Pan fydd ein Swyddogion yn ymweld ag eiddo, byddan nhw:
Rydyn ni’n defnyddio llawer o fesurau i wneud yn siŵr bod ein Swyddogion yn gwneud eu gwaith yn briodol. Mae hyn yn cynnwys edrych ar adborth gan bobl sydd wedi cael ymweliad. Os byddwn yn cael cwyn, byddwn yn ymchwilio ac yn cymryd camau gweithredu lle bo angen.
Mae Swyddogion yn cael cyfweld person os ydyn nhw’n credu neu’n amau ei fod wedi troseddu o dan Ddeddf Cyfathrebiadau 2003 – ond dim ond ar ôl rhoi rhybuddiad i’r person.
Mae hyn yn cyd-fynd â Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984 yng Nghymru a Lloegr, neu’r ddeddf gyfatebol mewn mannau eraill.
Bydd Swyddog yn cymryd manylion y sawl sy’n cael ei gyfweld, yn gofyn am gael archwilio’r derbynnydd teledu, ac yn cofnodi popeth sy’n cael ei ddweud o dan rybuddiad yn ysgrifenedig.
Does dim rhaid i’r sawl sy’n cael ei gyfweld adael i’r Swyddog ddod i mewn i’w eiddo na dweud unrhyw beth. Gall ofyn am gael siarad â chyfreithiwr a gwrthod llofnodi’r cofnod o’r cyfweliad. Gall hefyd ofyn am gael newid y cofnod os yw’n anghytuno ag unrhyw beth cyn ei lofnodi.