dcsimg
 

Diweddariad pwysig i'n polisi ar ad-daliadau o 1 Ebrill 2017

Os nad ydych yn defnyddio offer derbyn teledu erbyn hyn neu os ydych wedi'ch trwyddedu gan drwydded arall, ein polisi safonol yw ystyried ceisiadau am ad-daliad ar gyfer pob mis cyflawn sy'n weddill ar eich Trwydded Deledu. Bydd hyn yn berthnasol:

  • Os gwnaethoch chi brynu neu adnewyddu eich trwydded ar neu ar ôl 1 Ebrill 2017
    neu
  • Os yw eich trwydded yn weithredol (h.y. dydych chi ddim wedi'i chanslo) pan fyddwch yn gofyn am yr ad-daliad
    neu
  • Os gwnaethoch chi ganslo'r drwydded cyn gofyn am ad-daliad, ond fod ei dyddiad dod i ben ar neu ar ôl 1 Ebrill 2017 (os nad ydych wedi talu am eich trwydded yn llawn, fe allai ei dyddiad dod i ben gael ei newid er mwyn adlewyrchu'r hyn rydych eisoes wedi'i dalu)

Os nad ydych yn bodloni o leiaf un o'r meini prawf uchod, bydd unrhyw ad-daliad sy'n ddyledus yn parhau i gael ei roi mewn blociau o dri mis cyflawn.

Sut mae cael gwybod mwy?

Darllenwch ein datganiad polisi, sy'n disgrifio'r newidiadau yn fanwl. Neu gallwch gael gwybod mwy am sut byddwn yn cyfrifo ad-daliada.

Pam mae hyn yn digwydd?

Rydym wedi gwneud y newid er mwyn symleiddio ein polisi, a gwneud ad-daliadau yn decach a haws eu deall. Fe wnaethon ni gytuno ar hyn gyda'r Llywodraeth fel rhan o'r Papur Gwyn ar Adnewyddu Siarter y BBC yn 2016.

Sut mae gofyn am ad-daliad?

Gallwch ofyn am ad-daliad trwy lenwi ffurflen fer. Mae'n bosib y byddwn yn gofyn i chi ddarparu tystiolaeth sy'n cefnogi eich cais.

General information about TV Licensing is available in other languages: