dcsimg

Ffeithiau a ffigurau am drwyddedau

Trwyddedau mewn Grym

Faint o Drwyddedau Teledu sydd mewn grym yn y Deyrnas Unedig?

Bydd Trwyddedu Teledu yn adrodd ar nifer y trwyddedau teledu ‘mewn grym’ ar ôl diwedd pob mis, gan fod union nifer y trwyddedau mewn grym yn amrywio o ddydd i ddydd ac o fis i fis. Mae’r rhesymau dros hyn yn cynnwys prynu trwyddedau newydd, Trwyddedu Teledu yn canslo o ganlyniad i fethu talu, cwsmeriaid eu hunain yn canslo am nifer o resymau fel symud tŷ, neu oedi cyn adnewyddu trwydded lle bydd trwydded yn dod i ben cyn cael ei hadnewyddu mewn mis gwahanol.

Cyfanswm nifer y trwyddedau mewn grym yn y Deyrnas Unedig yn 2023/24*

  Nifer y trwyddedau mewn grym
Ebrill 2023 24,347,970
Mai 2023 24,312,170
Mehefin 2023 24,288,970
Gorffennaf 2023 24,247,920
Awst 2023 24,044,330
Medi 2023 24,043,020
Hydref 2023 24,003,450
Tachwedd 2023 23,976,040
Rhagfyr 2023 23,959,970
Ionawr 2024 23,928,600
Chwefror 2024 23,909,450
Mawrth 2024 23,888,110

Gall fod angen mwy nag un drwydded ar gyfer cyfeiriad (e.e. llety myfyrwyr). Felly, nifer y trwyddedau a ddangosir fan hyn, yn hytrach na nifer y cyfeiriadau sydd â thrwydded. Nid yw'n hawdd tynnu nifer y cartrefi a safleoedd busnes sydd â Thrwyddedau Teledu o gyfanswm nifer y trwyddedau sydd mewn grym, oherwydd nid yw gwybodaeth o'r fath yn cael ei chofnodi'n benodol ar gyfer pob trwydded.

*Amcangyfrifon yw’r ffigurau hyn o nifer y trwyddedau mewn grym a chawsant eu talgrynnu i’r deg agosaf.

Faint o gartrefi yn y Deyrnas Unedig sydd â theledu?

Mae Bwrdd Ymchwil Cynulleidfa Darlledwyr (BARB) yn darparu data ar gartrefi sydd â theledu ac ar gartrefi sy’n defnyddio dyfeisiau nad ydynt yn deledu i wylio teledu. Yna gwneir addasiadau i'r data hwn i nodi'r cartrefi hynny y mae angen trwydded arnynt. Ar draws 2023/24, mae ystadegau yn dangos y gall tua 90.2% o gartrefi’r Deyrnas Unedig fod yn drwyddedadwy.

Sawl eiddo sydd â mwy nag un Drwydded?

Ar 31 Mawrth 2024, cofnodwyd bod gan 238,380 o gyfeiriadau ar gronfa ddata Trwyddedu Teledu fwy nag un Drwydded Deledu. Mae yna achosion ble mae’n gyfreithlon i gael mwy nag un drwydded mewn cyfeiriad, e.e. ar gyfer llety i fyfyrwyr. Mewn achosion eraill, gall cyfeiriadau gael eu cofnodi dros dro fel rhai sydd â mwy nag un drwydded oherwydd bod y sawl sy’n talu am y drwydded wedi symud.

*Cafodd ffigurau eu talgrynnu i’r deg agosaf.

Faint o Drwyddedau Teledu du a gwyn (mono) oedd mewn grym yn 2023/24?

Ar 31 Mawrth 2024, roedd yna 3,600 o Drwyddedau Teledu du a gwyn (mono) mewn grym.

*Cafodd ffigurau eu talgrynnu i’r deg agosaf.

A alla' i gael rhestr o’r cyfeiriadau yn lleoliad [X] nad oes ganddynt Drwydded Deledu?

Ni all y BBC ryddhau data personol am bobl eraill (gan gynnwys enwau neu gyfeiriadau) gan y byddai gwneud hynny yn torri cyfraith diogelu data. Cesglir gwybodaeth a’i chadw i ddibenion gweinyddu’r system Trwyddedu Teledu, nid i ddibenion eraill amherthnasol.

Faint o Drwyddedau Teledu sydd wedi eu darparu i’r BBC?

Mae’r rhan fwyaf o leoliadau’r BBC wedi eu cwmpasu gan beth a elwir yn ‘aml drwydded’, sef trwydded a gynlluniwyd ar gyfer sefydliadau mawr gyda safleoedd lluosog. Ym mlwyddyn ariannol 2023/24, prynwyd 101 o drwyddedau dan aml drwydded y BBC.

Nid yw gwybodaeth am drwyddedau a ddelir gan is-gwmnïau masnachol y BBC, megis BBC Studios, wedi ei chynnwys yn yr ystadegau hyn gan nad yw’n ddarostyngedig i’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.

Faint o Drwyddedau Teledu gafodd eu canslo?

Nid yw data gwybodaeth am nifer y Trwyddedau Teledu sy’n cael eu canslo* yn gwahaniaethu rhwng trwyddedau sy’n cael eu canslo gan gwsmeriaid a thrwyddedau sy’n cael eu canslo gan Trwyddedu Teledu, a hynny am amryw o resymau gan gynnwys methu talu. Felly, ni all Trwyddedu Teledu nodi nifer y trwyddedau gafodd eu canslo gan gwsmeriaid yn unig.

Mae rhagor o wybodaeth am ganslo trwyddedau ar gael yn natganiad Ymddiriedolaeth y BBC ar y Ffi'r Drwydded Deledu.

Consesiynau

Pwy sy’n penderfynu pa grwpiau sy’n cael consesiwn ar y ffi drwyddedu?

Mae ffi'r Drwydded Deledu - gan gynnwys consesiynau a symiau talu - wedi ei rhagnodi gan Senedd y DU dan Reoliadau Cyfathrebu (Trwyddedu Teledu) 2004 (fel y’u diwygiwyd) (yn agor mewn ffenest newydd). Nid yw’r BBC yn gyfrifol am y materion hyn. Efallai yr hoffech gysylltu ag asiantaeth y llywodraeth sy’n gyfrifol am ddarlledu yn y Deyrnas Unedig - yr Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon (yn agor mewn ffenest newydd) – i drafod unrhyw faterion yn ymwneud â’r fframwaith cyfreithiol ar gyfer y ffi drwyddedu. Cyfeiriad yr Adran yw 100 Parliament Street, Llundain, SW1A 2BQ.

Rydym yn cydnabod y gall rhai pobl gael anhawster talu am eu Trwydded Deledu mewn un taliad. Mae cynllun taliadau arian parod ar gael i ganiatáu ar gyfer talu’r ffi drwyddedu mewn rhandaliadau hwylus. Gall taliadau (gydag arian parod, cerdyn debyd neu gerdyn credyd) fod am gyn lleied â £6.50 yr wythnos.

Gall pobl gynilo hefyd tuag at dalu eu trwydded nesaf yn defnyddio cerdyn cynilo Trwyddedu Teledu.

Mae Trwyddedu Teledu yn gweithio’n agos gyda grwpiau cyngor ariannol a rhanddeiliaid eraill i sicrhau fod gwybodaeth am ddulliau talu hyblyg yn cyrraedd y rhai allai elwa o hyn.

Ceir gwybodaeth ar y mathau o gonsesiynau a sut allwch chi ymgeisio amdanynt isod:

A yw staff y BBC yn gymwys i gael ffi ostyngol neu Drwyddedau Teledu am ddim?

Nid yw staff y BBC yn gymwys i gael ffi drwydded ostyngol na Thrwydded Deledu am ddim trwy rinwedd y ffaith eu bod yn gweithio i’r BBC.

Mae staff y BBC yn gymwys ar gyfer yr un consesiynau â phawb arall. Mae pobl ddall (â nam difrifol ar eu golwg) yn gymwys i gael consesiwn o 50% ar y ffi drwyddedu, a phobl 75 mlwydd oed neu drosodd sy’n derbyn Credyd Pensiwn. Nid oes gan y BBC restr o aelodau staff sy’n derbyn consesiynau ar eu trwydded.

Pwy sy’n gymwys i gael Trwydded Deledu am ddim?

Bydd unrhyw un 75 mlwydd oed neu drosodd sy’n derbyn Credyd Pensiwn yn gymwys o hyd i gael Trwydded Deledu am ddim y bydd y BBC yn talu amdani. Mewn cartrefi lle nad oes neb 75 mlwydd oed neu drosodd sy’n derbyn Credyd Pensiwn, bydd rhaid prynu trwydded os oes angen un.

Faint o bobl bob blwyddyn sy’n cyrraedd 75 oed ac yn dod yn gymwys i gael Trwydded Deledu dros 75 am ddim?

Nid yw’r BBC yn cadw gwybodaeth ar nifer y bobl y flwyddyn sy’n cyrraedd 75 oed ac yn dod yn gymwys i gael Trwydded Deledu am ddim. Efallai y byddai’r ffigurau hyn ar gael gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (yn agor mewn ffenest newydd).

Faint o Drwyddedau Teledu wedi’u hariannu gan y BBC sydd mewn grym?

Ar ddiwedd Mawrth 2024, roedd 964,000 o Drwyddedau Teledu wedi’u hariannu gan y BBC mewn grym. Mae’r rhain yn ymwneud yn bennaf â thrwyddedau am ddim a roddir i unrhyw un dros 75 sy’n derbyn Credyd Pensiwn. Mae deiliaid trwydded sydd dros 75 ac yn preswylio mewn llety gofal preswyl (ARC) neu gynllun ARC gyda Hawliau a Gedwir yn gymwys i gael trwydded am ddim hefyd. Ar gyfer Tiriogaethau Dibynnol ar y Goron, gwnaed trefniadau cyfwerth, gan ddechrau o 1 Ionawr 2021, ar sail budd-daliadau lleol. Mae hyn hefyd yn cynnwys yr hyn a ddarparwyd yn yr Hysbysiad Cyffredinol a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2020 fel rhan o’r newid i’r trefniadau newydd ar gyfer y polisi Dros 75.

Mae’n wybodaeth hon ar gael hefyd yn Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y BBC