Dan Ddeddf Cyfathrebu 2003, y BBC yw’r awdurdod cyhoeddus cyfrifol am gyhoeddi Trwyddedau Teledu a chasglu’r ffi drwyddedu. Mae’n angenrheidiol i’r BBC brosesu data personol i gyflawni’r swyddogaethau statudol hyn. Mae’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) yn sefydlu’r seiliau cyfreithlon dilys y gall sefydliadau brosesu data personol arnynt, oni bai fod eithriad yn gymwys o dan Ddeddf Diogelu Data 2018. Er bod caniatâd unigolyn yn un o’r seiliau hyn o dan y GDPR, sail gyfreithlon arall yw fod y prosesu yn angenrheidiol er mwyn cynnal swyddogaeth statudol. Mae Trwyddedu Teledu yn prosesu data personol, ar ran y BBC, i gydymffurfio â swyddogaeth statudol y BBC o gyhoeddi Trwyddedau Teledu a chasglu ffi’r drwydded.
Dan y GDPR, mae’r BBC yn ‘rheolydd data’ ac yn pennu’r diben a dull prosesu data personol. Ni ellir defnyddio data personol a gedwir gan y BBC a’i gontractwyr Trwyddedu Teledu i ddiben gweinyddu’r system trwyddedu teledu ar gyfer unrhyw ddiben arall, oni bai fod hyn yn ofynnol neu wedi ei ganiatáu yn benodol dan y gyfraith.
Mae’r BBC a Trwyddedu Teledu yn ystyried fod diogelwch yr wybodaeth a ymddiriedir i ni yn fater difrifol iawn, ac mae gennym set gynhwysfawr o fesurau rheoli ar waith i’w diogelu. Mae ein strategaeth Diogelwch Gwybodaeth yn cynnwys mesurau rheoli polisi, gweithdrefnol, technegol ac addysgol, ac mae pob aelod staff yn cael ei atgoffa’n rheolaidd o’i gyfrifoldebau.
Ni fydd data personol a gedwir gan Trwyddedu Teledu yn cael ei ddatgelu i unrhyw un tu allan i Trwyddedu Teledu oni bai fod hyn yn ofynnol neu wedi ei ganiatáu dan y gyfraith. O bryd i’w gilydd bydd Trwyddedu Teledu yn cael ceisiadau o’r fath gan yr heddlu ac asiantaethau’r llywodraeth. Wrth asesu ceisiadau o’r fath, rydym yn ystyried buddiannau dilys yr asiantaethau hyn o brosesu’r data personol yn ogystal â hawliau a phreifatrwydd gwrthrych y data o dan y GDPR.
Ceir rhagor o wybodaeth ar sut mae Trwyddedu Teledu yn delio â data personol ym Mholisi Preifatrwydd Trwyddedu Teledu.
Sylwer hefyd nad oes rhaid i’r BBC gydymffurfio â cheisiadau a wneir dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth am ddata personol. Mae Adran 40 y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn darparu nad oes rhaid i sefydliad gydymffurfio â chais os yw’r wybodaeth a geisir yn ddata personol ac y byddai ei ddatgelu yn groes i gyfraith diogelu data. Mae’r BBC wedi atal datgelu gwybodaeth yn flaenorol dan yr eithriad hwn ar sawl achlysur.
Nac ydym.
Ydy. Mae’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) yn ei gwneud yn ofynnol i gyflawni unrhyw waith prosesu data personol (gan gynnwys datgeliad) ar ran y rheolydd data dan gontract ysgrifenedig sy’n gofyn i brosesu o’r fath gael ei gyflawni ar gyfarwyddiadau’r rheolydd data yn unig. Caiff contractwyr Trwyddedu Teledu’r BBC ddatgelu data personol i’w cyflogeion a chyflogeion eu hisgontractwyr, ond maent yn dal yn gyfrifol am eu cydymffurfiad â GDPR a rhwymedigaethau cytundebol perthnasol.
Os bydd rhywun yn prynu Trwydded Deledu am y tro cyntaf mewn safle PayPoint, bydd y manwerthwr yn gofyn am enw a chyfeiriad yr unigolyn, ac yn gwirio hyn ar system “edrych i fyny” sy’n rhoi mynediad at enwau a chyfeiriadau yn unig ar gronfa ddata Trwyddedu Teledu.
Os bydd rhywun yn adnewyddu Trwydded Deledu mewn safle PayPoint, yna bydd y manwerthwr yn prosesu’r trafodiad ac ni fydd angen mynediad i unrhyw ddata personol.
Mae gwybodaeth a gedwir ar y gronfa ddata cyfeiriadau Trwyddedu Teledu yn cael ei diweddaru’n barhaus i geisio sicrhau ei bod mor gywir â phosibl.
Mae Trwyddedu Teledu yn dibynnu ar unigolion i’n hysbysu os nad yw eu manylion yn gywir neu os yw eu hamgylchiadau wedi newid. Mae Trwyddedu Teledu hefyd yn defnyddio ffynonellau data allanol fel Ffeil Cyfeiriadau Cod Post y Post Brenhinol, gan dderbyn diweddariadau dyddiol (ar sail pwyntiau danfon y post sy’n newid yn barhaus wrth i eiddo newydd gael ei godi, ac wrth i eiddo sy’n bodoli eisoes gael ei ddymchwel neu bod newid defnydd yn digwydd).
Hefyd, bydd ein swyddogion ymweld yn ymweld â chyfeiriadau i gadarnhau a yw'r eiddo wedi ei feddiannu. Mae Trwyddedu Teledu hefyd yn cyfeirio’n ôl at y Post Brenhinol ynghylch unrhyw gyfeiriad (h.y. pwynt danfon) ble mae ansicrwydd (e.e. ble mae dau eiddo cyfagos oedd yn arfer bod ar wahân wedi’u troi’n un eiddo).
Mae Trwyddedu Teledu yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod y gronfa ddata yn gywir ac yn gyfredol. Fodd bynnag, mewn cronfa ddata o’r maint hwn – sy’n cynnwys ychydig o dan 34 miliwn o gyfeiriadau - mae’n anochel y bydd rhai gwallau’n digwydd. Wedi eu nodi, unionir yr anghysonderau hyn cyn gynted â phosibl.
