diwrnod gwaith.

Os nad ydych yn fodlon a’r ateb hwn, ewch i gam 3.

Cam 3: Ysgrifennwch yn ôl at Gyfarwyddwr Rheoli Refeniw’r BBC yn:

Director of Revenue and Customer Management
BBC TV Licensing
Customer Relations
TV Licensing
Darlington
DL98 1TL

Bydd ymateb y Cyfarwyddwr Rheoli Refeniw yn cynnwys gwybodaeth am beth i’w wneud os ydych am fynd â'ch pryderon ymhellach.

Yn dibynnu ar natur eich cwyn, gallwch gael eich cyfeirio gan y Cyfarwyddwr Rheoli Refeniw i’r Uned Cwynion Golygyddol (ECU) neu efallai y gofynnir i chi atgyfeirio i’r Ombwdsman.

Os nad ydych yn fodlon â’ch ateb

Cyfeirio cwyn at yr Ombwdsman

Os byddwch yn parhau’n anfodlon â’r ffordd yr ymdriniwyd â’ch cwyn yn dilyn ymateb gan Cyfarwyddwr Rheoli Refeniw dros y BBC, gallwch gyfeirio’r mater at gynllun datrys anghydfod annibynnol.

Mae’r BBC wedi dewis Dispute Resolution Ombudsman, sy’n annibynnol ar y BBC, i adolygu cwynion Trwyddedu Teledu lle’r ydym wedi methu eu datrys yn uniongyrchol â’r achwynydd. Ar ôl dihysbyddu trefn gwyno’r BBC, erbyn hyn gallwch gyfeirio eich achos at yr Ombwdsman ar gyfer eu hystyriaeth. Isod mae’r manylion cyswllt angenrheidiol;

Dispute Resolution Ombudsman
Premier House
1-5 Argyle Waye
Stevenage
Herts
SG1 2AD

www.disputeresolutionombudsman.org
0333 241 3209


Mae’r gwasanaeth hwn am ddim, a bydd achwynwyr yn gallu cyfeirio eu hachos trwy wefan yr Ombwdsman.

Dylech wybod, petaech yn dewis defnyddio eu gwasanaethau, bydd Dispute Resolution Ombudsman yn gofyn i chi am wybodaeth bersonol i’w galluogi i ymchwilio i’ch cwyn. Bydd Dispute Resolution Ombudsman hefyd yn gofyn i’r BBC am wybodaeth bersonol sy’n ymwneud â’ch cwyn, os bydd yn briodol unrhyw recordiadau ffôn sydd yn eu meddiant.

Bydd gwybodaeth a roddir i’r Ombwdsman yn cael ei dal ganddynt ac ni fyddant yn ei rhannu ag unrhyw barti arall heb geisio cymeradwyaeth yr achwynydd.


Cyfeirio cwyn at yr Uned Cwynion Golygyddol (ECU)

Ni all yr ECU ond ystyried cwynion am bolisïau’r BBC sy’n rheoli’r fframwaith y mae Trwyddedu Teledu yn gweithredu oddi mewn iddo (na all yr Ombwdsman ei ystyried). Rhaid i chi gysylltu â’r ECU o fewn 20 diwrnod gwaith i’r dyddiad y cawsoch yr ymateb yng Ngham 2.

Bydd yr ECU yn ceisio ateb cwynion cymhleth o fewn 35 diwrnod gwaith.

Ble na all y BBC ymchwilio

Mae’n bosib na fydd ymchwiliad i’ch cwyn os ystyrir ei bod yn flinderus, ailadroddus neu os ymchwiliwyd iddi o’r blaen.