Lawrlwythwch eich rhestr wirio symud allan o neuaddau:
Rhestr wirio o’r neuadd i’r tŷ (PDF 195KB yn agor mewn ffenestr newydd)
O’r biliau sydd angen eu trefnu, i ffyrdd hawdd o gadw at gyllideb.
Mae symud allan o’r neuadd ac i le gyda’ch ffrindiau yn gyffrous – ond fel unrhyw symud, mae’n gallu bod yn straen. Dyma restr o bethau y bydd angen i chi eu gwneud a’u cadw mewn cof.
Rhent
Treth Cyngor (os ydych yn fyfyriwr llawn amser, dylech wneud cais am eithriad)
Band eang
Nwy a Thrydan
Dŵr
Trwydded Deledu
Enwebu rhywun i ofalu am filiau’r tŷ
Nhw fydd yn gofalu am gyfrifon biliau cyfleustodau a thaliadau, fel bod popeth wedi’i drefnu.
Cytuno ar rota golchi dillad
Felly mae gan bawb ohonoch amser i olchi a sychu eich dillad (ffarwél Febreze, helo fresh threads).
Dewis rhywun i siopa am fwyd a’i goginio
Fel hyn, bydd pawb yn cyfrannu at dasgau o ddydd i ddydd.
Os ydych yn byw mewn tŷ neu fflat sy’n rhannu’r brydles, gallwch rannu Trwydded Deledu hefyd. Oes gennych chi gytundeb tenantiaeth ar wahân? Bydd arnoch angen eich trwydded eich hun.