dcsimg

Gwybodaeth Ariannol

Sut mae Trwyddedu Teledu yn cael ei ariannu a beth yw cost casglu’r ffi Trwyddedu Teledu?

Y ffynhonnell refeniw ar gyfer Trwyddedu Teledu yw'r setliad ffi Trwyddedu Teledu gan y Llywodraeth i'r BBC. Ceir rhagor o wybodaeth am hyn yn Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y BBC ac yn Adolygiadau Blynyddol Trwyddedu Teledu.

Mae siart Costau Casglu Trwyddedau Teledu, isod, yn sefydlu cyfanswm y refeniw ffi trwyddedu a gasglwyd a’r costau casglu yn ystod 2022/2023.

Mae Adran 365 Deddf Cyfathrebu 2003 (yn agor mewn ffenest newydd) yn gofyn i’r BBC dalu pob refeniw ffioedd trwyddedu a gesglir ganddynt (trwy Drwyddedu Teledu), llai unrhyw symiau sy’n ofynnol ar gyfer gwneud ad-daliadau, i Gronfa Gyfunol y Llywodraeth. Nid yw Trwyddedu Teledu yn cadw unrhyw refeniw ffi’r drwydded a gesglir, mae’r holl arian yn cael ei basio i’r Llywodraeth, ac yna bydd y refeniw a gesglir yn cael ei basio yn ôl i’r BBC fel Cymorth Grant gan yr Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon.

Gall yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon gadw cyfran o’r refeniw ffioedd trwyddedu i ddibenion eraill (gweler Siarter Frenhinol a Chytundeb y BBC gyda'r Ysgrifennydd Gwladol).

Costau casglu Trwyddedu Teledu


  2022/23
Cyfanswm 136.5 miliwn
 
Refeniw ffioedd trwyddedu £3.7 biliwn
Costau fel % o refeniw 3.6%
Trwyddedau mewn grym 24.4

Fesul Trwydded Deledu:

  2022/23
Cost fesul trwydded £5.60
Cost fesul trwydded fel % o’r ffi drwyddedu* 3.6%

Mae’r gost fesul trwydded yn adlewyrchu cost gyfartalog, fesul trwydded, yn ddibynnol ar y lefel o orfodaeth angenrheidiol.

Ni roddir y dirwyon a gesglir ar gyfer osgoi talu ffi’r drwydded i’r BBC na Thrwyddedu Teledu – mae hyn yn fater i’r llysoedd.

 

Pa gyfran o incwm y ffi drwyddedu a warir ar gostau casglu?

Roedd costau casglu yn £136.5 miliwn yn 2022/23. Mae hyn yn cynrychioli 3.6% o gyfanswm refeniw ffi’r drwydded a gasglwyd (£3.7 biliwn) yn 2022/23. Mae costau casglu yn cwmpasu canolfannau galwadau, gweithlu maes, datgeliad a gwasanaethau dros y cownter, cyfathrebu yn cynnwys nodiadau atgoffa ac ymgyrchoedd gwybodaeth, postio a gweinyddu a rheoli contractau.

Faint ydych chi’n ei gasglu mewn ffioedd trwyddedu o leoliad [X]?

Nid yw ffigurau am refeniw ffi trwyddedu yn ôl ardal ar gael, gan nad yw’n angenrheidiol creu’r math hwn o wybodaeth i ddiben cyhoeddi trwyddedau, a chasglu a gorfodi ffi drwyddedu. Gweler yr adran Ynglŷn â Thrwyddedu Teledu am wybodaeth ar refeniw'r ffi drwyddedu.

Faint o refeniw ffioedd Trwyddedu Teledu a gesglir gan ardaloedd megis yr Alban, Cymru, Gogledd-ddwyrain Lloegr, Ynys Manaw, Jersey, a Guernsey?

Nid yw’r BBC yn coladu gwybodaeth am refeniw'r ffi drwyddedu yn ôl lleoliad. I ddibenion gweinyddu’r system trwyddedu teledu, nid yw refeniw ffioedd trwyddedu wedi ei ffurfweddu yn ôl lleoliad daearyddol, gan nad oes gan y BBC reswm dros wneud hyn. Uchod rhoddir manylion cyfanswm refeniw'r ffi drwyddedu a gasglwyd yn 2022/23.

Cyhoeddir rhagor o wybodaeth yn Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y BBC. Mae’r Adroddiad Blynyddol diweddaraf (2022/23) ar gael ar wefan y BBC ar - www.bbc.co.uk/annualreport.

Mae costau hysbysebu penodol (gan gynnwys cost cynhyrchu ac amser darlledu hysbysluniau) wedi eu heithrio o ddatgeliad dan adran 43(2) y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.

Sylwer: Nid yw’r BBC yn hysbysebu'r angen i gael trwydded; y ffyrdd i dalu am drwydded a chanlyniadau peidio â thalu ar orsafoedd teledu masnachol. Dangosir hysbysluniau teledu ar sianelau'r BBC. Cyfeirir at gyfathrebiadau a ddangosir ar sianelau’r BBC fel ‘hysbyslun’ gan nad yw’r BBC, fel darlledwr gwasanaethau cyhoeddus, yn casglu refeniw trwy hysbysebu.

A delir costau a phensiynau staff a gyflogir gan gontractwyr Trwyddedu Teledu o’r ffi Trwyddedau Teledu?

Mae ‘Trwyddedu Teledu’ yn nod masnach i’r BBC ac mae’n cael ei ddefnyddio dan drwydded gan gwmnïau sydd wedi eu contractio gan y BBC i weinyddu casglu ffioedd trwydded teledu a gorfodi’r system trwyddedu teledu.

Nid yw’r BBC yn cadw’r wybodaeth a geisiwyd yma. Mae’n fater i bob contractiwr bennu sut mae’n dewis gwario’r arian a dderbynia fel tâl gan y BBC. Ni chedwir unrhyw wybodaeth a gedwir gan gontractwr yn hyn o beth ganddynt ar ran y BBC, ac felly mae wedi ei heithrio rhag datgeliad dan adran 3(2) y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.

Pwy sy’n archwilio Trwyddedu Teledu?

Y Swyddfa Archwilio Genedlaethol (NAO). Maent yn adolygu cyfriflenni gan gontractwyr Trwyddedu Teledu fel rhan o archwiliadau annibynnol o’r BBC.