dcsimg

Trwydded am ddim i bobl dros 75 oed

View in English
Two people aged over 75 watching television
 
Talk about it
Efallai y byddwch eisiau i rywun rydych yn ei adnabod edrych ar hyn gyda chi, er mwyn gallu ei drafod.

 

Aged 75 birthday card icon

Os ydych yn 74 mlwydd oed neu drosodd:

Os ydych yn 75 neu drosodd a’ch bod chi neu eich partner yn derbyn Credyd Pensiwn gallwch wneud cais am Drwydded Deledu am ddim. Bydd hon yn trwyddedu pawb sy’n byw gyda chi yn yr un cyfeiriad.

Cyn i chi wneud cais

Bydd arnoch angen y manylion canlynol wrth law:

  • Tystiolaeth o’ch oedran – gall hyn fod yn gopi o’ch pasport, trwydded yrru’r Deyrnas Unedig, tystysgrif geni’r Deyrnas Unedig neu gerdyn adnabod yr UE/AEE
  • Tystiolaeth fod Credyd Pensiwn yn cael ei dderbyn yn eich cyfeiriad
  • enw a chyfeiriad (gan gynnwys côd post)
  • rhif y Drwydded Deledu bresennol.
Neu siaradwch ag un o’n cynghorwyr ar 0300 790 6117*.

Channel Islands maps icon

Os ydych yn byw yn Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw:

Mae rheolau gwahanol yn gymwys i Drwyddedau Teledu dros 75 am ddim a thrwyddedau tymor byr os ydych yn byw yn Ynys Manaw, Jersey, Guernsey neu Sark.

question mark icon

A oes arnoch angen rhagor o gymorth? Gallwch siarad ag un o’n cynghorwyr ar 0300 790 6114*.

*Nid yw galwadau i’n rhifau 0300 yn costio dim mwy na galwad ar gyfradd genedlaethol i rif 01 neu 02, boed o ffôn symudol neu linell dir. Os ydych yn cael munudau cynhwysol, bydd galwadau i rif 0300 yn cael eu cynnwys yn rhad ac am ddim.