dcsimg

Deddf Rhyddid Gwybodaeth

Ceisiadau dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 am wybodaeth am drwyddedu teledu.

Mae’r BBC yn cael ceisiadau rheolaidd am wybodaeth am Drwyddedu Teledu dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000. Mae’r adran hon yn cyflwyno’r atebion i gwestiynau cyffredin. Os ydych chi’n ystyried gwneud cais rhyddid gwybodaeth, gwiriwch yn gyntaf a yw’r wybodaeth rydych ei hangen ar gael isod.

Mae gwefan Rhyddid Gwybodaeth y BBC hefyd yn cynnwys gwybodaeth am Drwyddedu Teledu ac yn cynnwys copïau o ymatebion Rhyddid Gwybodaeth a ystyriwyd i fod o ddiddordeb ehangach yn y logiau datgeliad. Sylwer fod rhywfaint o’r wybodaeth yma ac ar y wefan hon ar gael yn gyhoeddus mewn mannau eraill, gan gynnwys dan Gynllun Cyhoeddi’r BBC.

Eithriadau

Er bod y BBC yn ceisio bod mor agored â phosibl, nid yw’n ofynnol i ni ddarparu’r holl wybodaeth am Drwyddedu Teledu i’r cyhoedd. Gellir atal datgelu rhai darnau o wybodaeth dan y Ddeddf lle mae eithriad yn berthnasol.

Yr eithriadau a weithredir amlaf o ran gwybodaeth Trwyddedu Teledu yw adran 31, (Gorfodi’r Gyfraith), ac adran 43, (Buddiannau Masnachol).

Mae adran 31 yn berthnasol lle byddai datgelu’r wybodaeth yn niweidiol o ran atal neu ganfod troseddau.

Mae adran 43(2) yn berthnasol lle byddai datgelu'r wybodaeth yn niweidio neu’n debygol o niweidio sefyllfa fasnachol y BBC neu unrhyw unigolyn arall.

Mae’r ddau eithriad yma yn eithriadau ‘amodol’ ac yn ddarostyngedig i brawf lles y cyhoedd. Mae hyn yn golygu mai dim ond i wybodaeth lle rydym yn fodlon fod lles y cyhoedd o atal rhyddhau gwybodaeth yn drech na lles y cyhoedd o’i datgelu y gall y BBC gymhwyso'r eithriadau.

Ceir gwybodaeth gyffredinol ar ddefnyddio’r eithriadau dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yma.

Gwybodaeth sydd ar gael

Mae’r wybodaeth sydd ar gael yn yr adran hon wedi ei rhannu i’r meysydd canlynol.

1. Ynglŷn â Thrwyddedu Teledu

2. Fframwaith Cyfreithiol

3. Gwybodaeth Ariannol

4. Polisïau

  • Polisi preifatrwydd
  • Polisi Dim Angen Trwydded
  • Polisi ad-daliadau
  • Polisi mannau trwyddedadwy

5. Ffeithiau a ffigurau am drwyddedau

  • Trwyddedau mewn grym
  • Canslo trwyddedau
  • Consesiynau

6. Gweinyddu ffi’r Drwydded

  • Cronfa ddata a rheoli data Trwyddedu Teledu
  • Postiadau/llythyrau a chyfathrebu electronig
  • Osgoi
  • Swyddogion ymweld
  • Canfod
  • Gwarantau chwilio
  • Erlyniadau

Methu dod o hyd i beth oedd arnoch ei angen yma?

Dysgwch sut i gyflwyno cais Rhyddid Gwybodaeth i’r BBC am Drwyddedu Teledu.

Data personol

O dan erthygl 15 y Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) mae gennych hawl i ofyn i unrhyw sefydliad a ydyn nhw’n dal eich data personol, a hawl i weld copi o'r wybodaeth honno. Os hoffech gael manylion y wybodaeth sy’n cael ei dal amdanoch gan Drwyddedu Teledu, yna gallwch wneud hynny drwy wneud Cais Gwrthrych am Wybodaeth (Subject Access Request). Gallwch wneud ymholiadau ynghylch diogelu data yn ymwneud â gwybodaeth sy’n cael ei dal gan Drwyddedu Teledu at y Rheolwr Diogelu Data drwy’r sianeli canlynol:

Drwy anfon e-bost at TVL.Policy@capita.co.uk.

Drwy’r post at y Rheolwr Diogelu Data, TV Licensing, Darlington, DL98 1TL.

Fel yr hawl i gael gwybodaeth o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, mae Ceisiadau Gwrthrych am Wybodaeth yn amodol ar eithriadau a allai effeithio ar ein gallu i gyflenwi gwybodaeth; byddwn yn ymdrin â phob achos yn unigol.

Mae rhagor o wybodaeth am eich hawliau fel gwrthrych data dan ddiogelwch data i’w chael ym Mholisi Preifatrwydd Trwyddedu Teledu.

Gwybodaeth am bobl eraill

Os ydych yn gofyn am ddata personol am bobl eraill neu am gyfeiriad nad yw’n perthyn i chi, sylwer na allwn ddatgelu’r wybodaeth hon i chi, oni bai eich bod wedi’ch awdurdodi i weithredu ar ran gwrthrych y data.

 
Pam mae Trwyddedu Teledu yn ddarostyngedig i Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000?

Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn darparu hawl cyffredinol i bobl gael mynediad at wybodaeth sydd gan awdurdodau cyhoeddus. Mae’r BBC yn awdurdod cyhoeddus at ddibenion y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth parthed gwybodaeth a gedwir ganddi at ddibenion nad ydynt yn ymwneud â newyddiaduraeth, celfyddyd na llenyddiaeth.

Dan Ddeddf Cyfathrebu 2003, y BBC yw’r awdurdod cyhoeddus sy’n gyfrifol am drwyddedu teledu. Felly mae’r Ddeddf yn berthnasol i'r holl wybodaeth Trwyddedu Teledu a gedwir gan ac ar ran y BBC gan gontractwyr a gyflogir i weinyddu cyhoeddi trwyddedau a chasglu ffi’r drwydded, yn ddarostyngedig i eithriadau penodol a sefydlir yn y Ddeddf.

Pwy sy’n goruchwylio triniaeth Trwyddedu Teledu o geisiadau am wybodaeth swyddogol ac yn delio â data personol?

Gwybodaeth swyddogol

Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn rhoi’r hawl i unigolyn ofyn am wybodaeth swyddogol gan awdurdodau cyhoeddus, gan gynnwys gwybodaeth a gedwir at ddibenion heblaw newyddiaduraeth, celfyddyd neu lenyddiaeth – yn ymwneud â thrwyddedu teledu a gedwir gan y BBC neu ar ran y BBC gan ei gontractwyr Trwyddedu Teledu.

Os nad yw rhywun yn fodlon gydag ymateb a gafwyd i gais dan y Ddeddf, mae ganddyn nhw’r hawl i adolygiad mewnol gan uwch reolwr yn y BBC neu gynghorydd cyfreithiol. Os na fydd rhywun yn fodlon gyda’r adolygiad mewnol, gallant apelio at y Comisiynydd Gwybodaeth yn Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Swydd Gaer, SK9 5AF, ffôn 0303 123 1113 (cyfradd leol) neu 01625 545 700 (gyfradd genedlaethol) neu gweler www.ico.org.uk/.

Data personol

Daeth y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) i rym ar 25 Mai 2018. Mae’r GDPR yn mynnu bod data personol yn:

  • Cael ei ddefnyddio’n gyfreithlon, yn deg ac yn dryloyw
  • Cael ei gasglu at ddiben penodol, ac na chaiff ei ddefnyddio am unrhyw reswm arall
  • Cael ei gyfyngu i’r hyn sy’n angenrheidiol
  • Gywir ac yn cael ei ddiweddaru, gyda chamgymeriadau'n cael eu newid yn gyflym
  • Cael ei gadw dim mwy nag sydd angen
  • Ddiogel, ac wedi’i warchod rhag camddefnydd, colled neu ddifrod.

Rydym yn cydymffurfio â Deddf Diogelu Data 2018.

Os oes gan unrhyw un bryderon ynglŷn â sut mae Trwyddedu Teledu yn prosesu ei ddata, gall gysylltu â’r Comisiynydd Gwybodaeth yn y cyfeiriad uchod.

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yw awdurdod annibynnol y Deyrnas Unedig a sefydlwyd i gynnal hawliau gwybodaeth er lles y cyhoedd, hyrwyddo didwylledd gan gyrff cyhoeddus a phreifatrwydd data ar gyfer unigolion.