dcsimg

Deddfwriaeth a pholisi

Trwyddedu Teledu a’r gyfraith

Mae rhan 4 Deddf Cyfathrebu 2003 yn ei gwneud yn drosedd gosod neu ddefnyddio offer derbyn teledu i:

  • gwylio teledu ar unrhyw sianel fel BBC, ITV, Channel 4, U&Dave a sianeli rhyngwladol
  • gwylio teledu ar wasanaeth talu fel Sky, Virgin Media a EE TV
  • gwylio teledu byw ar wasanaeth ffrydio fel YouTube a Amazon Prime Video
  • defnyddio BBC iPlayer*

heb sefydlu Trwydded Deledu ddilys.

Mae hyn yn cynnwys recordio a lawr lwytho ar unrhyw ddyfais.

*Nid oes angen trwydded i wylio rhaglenni S4C ar alw.

Mae’r Ddeddf yn grymuso’r BBC i greu ac addasu amodau a thelerau trwydded. Mae’n caniatáu i’r llywodraeth greu rheoliadau i eithrio neu leihau ffi’r drwydded ar gyfer unigolion penodol dan amgylchiadau penodol. Mae hefyd yn ei gwneud yn drosedd i unrhyw un fod ag offer derbyn teledu yn ei feddiant neu dan ei reolaeth os yw’n bwriadu ei osod neu ei ddefnyddio yn groes i’r brif drosedd (uchod), neu os yw’n gwybod, neu â sail resymol dros gredu, fod unigolyn arall yn bwriadu gosod neu ddefnyddio offer derbyn teledu yn groes i’r brif drosedd.

Mae’r Rheoliadau Cyfathrebu (Trwyddedu Teledu) 2004 yn diffinio beth yw ‘set deledu’. Mae’r rheoliadau hefyd yn cyflwyno’r amrywiol fathau o Drwyddedau Teledu, y meini prawf ar gyfer eu caffael, y ffioedd sy’n daladwy ar eu cyfer (gan gynnwys amlder a swm y rhandaliadau) a’r gwahanol gonsesiynau sydd ar gael, gan gynnwys consesiynau ar gyfer pobl sy’n ddall (â nam difrifol ar eu golwg), pobl sydd dros 74 oed, pobl sy’n byw mewn gofal preswyl a phobl sy’n rhedeg gwestai, tai llety neu wersylloedd.

Yn ôl i’r brig

Canslo Trwydded Deledu

Mae gennym bolisi i bennu dan ba amgylchiadau fyddwn ni’n canslo Trwydded Deledu. Mae Trwydded Deledu yn parhau am ba bynnag hyd a nodir ar y drwydded oni bai ei bod wedi ei chanslo’n flaenorol gan neu ar ran yr awdurdod trwyddedu (y BBC) yn unol ag adran 364(4) y Ddeddf Cyfathrebu. Dim ond dan yr amgylchiadau canlynol fyddwn ni’n canslo trwydded:

  1. Torri amodau trwydded
  2. Gwall neu dwyll
  3. Newid amgylchiadau
  4. Gweinyddol

1. Torri amodau trwydded

Os torrwyd amodau a thelerau'r Drwydded Deledu, yn cynnwys methiant i dalu unrhyw arian sy’n ddyledus, parthed y drwydded, dan y Ddeddf Cyfathrebu a’r Rheoliadau Cyfathrebu (Trwyddedu Teledu) 2004 o fewn yr amserlenni rheoleiddiol, ac ar yr amod fod deiliad y drwydded wedi cael cyfle rhesymol i dalu ac yn rhesymol ymwybodol o ganlyniad peidio â thalu.

2. Gwall neu dwyll

Os cyhoeddwyd Trwydded Deledu dros 75 i unigolyn nad yw’n 75 oed neu drosodd, a/neu ar gyfer cyfeiriad nad yw’n unig neu'n brif breswylfa’r unigolyn hwnnw.

3. Newid amgylchiadau

Os yw deiliad y drwydded yn ein hysbysu nad yw’r drwydded yn ofynnol (p’un a yw hynny trwy hawliad am ad-daliad a gyfiawnheir neu fel arall) neu os na fydd yn ofynnol o ddyddiad yn y dyfodol, a’n bod yn fodlon y gellir cyfiawnhau’r hawliad.

Sylwer: Ni fyddwn yn canslo Trwydded Deledu dros 75 pan fyddwn yn cael ein hysbysu bod deiliad y drwydded wedi marw. Bydd y drwydded yn parhau i fod mewn grym nes iddi ddod i ben.

4. Gweinyddol

Os yw deiliad y drwydded yn gofyn am gael newid i gynllun talu gwahanol, weithiau bydd angen i ni ganslo’r drwydded gyfredol a chyhoeddi un newydd.

Fel arfer bydd Trwyddedau Teledu yn cael eu canslo drwy rybudd yn ysgrifenedig ac yn unol â gofynion Deddf Cyfathrebu 2003, adrannau 364(5)(8)a (9), gan ddatgan dyddiad y canslo yn glir. Byddwn yn anfon llythyr i hysbysu am y canslo i ddod, ac yn dilyn hyn gyda llythyr canslo, oni bai y bydd y mater wedi ei ddatrys. Gallwn hefyd ganslo trwyddedau trwy gyhoeddi hysbysiad cyffredinol ar wefan y BBC ac, os pennir bod hynny’n briodol gan y BBC, mewn negeseuon cenedlaethol eraill. Dim ond o ddyddiad sy’n rhoi ystyriaeth i unrhyw arian a dalwyd parthed y drwydded y byddwn yn canslo trwydded, gan dalgrynnu i fyny i’r mis dod i ben agosaf os oes angen (ac, yn achos trwydded y talwyd ffi gonsesiwn i bobl ddall ar ei chyfer, yn talgrynnu i fyny pro rata).

Yn ôl i’r brig

Ad-daliadau

Mae Adran 365(3) Deddf Cyfathrebu 2003 yn rhoi grym dewisol i’r BBC ad-dalu taliadau a wnaed parthed trwydded dan y Rheoliadau Cyfathrebu (Trwyddedu Teledu) 2004. Wrth benderfynu a ddylid gwneud ad-daliad ai peidio, byddwn yn ystyried unrhyw hawliad cynharach gan yr hawliwr y mae rheswm i amau y sicrhawyd yr ad-daliad hwnnw o ganlyniad i wybodaeth anwir, gan gynnwys datganiad a lofnodwyd gan yr hawliwr a brofwyd i fod yn anwir.

Yn ôl i’r brig

Pa bryd alla i hawlio ad-daliad?

Dyma'r prif amgylchiadau y bydd ad-daliadau'n cael eu hystyried:

  1. Nid yw offer derbyn teledu yn cael ei ddefnyddio bellach
  2. Mae’r cyfeiriad wedi'i drwyddedu gan drwydded arall
  3. Prynwyd y Drwydded Deledu trwy gamgymeriad
  4. Prynwyd Trwydded Deledu arall
  5. Ad-daliadau consesiwn i bobl ddall
  6. Ad-daliadau o ganlyniad i gais am Drwydded Deledu dros 75
  7. O ganlyniad i farwolaeth deiliad y drwydded

Fel arfer bydd ad-daliadau'n cael eu cyfrifo mewn misoedd cyflawn.

1. Nid yw offer derbyn teledu yn cael ei ddefnyddio bellach

Gellir rhoi ad-daliadau os bydd deiliad y drwydded yn rhoi'r gorau i ddefnyddio offer derbyn teledu yn ei gyfeiriad. Ni ddylai deiliad y drwydded wylio sianeli teledu ar unrhyw wasanaeth teledu, gwylio teledu byw ar wasanaethau ffrydio neu ddefnyddio BBC iPlayer*. Mae hyn yn cynnwys recordio a lawr lwytho ar unrhyw ddyfais. Os oes angen y Drwydded Teledu eto er mwyn gwylio teledu byw neu BBC iPlayer cyn y dyddiad pryd mae’r drwydded yn dod i ben, yna ni fyddwn yn anfon ad-daliad.

