dcsimg

BBC iPlayer a’r Drwydded Deledu

BBC iPlayer logo
BBC iPlayer logo

 

Rhaid i chi gael Trwydded Deledu i lawrlwytho neu wylio rhaglenni'r BBC ar BBC iPlayer – yn fyw, wrth ddal i fyny neu ar alw. Mae hyn yn berthnasol i unrhyw ddyfais a darparwr rydych yn eu defnyddio.

Cofiwch, mae eich Trwydded Deledu yn eich trwyddedu hefyd i wylio neu recordio rhaglenni ar unrhyw sianel wrth iddyn nhw gael eu dangos ar deledu neu’n fyw ar wasanaeth teledu ar lein.

Dysgwch fwy am ffyrdd o dalu.

Dysgwch fwy am adegau pan fydd arnoch angen trwydded ar gyfer teledu byw

Atebion i’ch cwestiynau.

Mae gen i drwydded yn barod. Beth sydd angen i mi ei wneud?

Dim. Does arnoch ddim angen ail drwydded ar gyfer BBC iPlayer na thalu unrhyw beth yn ychwanegol. Os oes gennych drwydded yn barod (gan gynnwys Trwydded Deledu dros 75 am ddim), rydych wedi'ch trwyddedu eisoes.

Rydych chi ac unrhyw un sydd fel arfer yn byw yn eich cyfeiriad wedi'ch trwyddedu'n barod i lawrlwytho neu wylio rhaglenni'r BBC ar BBC iPlayer a gwylio neu recordio rhaglenni teledu byw ar unrhyw sianel. Ond, mae yna rai eithriadau pan fydd angen i chi gael trwydded ar wahân o bosib:

Beth os oes gen i Drwydded Deledu dros 75 am ddim neu drwydded gonsesiwn i bobl ddall? Yna rydych chi ac unrhyw un sy'n byw yn eich cyfeiriad wedi'ch trwyddedu'n barod.

Does gen i ddim trwydded. Beth sydd angen i mi ei wneud?

Mae arnoch angen Trwydded Deledu (gan gynnwys Trwydded Deledu dros 75 am ddim) os ydych yn lawrlwytho neu'n gwylio rhaglenni'r BBC ar BBC iPlayer – yn fyw, wrth ddal i fyny neu ar alw. Os nad ydych wedi'ch trwyddedu, rydych yn mentro cael eich erlyn a dirwy o hyd at £1,000 ynghyd ag unrhyw gostau cyfreithiol a/neu unrhyw iawndal y gallech gael eich gorchymyn i'w talu.

Mae arnoch angen trwydded hyd yn oed os ydych yn cyrchu BBC iPlayer trwy ddarparwr arall, er enghraifft:

  • Freeview, Freesat neu YouView
  • Sky, Virgin Media neu BT TV
  • Apple, Roku neu Amazon

Cofiwch, mae arnoch angen Trwydded Deledu hefyd i wylio neu recordio unrhyw raglenni teledu byw ar unrhyw sianel, ni waeth pa ddyfais rydych yn ei defnyddio.

Dal ddim yn siwr a oes arnoch angen trwydded?

Dysgwch am ffyrdd o dalu.

Beth os ydw i'n 74 mlwydd oed neu drosodd neu os ydw i'n ddall (â nam difrifol ar fy ngolwg)? Fe allech fod yn gymwys i gael consesiwn. Dysgwch fwy am wneud cais am drwydded dros 75 am ddim pan ydych dros 74 neu drwydded gonsesiwn i bobl ddall.

A oes arna’i angen Trwydded Deledu ar gyfer popeth ar BBC iPlayer?

Mae arnoch angen trwydded i wylio neu lawrlwytho bron holl raglenni’r BBC ar BBC iPlayer. Ar hyn o bryd, yr unig eithriad yw gwylio teledu S4C ar alw. Mae’n bosib y bydd eithriadau eraill yn y dyfodol.

Cofiwch, mae arnoch angen Trwydded Deledu hefyd i wylio neu recordio unrhyw raglenni teledu byw ar unrhyw sianel, ni waeth pa ddyfais rydych yn ei ddefnyddio.

A yw hyn yn effeithio ar fy natganiad Dim Angen Trwydded?

Os ydych wedi datgan nad oes arnoch angen Trwydded Deledu, ond eich bod yn lawrlwytho neu'n gwylio rhaglenni'r BBC ar BBC iPlayer, mae arnoch angen trwydded.

Mae arnoch angen trwydded hyd yn oed os ydych yn cyrchu BBC iPlayer trwy ddarparwr arall, er enghraifft:

  • Freeview, Freesat neu YouView
  • Sky, Virgin Media neu BT TV
  • Apple, Roku neu Amazon

Os na fyddwch byth yn gwylio neu'n recordio unrhyw raglenni teledu byw ar unrhyw sianel neu ddyfais, ac na fyddwch byth yn lawrlwytho neu'n gwylio rhaglenni'r BBC ar BBC iPlayer, does arnoch ddim angen Trwydded Deledu.

Beth yw'r gwahaniaeth rhwng teledu byw ac ar alw?

Mae teledu byw yn golygu unrhyw raglen rydych yn ei gwylio neu’n ei recordio ar yr un pryd ag y caiff ei dangos ar deledu neu’n fyw ar wasanaeth teledu ar lein. Dysgwch fwy am wylio teledu byw.

