dcsimg
 

Beth yw Cynllun Talu Syml Trwyddedu Teledu?

Beth yw'r Cynllun Talu Syml?

Cafodd y Cynllun Talu Syml ei greu ar gyfer y rhai sy’n wynebu anhawster ariannol.

Mae cwsmeriaid sy’n gymwys yn cael dewis un ai gynllun talu bob pythefnos neu bob mis sy’n rhannu cost trwydded dros 12 mis, sy'n wahanol i gynlluniau talu ar hyn o bryd. Mae'r Cynllun Talu Syml yn cynnig hyblygrwydd hefyd os bydd taliad yn cael ei fethu, oherwydd mae'n bosib ei rannu dros weddill y cynllun yn hytrach na gorfod talu dwbl y swm y tro nesaf. Os bydd taliadau yn cael eu methu dri mis ar ôl ei gilydd, bydd cwsmeriaid yn cael eu tynnu oddi ar y Cynllun Talu Syml.

Pwy sy’n gymwys i ymuno â'r Cynllun Talu Syml?

Mae cwsmeriaid yn gymwys i gael trwydded Cynllun Talu Syml:

  • os ydyn nhw wedi cael ymweliad gan Swyddog Ymholi Trwyddedu Teledu i weld a oes arnyn nhw angen trwydded.
  • os oedd ganddyn nhw dwydded o'r blaen a gafodd ei chanslo o fewn y chwe mis diwethaf oherwydd iddyn nhw fethu taliadau.
  • os ydyn nhw’n wynebu anawsterau ariannol ac yn cael eu cyfeirio gan sefydliad cyngor ariannol di-elw. Rydym yn derbyn pobl sy’n cael eu cyfeirio gan sefydliadau di-elw fel elusennau neu adrannau cyngor ariannol awdurdodau lleol, ond allwn ni ddim derbyn pobl sy’n cael eu cyfeirio gan sefydliadau masnachol.
  • os oedd ganddyn nhw drwydded Cynllun Talu Syml o fewn y 12 mis blaenorol.

Os hoffech gael gair â rhywun am eich sefyllfa ariannol, mae yna lawer o sefydliadau di-elw sy’n cynnig cyngor cyfrinachol, annibynnol ac am ddim. Gall unrhyw sefydliad di-elw sy’n darparu’r gwasanaeth yma eich cyfeirio atom ni i ymuno â’r Cynllun Talu Syml, ac rydym wedi cynnwys manylion cyswllt ar gyfer rhai o’r sefydliadau yma isod:

  • Cyngor ar Bopeth – ewch i Swyddfa leol Cyngor ar Bopeth (mae’r cyfeiriad i’w gael yn y llyfr ffôn) neu ewch i adviceguide.org.uk (Cymru a Lloegr), neu cas.org.uk (yr Alban).
  • Y Llinell Ddyled Genedlaethol – os ydych yn byw yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban, ffoniwch 0808 808 4000 neu ewch i’w gwefan am gyngor a gwybodaeth.
  • Advice NI – os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon, ffoniwch 0800 028 1881 neu ewch i’w gwefan i gael cyngor am ddyled.
  • Money Advice Scotland –os ydych yn byw yn yr Alban, ffoniwch 0141 572 0237 neu ewch i’w gwefan i ddod o hyd i gyngor am ddyled yn eich ardal chi.
  • Elusen Ddyled StepChange (y Gwasanaeth Cynghori Credyd Defnyddwyr cyn hynny) – ffoniwch 0800 138 1111 neu ewch i’w gwefan i gael cyngor am ddyled ledled y Deyrnas Unedig.
  • Y Gymdeithas Gwasanaethau Credyd – chwiliwch am ‘credit services association’ ar beiriannau chwilio i gael cymorth a chyngor cyffredinol ar faterion yn ymwneud â dyled.
  • MoneyHelper – mynediad at ffynonellau cyngor ariannol ar lein neu dros y ffôn. Os ydych yn byw yn Lloegr, gallwch gyrchu Money Helper - Money Adviser Network ac os ydych yn byw yng Nghymru, yr Alban neu Ogledd Iwerddon gallwch gyrchu Money Helper Debt Advice Locator.
  • Cyngor Cyfreithiol Sifil (CLA) – Fe allech gael cyngor cyfrinachol am ddim gan CLA fel rhan o gymorth cyfreithiol os ydych yng Nghymru neu Loegr. Mae rheolau cymorth cyfreithiol yn wahanol yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.
  • Y Gwasanaeth Methdaliad – mae’n rhoi cyngor i’r cyhoedd ar fethdaliad a diswyddo.
  • Cristnogion Yn Erbyn Tlodi – mae’n rhoi cwnsela am ddim am ddyled, ffoniwch 0800 328 0006.

Sut mae taliadau'n cael eu gwneud ar y Cynllun Talu Syml?

Gall cwsmeriaid cymwys ddewis o blith cynllun talu bob pythefnos neu bob mis. Gall cwsmeriaid sy’n talu drwy’r cynllun yma wneud taliadau:

  • dros y cownter mewn unrhyw siop PayPoint (neu mewn swyddfa bost os ydych yn byw yn Ynys Manaw)
  • trwy wefan y Cynllun Talu Syml
  • trwy ap TVL Pay – chwiliwch am ‘TVL Pay’ yn y siop apiau ar eich ffôn symudol a gallwch lawrlwytho’r ap am ddim
  • trwy ddolen Paythru sy’n cael ei hanfon i ffôn clyfar trwy neges destun
  • dros y ffôn

Neu, gellir casglu taliadau o gyfrif banc trwy Ddebyd Uniongyrchol bob mis neu drwy drefnu Awdurdod Talu Parhaol (CPA), ble bydd taliadau'n cael eu casglu o gerdyn debyd neu gredyd bob mis neu bob pythefnos.

Dysgwch am ffyrdd eraill y gallwn helpu os ydych yn cael trafferth talu am eich trwydded.

Pam mae fy nhaliad Debyd Uniongyrchol ar gyfer Trwyddedu Teledu yn ymddangos fel ‘Elderbridge’ ar fy nghyfriflen banc?

Mae Elderbridge yn is-gwmni sy’n eiddo llwyr i Target Group Ltd, y cyflenwr ar gyfer Cynllun Talu Syml Trwyddedu Teledu. Os ydych wedi ymuno â’r Cynllun Talu Syml ac yn talu trwy Ddebyd Uniongyrchol, bydd y cyfeirnod Elderbridge Re: TV Licensing SPP’ yn ymddangos ar eich cyfrif banc.

General information about TV Licensing is available in other languages: