dcsimg
 

Eich helpu i osgoi twyll Trwyddedu Teledu – a sut i riportio twyll

 
Laptop and mobile phone with an email alert on each screen

Rydym eisiau eich helpu i gadw eich data yn saff. Ar y dudalen yma rydym yn dangos sut i adnabod a riportio e-bost ffug. Mae gennym gyngor hefyd ar sgamiau gyda negeseuon testun a galwadau ffôn a llythyrau ffug. Gallwch weld eich trwydded neu gynllun talu trwy fewngofnodi (yn Saesneg) ar ein gwefan
 

Rydym hefyd yn darparu canllaw y gallwch ei lawrlwytho gyda chyngor ar sut i adnabod y sgamwyr.
 


Scam icon Eisoes wedi rhoi eich manylion personol ar safle amheus?
Fe ddylech riportio hynny i Action Fraud neu eu ffonio ar 0300 123 2040. Os oedd hyn yn cynnwys manylion cerdyn neu gyfrif banc, dylech gael gair â’ch banc ar unwaith.

Report an email scam Riportio e-byst ffug
Anfonwch unrhyw e-byst ffug neu amheus at report@phishing.gov.uk a bydd y Ganolfan Seiberddiogelwch (NCSC) yn ymchwilio. Os bydd yr e-bost wedi’i gysylltu â gwefan ffug fe gaiff ei hatal neu ei chau.

E-byst ffug

Beth yw’r prif bethau y dylech fod yn chwilio amdanynt?

Green tick Fe fyddwn ni’n cynnwys yr enw a/neu ran o’ch côd post yn ein negeseuon e-bost. Bydd llawer o negeseuon ffug yn defnyddio eich cyfeiriad e-bost yn unig neu’n dweud ‘Annwyl Gwsmer’.

Green tick Byddwn yn anfon ein negeseuon e-bost o donotreply@tvlicensing.co.uk (neu donotreply@spp.tvlicensing.co.uk).

Green tick Os ydych yn gwsmer cerdyn talu Trwyddedu Teledu ac yn gwneud taliadau ar eich ffôn symudol trwy ap TVL Pay, fe allech dderbyn negeseuon e-bost gan noreply@paypoint.com. Bydd enw’r anfonwr yn ymddangos fel ‘TVL Pay’.

Red cross Bydd sgamwyr yn aml yn cuddio'r gwir gyfeiriad e-bost y maen nhw'n ei ddefnyddio, cymerwch olwg ar y cyfeiriad e-bost. Ar eich dyfais, dewiswch enw (neu gyfeiriad e-bost) yr anfonwr i ddangos y cyfeiriad e-bost go iawn.



Scam icon Byddwch yn ofalus o “e-byst ffug”. Dyma le mae sgamwyr yn gallu creu cyfeiriad e-bost “ffug” sydd yn edrych fel cyfeiriad e-bost Trwyddedu Teledu dilys fel donotreply@spp.tvlicensing.co.uk.

Mae ffugio e-bost yn dechneg a ddefnyddir mewn e-bost sbam a gwe-rwydo er mwyn twyllo defnyddwyr i feddwl bod y neges wedi dod oddi wrth berson neu gwmni dilys.

Sicrhewch eich bod yn clicio neu’n tapio’r cyfeiriad e-bost a ddangosir i ddatgelu a yw cyfeiriad e-bost gwahanol yn cael ei ddefnyddio.

Beth mae e-byst ffug yn ei ddweud - neu’n gofyn i chi ei wneud?

Red cross Bydd e-byst ffug yn aml yn dweud wrthych fod angen i chi wneud taliad brys. Fyddwn ni ddim yn e-bostio cwsmeriaid ynglŷn â thaliadau oni bai eu bod wedi methu taliad. Gallwch fewngofnodi (yn Saesneg) i’ch cyfrif i weld a yw hyn yn wir.

