dcsimg

Rhyddid Gwybodaeth: Polisïau

Isod, rhestrir y polisïau Trwyddedu Teledu y gofynnir amdanynt amlaf, ynghyd ag ymholiadau cysylltiedig. Sylwch fod peth o’r wybodaeth a geir yn y polisïau hyn wedi’i golygu dan eithriadau penodedig a geir yn y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.

I weld y dogfennau hyn, mae angen Adobe Acrobat Reader (yn agor mewn ffenestr newydd) - mae hwn yn ddarn o feddalwedd y gallwch ei lawrlwytho am ddim.

 
Ble alla' i ddod o hyd i ragor o wybodaeth am sut y defnyddir fy nata personol?

Cyfeiriwch at Bolisi Preifatrwydd Trwyddedu Teledu, am ragor o wybodaeth ar sut fydd Trwyddedu Teledu yn defnyddio unrhyw ddata a ddarperir gennych.

Beth yw eich polisi ynglŷn â delio hefo cyfeiriadau nad ydynt yn defnyddio offer teledu ac felly nad ydynt angen Trwydded Deledu?

Polisi Dim Angen Trwydded (PDF 236 Kb yn agor mewn ffenestr newydd)

Mae polisi Dim Angen Trwydded Trwyddedu Teledu y BBC yn delio ag eiddo a feddiannir lle mae’r deiliad wedi datgan na ddefnyddir offer derbyn teledu yn y cyfeiriad ar gyfer gweithgarwch trwyddedadwy. Gweler Sut i roi gwybod i ni nad ydych yn gwylio neu recordio teledu am ragor o wybodaeth.

Beth yw’ch polisi ad-daliadau?

Polisi ad-daliad (PDF 207 Kb yn agor mewn ffenestr newydd)

Mae polisi Ad-daliadau Trwyddedu Teledu y BBC yn amlinellu polisi’r BBC (fel y gweithredir ef gan Drwyddedu Teledu) parthed ad-dalu taliadau ffioedd trwyddedu.

Mae Trwydded Deledu yn ganiatâd cyfreithiol i osod a defnyddio derbynnydd teledu. Mae’r ffi am y caniatâd hwnnw yn daladwy yn llawn, ni waeth am faint o amser fydd angen y Drwydded.

Nid oes gofyniad cyfreithiol i wneud ad-daliad, ond mae’r BBC yn credu ei bod yn briodol dan rai amgylchiadau i wneud ad-daliad. Mae’r BBC wedi ymestyn y cyfleoedd ar gyfer ad-daliadau yn sylweddol ers dod yn awdurdod trwyddedu yn 1991, pan oedd ad-daliadau ond yn daladwy os oedd unigolyn wedi stopio defnyddio teledu o fewn 28 diwrnod i brynu’r drwydded. Gweler Canslo ac ad-daliadau am ragor o wybodaeth.

Faint o ad-daliadau a wnaed gan Drwyddedu Teledu yn 2022/23

Rhoddodd Drwyddedu Teledu 305,150* o ad-daliadau ym mlwyddyn ariannol 2022/23.

*Cafodd y ffigur ei dalgrynnu i’r deg agosaf.

Beth yw eich polisi ar gyfer penderfynu beth yw lle trwyddedadwy?

Polisi Lleoedd Trwyddedadwy (Ffeil PDF 231 Kb – mae’n agor mewn ffenestr newydd)

Mae’r gofyniad i gael Trwydded Deledu a thalu ffi amdani wedi ei fandadu drwy gyfraith o dan Ddeddf Cyfathrebu 2003 a Rheoliadau Cyfathrebu (Trwyddedu Teledu) 2004 (fel y’i diwygiwyd). Felly, mae polisi Lleoedd Trwyddedadwy Trwyddedu Teledu y BBC yn diffinio beth yw ‘lle trwyddedadwy’ er dibenion gweithredu’r ddeddfwriaeth hon.

