dcsimg

Trwyddedau hanner pris ar gyfer pobl ddall neu bobl â nam difrifol ar eu golwg

View in English
Guide dog accompanying a blind person
 
Talk about it
Efallai y byddwch eisiau i rywun rydych yn ei adnabod edrych ar hyn gyda chi, er mwyn gallu ei drafod.

 

Os ydych yn ddall (â nam difrifol ar eich golwg) gallwch gael Trwydded Deledu am hanner y gost arferol.

Ac os ydych yn byw gyda rhywun sy’n ddall (â nam difrifol ar eu golwg), gallwch gael Trwydded Deledu am hanner y gost o hyd. Cofiwch wneud cais am y drwydded yn eu henw nhw.


guide dog icon

Sut i gael eich Trwydded Deledu am ffi ostyngol:

Bydd angen i chi brofi eich bod chi, neu’r sawl rydych yn gwneud cais ar ei ran, yn ddall (â nam difrifol ar eich golwg).

Felly, pan fyddwch yn anfon eich ffurflen gais atom, cofiwch gynnwys copi o un o’r dogfennau isod:

  • CVI (Tystysgrif Nam ar y Golwg ), sy’n datgan eich bod yn ddall (â nam difrifol ar eich golwg).
  • Tystysgrif BD8, sy’n datgan eich bod yn ddall (â nam difrifol ar eich golwg).
  • Tystysgrif neu ddogfen gan Awdurdod Lleol sy’n dangos eich bod wedi’ch cofrestru’n ddall (â nam difrifol ar eich golwg).
  • Copi o dystysgrif gan Offthalmolegydd (llawfeddyg llygaid), sy’n datgan eich bod yn ddall (â nam difrifol ar eich golwg).
  • Hysbysiad codio treth gan Gyllid a Thollau Ei Fawrhydi sy’n dangos eich bod yn derbyn lwfans person Dall.
  • Copi o'ch Cerdyn Cofrestru Cenedlaethol wedi'i lofnodi gan Offthalmolegydd sy’n datgan eich bod yn ddall (â nam difrifol ar eich golwg).
  • Dogfennau neu dystysgrif DHSS sy’n datgan eich bod yn ddall (â nam difrifol ar y golwg) ar gyfer trigolion Ynys Manaw yn unig.
  • Dogfennau Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol neu lythyr gan Optometrydd ar gyfer trigolion Gogledd Iwerddon yn unig.

Ddim yn gwybod rhif eich trwydded?


question mark icon

A oes arnoch angen rhagor o gymorth? Gallwch siarad ag un o’n cynghorwyr ar 0300 790 6114*.

*Nid yw galwadau i’n rhifau 0300 yn costio dim mwy na galwad ar gyfradd genedlaethol i rif 01 neu 02, boed o ffôn symudol neu linell dir. Os ydych yn cael munudau cynhwysol, bydd galwadau i rif 0300 yn cael eu cynnwys yn rhad ac am ddim.