dcsimg

Cerdyn debyd neu gerdyn credyd

View in English

Gallwch dalu am Drwydded Deledu gan ddefnyddio cerdyn debyd neu gredyd.

Rydym yn derbyn y cardiau debyd a chredyd yma:

  • Content Server Image
  • Content Server Image
  • Content Server Image
  • Content Server Image
  • Content Server Image

Rhaid i’ch cerdyn fod wedi’i gofrestru i gyfeiriad yn y Deyrnas Unedig.

Ffyrdd o dalu gyda cherdyn

Ar lein

Y ffordd gyflymaf a hawsaf yw talu gyda cherdyn. Peidiwch â phoeni, mae ein safle yn ddiogel felly bydd eich gwybodaeth yn ddiogel ac yn saff.

Os ydych yn talu am eich Trwydded Deledu trwy Ddebyd Uniongyrchol neu gerdyn talu, gallwch wneud taliad a gafodd ei fethu gyda cherdyn debyd neu gredyd pan fyddwch yn mewngofnodi (yn Saesneg) i weld eich trwydded a’ch cynllun talu.

Dros y ffôn

Os oes angen i chi siarad â ni, gallwch dalu am eich trwydded dros y ffôn (yn Saesneg).

Mewn unrhyw siop PayPoint

Gallwch dalu gyda cherdyn debyd (neu arian parod) mewn unrhyw siop PayPoint. Allwch chi ddim defnyddio cardiau credyd. Os oes angen i chi holi am fynediad at PayPoint i bobl anabl, ffoniwch 0330 400 0000. Nid yw PayPoint ar gael yn Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw, ond gallwch dalu yn eich swyddfa bost leol.

Dewch o hyd i siop PayPoint (yn Saesneg)

Diweddaru eich Trwydded Deledu

Os oes gennych chi Drwydded Deledu yn barod gallwch chi ddiweddaru eich manylion unrhyw bryd.

Diweddaru eich Trwydded Deledu (yn Saesneg)

Adnewyddu eich Trwydded Deledu



Os oes gennych gwestiynau o hyd edrychwch ar Cwestiynau Cyffredin Trwyddedu Teledu (yn Saesneg) lle mae’r holl atebion i’w cael mewn un lle.