Gallwch wneud cais am Drwydded Deledu am ddim:
Oes gennych Drwydded Deledu yn barod?
Os oes gennych Drwydded Deledu yn barod, mewngofnodwch i wneud cais am eich Trwydded Deledu am ddim ar-lein.
Fel rhan o’ch cais, byddwn yn gwirio gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau i wneud yn siŵr eich bod yn derbyn Credyd Pensiwn. Gwnewch yn siŵr bod yr enw ar y Drwydded Deledu yr un fath â’r enw sydd gan yr Adran Gwaith a Phensiynau.
Ddim yn meddu ar Drwydded Deledu gyfredol?
Os ydych chi’n credu eich bod yn gymwys i gael trwydded am ddim ond nad oes gennych Drwydded Deledu gyfredol neu nad ydych yn gallu mewngofnodi, mae’n dal yn bosib i chi wneud cais ar-lein.
Os ydych eisoes yn derbyn Credyd Pensiwn, gallwch wneud cais am eich trwydded am ddim pan fyddwch yn 74 oed. Byddwn yn diweddaru eich taliadau i’ch trwyddedu hyd at eich pen-blwydd yn 75, ac yna byddwch wedi’ch trwyddedu gan eich trwydded am ddim. Byddwn yn ysgrifennu i gadarnhau hyn.
Os ydych chi’n ddall (amhariad difrifol ar eich golwg) ac yn gallu darparu’r dystiolaeth briodol, rydych chi’n gymwys i wneud cais am gonsesiwn 50%. Ar ôl i’ch cais gael ei dderbyn, gallwch wedyn wneud cais am Drwydded Deledu am ddim.
Yn talu am Drwydded Deledu ar hyn o bryd?
Fe ddylech barhau i wneud eich taliadau i barhau i fod wedi’ch trwyddedu. Os bydd angen, gallwch adnewyddu eich trwydded ar lein.
Ddim wedi’ch trwyddedu?
Os oes angen Trwydded Deledu arnoch ac nad ydych yn talu am un ar hyn o bryd, prynwch drwydded nawr.
Os nad ydych yn derbyn Credyd Pensiwn ond yn meddwl y gallech fod yn gymwys, mae’n werth holi.
Mae’n hawdd gweld a allwch gael Credyd Pensiwn. Ffoniwch yr Adran Gwaith a Phensiynau ar 0800 99 1234 (oriau agor 8.00am - 6.00pm) neu ewch i gov.uk/credyd-pensiwn.
Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon, ffoniwch Ganolfan Bensiynau Gogledd Iwerddon ar 0808 100 6165. Neu ewch i nidirect.gov.uk/pension-credit.
Sylwch, ni all Trwyddedu Teledu roi cyngor ynghylch bod yn gymwys ar gyfer Credyd Pensiwn.
Ad-daliadau
Os buoch yn talu am Drwydded Deledu pan oeddech yn gymwys i gael un am ddim, fe allech fod yn gymwys i gael ad-daliad. Byddwn yn prosesu hyn fel rhan o’ch cais.
Os yw deiliad y drwydded wedi marw
Ffoniwch 0300 790 6042* i roi gwybod i bwy y dylem drosglwyddo’r drwydded. Os ydych yn byw yn yr un cyfeiriad, fe fyddwch wedi’ch trwyddedu nes bydd y drwydded bresennol yn dod i ben.
Os ydych yn gymwys, gallwch wedyn wneud cais am Drwydded Deledu am ddim newydd. Os ddim, bydd angen i chi brynu trwydded newydd pan ddaw’r un bresennol i ben.
Mwy o gymorth a chyngor am beth i’w wneud os bydd deiliad y drwydded yn marw.
Os ydych wedi symud tŷ
Gallwch symud eich trwydded i’ch cyfeiriad newydd drwy ddiweddaru eich manylion ar lein.
Os ydych wedi symud i gartref gofal preswyl
Os ydych dros 75 oed ac yn byw mewn cartref gofal preswyl, fe allech gael eich trwyddedu gan Drwydded Deledu ARC (Llety ar gyfer Gofal Preswyl) a fydd dim rhaid i chi dalu am drwydded hyd yn oed os nad ydych yn derbyn Credyd Pensiwn. Dylech siarad â gweinyddwr eich cartref gofal.