2. Mae’r cyfeiriad wedi'i drwyddedu gan drwydded arall

Gellir rhoi ad-daliadau os yw deiliad y drwydded yn symud i gyfeiriad gwahanol lle bydd yn dod dan drwydded rhywun arall (e.e. cyfeiriad rhieni neu bartner).

3. Prynwyd y Drwydded Deledu trwy gamgymeriad

Gellir rhoi ad-daliadau mewn perthynas â thrwyddedau sy'n cael eu prynu oherwydd camgymeriad gan y cwsmer, fel arfer oherwydd nad oes ar ddeiliad y drwydded angen y math o drwydded a brynwyd. Er enghraifft, os ydyn nhw wedi prynu trwydded pan fo trwydded ar gael eisoes yn y cyfeiriad. Os cafodd y drwydded ei phrynu trwy gamgymeriad yn dilyn cyngor gan Drwyddedu Teledu, fe all y cwsmer hawlio gwerth hyd at chwe blynedd o ad-daliadau.

4. Prynwyd Trwydded Deledu arall

Gellir rhoi ad-daliadau os nad oes ar ddeiliad y drwydded angen trwydded bellach oherwydd bod math gwahanol o Drwydded Deledu wedi cymryd ei lle. Er enghraifft, mae deiliad y drwydded yn symud i gyfeiriad sydd â Thrwydded Deledu gonsesiwn ARC ar gyfer unigolion sy’n bodloni’r meini prawf perthnasol.

Gellir gwneud hawliad os yw deiliad trwydded:

  1. Yn symud o drwydded du a gwyn i un lliw, neu
  2. Yn symud o drwydded lliw i un du a gwyn, neu
  3. Yn symud i gyfeiriad sydd â Thrwydded Deledu gonsesiwn ARC (ar ôl darparu amodau), neu
  4. Yn gwneud cais am Drwydded Deledu gwestai ac unedau symudol ar gyfer y cyfeiriad sydd ar ei drwydded ef/hi, neu
  5. Wedi'i gynnwys ar gais am Drwydded Deledu o fath lluosog

Yn y categori yma, gellir rhoi ad-daliadau ar gyfer misoedd cyflawn sydd heb eu defnyddio. Os bydd oedi wrth sefydlu cymhwyster ar gyfer y drwydded newydd, gall y cwsmer hawlio gwerth hyd at ddwy flynedd o ad-daliadau. Os cafodd y drwydded ei phrynu trwy gamgymeriad yn dilyn cyngor gan Drwyddedu Teledu, gall y cwsmer hawlio gwerth hyd at chwe blynedd o ad-daliadau.

5. Ad-daliadau consesiwn i bobl ddall

Gellir rhoi ad-daliad o hyd at hanner ffi’r drwydded (gan ddibynnu a yw’r drwydded yn drwydded ffi lawn neu randaliadau) os oes gan ddeiliad y drwydded dystysgrif dallineb gan awdurdod lleol neu offthalmolegydd, ond ei fod wedi methu hawlio'r gostyngiad am y consesiwn i bobl ddall pan brynwyd y drwydded bresennol.

I fod yn gymwys i gael y consesiwn i bobl ddall, rhaid i’r cwsmer ddarparu llungopi o un o’r darnau canlynol o dystiolaeth:

  1. Tystysgrif neu ddogfen arall gan neu ar ran awdurdod lleol ym Mhrydain Fawr sy’n dangos bod yr ymgeisydd yn ddall (â nam difrifol ar ei olwg) neu
  2. Dystysgrif neu ddogfen arall gan neu ar ran y DHSS yn Ynys Manaw sy’n dangos bod yr ymgeisydd yn ddall (â nam difrifol ar ei olwg), neu
  3. Dystysgrif gan Ymddiriedolaeth Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yng Ngogledd Iwerddon sy’n dangos bod yr ymgeisydd yn ddall (â nam difrifol ar ei olwg), neu lythyr gan Optometrydd (Gogledd Iwerddon yn unig) neu
  4. Dystysgrif gan offthalmolegydd ac wedi’i lofnodi gan offthalmolegydd (CVI neu BD8) (1990) sy’n dangos bod yr ymgeisydd yn ddall (â nam difrifol ar ei olwg). Neu gopi o’u Cerdyn Cofrestru Cenedlaethol wedi'i lofnodi gan offthalmolegydd neu. Hysbysiad codio treth gan Gyllid a Thollau Ei Fawrhydi sy’n dangos bod yr ymgeisydd yn derbyn lwfans person Dall.