Mae’r polisi hwn yn cael ei ddefnyddio i bennu’r lle y mae Trwydded Deledu yn caniatáu gosod a defnyddio derbynyddion teledu ac, yn ei dro, y lle y gallai Trwydded Deledu (neu Drwyddedau Teledu) fod yn ofynnol. Felly gellir ei ddefnyddio fel canllaw defnyddiol i ddangos gofynion trwyddedu a hefyd i ddangos y math o wybodaeth y gallai fod ei hangen arnom i bennu’r gofynion trwyddedu ar safle.

Er bod y polisi hwn yn pennu’r rheolau a fydd yn gymwys yn gyffredinol, efallai y bydd sefyllfaoedd na ellir eu pennu’n rhwydd trwy gyfeirio at y rheolau hyn ac y bydd angen gwneud penderfyniadau eithriadol yn eu cylch. Felly mae’r BBC yn cadw’r disgresiwn i bennu’r hyn sy’n cynrychioli lle trwyddedadwy.

Os nad ydych yn siŵr a oes angen trwydded ar wahân fe fydd ein hymgynghorwyr yn falch o gynorthwyo. Cysylltwch â ni.

Beth yw eich polisi ar newid y cyfeiriad ar Drwydded Teledu?

Mae polisi Newid Cyfeiriad Trwyddedu Teledu' y BBC yn delio ag amgylchiadau lle gellir newid y cyfeiriad trwyddedig ar Drwydded Teledu.

Dim ond os yw’r newid yn barhaol ac o fewn cyfnod oes y Drwydded y gellir trosglwyddo Trwydded Deledu i gyfeiriad arall. Os nad yw’r newid cyfeiriad yn un parhaol (e.e. cais i symud Trwydded i gartref gwyliau) yna fe wrthodir y cais.

Mae Trwydded Deledu yn caniatáu gosod a defnyddio offer Teledu yn y lle trwyddedig neu eiddo – h.y. y ‘cyfeiriad trwyddedig’ a ddangosir ar flaen y Drwydded Deledu – gan unrhyw un sy’n byw neu weithio yno fel arfer.

Beth yw eich polisi ar Erlyn?

Polisi erlyn Trwyddedu Teledu (PDF 253 Kb yn agor mewn ffenestr newydd)

Mae'r Polisi ar gyfer Erlyniadau Trwyddedu Teledu yn disgrifio’r meini prawf ar gyfer penderfynu a ddylai unigolyn neu fusnes gael ei erlyn neu a ddylai'r awdurdod priodol gael ei hysbysu. Mae’r broses erlyn a sut i osgoi erlyniad yn cael eu hamlinellu yng Nghôd Erlyn Trwyddedu Teledu.

Beth yw eich Côd Erlyn?

Mae'r Codau Erlyn Trwyddedu Teledu yn amlinellu ein prosesau erlyn yng Nghymru a Lloegr, Ynys Manaw, Gogledd Iwerddon, a'r Alban. Mae'r codau hefyd yn disgrifio sut y gellir osgoi erlyn mewn rhai amgylchiadau:

Beth yw eich polisi ar gefnogi cwsmeriaid sy'n agored i niwed?

Trwyddedu Teledu - Polisi ar gyfer Cwsmeriaid Agored i Niwed - Cymraeg (PDF 227 KB yn agor mewn ffenestr newydd)

Mae Trwyddedu Teledu yn cydnabod bod rhai pobl yn agored i niwed oherwydd eu hamgylchiadau personol. Oherwydd ein bod mewn cyswllt â bron pob cyfeiriad yn y Deyrnas Unedig, mae’n bwysig ein bod yn gwneud addasiadau rhesymol a rhoi cefnogaeth ychwanegol pan fydd angen er mwyn i ni allu rhyngweithio’n briodol â chwsmeriaid sy’n agored i niwed.

Mae ein Polisi ar gyfer Cwsmeriaid Agored i Niwed yn disgrifio ein hymagwedd tuag at y cwsmeriaid hyn a sut byddwn yn eu cefnogi.