Y dewis olaf yw erlyn. Rydyn ni’n awyddus i’ch helpu i osgoi hyn. Dyna pam byddwn yn cynnig dewis arall i chi o bosib, fel cynllun talu. Os gallwn ni gynnig hyn, byddwn yn ysgrifennu atoch chi.
Datrysiad y tu allan i’r llys yw enw hyn. Efallai y byddwch yn gallu osgoi erlyniad os byddwch yn talu’n llawn neu’n cofrestru ar gyfer cynllun talu, ac yn gwneud taliadau digonol tuag at eich trwydded. Os yw hyn ar gael, byddwn yn ysgrifennu atoch chi ac yn rhoi gwybod i chi faint mae angen i chi ei dalu.
Fodd bynnag, os bydd datrysiad y tu allan i’r llys yn cael ei gynnig i chi ac nad ydych yn prynu Trwydded Deledu neu’n gwneud eich taliadau, gallech gael eich erlyn.
Efallai y byddwn wedyn yn symud yr erlyniad i’r cam nesaf os:
Mewngofnodi i dalu am drwydded bresennol
Ffoniwch ni ar 0300 790 6044* os hoffech chi siarad â rhywun am hyn mewn iaith arall.
Cyn i ni erlyn, rhaid i ni fod yn siŵr bod y dystiolaeth yn eich erbyn yn ddigon cryf. Byddwn hefyd yn ystyried unrhyw amgylchiadau personol rydych chi wedi’u crybwyll a allai olygu y byddai’n annheg eich erlyn.
Mae’r enghreifftiau’n cynnwys:
Mae angen i’r amgylchiadau hyn fod yn ddigon difrifol nes eu bod wedi eich atal rhag prynu Trwydded Deledu neu reoli pethau o ddydd i ddydd. Dyma ychydig o enghreifftiau eraill o’r amgylchiadau y byddwn yn eu hystyried o bosib.
Roeddwn i yn yr ysbyty. Neu mae gen i salwch difrifol iawn. Beth ydw i’n gallu ei wneud?
Gallwch chi ddangos llythyr gan feddyg teulu, nyrs neu’r ysbyty.
Mae gen i salwch meddwl difrifol. Neu rydw i wedi colli anwylyd yn ddiweddar. Beth ydw i’n gallu ei wneud?
Bydd eich gweithwyr cymorth gofal yn gallu helpu i roi gwybodaeth am eich anghenion i ni.
Mae gen i anhawster dysgu sy’n ei gwneud hi’n anodd prynu trwydded. Beth ydw i’n gallu ei wneud?
Bydd eich gofalwr yn gallu helpu i roi gwybodaeth am eich anghenion i ni.
Rydw i wedi cael fy ngwneud yn ddi-waith. Neu dydw i ddim yn gallu talu am bethau sylfaenol fel bwyd neu wres. Beth ydw i’n gallu ei wneud?
Gallwch chi ddangos tystiolaeth bod eich budd-daliadau wedi dod i ben. Neu lythyr gan elusen yn esbonio beth sydd wedi digwydd.
Rydyn ni’n gwybod bod rhai cwsmeriaid yn ei chael hi’n anodd talu am drwydded. Rydyn ni’n gwneud popeth gallwn ni i helpu. Edrychwch i weld pa gymorth sydd ar gael os ydych chi’n cael trafferth talu.
Darparu tystiolaeth o’ch amgylchiadau
Rhaid i’r dystiolaeth rydych chi’n ei darparu ddangos sut mae eich amgylchiadau wedi eich atal rhag prynu Trwydded Deledu. Gall hefyd esbonio sut rydych chi’n ei chael hi’n anodd rheoli pethau o ddydd i ddydd a sut gallai unrhyw erlyniad effeithio arnoch chi.
Byddwn yn ystyried unrhyw dystiolaeth sy’n cael ei darparu yn ofalus cyn gwneud penderfyniad ynghylch erlyn. Anfonwch wybodaeth atom ni dros e-bost neu drwy’r post.
Sylwch: darparwch dystiolaeth o’ch amgylchiadau ar y ffurflen dystiolaeth mae’r Swyddog Ymweld wedi’i rhoi i chi.
Rhaid i’r holl wybodaeth fod yn ysgrifenedig. Bydd yn cael ei thrin yn gyfrinachol. Os ydych chi’n anfon dogfennau drwy’r post, dim ond copïau dylech chi eu hanfon. Peidiwch ag anfon dogfennau gwreiddiol oherwydd ni allwn eu dychwelyd.
Rydyn ni’n ystyried pob achos yn unigol. Byddwn yn edrych ar yr holl dystiolaeth cyn gwneud penderfyniad. Ffoniwch ni ar 0300 790 6042 i gael cyngor ynghylch sut gallai hyn fod yn berthnasol i chi os ydych chi wedi cael ymweliad. Ni fyddwn yn rhannu eich gwybodaeth ag unrhyw un arall oni bai fod y gyfraith yn mynnu neu’n caniatáu hynny.
Hyd yn oed os byddwch yn prynu Trwydded Deledu, mae erlyniad yn dal yn bosib:
Os byddwn yn erlyn, byddwch yn cael:
Yn yr Alban ac Ynysoedd y Sianel, lle na allwn erlyn, rydyn ni’n anfon achosion i’r tîm gorfodi’r gyfraith lleol, a nhw sy’n gwneud y penderfyniad.
Beth yw Hysbysiad Gweithdrefn Un Ynad?
Mae’r Weithdrefn Un Ynad yn cael ei defnyddio ar gyfer y rhan fwyaf o achosion yng Nghymru a Lloegr. Mae hyn yn golygu efallai y bydd ynad yn penderfynu ar eich achos heb i chi orfod mynd i’r llys.
Bydd yr Hysbysiad yn esbonio’r cyhuddiad a’r ffeithiau (tystiolaeth) yn yr achos. Bydd angen i chi ymateb drwy bledio’n euog neu’n ddieuog. Cofiwch wneud hynny erbyn y dyddiad cau ar y llythyr. Y ffordd gyflymaf o ymateb yw clicio yma i bledio ar-lein.
Gweithdrefn Un Ynad – Cymraeg (PDF 510 kb yn agor mewn ffenest newydd - yn Saesneg)
Single Justice Procedure - English (PDF 483 Kb opens in a new window)
Mae rhagor o wybodaeth am y Weithdrefn ar gael ar GOV.UK.
Beth fydd yn digwydd os byddwch yn pledio’n euog
Gallwch chi ddarparu gwybodaeth i gefnogi eich ple. Er enghraifft, unrhyw amgylchiadau neu faterion oedd y tu hwnt i’ch rheolaeth chi. Bydd angen i chi roi manylion i’r llys am yr arian rydych chi’n ei gael (drwy waith neu fudd-daliadau) a’ch gwariant. Bydd y llys yn ystyried hyn wrth benderfynu ar eich dedfryd.
Ni fydd angen i chi ymddangos gerbron y llys. Bydd eich datganiad ysgrifenedig a’n tystiolaeth ni yn cael eu defnyddio i wneud penderfyniad. Bydd y penderfyniad yn cael ei anfon atoch chi drwy’r post.
Beth fydd yn digwydd os byddwch yn pledio’n ddieuog
Bydd angen i chi ddarparu rhesymau dros eich ple i’r llys, yn ogystal â manylion unrhyw dystion sydd am roi tystiolaeth ar eich rhan.
Byddwch wedyn yn cael llythyr sy’n nodi dyddiad ac amser eich gwrandawiad.
Beth fydd yn digwydd os na fyddwch yn ymateb
Bydd eich achos yn dal yn bwrw ymlaen. Ond byddwch yn colli’r cyfle i bledio a lleihau’r ddirwy o bosib, ac i ddarparu unrhyw wybodaeth ychwanegol. Bydd y llys yn eich cael yn euog neu’n ddieuog ar sail y dystiolaeth.
Côd Erlyn Trwyddedu Teledu – Cymru a Lloegr (PDF 137 kb yn agor mewn ffenest newydd)
TV Licensing Prosecution Code - England and Wales (PDF 586 Kb opens in a new window)
Yn yr Alban, rydyn ni’n adrodd achosion i’r Procuradur Ffisgal a fydd yn penderfynu pa gamau i’w cymryd, pa gyhuddiad i’w ddwyn ac ym mha lys y dylid cynnal yr achos. Dyma’r dewisiadau sydd ar gael i’r Procuradur Ffisgal:
I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch y daflen hon:
Côd Erlyn Trwyddedu Teledu - Yr Alban (PDF 115 kb yn agor mewn ffenest newydd - yn Saesneg)
Os yw’r penderfyniad i erlyn wedi cael ei wneud a’ch bod heb gael dewis arall neu heb wneud y taliadau gofynnol, byddwch yn cael gwŷs.
Caiff y wŷs ei rhoi wyneb yn wyneb. Bydd yn nodi dyddiad ac amser y gwrandawiad llys. Bydd yn esbonio’r cyhuddiad a’r dystiolaeth y bydd yr erlyniad yn ei defnyddio, yn ogystal ag unrhyw euogfarnau blaenorol y bydd y llys yn eu hystyried os bydd yn eich cael yn euog.
Cewch ysgrifennu at y llys cyn y gwrandawiad. Neu ewch i’r llys ar y diwrnod i bledio ac i ddarparu unrhyw wybodaeth yr hoffech i’r llys ei hystyried.
I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch ein taflenni:
Côd Erlyn Trwyddedu Teledu - Gogledd Iwerddon (PDF 114 kb yn agor mewn ffenest newydd - yn Saesneg)
Côd Erlyn Trwyddedu Teledu - Ynys Manaw (PDF 559 kb yn agor mewn ffenest newydd - yn Saesneg)
*Nid yw galwadau i’n rhifau 0300 yn costio dim mwy na galwad ar gyfradd genedlaethol i rif 01 neu 02, boed o ffôn symudol neu linell dir. Os ydych yn cael munudau cynhwysol, bydd galwadau i rif 0300 yn cael eu cynnwys yn rhad ac am ddim.