dcsimg

Talu unrhyw ddirwyon

View in English

Os bydd y llys yn eich cael yn euog, bydd yr ynadon yn penderfynu ar y ddirwy. Gallech orfod talu dirwy o hyd at £1,000 (neu hyd at £2,000 os ydych chi’n byw yn Guernsey).

Gallech hefyd orfod talu: 


Os ydych chi’n byw yng Nghymru neu Loegr
  • Gordal dioddefwr o 40% o’r ddirwy. 
  • Costau’r erlyniad o tua £120. 
Os ydych chi’n byw yn yr Alban, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw 

Y costau colli refeniw rydyn ni’n gofyn amdanynt.

Os ydych chi’n byw yng Ngogledd Iwerddon 
  • Ardoll troseddwr o £15. 
  • Y costau colli refeniw rydyn ni’n gofyn amdanynt. 
  • Costau’r erlyniad o £25 o leiaf.

Byddwch yn dal yn gorfod prynu Trwydded Deledu os oes angen un arnoch chi.

Hoffech chi gael hwn wedi’i gyfieithu? 

Ffoniwch ni ar 0300 790 6044* os hoffech chi siarad â rhywun am hyn mewn iaith arall. 


Does dim modd anfon rhywun i’r carchar yn dilyn euogfarn Trwyddedu Teledu 

Ond fe allai’r llys benderfynu eich anfon i’r carchar am wrthod talu eich dirwyon llys. 

Cysylltwch â’r llys yn eich ardal i dalu eich dirwy 

Bydd rhif ffôn y llys ar y llythyr rydych chi’n ei gael. Efallai y daw’r llythyr gan y llys neu swyddog gorfodi. 


Os ydych chi’n byw yng Nghymru neu Loegr 

Gallwch dalu dirwy llys ar-lein hefyd. Bydd angen yr ‘hysbysiad dirwy’ arnoch chi, yn ogystal â cherdyn debyd neu gredyd. Wedi colli eich hysbysiad? Cysylltwch â’r llys sydd wedi rhoi’r ddirwy i chi. 

Gallwch dalu dirwy llys dros y ffôn hefyd:


phone  Ffoniwch 0300 790 6042 i dalu dirwy yng Nghymru.

phone  Ffoniwch 0300 790 9901 i dalu dirwy yn Lloegr.

Os ydych chi’n byw yn yr Alban, Gogledd Iwerddon, Ynys Manaw neu Ynysoedd y Sianel 

Cysylltwch â’r llys gan ddefnyddio’r manylion ar y llythyr rydych chi wedi’i gael. Ni allwn ddarparu rhif ffôn yn anffodus, gan mai’r llysoedd sy’n anfon y llythyrau.

*Nid yw galwadau i’n rhifau 0300 yn costio dim mwy na galwad ar gyfradd genedlaethol i rif 01 neu 02, boed o ffôn symudol neu linell dir. Os ydych yn cael munudau cynhwysol, bydd galwadau i rif 0300 yn cael eu cynnwys yn rhad ac am ddim.