Rydym yn gwybod bod rhai cwsmeriaid yn ei chael hi’n anodd talu am drwydded, ac rydym eisiau gwneud popeth allwn ni i helpu.
Rydym yn cynnig llawer o ffyrdd o dalu (yn Saesneg) am eich trwydded. Felly gwnewch yn siwr eich bod ar y cynllun sy’n iawn i chi.
Gyda’n cynlluniau Debyd Uniongyrchol (yn Saesneg) misol a chwarterol gallwch rannu cost eich trwydded. Fe wnawn ni roi gwybod i chi pryd y bydd taliadau’n cael eu casglu o’ch cyfrif.
Neu mae cerdyn talu Trwyddedu Teledu (yn Saesneg) yn gadael i chi dalu bob wythnos neu bob pythefnos. Yn eich PayPoint lleol, ar ein gwefan neu dros y ffôn. Gallwn drefnu eich cynllun talu fel bod taliadau’n ddyledus ar ddyddiadau sy’n addas i chi.
Os hoffech gael gair â rhywun am arian, mae yna sefydliadau di-elw a allai helpu. Mae eu cyngor yn gyfrinachol, yn annibynnol ac am ddim. Rydym wedi cynnwys manylion cyswllt ar gyfer y sefydliadau isod:
Gall pobl fynd at ddarparwr cyngor ar ddyledion i wneud cais am 'le anadlu' o'u dyledion. Gellir rhoi Lle Anadlu 60 am ddiwrnod. I'r rhai sy'n dioddef argyfwng iechyd meddwl, bydd y Lle Anadlu yn para cyhyd ag unrhyw driniaeth ac am 30 diwrnod ar ôl diwedd y driniaeth.
Yna bydd Trwyddedu Teledu yn gweithio gyda'r cynghorydd dyledion i sicrhau bod y cwsmer ar y cynllun talu gorau i'w helpu i leihau'r arian (ôl-ddyledion) sy'n ddyledus. Dim ond i ôl-ddyledion y mae Lle Anadlu yn berthnasol, nid i daliadau rheolaidd.
Ni all cwsmeriaid wneud cais uniongyrchol i Drwyddedu Teledu ar gyfer Lle Anadlu – mae angen gwneud hyn drwy ddarparwr cyngor ar ddyledion.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, ffoniwch y rhif cywir isod:
Os ydych eisoes yn talu trwy Ddebyd Uniongyrchol, ffoniwch 0300 790 6042*
Os ydych yn talu am eich trwydded gan ddefnyddio Cerdyn Talu Trwyddedu Teledu, ffoniwch 0300 555 0286*
Mae ein llinellau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener o 08:30am tan 06:30pm.
*Nid yw galwadau i’n rhifau 0300 yn costio dim mwy na galwad ar gyfradd genedlaethol i rif 01 neu 02, boed o ffôn symudol neu linell dir. Os ydych yn cael munudau cynhwysol, bydd galwadau i rif 0300 yn cael eu cynnwys yn rhad ac am ddim.