Mae system cronfa ddata Trwyddedu Teledu yn cadw manylion taliadau diweddar a wnaed gan ddefnyddio debyd uniongyrchol, cerdyn credyd neu ddebyd, siec neu archeb bost (rhannol neu lawn); neu trwy unrhyw safle PayPoint. Cedwir cofnodion talu manylach ar gyfer pobl sy’n talu ar gynlluniau arian parod, gan y bydd pob taliad yn cael ei gofnodi.
Ym mhrofiad Trwyddedu Teledu, mae nifer o ddeiliaid trwydded yn gwerthfawrogi galwad ffôn os bydd problem â’u taliad. Fodd bynnag, nid oes raid i unrhyw un ddarparu’r wybodaeth hon.
Mae galwad neu SMS yn gallu datrys problem yn gyflymach ac mae’n arbed papur a phostio.
Mae’r BBC (Trwyddedu Teledu) dim ond yn dal y wybodaeth sydd ei hangen arno ar ei gronfa ddata i weithredu’r system Trwyddedu Teledu yn unol â’r gyfraith diogelu data, gan gynnwys GDPR y DU.
Ar draws 2023/24, roedd ystadegau yn dangos y gall tua 90.2% o gartrefi’r Deyrnas Unedig fod yn drwyddedadwy. Felly mae’n rhesymol i Trwyddedu Teledu ysgrifennu at yr holl gyfeiriadau didrwydded i gadarnhau a oes angen Trwydded Deledu. Mae Trwyddedu Teledu yn gweithio ar sail y dybiaeth fod pob cartref yn y Deyrnas Unedig angen Trwydded Deledu o bosibl, ac felly byddwn yn ysgrifennu at yr holl gyfeiriadau lle nad oes cofnod o drwydded neu fod gofynion trwyddedu presennol (os o gwbl) yn anhysbys.
Pan fydd unigolyn yn hysbysu Trwyddedu Teledu nad yw angen Trwydded, fe nodir hyn ar ein cronfa ddata a rhoddir ataliad ar unrhyw ohebiaeth bellach am gyfnod o amser. Efallai y bydd swyddog ymweld yn mynd draw i’r cyfeiriad i wirio nad oes angen Trwydded.
Nid oes unrhyw orfodaeth i unrhyw un roi data personol i ni er ein bod yn gofyn am enwau pobl er mwyn cadw ein cronfa ddata yn gyfredol. Bydd mesurau gorfodi yn cael eu cymryd mewn cyfeiriadau os bydd angen, ni waeth a oes enw’n gysylltiedig â’r cyfeiriad hwnnw ai peidio, er bod defnyddio enwau o gymorth i ni ddiweddaru’r gronfa ddata.
Mae system cronfa ddata Trwyddedu Teledu yn cael ei chynnal gan Capita Business Services Limited (Capita) ar hyn o bryd, cwmni a gontractiwyd gan y BBC i weinyddu Trwyddedu Teledu. Y BBC yw perchennog yr hawliau eiddo deallusol i’r system.
Mae gweithredu Trwyddedu Teledu yn delio â swm aruthrol o ddata, sy’n cael ei storio a'i reoli trwy nifer o gronfeydd data sy’n cydberthyn a gedwir gan wahanol asiantaethau ar ran Trwyddedu Teledu. Mae prif gronfa ddata Trwyddedu Teledu yn cadw manylion ychydig o dan 24 miliwn o Drwyddedau Teledu mewn grym yn y Deyrnas Unedig.
Dim ond i ddiben gweinyddu a gorfodi’r system trwyddedu teledu y gellir defnyddio cronfa ddata Trwyddedu Teledu, oni bai ei fod yn ofynnol neu wedi ei ganiatáu yn benodol dan y gyfraith (e.e. gan asiantaethau’r llywodraeth i ganfod neu atal troseddau).
Mae gan Trwyddedu Teledu ddyletswydd statudol i sicrhau fod pob cyfeiriad lle mae offer derbyn teledu yn cael ei ddefnyddio i wylio neu recordio teledu ar unrhyw sianel ar unrhyw wasanaeth teledu, i wylio’n fyw ar wasanaethau ffrydio neu i ddefnyddio BBC iPlayer wedi ei drwyddedu’n gywir. Felly, mae Trwyddedu Teledu yn ysgrifennu at bob cyfeiriad lle nad oes cofnod o Drwydded Deledu neu lle mae’r gofynion trwyddedu presennol (os o gwbl) yn anhysbys. Bydd Trwyddedu Teledu hefyd yn ysgrifennu at ddeiliaid trwydded ynghylch eu trwydded ac i gyfathrebu gwybodaeth bwysig, fel unrhyw newidiadau yn y gyfraith.
Anfonir gwahanol lythyrau i gwmpasu amrywiaeth o bosibiliadau. Er enghraifft, efallai y bydd rhai pobl heb Drwydded wedi anghofio prynu un; fydd eraill ddim angen Trwydded Deledu, neu efallai y bydd arnynt angen trwydded ond byddant yn osgoi prynu un yn fwriadol. Os na dderbynnir ateb o gyfeiriad i’n cyfathrebiadau cychwynnol sy’n seiliedig ar wasanaethau i gwsmeriaid, bwriad cynnwys y cyfathrebiadau dilynol yw sicrhau bod cartrefi’n ymwybodol o ganlyniadau torri’r gyfraith.
Mae RAPP wedi eu contractio gan y BBC i ddarparu gwasanaethau marchnata ac argraffu Trwyddedu Teledu, a nhw sy’n anfon y rhan fwyaf o lythyrau Trwyddedu Teledu. Yn 2023/24, anfonwyd oddeutu 57 miliwn o eitemau o bost ar ran Trwyddedu Teledu. Ymysg rhai o’r amgylchiadau lle mae Trwyddedu Teledu yn anfon llythyrau mae:
Yn ogystal â llythyrau, gellir anfon negeseuon e-bost a negeseuon testun at gwsmeriaid sydd wedi darparu eu cyfeiriadau e-bost a rhifau ffôn ac sydd wedi caniatáu i TVL eu defnyddio i gyfathrebu. Yn 2023/24, anfonwyd oddeutu 22 miliwn* o gyfathrebiadau electronig at gwsmeriaid.
Rydym yn ddiolchgar i gwsmeriaid sy’n dewis cyfathrebiadau e-bost oherwydd mae hyn yn ein galluogi i arbed papur ac i wario mwy o’r incwm sy’n cael ei gasglu ar raglenni a gwasanaethau’r BBC.