Red cross Byddan nhw’n aml yn dweud y gallwch gael ad-daliad neu drwydded ratach. Wnawn ni byth wneud hyn oni bai eich bod chi wedi cysylltu â ni ynglŷn ag ad-daliad a’n bod yn eich ateb.

Red cross Gall e-byst ffug ddangos rhif trwydded ffug. Mae rhif eich trwydded i’w weld ar lythyrau y byddwn yn eu hanfon atoch, neu chwiliwch ym mlwch derbyn eich e-bost am e-byst oddi wrth donotreply@tvlicensing.co.uk’ (neu ‘donotreply@spp.tvlicensing.co.uk’).


Os ydych wedi clicio ar ddolen, a ydych chi ar wefan go iawn Trwyddedu Teledu?

Green tick Cymerwch olwg ar y cyfeiriad gwe. Gwnewch yn siwr eich bod yn tvlicensing.co.uk neu spp.tvlicensing.co.uk

Red cross Wnawn ni ddim gofyn am:


  • enw eich mam cyn iddi briodi
  • eich dyddiad geni (oni bai eich bod dros 74 ac yn gwneud cais am Drwydded Deledu am ddim)
  • manylion eich cerdyn i wneud taliad a fethwyd NES BYDDWCH wedi mewngofnodi gan ddefnyddio rhif eich trwydded, cyfenw a chôd post.

Angen help i weld a yw e-bost Trwyddedu Teledu yn ddilys?

Dyma enghraifft o e-bost go iawn Trwyddedu Teledu. Rydym wedi’i labelu i’ch helpu i weld a yw e-bost a gawsoch yn ffug.

Email with scam features highlighted in Welsh

1. Edrychwch ar yr anfonwr

Bydd e-byst dilys Trwyddedu Teledu yn cael eu hanfon o donotreply@tvlicensing.co.uk, donotreply@spp.tvlicensing.co.uk neu tvlfieldresearchteam@tvlicensing.co.uk.

Ar gyfrifiadur neu liniadur, fe ddylech allu gweld y cyfeiriad e-bost go iawn rhwng y symbolau < >. Ond ar ddyfais symudol, mae’n bosib y bydd angen dewis enw’r anfonwr i weld y cyfeiriad.

Green tick TV Licensing <donotreply@tvlicensing.co.uk>

Red cross TV Licensing <note81.co.uk>

2. Côd post rhannol

Os ydych wedi rhoi manylion eich côd post i ni, bydd e-byst oddi wrthym yn cynnwys rhan o’ch côd post a/neu yr enw ar y drwydded.

3. Chwiliwch am eich enw

Os ydych wedi rhoi eich enw i ni, yna fe fyddwn bob amser yn eich cyfarch gan ddefnyddio eich enw olaf a theitl. Fydd y wybodaeth honno ddim gan y twyllwyr fel arfer. Felly, gwyliwch rhag e-byst sydd ond yn cyfeirio atoch fel “Annwyl gleient” neu “Annwyl gwsmer” – neu sy’n defnyddio eich cyfeiriad e-bost yn unig (neu ran ohono).

4. Edrychwch ar sillafu a gramadeg

Oherwydd bod twyllwyr yn methu defnyddio cyfeiriadau dilys Trwyddedu Teledu neu gyfeiriadau e-bost, fe fyddan nhw’n ceisio defnyddio sillafiadau ychydig yn wahanol – chwiliwch am bethau fel heiffen ac atalnod llawn mewn lleoedd rhyfedd.

Byddwch yn amheus hefyd os oes camgymeriadau yn yr e-bost gyda phriflythrennau neu wallau gramadegol eraill, fel atalnodau llawn ar goll – gallai hyn fod yn dwyll.

5. Edrychwch ar y dolenni

Gwyliwch rhag e-byst sy’n addo arian/ad-daliad. Er enghraifft, ymadroddion fel, “cliciwch isod i gael eich ad-daliad”, wedi’i ddilyn gan gais i ddarparu manylion eich cerdyn credyd neu fanylion banc (fydden ni byth yn prosesu ad-daliad fel hyn).