Sut i hawlio ad-daliad consesiwn i bobl ddall

Gall unigolyn sydd wedi hawlio consesiwn i bobl ddall yn briodol hawlio ad-daliad o 50% hefyd ar y ffïoedd a dalwyd ar Drwydded Deledu a ddaeth i ben, yn dyddio'n ôl i 1 Ebrill 2000 neu’r cyntaf o'r mis y daeth ef neu hi'n ddall (â nam difrifol ar y golwg), pa un bynnag sydd ddiweddarach. Rhaid i’r hawliwr ddarparu’r drwydded a llungopi o un darn o dystiolaeth (fel y nodir uchod). Nid yw’r rheol arferol fod yn rhaid talu ad-daliadau i ddeiliad y drwydded yn unig yn berthnasol yn yr achos yma. Os yw’r drwydded yn trwyddedu neu wedi trwyddedu'r lle y mae unigolyn dall neu â nam difrifol ar ei olwg yn byw neu wedi byw trwy gydol y cyfnod perthnasol, yna bydd ad-daliad yn daladwy i ddeiliad y drwydded hyd yn oed os nad hwn yw'r unigolyn dall neu'r sawl sydd â nam difrifol ar ei olwg (yn amodol ar brawf boddhaol).

6. Ad-daliadau o ganlyniad i gais am Drwydded Deledu dros 75

Bydd ad-daliadau o fisoedd cyflawn ar drwydded bresennol yn daladwy’n awtomatig pan fydd Trwydded Deledu dros 75 yn cael ei hanfon, wedi'i dyddio'n ôl i ddechrau’r drwydded neu ddiwrnod cyntaf mis y pen-blwydd yn 75, pa un bynnag sydd ddiweddarach. Fodd bynnag, nid oes ad-daliad yn daladwy ar Drwydded Deledu dros 75.

Sut i wneud cais am Drwydded Deledu dros 75 am ddim

7. Ad-daliadau o ganlyniad i farwolaeth deiliad y drwydded

Os yw’r cais am ad-daliad o ganlyniad i farwolaeth deiliad y drwydded, gellir hawlio ad-daliad am unrhyw fisoedd cyflawn sy'n weddill ar y drwydded (cyn belled â bod rhai amodau yn cael eu bodloni) a gellir eu talu i ystad deiliad y drwydded.

Rhagor o wybodaeth

Fe gafodd stampiau cynilo Trwydded Deledu eu tynnu o gylchrediad a'u cyfnewid am gerdyn cynilo Trwyddedu Teledu. I gael gwybod mwy, ffoniwch 0300 790 6042*.

I gael gwybod mwy am ein polisi ad-daliadau yn gyffredinol, ysgrifennwch at:

The Refund Group
PO Box 410
Darlington
DL98 1TL

Derbyniad teledu gwael

Nid yw eich Trwydded Deledu yn gwarantu ansawdd y llun a dderbyniwch.

Os oes gennych broblemau gyda derbyniad teledu neu amhariad ar eich signal, ewch i wefan Help Receiving TV and Radio y BBC am gyngor.

*Nid yw galwadau i’n rhifau 0300 yn costio dim mwy na galwad ar gyfradd genedlaethol i rif 01 neu 02, boed o ffôn symudol neu linell dir. Os ydych yn cael munudau cynhwysol, bydd galwadau i rif 0300 yn cael eu cynnwys yn rhad ac am ddim.

Yn ôl i’r brig