Bydd Capita a Target yn anfon nifer fach o lythyrau, yn gysylltiedig yn bennaf ag ymholiadau penodol gan gwsmeriaid.
*Mae’r ffigurau yn cynnwys negeseuon e-bost a negeseuon testun.
Mae Bwrdd Ymchwil Cynulleidfa Darlledwyr BARB (yn agor mewn ffenest newydd) yn darparu data ar gartrefi sydd â theledu ac ar gartrefi sy’n defnyddio dyfeisiau nad ydynt yn deledu i wylio teledu. Yna gwneir addasiadau i'r data hwn i nodi'r cartrefi hynny y mae angen trwydded arnynt. Ar draws 2023/24, roedd ystadegau yn dangos y gall tua 90.2% o gartrefi’r Deyrnas Unedig fod yn drwyddedadwy.
Yn unol â’i rwymedigaethau statudol, mae Trwyddedu Teledu yn ysgrifennu at yr holl gyfeiriadau lle nad oes cofnod o Drwydded Deledu neu fod gofynion trwyddedu presennol (os o gwbl) yn anhysbys.
Os yw Trwyddedu Teledu yn cael hysbysiad nad oes angen Trwydded, yna gellir stopio postiadau am gyfnod o amser. Mae’n rhaid i Trwyddedu Teledu gasglu ffioedd y Drwydded pan fyddant yn ddyledus felly nid yw’n stopio cysylltu â chyfeiriad yn barhaol. Y rheswm am hyn yw bod sefyllfaoedd trwyddedu yn gallu newid drwy bobl yn symud tŷ neu’n newid eu harferion gwylio. Gall unigolyn ddweud wrth Trwyddedu Teledu nad oes angen Trwydded Deledu arnynt trwy ddefnyddio’r ffurflen ar-lein hon.
Gall swyddog ymholi alw yn y cyfeiriad i gadarnhau’r sefyllfa. Er bod y mwyafrif o’r hysbysiadau Dim Angen Trwydded y mae Trwyddedu Teledu yn eu cael yn rhai dilys, weithiau bydd pobl yn dweud wrth Trwyddedu Teledu nad oes arnynt angen trwydded pa fo’u harferion gwylio gartref yn golygu bod angen un arnynt go iawn.
Am ragor o wybodaeth, gweler Polisi Dim Angen Trwydded Trwyddedu Teledu.
Mae Trwyddedu Teledu’n lleihau’r defnydd o gyfathrebu papur lle bynnag y bo modd a bydd yn defnyddio llythyrau dim ond pan nad oes cyfeiriad e-bost neu ganiatâd cwsmer i ddefnyddio cyfeiriad e-bost ar gael.
Anfonir llythyr atgoffa at gyfeiriadau trwyddedig os nad oes data e-bost ar gael ychydig cyn ac ychydig ar ôl dyddiad dod i ben y Drwydded. Mae’r llythyrau atgoffa hyn yn canolbwyntio ar yr ystod o sianeli teledu sy’n dod o dan Drwydded Deledu a’r gwerth y mae pobl yn ei roi ar y profiad o wylio teledu byw a BBC iPlayer. Mae’r rhan fwyaf o ddeiliaid trwydded yn ymateb i’r llythyrau hyn. Mae angen cyfathrebu ymhellach â nifer fach o gwsmeriaid cyn iddynt adnewyddu.
Mae cyfeiriadau heb drwydded yn cael gwahanol gyfathrebiadau yn dibynnu ar yr amgylchiadau. Mewn rhai achosion, nid yw cwsmeriaid yn ymateb ac yn prynu’r Drwydded Deledu sydd ei hangen arnynt nes bod canlyniadau torri’r gyfraith yn cael eu cyfleu’n glir mewn llythyr.
Mae effeithlonrwydd yr holl lythyrau sy’n cael eu hanfon yn cael ei adolygu’n gyson i sicrhau bod Trwyddedu Teledu yn gweithredu er lles pawb sy’n talu ffi’r drwydded.
Os na dderbynnir ateb o gyfeiriad, bydd yn cael ei restru ar gyfer ymweliad gan swyddog ymweld i holi ynghylch gofynion trwyddedu ac i ganiatáu prynu trwydded os oes angen un.
Nid yw Trwyddedu Teledu yn tybio fod rhywun yn cyflawni trosedd, fodd bynnag, i’r rhai sydd yn talu ffi’r drwydded, nid yw ond yn deg bod y rhai sy’n osgoi talu ffi’r drwydded yn fwriadol yn deall y gallai’r gosb ar gyfer osgoi ffi’r drwydded wedi euogfarn fod yn ddirwy o hyd at £1,000 (neu £2,000 yn Guernsey).
Mae pob llythyr a anfonir yn cael ei gymeradwyo gan Uned Ffi’r Drwydded y BBC.
Mae Trwyddedu Teledu’n gallu newid ei lythyrau safonol am amrywiaeth o resymau. Er enghraifft, mae newidiadau i sylwedd llythyrau wedi cael eu gwneud i adlewyrchu:
Mae costau casglu Trwyddedu Teledu, gan gynnwys cyfathrebu a phostio dros y pum mlynedd ddiwethaf ar gael yn yr adran Gwybodaeth Ariannol.
Mae Trwyddedu Teledu yn cadw costau postio’n isel trwy ddefnyddio cyfraddau postio gostyngol lle bynnag y bo’n bosibl.
Mae cost anfon postiadau Trwyddedu Teledu trwy’r post yn cynnwys argraffu a gwasanaethau post. Mae gwybodaeth parthed elfennau cyfansawdd y costau yn cael eu hallanoli ac felly maent yn fasnachol sensitif ac wedi ei heithrio o ddatgeliad dan adran 43(2) y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.
Y gyfradd osgoi swyddogol ddiweddaraf ar gyfer y Deyrnas Unedig ym mlwyddyn ariannol 2023/24 yw 11.3% ac mae tua 88.7% o gyfeiriadau wedi’u trwyddedu’n gywir. Ni ellir ond amcangyfrif ffigurau osgoi prynu Trwydded Deledu o fewn amrediad o 1%, gan mai amcangyfrifon yw rhai ffigurau a ddefnyddir wrth gyfrifo.
