dcsimg

Ffyrdd o dalu am Drwydded Deledu

View in English

Mae Trwydded Deledu yn costio £169.50. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn rhannu’r gost trwy dalu gyda Debyd Uniongyrchol, ond gallwch hefyd dalu’r cyfan mewn un taliad.

Gallech dalu llai am eich trwydded os ydych dros 75, yn ddall, neu’n byw mewn cartref gofal (yn Saesneg).

Rhannwch y gost gyda Debyd Uniongyrchol (y ffordd fwyaf poblogaidd)

Misol - o £14.12

Fe wnawn ni rannu cost eich trwydded gyntaf dros chwe mis, am tua £28.25 y mis. O hynny ymlaen byddwch yn talu tua £14.12 y mis.

Chwarterol - o £43.62

Byddwn yn cymryd pedwar taliad trwy’r flwyddyn. Bydd pob taliad yn cynnwys tâl o £1.25.


Gwnewch un taliad bob 12 mis

Blynyddol - £169.50

Byddwch yn talu ffi lawn y drwydded yn awtomatig bob 12 mis.


Talwch am eich trwydded ar lein heddiw gyda cherdyn debyd neu gredyd.

Cerdyn talu Trwyddedu Teledu

Bob wythnos, bob pythefnos neu bob mis - o £6.50

Mae ein cerdyn talu (yn Saesneg) yn gadael i chi dalu bob wythnos a phob pythefnos, neu bob mis. Unwaith y bydd hyn wedi’i drefnu, gallwch dalu ar lein, trwy ap TVL Pay, dros y ffôn, trwy neges testun neu mewn unrhyw PayPoint.

Ffyrdd eraill o dalu

Gallwch dalu gyda siec, archeb bost neu BACS. Gallwch hefyd ddewis talu gydag arian parod neu gan ddefnyddio cerdyn debyd mewn unrhyw PayPoint. Dysgwch fwy am Drwyddedau Teledu du a gwyn, neu uwchraddio i liw

Diweddaru eich Trwydded Deled

Os oes gennych chi Drwydded Deledu yn barod gallwch chi ddiweddaru eich manylion unrhyw bryd.

Diweddaru eich Trwydded Deledu (yn Saesneg)

Adnewyddu eich Trwydded Deledu


Os oes gennych gwestiynau o hyd edrychwch ar Cwestiynau Cyffredin Trwyddedu Teledu (yn Saesneg) lle mae’r holl atebion i’w cael mewn un lle.