Mae Capita Business Services Ltd (Capita), sydd â chontract i orfodi’r Drwydded Deledu, yn defnyddio camerâu corff i helpu i ddiogelu iechyd a diogelwch eu gweithwyr, ac i atal ymosodiadau corfforol a llafar arnynt. Mae modd defnyddio’r camerâu i gofnodi tystiolaeth o unrhyw ddigwyddiadau. Mae hysbysiad preifatrwydd camerâu corff Capita isod yn esbonio’n fanylach pam mae’r camerâu’n cael eu defnyddio, pa ddata personol sy’n cael ei gofnodi, a sut mae’n cael ei ddefnyddio.
Bydd y camera dim ond yn cael ei roi ar waith os bydd y Swyddog Ymweld yn teimlo bod ei iechyd a’i ddiogelwch mewn perygl o bosib oherwydd y sefyllfa neu’r ffordd mae rhywun yn siarad â’r Swyddog, er enghraifft. Yn y modd segur, mae’r camera’n recordio fesul 90 eiliad i wneud yn siŵr bod unrhyw beth sy’n digwydd cyn i’r Swyddog roi’r camera ar waith yn cael ei recordio, ond dydy’r recordiad ddim yn cael ei gadw oni bai fod y camera’n cael ei roi ar waith.
Bydd golau coch yn dangos ei fod yn recordio a byddwch yn clywed bîp pan fydd y camera’n cael ei roi ar waith / ei ddiffodd. Hefyd bydd y Swyddog yn rhoi gwybod i unrhyw un sy’n bresennol bod y camera ar waith, oni bai fod hynny’n anymarferol.
Bydd. Mae’n bwysig bod fideo a sain yn cael eu recordio os oes angen. Efallai y bydd recordio sain yn cofnodi gwybodaeth hollbwysig sydd y tu hwnt i olwg y camera.
Dim o reidrwydd. Mae’r recordiad yn darparu cofnod cywir o ddigwyddiadau er budd y Swyddog a’r rhai sy’n bresennol, felly bydd yn parhau i recordio nes ei fod yn credu nad oes unrhyw berygl i’w ddiogelwch.
Ydy, os oes modd cyfiawnhau bod hynny’n angenrheidiol ac yn gymesur.
Oes, os yw eich llun neu eich llais yn cael ei gofnodi yn y recordiad, mae gennych chi hawl i gael copi ohono. Bydd angen i chi gysylltu â Swyddog Diogelu Data Capita i wneud cais. Mae Hysbysiad Preifatrwydd Capita isod yn esbonio sut mae gwneud hynny.
Efallai y bydd Capita’n rhannu eich data personol â’i gontractwyr a’i gyflenwyr yn unol â’i gyfarwyddiadau, ac â’r heddlu neu asiantaeth gorfodi’r gyfraith arall os bydd gofyn gwneud hynny, neu i ddiogelu ei hawliau neu hawliau unrhyw un arall. Efallai y bydd Capita’n rhannu’r fideo â’r BBC hefyd, os yw hynny’n berthnasol ac yn angenrheidiol. Mae rhagor o wybodaeth am hyn yn hysbysiad preifatrwydd Capita.