Mae’r gyfradd swyddogol yn amcangyfrif canran (nid nifer) yr holl eiddo (nid unigolion na chartrefi) sy’n osgoi talu’r ffi drwyddedu yn y Deyrnas Unedig. Fe’i cyfrifir ar gyfer yr Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon (yn agor mewn ffenest newydd) gan ddefnyddio model sy’n cymharu’r nifer o drwyddedau teledu mewn grym ag ystadegau allanol am nifer y cartrefi a llefydd trwyddedadwy eraill yn y Deyrnas Unedig.
Nid yw’r gyfradd osgoi swyddogol yn gwahaniaethu rhwng cartrefi a mathau eraill o eiddo ac fe’i cynhyrchir ar gyfer y Deyrnas Unedig gyfan oherwydd nad yw'r ystadegau allanol sydd eu hangen i wneud y cyfrifiad ar gael ar lefel cenhedloedd unigol. O ganlyniad, nid yw’n bosibl darparu amcangyfrif swyddogol o gyfraddau osgoi talu ym mhob cenedl.
Mae pobl wedi cael eu dal yn gwylio rhaglenni, heb Drwydded Deledu ddilys, a ddangosir ar offer derbyn teledu nad ydynt yn setiau teledu. Mae’r wybodaeth arall a geisir yma wedi ei heithrio rhag datgeliad dan adran 31 y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.
Mae swyddogion ymweld wedi eu cyflogi gan Capita (“Capita”), cwmni a gontractiwyd gan y BBC i weinyddu’r system trwyddedu teledu dan nod masnach y BBC “Trwyddedu Teledu”.
Mae hyn yn fater rhwng Capita a’r swyddogion ymweld.
Os na dderbynnir ymateb i lythyrau ymholi gan Trwyddedu Teledu, bydd swyddog ymweld yn galw yn y cyfeiriad i bennu’r gofynion trwyddedu. Nod yr ymweliad yw gorfodi’r gyfraith a galluogi Trwyddedu Teledu i ddileu eiddo nad oes arno angen Trwydded Deledu o’u hymholiadau, er mwyn caniatáu ar gyfer canolbwyntio adnoddau ar y rhai sydd angen un.
Mae Deddf Cyfathrebu 2003 (yn agor mewn ffenest newydd) yn ei gwneud yn ofynnol i’r BBC gyhoeddi Trwyddedau Teledu a chasglu’r ffi drwyddedu. Rhaid i’r BBC sicrhau ei fod yn bodloni ei gyfrifoldeb i’r mwyafrif helaeth o gartrefi sy’n talu eu ffi drwyddedu, trwy orfodi’r gyfraith parthed y rhai hynny sy’n osgoi ei dalu’n fwriadol. Mae Trwyddedu Teledu yn defnyddio amrediad o weithgareddau i godi ymwybyddiaeth am y gofyniad i gael Trwydded Deledu, yn atgoffa pobl i dalu, eu hysbysu am ddulliau o dalu, ac i atal pobl rhag osgoi’r ffi drwyddedu.
Nid oes gan swyddogion ymweld unrhyw rymoedd cyfreithiol i ddod i mewn i’ch cartref heb warant chwilio gan ynad (neu siryf yn yr Alban). Maent (fel aelodau eraill o’r cyhoedd) yn dibynnu ar hawl ymhlyg mewn cyfraith gyffredin i alw mewn eiddo cyn belled â’r drws, wrth gyflawni eu busnes cyfreithlon a datgan eu presenoldeb. Rhaid i swyddogion ymweld esbonio wrth ddeiliad yr eiddo pam eu bod yn ymweld, fod yn gwrtais a theg, a chydymffurfio â rheolau ymddygiad.
Nid oes unrhyw reidrwydd i chi roi caniatâd i swyddog ymweld ddod i mewn os nad ydych eisiau gwneud hynny. Os bydd y deiliad yn gwrthod mynediad, bydd y swyddog ymweld yn gadael yr eiddo. Os gwrthodir mynediad i swyddogion ymweld, yna mae Trwyddedu Teledu’n cadw’r hawl i ddefnyddio dulliau datgelu eraill.
Gallai swyddogion ymweld wneud cais am awdurdodiad i ddefnyddio offer datgelu os gwrthodir mynediad iddynt i’r eiddo. Gallai Trwyddedu Teledu hefyd wneud cais i ynad (neu siryf yn yr Alban) am warant chwilio. Fodd bynnag, dim ond fel mesur pan fetho popeth arall fydd hyn yn digwydd, ac os yw uwch reolwr a chynghorydd cyfreithiol yn ystyried fod yna reswm da dros gredu y cyflawnwyd trosedd.
Rhaid i swyddog ymweld esbonio pam ei fod yn ymweld, fod yn gwrtais a theg, a chydymffurfio â rheolau ymddygiad. Nid oes gan swyddogion ymweld hawl cyfreithiol i fynediad i gartref rhywun heb warant chwilio. Os gwrthodir mynediad i’r eiddo, gellir cynnal yr ymweliad wrth y drws. Os gofynnir i’r swyddog adael yr eiddo, bydd yn gwneud hynny ar unwaith. Os bydd y deiliad yn caniatáu mynediad i’r eiddo, mae’r ymweliad fel arfer yn gyflym iawn. Bydd y swyddog yn cymryd golwg cyflym ar y prif ardaloedd byw i wirio a oes offer derbyn teledu wedi ei osod neu’n cael ei ddefnyddio neu beidio.
Mae Trwyddedu Teledu yn ymweld â sampl o dai i gadarnhau nad oes teledu yn cael ei ddefnyddio gan ein bod yn canfod, wrth gyflawni’r ymweliadau hyn, fod un o bob deg o’r bobl yr ymwelir â nhw angen Trwydded Deledu. Gweler y Polisi Dim Angen Trwydded (PDF 236 Kb yn agor mewn ffenest newydd) am ragor o wybodaeth.
Dim ond os yw wedi ei awdurdodi i wneud hynny dan warant chwilio a roddwyd gan ynad (neu siryf yn yr Alban) y gall Trwyddedu Teledu ddod i mewn i’ch cartref heb eich caniatâd. Mae gan ynad (neu siryf yn yr Alban) ddisgresiwn i ganiatáu gwarant chwilio ar gyfer unigolion awdurdodedig i chwilio eiddo a amheuir o weithgaredd anghyfreithiol parthed trwyddedu teledu. Mae atal unigolyn sy’n gweithredu dan warant (gweler adran 366(8) Deddf Cyfathrebu 2003) ar bwrpas yn drosedd. Bydd yr heddlu yn dod gyda Trwyddedu Teledu wrth weithredu gwarant chwilio.
Wrth gynnal cyfweliad, bydd swyddogion ymweld yn rhoi ystyriaeth i Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984 neu gyfraith trosedd yr Alban. Cyn cyfweld unigolion, bydd swyddogion ymweld yn rhoi rhybuddiad iddynt ar eu hawliau cyfreithiol. Yna bydd swyddogion ymweld yn cofnodi'r cwestiynau a ofynnwyd a'r atebion a roddwyd mewn cofnod ysgrifenedig o'r cyfweliad ac yn gofyn am lofnod i gadarnhau bod y cofnod o'r cyfweliad yn gywir.
Gall swyddogion ymweld gyfweld unigolyn y maent yn ei amau o gyflawni trosedd dan Ddeddf Cyfathrebu 2003 ond ar ôl rhoi rhybuddiad i'r unigolyn hwnnw'n unig h.y. rhoi gwybod iddynt am eu hawliau cyfreithiol, gan gynnwys fod ganddynt hawl i beidio ag ateb unrhyw rai o'r cwestiynau. Mae hyn yn unol â Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984 neu gyfraith trosedd yr Alban. Mae swyddog yn gorfod gwneud cofnod ysgrifenedig o'r cyfweliad hwnnw ac mae hawl gan unigolyn i wrthod llofnodi’r cofnod neu ofyn am gael gwneud cywiriadau os ydynt yn credu nad yw'n gofnod cywir o'r cyfweliad.
Nac oes. Nid yw’r swyddogion ymweld yn swyddogion heddlu ac nid oes ganddynt rymoedd yr heddlu.
Mae swyddogion ymweld yn rhoi ystyriaeth i Godau Ymarfer PACE neu gyfraith droseddol yr Alban (yn dibynnu ble mae’r cyfeiriad) wrth gwestiynu pobl.
Mae pob swyddog ymweld yn cael ei gyflogi yn amodol ar ddarparu tystysgrif datgelu safonol y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd pan fyddant yn dechrau a phob 3 blynedd ar ôl hynny.
Mae Trwyddedu Teledu yn gwerthuso unrhyw euogfarnau a ddatgelir yn erbyn y rôl yr ymgeisir ar ei chyfer cyn mynd ymlaen gyda'r cais. Bydd pob cais yn cael ei ystyried fesul achos. Byddai datganiad o euogfarnau penodol yn golygu na fyddai unigolyn yn cael ei gyflogi mewn rolau penodol o fewn Trwyddedu Teledu.
Rhaid i swyddogion ymweld gadw at reolau ymddygiad sy’n galw arnynt i weithredu’n broffesiynol a chwrtais drwy’r adeg. Bydd Trwyddedu Teledu yn defnyddio amryw o fesurau i sicrhau bod swyddogion yn cyflawni eu dyletswyddau yn briodol; mae hyn yn cynnwys asesu’r adborth a dderbynnir gan bobl yr ymwelwyd â nhw. Os bydd cwyn am ymddygiad swyddog ymweld, bydd Trwyddedu Teledu yn ymchwilio i’r gŵyn a, gan ddibynnu ar ganlyniad yr ymchwiliadau, bydd yn cymryd camau priodol.
Pan fydd ein swyddogion ymweld yn ymweld ag eiddo fe fyddan nhw’n:
Profi pwy ydyn nhw trwy ddangos cerdyn adnabod. Os gofynnir iddyn nhw, byddant yn darparu rhif ffôn hefyd er mwyn i’r sawl sy’n derbyn ymweliad allu cadarnhau’r wybodaeth ar y cerdyn.
Egluro pam eu bod yn ymweld a bod yn foneddigaidd, cwrtais a theg.
Mynd i mewn i’r eiddo ar ôl cael caniatâd yn unig. Os na chânt ganiatâd, bydd yr ymweliad yn dod i ben a gallant ddefnyddio offer datgelu. Efallai y byddant yn gwneud cais i lys am warant chwilio os oes rheswm dros amau bod rhywun yn y cyfeiriad yn:
Mae hyn yn cynnwys recordio a lawr lwytho ar unrhyw ddyfais.
Dilyn deddfau, rheoliadau, polisïau a chodau ymarfer perthnasol.
Osgoi ymddygiad bygythiol neu ddychryn.
Parchu hawliau pobl i breifatrwydd a chyfrinachedd.
Dod â’r ymweliad i ben os gofynnir iddynt adael.
Pan fo angen, cynnal cofnod o gyfweliad a gofyn am lofnod i gadarnhau bod y nodiadau a gymerwyd yn gofnod cywir o’r cyfweliad.
Sicrhau bod y sawl sy’n cael ei gyfweld yn gwybod pa ganlyniadau allai godi o ganlyniad i wylio’n fyw ar unrhyw sianel, wasanaeth neu wasanaeth ffrydio, neu ddefnyddio BBC iPlayer ar unrhyw ddyfais, heb Drwydded Deledu.
*Nid oes angen trwydded i wylio rhaglenni S4C ar alw.
Mae pob swyddog ymweld yn cario cerdyn adnabod gyda logo Trwyddedu Teledu sy’n dangos ei enw, llun, swydd, rhif adnabod unigryw a dyddiad dod i ben y cerdyn. Bydd y swyddog ymweld yn darparu rhif ffôn ar gais er mwyn i bobl allu gwirio ei hunaniaeth gyda Trwyddedu Teledu.
Ydyn. Rhaid i’r holl swyddogion ymweld a gyflogir gan Capita gyflawni hyfforddiant cydraddoldeb o fewn 12 mis cyntaf eu gwaith.
Yn 2023/24 fe dderbyniwyd 298 o gwynion am ymweliadau gan swyddogion ymweld. I roi hyn yn ei gyd-destun, cyflawnwyd dros 1.3 miliwn o ymweliadau yn ystod yr un cyfnod.
Nid oes unrhyw ymweliadau a fyddai’n arwain at ‘ddim camau pellach’. Mae canlyniadau yn cynnwys y canlynol:
Mae’r wybodaeth hon wedi ei heithrio rhag datgeliad dan adran 31 y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.
