dcsimg
  • / Helpu cwsmeriaid gyda ffi’r Drwydded Deledu

Helpu cwsmeriaid gyda ffi’r Drwydded Deledu

Ein ffordd fwyaf fforddiadwy o dalu

Rydyn ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu i helpu pobl, yn enwedig y rheini sydd angen cymorth ychwanegol, ac sy’n cael trafferthion ariannol. Dyna pam ein bod yn cynnig cynlluniau talu i helpu i ledaenu’r gost, gan gynnwys ein Cynllun Talu Syml.

Gall cwsmeriaid sy’n gymwys ddewis o gynllun talu misol neu bythefnosol sy’n rhannu cost trwydded dros 12 mis, sy’n wahanol i’r cynlluniau talu presennol.

Mae’r Cynllun Talu Syml hefyd yn cynnig hyblygrwydd os bydd taliad yn cael ei fethu, gan y gellir ei rannu ar draws gweddill y cynllun yn hytrach na gorfod talu dwywaith y swm y tro nesaf. Os bydd taliadau’n cael eu methu dri mis yn olynol, bydd cwsmeriaid yn cael eu tynnu o’r Cynllun Talu Syml.

Dyma bopeth sydd angen i chi ei wybod am ein cynllun mwyaf fforddiadwy. A sut y gall helpu eich cleientiaid.


Cyflwyniad i’n Cynllun Taliadau Syml (SPP)


Pwy sy’n gallu cofrestru ar gyfer y cynllun?

Dim ond i gleientiaid penodol y mae’r cynllun ar gael. Gallwn dderbyn atgyfeiriadau gan:

  • Mudiadau nid-er-elw fel elusennau neu grwpiau cyngor ariannol awdurdodau lleol, ond nid gan sefydliadau masnachol.
  • Pobl y mae eu Trwydded Deledu wedi cael ei chanslo yn ystod y chwe mis diwethaf oherwydd eu bod wedi methu taliadau.
  • Pobl sydd wedi dal trwydded Cynllun Talu Syml o fewn y 12 mis blaenorol.
  • Pobl y mae Swyddog Ymweld TV Licensing wedi ymweld â nhw i weld a oes ganddynt Drwydded Deledu.

Bydd cleientiaid yn y ddau grŵp olaf yn cael gohebiaeth gan TV Licensing yn eu gwahodd i ymuno, neu bydd Swyddog Ymweld yn eu gwahodd.

Sut mae’r cynllun yn gweithio?

Content Server Image
Gall eich cleient ddewis cynllun talu misol neu bob pythefnos. Os ydynt yn glynu wrth y cynllun, mae’n tua £3 yr wythnos.
 

Mae dwy ffordd o dalu:


Direct Debit Logo Taliadau awtomatig
Gall eich cleient dalu’n fisol drwy Ddebyd Uniongyrchol. Neu sefydlu Awdurdod Taliadau Parhaus (CPA) a thalu’n fisol neu bob pythefnos ar eu cerdyn debyd neu gredyd.

Pound sign Taliadau â llaw
Gall eich cleient hefyd dalu mewn unrhyw siop PayPoint, ar-lein, dros y ffôn, gan ddefnyddio ap TV Licensing Pay, neu drwy ddolen Paythru a anfonir drwy SMS.
 

Mae ein canllaw i gynghorwyr yn egluro pwy sy’n gymwys ar gyfer y cynllun, sut mae’n gweithio a sut y gellir cyfeirio eich cleientiaid.

Simple Payment Plan - Advice for advisers - English (PDF 180 Kb opens in a new window)

Cynllun Talu Syml – Cyngor i gynghorwyr – Cymraeg (PDF 122 Kb yn agor mewn ffenest newydd)


Sut i gofrestru cleient ar gyfer y cynllun



Os oes gennych gleient a fyddai’n elwa o’r cynllun, gofynnwch iddynt ein ffonio ar 0300 555 0510 gan ddyfynnu DCHAR2 neu fyn i tvl.co.uk/sppme i gofrestru (gan ddefnyddio’r cod DCHAR2).

Os bydd eich cwsmer yn cael ei wahodd i ymuno â’r Cynllun Talu Syml gan TV Licensing, bydd yn cael cod a bydd angen iddynt fynd ar-lein i lenwi rhywfaint o fanylion amdanynt eu hunain a sut mae’n dymuno talu.

Mae ein canolfan alwadau Cynllun Talu Syml ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8:30am a 6:30pm, ac ar ddydd Sadwrn rhwng 8:30am ac 1:00pm. Mae’r llinellau ar gau ar ddydd Sul ac ar wyliau cyhoeddus.