Debyd Uniongyrchol yw’r ffordd fwyaf poblogaidd o dalu. I filiynau o gwsmeriaid, dyma’r ffordd fwyaf cyfleus o dalu, gan fod eich trwydded yn cael ei hadnewyddu’n awtomatig bob blwyddyn.
Dewiswch pa mor aml hoffech chi dalu. Gwnewch yn siwr fod manylion eich cyfrif banc wrth law a dilynwch y camau syml.
Fe wnawn ni rannu cost eich trwydded gyntaf dros chwe mis, am tua £28.25 y mis. O hynny ymlaen byddwch yn talu tua £14.12 y mis.
Byddwn yn cymryd pedwar taliad trwy’r flwyddyn. Bydd pob taliad yn cynnwys tâl o £1.25.
Byddwch yn talu ffi lawn y drwydded yn awtomatig bob 12 mis.
Byddwn yn rhoi gwybod yr union ddyddiadau talu a’r symiau unwaith y byddwch wedi dechrau trefnu eich Debyd Uniongyrchol
Gallwch hefyd ddewis gwneud eich taliad cyntaf gan ddefnyddio cerdyn debyd neu gredyd, ac yna talu’r gweddill trwy Ddebyd Uniongyrchol.
Gallwch hefyd dalu am Drwydded Deledu rhywun arall (yn Saesneg). Bydd arnoch angen manylion eich cyfrif banc eich hun, ac enw a chyfeiriad y sawl rydych yn talu ar ei ran.
Bydd arnoch angen manylion cyfrif banc eich busnes, yn ogystal â’r cyfeiriad sydd angen ei drwyddedu. Os mai un person sy’n llofnodi ar eich cyfrif busnes, gallwch drefnu Debyd Uniongyrchol ar lein. Os oes angen mwy nag un yn llofnod ar y cyfrif, bydd angen i chi wneud cais drwy’r post. Lawrlwythwch ffurflen PDF ar waelod y dudalen yma.
Os oes gennych Ddebyd Uniongyrchol wedi’i drefnu’n barod, gallwch ddiweddaru eich manylion (yn Saesneg) unrhyw bryd. Mae hyn yn cynnwys newid eich cyfrif banc neu’r dyddiad y bydd taliadau’n gadael eich cyfrif.
I newid i wneud taliadau bob blwyddyn, bob mis neu bob chwarter, cysylltwch â ni (yn Saesneg).
I wneud unrhyw newidiadau i’ch Debyd Uniongyrchol, bydd arnoch angen rhif eich Trwydded Deledu, cyfenw, côd post, a’r manylion banc sydd gennym (côd didoli a rhif y cyfrif).
Os ydych yn talu am eich trwydded gyda cherdyn talu neu gerdyn cynilo Trwyddedu Teledu ar hyn o bryd ac eisiau newid i Ddebyd Uniongyrchol, dysgwch sut i newid eich ffordd o dalu (yn Saesneg).
Bydd arnoch angen rhif eich Trwydded Deledu bresennol wrth law.
Os oes angen i chi bostio eich cyfarwyddyd Debyd Uniongyrchol atom yn hytrach na gwneud cais ar lein, dylech argraffu a chwblhau’r ffurflen isod a’i hanfon atom yn y post:
TV Licensing
Darlington
DL98 1TL
Cyfarwyddyd Debyd Uniongyrchol Cymraeg (PDF 41 Kb yn agor mewn ffenestr newydd)
Os ydych yn talu trwy Ddebyd Uniongyrchol, mae eich taliadau yn cael eu diogelu gan y Warant Debyd Uniongyrchol.