dcsimg

Pryd mae arnoch angen Trwydded Deledu

View in English
Woman holding a laptop

 

red tick icon


Yn ôl y gyfraith mae arnoch angen Trwydded Deledu i:


  • Pob sianel teledu, fel BBC, ITV, Channel 4, Dave a sianeli rhyngwladol
  • Gwasanaethau teledu talu, fel Sky, Virgin Media a BT
  • Teledu byw ar wasanaethau ffrydio, fel YouTube a Amazon Prime Video
  • Popeth ar BBC iPlayer

Gallwch wylio teledu mewn llawer o ffyrdd gwahanol:

TV Ar set deledu
mobile Ar ffôn symudol neu dabled (fel iPad neu Samsung Galaxy)
DVD Defnyddio peiriant recordio Blu-ray, DVD neu fideo
laptop Ar gyfrifiadur neu liniadur
digibox Defnyddio bocs digidol gyda'ch teledu (fel Sky neu Virgin)
console Gyda chonsol gemau (fel PlayStation neu Xbox).




Mae Trwydded Deledu safonol yn costio £169.50


Gallech:

Does arnoch ddim angen Trwydded Deledu os:

  • nid ydych yn gwylio unrhyw sianel teledu, fel BBC, ITV, Channel 4, Dave a sianeli rhyngwladol
  • nid ydych yn gwylio teledu ar unrhyw wasanaeth talu, fel Sky, Virgin Media a BT
  • nid ydych yn gwylio teledu byw unrhyw wasanaethau ffrydio, fel YouTube a Amazon Prime Video
  • nid ydych yn defnyddio BBC iPlayer

Mae hyn yn cynnwys recordio a lawr lwytho ar unrhyw ddyfais.

Does arnoch ddim angen Trwydded Deledu chwaith os yw eich cartref yn wag ac nad oes neb yn byw yno.

Rhowch wybod i ni os ydych yn meddwl nad oes arnoch angen Trwydded Deledu (yn Saesneg)

Efallai y bydd angen i ni anfon Swyddog Trwyddedu Teledu i'ch cartref, i weld a oes arnoch angen trwydded ai peidio.

Os na fyddwch yn cael Trwydded Deledu pan fydd arnoch angen un, fe fyddwch yn torri'r gyfraith. Mae hyn yn golygu y gallech orfod mynd i’r llys ac fe allech gael dirwy. Gallai’r ddirwy fod hyd at £1,000. Yn Guernsey, gall y ddirwy fod hyd at £2,000.

Os hoffech gael cymorth, gallwch siarad â ni ar 0300 790 6114*.

*Nid yw galwadau i’n rhifau 0300 yn costio dim mwy na galwad ar gyfradd genedlaethol i rif 01 neu 02, boed o ffôn symudol neu linell dir. Os ydych yn cael munudau cynhwysol, bydd galwadau i rif 0300 yn cael eu cynnwys yn rhad ac am ddim.