dcsimg

Beth cafodd ei drafod yn eich cyfweliad

View in English
Bydd y Swyddog yn rhoi rhybuddiad i chi. Bydd yn esbonio nad oes rhaid i chi ddweud unrhyw beth ond y gallai unrhyw beth rydych chi yn ei ddweud gael ei ddefnyddio yn y llys. Os byddwch yn cytuno, bydd yn gofyn am gael archwilio eich derbynnydd teledu ac wedyn yn gofyn rhywfaint o gwestiynau am y drosedd o wylio teledu heb drwydded. 
 
Bydd yn cofnodi unrhyw wybodaeth a thystiolaeth bwysig.  
 
Bydd hefyd yn gofyn i chi am unrhyw amgylchiadau personol a allai fod yn berthnasol wrth benderfynu a ddylid eich erlyn ai peidio. 
 
Byddwch yn cael copi o’ch cyfweliad dros e-bost neu drwy’r post os byddwch yn gofyn am gael copi. Bydd copi arall yn cael ei anfon drwy’r post os byddwch yn cael eich erlyn. 
 
Bydd y Swyddog hefyd yn rhoi taflen i chi gyda gwybodaeth am beth i’w wneud nesaf. Gallwch chi lawrlwytho ein taflenni yma:

TV Licensing Prosecution Code - England and Wales (PDF 586 Kb opens in a new window)

Côd Erlyn Trwyddedu Teledu – Cymru a Lloegr (PDF 137 kb yn agor mewn ffenest newydd)

Côd Erlyn Trwyddedu Teledu - Ynys Manaw (PDF 559 kb yn agor mewn ffenest newydd - yn Saesneg)

Côd Erlyn Trwyddedu Teledu - Gogledd Iwerddon (PDF 114 kb yn agor mewn ffenest newydd - yn Saesneg)

Côd Erlyn Trwyddedu Teledu - Yr Alban (PDF 115 kb yn agor mewn ffenest newydd - yn Saesneg)