Os byddai’n well gennych wneud cais am Drwydded Deledu am ddim dros y ffôn, ffoniwch 0300 790 6042* a siarad ag un o’n cynghorwyr (mae ein llinellau ar agor rhwng 8.30am a 6.30pm o ddydd Llun i ddydd Gwener).
Mae Credyd Pensiwn yn fudd-dal sydd ar gael i bensiynwyr ar incwm isel. Mae ar wahân i bensiwn y wladwriaeth.
Fe allech fod yn gymwys hyd yn oed os oes gennych bensiwn, cynilion neu’n berchen ar eich cartref. Mae’n helpu hefyd gyda chostau tai, biliau gwresogi, treth cyngor, gofal deintyddol ar y GIG a mwy.
Mae’r Drwydded Deledu am ddim i bobl dros 75 oed yn gymwys i’r rhai sy’n derbyn y naill ran neu’r llall o Gredyd Pensiwn – Credyd Gwarant neu Gredyd Cynilion (neu’r ddau).
Mae’n hawdd gweld a allwch gael Credyd Pensiwn. Ffoniwch yr Adran Gwaith a Phensiynau ar 0800 99 1234 (oriau agor 8.00am - 6.00pm) neu ewch i gov.uk/credyd-pensiwn.
Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon, ffoniwch Ganolfan Bensiynau Gogledd Iwerddon ar 0808 100 6165. Neu ewch i nidirect.gov.uk/pension-credit.
Gallwch edrych ar eich cyfriflen banc neu gymdeithas adeiladu lle bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn talu eich budd-dal. Fe ddylech weld eitem gyda’ch Rhif Yswiriant Gwladol wedi’i ddilyn gan y llythrennau “PC”.
Yn ogystal, bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau wedi anfon llythyr hawlio atoch sy’n dangos eich cyfradd newydd o Gredyd Pensiwn sy’n daladwy.
Ar hyn o bryd, nid yw lwfans gweini yn eich gwneud yn gymwys i gael Trwydded Deledu am ddim.
Mae consesiynau ar ffi’r Drwydded Deledu ar hyn o bryd ar gael i bobl dros 75 oed sy’n derbyn Credyd Pensiwn, pobl sy’n ddall neu â nam difrifol ar eu golwg, pobl sy’n byw mewn gofal preswyl cymwys, a busnesau sy’n cynnig llety dros nos, fel gwestai.
Mae un drwydded yn trwyddedu eich prif gartref, ni waeth pwy sy'n byw yno. Felly dim ond un ohonoch sydd angen gwneud cais am Drwydded Deledu am ddim.
Bydd. Bydd eich Trwydded Deledu am ddim hefyd yn trwyddedu unrhyw un o dan 75 oed sy'n byw yn eich prif gyfeiriad, hyd nes y daw'r drwydded i ben.
Na chewch. Does dim hawl gan unrhyw un sydd â Thrwydded Deledu am ddim yn eu prif gyfeiriad i gael trwydded arall am ddim ar gyfer unrhyw gyfeiriad arall.
Os oes angen trwydded, prynwch un nawr.
Nac ydy, mae’n dal yn bosib cael eich Trwydded Deledu am ddim os ydych dros 75 oed a’ch bod chi, neu rywun sy’n byw yn yr un cyfeiriad, yn derbyn Credyd Pensiwn.
Mae consesiynau eraill ar gael:
Gallwch wneud cais am Drwydded Deledu am ddim ar lein neu ffonio 0300 790 6042.
Does dim Trwydded Deledu am ddim i bobl dros 60 oed. Mae Trwyddedau Teledu am ddim ar gael yn unig os ydych dros 75 oed a’ch bod chi, neu rywun sy’n byw yn yr un cyfeiriad, yn derbyn Credyd Pensiwn.
†Ffynhonnell: Yr Adran Gwaith a Phensiynau – Awst 2022
*Calls to our 0300 numbers cost no more than a national rate call to an 01 or 02 number, whether from a mobile or landline. If you get inclusive minutes, calls to an 0300 number will be included free of charge.
Your feedback is valuable to us. Please don’t include personal or financial
information like your National Insurance number or credit card details.