Mae Trwydded Deledu safonol yn costio £169.50
Gallwch drefnu i daliadau gael eu gwneud yn syth o’ch cyfrif banc gyda Debyd Uniongyrchol. Gallwch:
I drefnu Debyd Uniongyrchol gyda ni bydd arnoch angen rhif eich cyfrif banc a’ch côd didoli.
Gallwch ddefnyddio cerdyn debyd neu gerdyn credyd i dalu am gyfanswm eich Trwydded Deledu (£169.50).
Ffoniwch ni ar 0300 790 6165* neu talwch ar lein.
Neu, gallwch dalu symiau llai gyda cherdyn debyd neu gredyd os byddwch yn gwneud cais am gerdyn talu Trwyddedu Teledu.
Gallwch ddefnyddio’r cerdyn yma i dalu bob wythnos neu bob mis mewn unrhyw PayPoint, dros y ffôn, trwy neges testun neu ar lein.
Ffoniwch 0300 555 0286* i gael cerdyn talu Trwyddedu Teledu.
Mae safleoedd PayPoint i’w cael mewn llawer o siopau, siopau papurau newydd ac archfarchnadoedd.
Gallwch dalu am eich Trwydded Deledu mewn PayPoint gan ddefnyddio arian parod neu gerdyn debyd. Yn syml iawn, dywedwch wrth y sawl sydd y tu ôl i'r cownter eich bod eisiau talu am Drwydded Deledu. Fe fyddan nhw'n gofyn am eich enw, eich cyfeiriad a'ch côd post. Os ydych yn adnewyddu eich Trwydded Deledu, dangoswch y llythyr atgoffa iddyn nhw. Wedyn fe fyddan nhw'n gofalu am y gweddill.
Gallwch hefyd rannu cost eich Trwydded Deledu trwy dalu amdani fesul tipyn mewn unrhyw PayPoint. Ond yn gyntaf, bydd angen i chi gael cerdyn talu Trwyddedu Teledu gennym. I gael eich cerdyn chi, ffoniwch 0300 555 0286*.
Gallwch ddefnyddio'r cerdyn yma i dalu bob wythnos neu bob mis gydag arian parod neu gerdyn debyd mewn unrhyw PayPoint. Gallwch hefyd ei ddefnyddio i dalu dros y ffôn, trwy neges testun, neu ar lein.
Ffoniwch 0300 555 0286* i gael cerdyn talu Trwyddedu Teledu
Yn Ynysoedd y Sianel neu yn Ynys Manaw, gallwch dalu am eich Trwydded Deledu yn eich swyddfa bost leol yn hytrach nag mewn PayPoint.
Rhaid i'r siec fod am swm llawn y Drwydded Deledu (£169.50). Cofiwch ysgrifennu eich enw a’ch cyfeiriad ar y cefn. Anfonwch y siec at:
TV LicensingOs ydych yn cael trafferth talu am eich Trwydded Deledu, edrychwch ar yr hyn y gallwn ei wneud i helpu
*Nid yw galwadau i’n rhifau 0300 yn costio dim mwy na galwad ar gyfradd genedlaethol i rif 01 neu 02, boed o ffôn symudol neu linell dir. Os ydych yn cael munudau cynhwysol, bydd galwadau i rif 0300 yn cael eu cynnwys yn rhad ac am ddim.