Dylech bob amser edrych ar ddolenni mewn e-bost cyn clicio neu dapio arnynt.

Laptop device Os ydych ar gyfrifiadur
Symudwch eich llygoden dros y ddolen (ond peidiwch â chlicio arni). Bydd hyn yn datgelu enw’r cyfeiriad gwe rydych yn cael eich anfon ato.

Tablet device Os ydych ar ffôn clyfar neu dabled
Pwyswch ar y ddolen a’i dal i lawr (peidiwch â rhyddhau tra bo chi ar y ddolen). Bydd hyn yn datgelu enw’r cyfeiriad gwe rydych yn cael eich anfon ato.

 
Text scam icon Sgamiau dros y ffôn a negeseuon testun
 

Scam icon Riportio neges testun sgam.
Helpwch i roi stop ar y sgamwyr trwy anfon llun neu sgrinlun o’r neges i textscam@tvlicensing.co.uk
 

Yn gyntaf, yr hyn na fyddwn ni byth yn ei wneud:

Red cross Anfon neges testun atoch i ddweud bod gennych hawl i gael ad-daliad

Red cross Gofyn i chi drefnu cynllun talu neu ddarparu eich manylion banc trwy neges testun

Red cross Gofyn i chi roi unrhyw fanylion personol ar ein gwefan cyn i chi fewngofnodi’n llwyddiannus i’ch trwydded.

Green tick Cyn i chi roi unrhyw wybodaeth, fe ddylech weld ai’r cyfeiriad gwe yw ein gwefan ddilys ni tvlicensing.co.uk (neu spp.tvlicensing.co.uk).

Felly, pryd fydd Trwyddedu Teledu yn anfon negeseuon testun?

Green tick Os ydych yn gwsmer cerdyn talu Trwyddedu Teledu, gallwn anfon neges testun atoch yn gofyn i chi wneud taliad. Os ydych yn gwsmer y Cynllun Talu Syml, bydd y ddolen yn mynd â chi i’n darparwr taliadau diogel (tvlspp.paythru.com)

Green tick Os ydych yn gwsmer cerdyn talu Trwyddedu Teledu ac yn gwneud taliadau ar eich ffôn symudol trwy ap TVL Pay, fe allech dderbyn negeseuon testun gan ‘TVL Pay’ i gadarnhau eich taliad.

Green tick Os ydych newydd gofrestru ar gyfer Debyd Uniongyrchol, fe allech dderbyn neges testun yn rhoi gwybod pryd y caiff eich taliad cyntaf ei gasglu

Green tick Os ydych wedi cysylltu â ni dros y ffôn neu ar ein gwasanaeth awtomataidd – fe allem anfon neges i gadarnhau hynny neu arolwg boddhad

Green tick Os byddwch yn derbyn eich trwydded trwy’r post, fe allech dderbyn neges yn gofyn i chi fynd yn ddi-bapur

Os yw’r neges yn gofyn i chi ffonio rhif, dylech weld a yw’n un o’r rhifau hyn:

  • 0300 555 0293 os ydych yn talu trwy gerdyn talu
  • 0300 790 6082 os ydych yn talu trwy Ddebyd Uniongyrchol
  • 0300 555 0355 os ydych yn gwsmer y Cynllun Talu Syml

Os cawsoch neges testun yn gofyn i chi ffonio unrhyw rif arall, peidiwch â’i ffonio.

Wedi derbyn galwad ffôn ac ddim yn siwr a yw’n ddilys?

Weithiau gallwn eich ffonio os oes problem gyda’ch Trwydded Deledu. Fel arfer bydd hyn yn gysylltiedig â methu taliad, Debyd Uniongyrchol wedi’i ganslo, neu eich atgoffa i adnewyddu.