Fel yr awdurdod cyhoeddus cyfrifol am Drwyddedu Teledu, rhaid i’r BBC sicrhau fod mentrau casglu a gorfodi yn effeithiol ac effeithlon, ac mae defnyddio faniau datgelu yn rhan o’r broses hon. Mae gan y BBC ddyletswydd i sicrhau trefniadau er mwyn i’r rhai nad ydynt yn cyflawni eu rhwymedigaethau i gael trwydded briodol gael eu dal. Mae datgelu yn cael ei ddefnyddio pan fydd ddulliau gorfodi eraill, mwy cost-effeithiol, wedi methu yn unig.
Ydyn. Llywodraethir defnydd o faniau datgelu gan Ddeddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio 2000 a Gorchymyn Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio (Y Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig) 2001. Mae’r ddeddfwriaeth hon yn sefydlu sut ddylid defnyddio pwerau ymchwilio, mewn cydymffurfiad â hawliau dynol, gan y BBC. Mae’r ddeddfwriaeth ar gael ar lein yn www.legislation.gov.uk (yn agor mewn ffenest newydd).
Caiff y BBC, dan amgylchiadau penodol, awdurdodi defnydd cyfreithlon o offer gwyliadwriaeth dan Ddeddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio 2000 (“RIPA”) a Gorchymyn Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio (Y Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig) 2001 (“y Gorchymyn RIPA”) i ddatgelu defnydd didrwydded o dderbynyddion teledu.
Mae offer datgelu yn rhan o strategaeth atal osgoi Trwyddedu Teledu. Mae grym y BBC i ganiatáu awdurdodiadau wedi ei gynnwys yn adran 27(A) RIPA a’r Gorchymyn RIPA. Yr unigolion sy’n gallu awdurdodi defnydd o offer datgelu i ddibenion adran 27A yw’r Uwch Bennaeth Marchnata yn Nhîm Rheoli Trwyddedu Teledu y BBC ac unrhyw unigolyn sydd â swydd yn y Tîm sy’n uwch na’r swyddi hyn. Yn ymarferol, y Cyfarwyddwr Rheoli Refeniw a Chwsmeriaid, yr Uwch Bennaeth Marchnata a’r Uwch Bennaeth Datblygu Gwasanaethau sy’n ymgymryd â'r swyddogaeth hon.
Mae’r Gorchymyn RIPA yn rhagnodi materion y mae’n rhaid i’r swyddog awdurdodi eu hystyried wrth asesu cais. Rhaid i’r swyddog awdurdodi fod yn fodlon fod hyn yn angenrheidiol, ac yn gymesur dan amgylchiadau’r achos penodol, i atal neu ddatgelu troseddau penodol dan ran 4 Deddf Cyfathrebu 2003.
Mae’r wybodaeth a geisir yma wedi ei heithrio rhag datgelu dan adran 31 y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.
O ran ei bwerau o dan RIPA, mae’r BBC yn ddarostyngedig i oruchwyliaeth annibynnol Swyddfa’r Comisiynydd Pwerau Ymchwilio (“IPCO”). Mae'r BBC hefyd yn cynnal archwiliad mewnol ddwywaith y flwyddyn o gofnodion sy'n ymwneud â'r defnydd o RIPA. Ar ben hynny, mae gan Trwyddedu Teledu gynllun sicrwydd cynhwysfawr mewn lle i sicrhau bod safonau’n cael eu cynnal yn barhaus wrth gymhwyso ei bolisi a phrosesau o ran y defnydd o RIPA.
Hyd yn hyn, nid yw Trwyddedu Teledu wedi defnyddio tystiolaeth offer datgelu yn y Llys. Y rheswm dros hyn yw, dan broses erlyn bresennol Trwyddedu Teledu, nid oes angen cyflwyno tystiolaeth offer datgelu yn y llys. Y rheswm yw fod Trwyddedu Teledu yn defnyddio tystiolaeth offer datgelu wrth wneud cais am warantau chwilio. Ar ôl cyflwyno’r warant, os byddwn yn darganfod bod unigolyn yn osgoi talu am Drwydded Deledu, yna bydd y dystiolaeth a geir trwy’r warant chwilio yn cael ei defnyddio yn y llys, nid y dystiolaeth offer datgelu. Fodd bynnag, mae Trwyddedu Teledu yn cadw’r hawl i ddefnyddio tystiolaeth offer datgelu yn y Llys yn y dyfodol.
Mae’r wybodaeth a geisiwyd yma wedi ei heithrio rhag datgeliad dan adran 31 y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth. Roedd rhywfaint o’r wybodaeth a eithriwyd dan adran 31 hefyd wedi ei heithrio rhag datgeliad dan adran 42 y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, gan ei bod yn gyngor cyfreithiol sydd wedi ei ddiogelu dan fraint broffesiynol gyfreithiol. Mae ein penderfyniad i eithrio gwybodaeth dan adran 31 wedi ei ategu gan y Comisiynydd Gwybodaeth. Mae penderfyniadau’r ICO ar gael yma:
Hysbysiad Penderfyniad FS50154106, 16 Hydref 2008 (yn agor mewn ffenest arall)
Hysbysiad Penderfyniad FS50137475, 19 Mai 2008 (yn agor mewn ffenest arall)
Mae siart Costau Casglu Trwyddedu Teledu yn yr adran Gwybodaeth Ariannol yn rhoi dadansoddiad o gostau casglu llinell uchaf Trwyddedu Teledu.
Mae gwybodaeth fanwl am gost defnyddio offer datgelu wedi ei heithrio rhag datgeliad dan adran 31 y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.
Mae Trwyddedu Teledu yn defnyddio amrediad o offer datgelu fel rhan o’i strategaeth atal osgoi.
Dim ond mewn cyfeiriadau sydd heb Drwydded Teledu y defnyddir offer datgelu.
Mae gwybodaeth fwy penodol am sut mae offer datgelu yn gweithio, gan gynnwys ei effeithlonrwydd a manylebau technegol, wedi ei heithrio rhag datgeliad dan adran 31 y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth. Mae ein penderfyniad i eithrio gwybodaeth dan adran 31 wedi ei ategu gan y Comisiynydd Gwybodaeth. Mae penderfyniadau’r ICO ar gael yma:
Hysbysiad Penderfyniad FS50154106, 16 Hydref 2008 (yn agor mewn ffenest newydd)
Hysbysiad Penderfyniad FS50137475, 19 Mai 2008 (yn agor mewn ffenest newydd)
Hysbysiad Penderfyniad FS50476136, 25 Mawrth 2013 (yn agor mewn ffenest newydd)
Nid oes gennym wybodaeth yn cymharu faniau datgelu â dulliau gwrth osgoi eraill oherwydd nad oes angen i ni wneud y gymhariaeth hon.
I roi cefndir, mae faniau datgelu yn rhan o gasgliad o offer, a grynhoir isod, a ddefnyddir gan Trwyddedu Teledu i ganfod osgoi.
Mewn achosion eithriadol, gallai Trwyddedu Teledu ystyried gwneud cais i ynad (neu siryf yn yr Alban) am warant chwilio ar gyfer yr eiddo. Dim ond os oes rheswm da dros gredu fod defnydd didrwydded o deledu yn digwydd a bod ymholiadau eraill wedi eu rhwystro fydd hyn yn digwydd.
Mae’n ofynnol i unrhyw aelod staff sydd wedi ei awdurdodi i weithredu offer datgelu fynychu a chwblhau hyfforddiant yn llwyddiannus sy’n cwmpasu’r agweddau gweithredol a chyfreithiol o ddefnyddio’r offer hwn. Rhaid iddynt lwyddo mewn asesiad ymarferol cyn y gallant weithredu offer datgelu heb oruchwyliaeth. Darperir hyfforddiant gloywi bob 18 mis. Darperir hyfforddiant pellach ar sail ad-hoc pan nodir angen neu pan fydd newidiadau mewn gweithdrefnau/offer. Darperir yr hyfforddiant hwn yn fewnol gan Capita.
Bydd offer datgelu yn cael ei brofi’n ddyddiol, cyn ei ddefnyddio. Anfonir offer datgelu mewn faniau at y gwneuthurwr i gael ei brofi pob 12 mis. Nid ydym yn cadw gwybodaeth ar gostau penodol y profion hyn. Mae’r costau hyn yn cael eu cynnwys yn y taliad cyffredinol gan y BBC i’r cwmnïau a gontractir i weinyddu a gorfodi’r system Trwyddedu Teledu.
Nid yw’r BBC yn rhoi patent na chofrestru dyluniadau ar gyfer offer o’r fath oherwydd byddai cofrestru patent ar gyfer dyfais o’r math yn golygu bod y manylion (h.y. sut mae’n gweithio) ar gael i’r cyhoedd a byddai hyn yn niweidio gweithgareddau gorfodi Trwyddedu Teledu.
O safbwynt technegol, mae’r offer datgelu a ddefnyddir gan Trwyddedu Teledu, yn debyg i offer gwyliadwriaeth arall. Nid oes unrhyw risg gynyddol i’r cyhoedd o bresenoldeb dyfeisiau o’r fath. Felly ni chedwir unrhyw wybodaeth gan y BBC ar asesiadau iechyd a diogelwch o’r fath.
Dim ond os oes rheswm da i gredu y cyflawnwyd trosedd, ei bod yn debygol y gellir sicrhau tystiolaeth o gyflawni’r drosedd honno, a bod amodau parthed mynediad i’r eiddo yn gwarantu cyhoeddi gwarant chwilio y gellir gwneud cais i ynad (neu siryf yn yr Alban) am warant chwilio.
Dim ond mewn achosion lle mae’r dystiolaeth yn golygu ei bod yn debygol y bydd set deledu yn cael ei defnyddio y gwneir cais am warantau chwilio. Mae Trwyddedu Teledu yn agored parthed ei bolisi mai dim ond fel mesur pan fetho popeth arall y bydd yn gwneud cais am warant chwilio. Ystyrir ceisiadau am warant chwilio yn ofalus cyn eu cyflwyno. Fel mater o gyfraith, ni ellir cyhoeddi gwarant chwilio oni bai fod sail resymol dros y cais.
Rydym yn gweithredu gwarantau chwilio ym mhresenoldeb swyddogion yr heddlu. Ein polisi yw na fydd swyddogion ymweld yn gorfodi mynediad i gyfeiriad os nad yw’r deiliad yn bresennol yn yr eiddo. Yn hytrach, byddem yn dychwelyd eto dro arall. Fodd bynnag, rydym yn nodi y gall swyddogion yr heddlu sy’n bresennol orfodi mynediad os ydynt o’r farn fod angen gwneud hynny.
Mae’r wybodaeth hon wedi ei heithrio rhag datgeliad dan adran 31 y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.
Mae ein penderfyniad i eithrio gwybodaeth dan adran 31 parthed nifer y gwarantau chwilio a gyhoeddwyd wedi ei ategu gan y Comisiynydd Gwybodaeth. Mae penderfyniad yr ICO ar gael yma:
Hysbysiad Penderfyniad FS50476136, 25 Mawrth 2013 (yn agor mewn ffenest newydd)
Ein polisi parthed gwarantau chwilio yw:
Mae’r BBC yn contractio Capita i gyflawni gweithgareddau gorfodi trwyddedu teledu, gan gynnwys ymgeisio am a gweithredu gwarantau chwilio. Dim ond yn ôl disgresiwn ynad (neu siryf yn yr Alban) y cyhoeddir gwarant chwilio, yn unol â gofynion cyfreithiol caeth.
Awdurdodir ceisiadau am warantau chwilio a’u gweithrediad dan adran 366 Deddf Cyfathrebu 2003.
Mae Deddf Cyfathrebiadau 2003 (yn agor mewn ffenest newydd) yn rhoi dyletswydd i’r BBC gyhoeddi Trwyddedau Teledu a chasglu’r ffi drwyddedu. Rhaid i’r BBC sicrhau ei fod yn bodloni ei gyfrifoldeb i’r mwyafrif helaeth o gartrefi sy’n talu eu ffi drwyddedu, trwy orfodi’r gyfraith parthed y rhai hynny sy’n osgoi ei dalu yn fwriadol.
Dim ond os yw wedi ei awdurdodi i wneud hynny dan warant chwilio a roddwyd gan ynad (neu siryf yn yr Alban) y gall Trwyddedu Teledu ddod i mewn i’ch cartref heb eich caniatâd.
Gallai Trwyddedu Teledu hefyd wneud cais i ynad (neu siryf yn yr Alban) am warant chwilio. Fodd bynnag, dim ond fel mesur pan fetho popeth arall fydd hyn yn digwydd, ac os yw uwch reolwr a chynghorydd cyfreithiol yn ystyried fod yna reswm da dros gredu y cyflawnwyd trosedd.
Mae gan ynad (neu siryf yn yr Alban) ddisgresiwn i gyhoeddi gwarant chwilio ar gyfer unigolion awdurdodedig i chwilio eiddo a amheuir o weithgaredd anghyfreithiol parthed trwyddedu teledu. Mae atal unigolyn sy’n gweithredu dan warant (gweler adran 366(8) Deddf Cyfathrebu 2003) ar bwrpas yn drosedd. Bydd yr heddlu yn dod gyda Trwyddedu Teledu wrth weithredu gwarant chwilio.
Ydym. Bydd Trwyddedu Teledu yn erlyn os yw hynny er lles y cyhoedd ac os oes tystiolaeth ddigonol i wneud hynny. Mae unrhyw unigolyn mewn perygl o erlyniad os yw’n gwylio neu recordio rhaglenni teledu wrth iddynt gael eu darlledu ar y teledu heb Drwydded Deledu ddilys.
Mae cofnod o gyfweliad yn gofnod ysgrifenedig a gymerir o gyfweliad a gynhelir gan swyddogion ymweld Trwyddedu Teledu, pan fyddant yn holi, dan rybuddiad, unigolyn y maent yn amau sydd wedi cyflawni trosedd dan Ddeddf Cyfathrebu 2003. Bydd yr unigolyn a gyfwelwyd yn gweld y cofnod o’r cyfweliad a gofynnir iddo lofnodi i gadarnhau bod y cofnod yn gofnod cywir o’r cyfweliad.
Wrth gynnal cyfweliad, rhaid i swyddogion ymweld roi sytyriaeth i Godau Ymarfer Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol (‘Codau PACE’) neu gyfraith droseddol yr Alban (yn dibynnu ble mae’r cyfeiriad). Mae hyn yn golygu fod gan swyddogion ymweld ddyletswydd i roi rhybudd i’r unigolyn dan sylw o’i hawliau cyfreithiol cyn ei holi.
Ar gyfer Cymru a Lloegr, mae ystadegau swyddogol ar union nifer y bobl sy’n cael eu herlyn am osgoi talu Ffi’r Drwydded Deledu yn cael eu cadw gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder (“MOJ”) a llysoedd ynadon unigol a gellir gofyn amdanynt gan ddefnyddio’r cyfeiriad canlynol - Data Access and Compliance Unit, Postal Point 6.25, Floor 6, 102 Petty France, Llundain, SW1H 9AJ.
Mae rhai ystadegau MOJ wedi eu cyhoeddi ar lein:
2010 hyd 2023
https://www.gov.uk/government/statistics/criminal-justice-system-statistics-quarterly-december-2023 (Dewiswch “Outcomes by Offence data tool” ac ar y bocs “offence” dewiswch ‘191A Television licence evasion’)
Ar gyfer Gogledd Iwerddon, mae ffigurau yn cael eu dal gan Adran Gyfiawnder Gogledd Iwerddon a gellir gofyn amdanynt gan y Tîm Rhyddid Gwybodaeth, Information Services Division, Block 2, Knockview Buildings, Ballymiscaw, Stormont, Belfast BT4 3SL.
Ar gyfer yr Alban, mae’r ffigurau ar gael gan Swyddfa’r Goron a Swyddfa’r Procuradur Ffisgal (COPFS) a gellir gofyn amdanynt yn y cyfeiriad canlynol: Response and Information Unit, Crown Office, 25 Chambers Street, Caeredin, EH1 1LA.
Mae dirwy yn fater i’r llys yn unig ei orfodi a'i chasglu, nid Trwyddedu Teledu. Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder, Adran Gyfiawnder a COPFS a phob llys lle cynhelir yr achosion yn cadw’r ystadegau swyddogol am nifer yr euogfarnau a'r dirwyon a osodir ac a gesglir. Cysylltwch â nhw ynglŷn â’r wybodaeth hon. Mae gwybodaeth am leoliadau’r llysoedd ynadon lle cynhelir yr achosion hefyd ar gael gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder.
Ni ellir dedfrydu rhywun i garchar os y’i ceir yn euog o drosedd dan adran 363 Deddf Cyfathrebu 2003. Uchafswm y gosb am beidio cael Trwydded Deledu ddilys yw dirwy o £1,000 (neu £2,000 yn Guernsey). Gall y llys hefyd orchymyn yr unigolyn a gafwyd yn euog i dalu gordal dioddefwyr o 10% o’r ddirwy neu £30, pa un bynnag yw’r mwyaf, a thalu costau Trwyddedu Teledu yn yr achos. Fodd bynnag, gall y llys garcharu unigolyn am beidio â thalu dirwy’r llys.
Cyflawnir gweithgareddau Trwyddedu Teledu yn unol â pholisïau a chanllawiau penodol, sy’n sefydlu’r meini prawf ar gyfer erlyn osgowyr. Un o’r meini prawf hyn yw bod yn rhaid i unigolyn sy’n cael ei gyhuddo o drosedd Trwyddedu Teledu fod yn oedolyn sy’n byw yn y cyfeiriad, neu’n landlord neu'n unigolyn cyfrifol am drwyddedu derbynnydd teledu yn yr eiddo. Er enghraifft, ni fyddai ymwelydd neu warchodwr dilys yn yr eiddo yn cael ei erlyn.
Gall y llys godi dirwy o hyd at £1,000 (neu £2,000 yn Guernsey) ar unigolyn a geir yn euog o drosedd dan adran 363 Deddf Cyfathrebu 2003. Mae dirwyon yn fater i’r llys yn unig eu codi a'u casglu a'u gwaredu, nid y BBC na Trwyddedu Teledu.
Cyflawnir gweithgarwch gorfodi gan Capita yn defnyddio nod masnach “Trwyddedu Teledu” y BBC ar ran y BBC.
Mae siart yn dangos costau casglu Trwyddedu Teledu ar gael yn yr adran Gwybodaeth Ariannol.