Mae ar alw yn golygu unrhyw raglen rydych yn ei lawrlwytho neu'n ei gwylio sy ddim yn cael ei dangos fel teledu byw, gan gynnwys teledu dal i fyny. Gallwch gyrchu'r rhaglenni yma ar wefan neu drwy ap ar deledu clyfar, bocs digidol neu unrhyw ddyfais arall. Mae ar alw hefyd yn cynnwys rhaglenni arbennig sydd ar gael ar lein yn unig. Does arnoch ddim angen trwydded i wylio unrhyw ffilmiau neu sioeau teledu rydych yn eu prynu ar lein.

A oes arna’i angen Trwydded Deledu ar gyfer pob rhaglen ar alw?

Nac oes. Does arnoch ddim angen trwydded os ydych yn gwylio rhaglenni ar alw neu dal i fyny ar wasanaethau heblaw BBC iPlayer* (ac na fyddwch byth yn gwylio rhaglenni teledu byw ar unrhyw sianel chwaith, gan gynnwys ar BBC iPlayer). Does arnoch ddim angen trwydded i wylio unrhyw ffilmiau neu sioeau teledu rydych yn eu prynu ar lein.

*Does arnoch ddim angen trwydded i wylio teledu S4C ar alw.

A yw'r gyfraith yn berthnasol i bob dyfais a darparwr?

Ydi, mae'n berthnasol i unrhyw ddyfais a darparwr rydych yn eu defnyddio, gan gynnwys:

  • Setiau teledu (gan gynnwys teledu clyfar)
  • Peiriannau recordio DVD, Blu-ray a VHS
  • Gliniaduron a chyfrifiaduron bwrdd gwaith
  • Tabledi, ffonau symudol a dyfeisiau cludadwy eraill
  • Bocsys digidol neu PVR (fel Sky, Virgin Media neu BT TV)
  • Consolau gemau
  • Dyfeisiau ffrydio cyfryngau (fel Amazon Fire TV, Apple TV, Chromecast, Roku a Now)
  • Freeview, Freesat neu YouView
Rwy dros 75. A oes arna’i angen Trwydded Deledu i ddefnyddio BBC iPlayer?

Os ydych dros 75 a'ch bod yn lawrlwytho neu'n gwylio rhaglenni'r BBC ar BBC iPlayer, mae arnoch angen Trwydded Deledu. Os oes gennych drwydded yn barod does arnoch ddim angen un arall – rydych wedi'ch trwyddedu eisoes.

Mae unrhyw un sy’n 75 mlwydd oed neu drosodd ac yn derbyn Credyd Pensiwn yn gymwys i wneud cais am Drwydded Deledu dros 75 am ddim. Fe all y Credyd Pensiwn fod yn enw deiliad y drwydded, neu yn enw eu partner os ydyn nhw’n gwpl ac yn byw yn yr un cyfeiriad.

Os nad ydych chi neu eich partner yn derbyn Credyd Pensiwn bydd angen i chi barhau i dalu am eich trwydded.

Mwy o wybodaeth am sut i wneud cais

A yw hyn yn berthnasol i fyfyrwyr?

Ydi. Rhaid i unrhyw un sy'n lawrlwytho neu'n gwylio rhaglenni'r BBC ar alw, gan gynnwys teledu dal i fyny, ar BBC iPlayer gael Trwydded Deledu. Mae arnoch angen Trwydded Deledu hefyd i wylio neu recordio rhaglenni teledu byw ar unrhyw sianel, gan gynnwys ar BBC iPlayer. Mae hyn yn berthnasol i unrhyw ddyfais rydych yn ei defnyddio.

Dysgwch fwy am Drwyddedu Teledu ar gyfer Myfyrwyr

Sut galla’i sicrhau bod fy musnes wedi’i drwyddedu?

Y ffordd orau o sicrhau bod pawb ar eich safle wedi’i drwyddedu i wylio neu recordio rhaglenni teledu byw ar unrhyw sianel, neu lawrlwytho neu wylio rhaglenni’r BBC ar BBC iPlayer, yw prynu Trwydded Deledu ar gyfer eich busnes.

Dysgwch fwy am Drwyddedu Teledu ar gyfer busnesau a sefydliadau

A ydw i wedi fy nhrwyddedu i ddefnyddio BBC iPlayer pan fyddaf allan o’r swyddfa neu dramor?

Os oes gennych Drwydded Deledu yn barod ar gyfer eich cyfeiriad, rydych wedi’ch trwyddedu eisoes i lawrlwytho neu wylio rhaglenni'r BBC iPlayer pan fyddwch allan o’r swyddfa, ar yr amod nad yw’r ddyfais rydych yn ei defnyddio wedi’i phlygio i’r prif gyflenwad trydan mewn cyfeiriad ar wahân. Os yw'r ddyfais wedi'i phlygio i mewn mewn cyfeiriad ar wahân, mae arnoch angen trwydded yn y cyfeiriad hwnnw.

Ar hyn o bryd, allwch chi ddim ffrydio neu lawrlwytho rhaglenni ar BBC iPlayer tra byddwch dramor. Ond fe ddylech allu cyrchu rhaglenni rydych wedi'u lawrlwytho cyn mynd dramor (fel arfer byddant ar gael am 30 diwrnod ar ôl cael eu dangos ar deledu byw).

Alla’i gael fy erlyn am wylio rhaglenni’r BBC ar BBC iPlayer heb Drwydded Deledu?

Gallwch. Y gosb uchaf yw dirwy o £1,000 ynghyd ag unrhyw gostau cyfreithiol a/neu iawndal y gallech gael eich gorchymyn i’w talu.