Green tick Fe wnawn ni eich ffonio un ai o 0300 790 6075, 0300 555 0285, 0300 555 0355 neu 0300 303 9686

Os nad ydych yn siwr a yw’n ddilys, peidiwch â rhoi unrhyw wybodaeth bersonol. Gallwch hefyd fewngofnodi i weld eich trwydded neu gynllun talu.

Os ydych wedi cysylltu â ni gydag ymholiad, gall un o’n tîm eich ffonio’n ôl i drafod hynny. Gall hyn fod o rif sy’n cael ei guddio, ond bydd yr alwad yn ymwneud â’ch ymholiad yn unig.

Letter scam icon Sgamiau trwy lythyr

Beth yw’r prif bethau y dylech fod yn chwilio amdanynt?

Gall sgamwyr anfon llythyr atoch, wedi’i gyfeirio atoch, yn gofyn i chi ffonio neu fynd ar lein i gadarnhau eich manylion talu.

Mae llythyrau oddi wrth Drwyddedu Teledu yn ddilys:

Green tick os ydych wedi’ch trwyddedu ar hyn o bryd a’ch bod wedi rhoi eich teitl a’ch enw olaf i ni, byddwn yn defnyddio’r rhain bob tro y byddwn yn ysgrifennu atoch. Byddwn yn cynnwys rhif eich Trwydded Deledu hefyd.

Green tick ydych wedi cofrestru fel ‘Dim Angen Trwydded’, byddwn yn cynnwys y cyfeirnod hwnnw yn hytrach na rhif eich Trwydded Deledu.

Green tick mae ein Tîm Ymchwil Maes wedi cysylltu â chi, byddwn yn cynnwys rhif eich trwydded deledu sydd wedi dod i ben.

Beth fydd sgamwyr yn ceisio ei wneud?

Bydd llythyr ffug yn aml yn dweud wrthych fod problem gyda’ch trwydded neu fod ad-daliad yn ddyledus. Pwrpas hyn yw ceisio eich cael i fynd i wefan ffug neu ffonio rhif ffug i ddatrys y mater. Os byddwch yn ddrwgdybus neu’n amheus rywbryd ynghylch yr hyn y mae llythyr yn gofyn i chi ei wneud, mewngofnodwch i’ch trwydded i weld a oes unrhyw beth yn edrych o’i le.

Dyma wefannau swyddogol Trwyddedu Teledu:

Green tick tvlicensing.co.uk

Green tick tvl.co.uk

Green tick spp.tvlicensing.co.uk

Green tick 75plan.tvlicensing.co.uk

Further information Rhagor o wybodaeth

STOPIO. GWIRIO. GOFYN. Canllaw i’r Drwydded Deledu

Mae’r canllaw yma’n eich helpu i adnabod negeseuon dilys gan Drwyddedu Teledu, a sut i sylwi ar y sgamwyr.

STOPIO. GWIRIO. GOFYN. - Sut i adnabod negeseuon dilys gan Drwyddedu Teledu, a sut i sylwi ar Trwyddedu Teledu y twyllwyr (PDF - 356 Kb yn agor mewn ffenestr newydd).


Angen mwy o gymorth neu gyngor?






 
Report an email scam Sut i riportio e-bost neu neges testun sgam

Riportio e-bost sgam – Rydym yn cefnogi gwaith Canolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC) y Llywodraeth i helpu i atal twyllwyr.
Anfonwch unrhyw e-byst sgam neu amheus ymlaen at report@phishing.gov.uk ac fe fyddan nhw’n ymchwilio.

Riportio neges testun sgam – TTynnwch sgrinlun o’r neges a’i hanfon at textscams@tvlicensing.co.uk

Help us improve TV Licensing

Is this page useful?
Icon: helpful (Thumbs up)
Icon: helpful (thumbs up)
Icon: not helpful (Thumbs down)
Icon: not helpful (Thumbs down)
Yes
No

 

Your feedback is valuable to us. Please don’t include personal or financial
information like your National Insurance number or credit card details.

 

Thank you !    
 

General information about TV Licensing is available in other languages: