Yn gwylio neu’n recordio rhaglenni teledu byw ar unrhyw sianel neu ddyfais. Mae hyn yn cynnwys:
Yn lawrlwytho neu’n gwylio rhaglenni’r BBC ar BBC iPlayer.
Gall hyn fod ar unrhyw ddyfais. Fel teledu, dyfais tabled, ffôn symudol, cyfrifiadur, gliniadur neu gonsol gemau.
Efallai y byddwch yn gallu osgoi erlyniad neu ddirwy drwy brynu Trwydded Deledu a gwneud eich taliadau. Os felly, byddwn yn ysgrifennu atoch chi.
Mae Trwydded Deledu yn costio £174.50. I brynu un, gallwch chi naill ai:
Rhannu’r gost.
Os yw’n well gennych chi, gallwch chi dalu drwy Ddebyd Uniongyrchol misol. Rhaid i chi wneud pob taliad i gadw’r drwydded gywir. Dyma ragor o wybodaeth am rannu’r gost.
Talu’r cyfan ar unwaith.
Gallwch chi dalu £174.50 gyda cherdyn debyd neu gredyd, drwy Ddebyd Uniongyrchol blynyddol neu drwy anfon siec. Gallwch chi hefyd dalu gydag arian parod yn eich siop PayPoint agosaf. Dyma ragor o wybodaeth am y ffyrdd o dalu.
Mae trwyddedau gyda chonsesiwn (gostyngol) ar gael i gwsmeriaid sy’n ddall, sydd ag amhariad difrifol ar y golwg, a chwsmeriaid dros 75 oed sy’n cael Credyd Pensiwn. Dyma ragor o wybodaeth am y gwahanol fathau o Drwyddedau Teledu a’r costau.
Os ydych chi ar ei hôl hi o ran talu am eich Trwydded Deledu, gallwch chi weld faint sy’n ddyledus drwy fewngofnodi i’ch cyfrif. Bydd y wybodaeth hon ar unrhyw lythyrau rydyn ni wedi’u hanfon atoch chi’n ddiweddar hefyd. Os ydych chi’n dal yn ansicr, ffoniwch 0300 790 6042.
Mae rhai cwsmeriaid yn gallu cael hi’n anodd talu am Drwydded Deledu. Os ydych chi’n cael trafferth talu, ffoniwch ni ar 0300 790 6042 a byddwn yn gwneud ein gorau i helpu.
Mae llawer o sefydliadau nid-er-elw a allai eich helpu hefyd. Maen nhw’n rhoi cyngor cyfrinachol ac annibynnol am ddim.
Cyngor ar Bopeth
Ewch i’ch Canolfan Cyngor ar Bopeth leol. Neu ewch i citizensadvice.org.uk/cymraeg (Cymru a Lloegr).
National Debtline
Os ydych chi’n byw yng Nghymru neu Loegr, ffoniwch 0808 808 4000. Neu ewch i nationaldebtline.org i gael cyngor.
Helpwr Arian
Ffoniwch 0800 138 7777. Neu ewch i moneyhelper.org.uk.
Dyma rywfaint o sefydliadau cymorth eraill a allai helpu.
*Nid yw galwadau i’n rhifau 0300 yn costio dim mwy na galwad ar gyfradd genedlaethol i rif 01 neu 02, boed o ffôn symudol neu linell dir. Os ydych yn cael munudau cynhwysol, bydd galwadau i rif 0300 yn cael eu cynnwys yn rhad ac am ddim.