dcsimg
 

Derbyniad teledu a radio

Ble galla’i gael cymorth gyda derbyniad fy nheledu?

Os ydych yn cael problemau wrth wylio sianeli’r BBC, defnyddiwch wasanaeth www.bbc.co.uk/reception, lle gallwch weld a oes gwaith neu broblemau gyda’r trosglwyddydd a chysylltu â’r tîm Cyngor ar Dderbyniad. Mae’r wefan hefyd yn rhoi gwybod am newidiadau sy’n effeithio ar wasanaethau’r BBC a digwyddiadau eraill o bwys.
 

Beth os wyf yn cael problemau gyda sianeli masnachol?

Os ydych yn defnyddio gwasanaeth tanysgrifio ar gyfer teledu (e.e. Sky neu Virgin Media) cysylltwch â’ch darparwr.
 

Problemau ymyriant ar y teledu a’r radio?

Os ydych yn meddwl y gallai ymyriant fod yn achosi’r broblem, neu os nad ydych yn siwr, ewch at y Gwasanaeth Ymchwilio i Radio a Theledu yn www.radioandtvhelp.co.uk

General information about TV Licensing is available in other languages: