dcsimg
  • / Cymorth costau byw

Cymorth costau byw

Cymorth costau byw

Rydyn ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu i helpu pobl, yn enwedig y rheini sydd angen cymorth ychwanegol. Yma fe welwch bopeth sydd ei angen arnoch i gynghori eich cleientiaid am y Trwyddedau Teledu am bris gostyngol sydd ar gael. Ac a ydyn nhw’n gallu cael un.



Y Llywodraeth sy’n penderfynu ar ffi’r drwydded a gostyngiadau. Mae gostyngiadau ar gael i bobl sydd yn:


Os yw eich cleient yn cael Credyd Pensiwn, gallent gael trwydded deledu am ddim

Mae’r BBC yn darparu dros 700,000 o drwyddedau am ddim i bobl dros 75 oed ar Gredyd Pensiwn. Gall eich cleient wneud cais am un os:

  • • Maent yn 75 oed neu’n hŷn, ac maent hwy, neu eu partner sy’n byw yn yr un cyfeiriad, yn derbyn Credyd Pensiwn

Rhagor o wybodaeth am wneud cais am drwydded am ddim.

Gweld a allai eich cleient gael Credyd Pensiwn

Mae’n werth holi a yw eich cleient yn gymwys i gael Credyd Pensiwn. Hyd yn oed os oes ganddynt bensiwn, cynilion neu os ydynt yn berchen ar eu cartref, gallent fod â hawl iddo o hyd.

  • Ychwanegu at eu hincwm ymddeol
  • Mae’r taliad Credyd Pensiwn cyfartalog dros £67 yr wythnos
  • Mae’n caniatáu iddynt hawlio Trwydded Deledu am ddim
  • Gall hefyd helpu gyda chostau tai, biliau gwresogi, y dreth gyngor a gofal deintyddol y GIG

Gall unrhyw un weld a ydynt yn gymwys drwy ffonio'r Adran Gwaith a Phensiynau ar 0800 99 1234 (ar agor rhwng 8.00am a 6.00pm). Neu fynd i gov.uk/credyd-pensiwn.

Os yw eich cleient yn byw yng Ngogledd Iwerddon, ffoniwch Ganolfan Bensiynau Gogledd Iwerddon ar 0808 100 6165. Neu fynd i nidirect.gov.uk/pension-credit.


Cymorth i bobl ddall (â nam difrifol ar eu golwg)

Os yw eich cleient yn ddall (â nam difrifol ar eu golwg) ac yn gallu darparu tystiolaeth, gallent gael Trwydded Deledu am hanner pris. Bydd hyn hefyd yn cynnwys unrhyw un sy’n byw gyda nhw.

Wrth wneud cais am eu trwydded, bydd angen iddynt ddarparu copi o un o’r dogfennau hyn fel tystiolaeth:

  • Tystysgrif Nam ar y Golwg
  • Tystysgrif BD8
  • Tystysgrif neu ddogfen gan awdurdod lleol sy'n cadarnhau eu bod yn ddall
  • Copi o dystysgrif gan Offthalmolegydd (llawfeddyg llygaid), yn datgan eu bod yn ddall (â nam difrifol ar eu golwg)
  • Hysbysiad cod treth gan CThEF yn dangos eu bod yn cael lwfans person dall
  • Copi o'ch Cerdyn Cofrestru Cenedlaethol wedi'i lofnodi gan Offthalmolegydd sy'n datgan eu bod yn ddall (â nam difrifol ar eu golwg)
  • Dogfennaeth neu dystysgrif DHSS yn datgan eu bod yn ddall (â nam difrifol ar eu golwg) ar gyfer preswylwyr Ynys Manaw yn unig
  • Dogfennau neu lythyr Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol gan Optometrydd (ar gyfer preswylwyr Gogledd Iwerddon yn unig

Os yw eich cleient yn byw gyda rhywun sy'n ddall, gallant hefyd wneud cais am Drwydded deledu am bris gostyngol, beth bynnag fo'u hoedran. Ac os oes gan eich cleient drwydded eisoes, gallant ei throsglwyddo i enw’r person hwnnw. Y cyfan sydd angen iddynt ei wneud yw gwneud cais am eu trwydded gyntaf i’r deillion.

Gostyngiadau i gartrefi gofal preswyl a llety gwarchod

Gall rheolwr cartref gofal preswyl, tai â chymorth neu lety gwarchod gael trwydded deledu am bris gostyngol i breswylwyr, os ydynt yn gymwys.

Gallant wneud cais am drwydded o’r enw ‘Llety ar gyfer Gofal Preswyl’ (ARC). Mae’n costio £7.50 yr ystafell, fflat neu fyngalo. Ac mae’n rhad ac am ddim i breswylwyr dros 75 oed.

Er mwyn i lety gael trwydded ARC, mae angen iddo fod yn:

  • Gartref gofal
  • Ysgol annibynnol (ar gyfer plant anabl)
  • Elusendy
  • Llety gwarchod/llety â chymorth

Darllenwch ragor o wybodaeth am lety cymwys (yn Saesneg).

Mae preswylwyr yn gymwys os ydynt:

  • Wedi ymddeol (60 oed neu hŷn a naill ai wedi ymddeol, neu’n gweithio llai na 15 awr yr wythnos)
  • Yn anabl*

*Mae ganddynt nam sylweddol ar eu golwg, eu clyw neu eu lleferydd, anhwylder meddwl, neu mae ganddynt anabledd corfforol oherwydd salwch, unrhyw nam ers eu genedigaeth neu fel arall.
 

Gofynnwch i’ch cleient gysylltu â rheolwr y llety i wneud cais. Cofiwch eu hatgoffa i beidio â chanslo trwydded bresennol neu Ddebyd Uniongyrchol (os mai dyma sut maen nhw’n talu) nes bydd y rheolwr wedi cadarnhau eu bod wedi cael eu hychwanegu at y drwydded ARC.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael i breswylwyr (yn Saesneg).

Mae rhagor o wybodaeth ar gael i reolwyr am wneud cais am drwydded ARC (yn Saesneg).