dcsimg
 

Yn ei chael hi’n anodd talu am eich Trwydded Deledu?

Methu fforddio Trwydded Deledu? Neu’n cael trafferth talu?

Rydym yn gwybod bod rhai cwsmeriaid yn ei chael hi’n anodd talu am drwydded, ac rydym eisiau gwneud popeth allwn ni i helpu.

Rydym yn cynnig llawer o ffyrdd o dalu (yn Saesneg) am eich trwydded. Felly gwnewch yn siwr eich bod ar y cynllun sy’n iawn i chi.

Gyda’n cynlluniau Debyd Uniongyrchol (yn Saesneg) misol a chwarterol gallwch rannu cost eich trwydded. Fe wnawn ni roi gwybod i chi pryd y bydd taliadau’n cael eu casglu o’ch cyfrif.

Neu mae cerdyn talu Trwyddedu Teledu (yn Saesneg) yn gadael i chi dalu bob wythnos neu bob pythefnos. Yn eich PayPoint lleol, ar ein gwefan neu dros y ffôn. Gallwn drefnu eich cynllun talu fel bod taliadau’n ddyledus ar ddyddiadau sy’n addas i chi.


Hoffech chi gael mwy o gymorth?

Os hoffech gael gair â rhywun am arian, mae yna sefydliadau di-elw a allai helpu. Mae eu cyngor yn gyfrinachol, yn annibynnol ac am ddim. Rydym wedi cynnwys manylion cyswllt ar gyfer y sefydliadau isod:

  • Citizens Advice – ewch i Swyddfa leol Cyngor ar Bopeth (mae’r cyfeiriad i’w gael yn y llyfr ffôn) neu ewch i adviceguide.org.uk (Cymru a Lloegr) a cas.org.uk (yr Alban).
  • Y Llinell Ddyled Genedlaethol – os ydych yn byw yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban, ffoniwch 0808 808 4000 neu ewch i’w gwefan am gyngor a gwybodaeth.
  • Advice NI – os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon, ffoniwch 0800 028 1881 neu ewch i’w gwefan i gael cyngor am ddyled.
  • Money Advice Scotland – os ydych yn byw yn yr Alban, ffoniwch 0141 572 0237 neu ewch i’w gwefan i ddod o hyd i gyngor am ddyled yn eich ardal chi.
  • Elusen Ddyled StepChange (y Gwasanaeth Cynghori Credyd Defnyddwyr cyn hynny) – ffoniwch 0800 138 1111 neu ewch i’w gwefan i gael cyngor am ddyled ledled y Deyrnas Unedig.
  • Y Gymdeithas Gwasanaethau Credyd – chwiliwch am ‘credit services association’ ar beiriannau chwilio i gael cymorth a chyngor cyffredinol ar faterion yn ymwneud â dyled.
  • HelpwrArian – gallwch gyrchu ffynonellau cyngor am ddim ar lein neu dros y ffôn. Os ydych yn byw yn Lloegr gallwch gyrchu Helpwr Arian - Y Rhwydwaith Cynghori Ariannol ac os ydych yn byw yng Nghymru, yr Alban neu Ogledd Iwerddon gallwch gyrchu Lle i gael Cyngor ar Ddyledion Helpwr Arian.
  • Cyngor Cyfreithiol Sifil (CLA) – Fe allech gael cyngor cyfrinachol am ddim gan CLA fel rhan o gymorth cyfreithiol os ydych yng Nghymru neu Loegr. Mae rheolau cymorth cyfreithiol yn wahanol yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.
  • Y Gwasanaeth Methdaliad – mae’n rhoi cyngor i’r cyhoedd ar fethdaliad a diswyddo.
  • Cristnogion Yn Erbyn Tlodi - mae’n rhoi cwnsela am ddim am ddyled, ffoniwch 0800 328 0006.

Lle Anadlu

Gall pobl fynd at ddarparwr cyngor ar ddyledion i wneud cais am 'le anadlu' o'u dyledion. Gellir rhoi Lle Anadlu 60 am ddiwrnod. I'r rhai sy'n dioddef argyfwng iechyd meddwl, bydd y Lle Anadlu yn para cyhyd ag unrhyw driniaeth ac am 30 diwrnod ar ôl diwedd y driniaeth.

Yna bydd Trwyddedu Teledu yn gweithio gyda'r cynghorydd dyledion i sicrhau bod y cwsmer ar y cynllun talu gorau i'w helpu i leihau'r arian (ôl-ddyledion) sy'n ddyledus. Dim ond i ôl-ddyledion y mae Lle Anadlu yn berthnasol, nid i daliadau rheolaidd.

Ni all cwsmeriaid wneud cais uniongyrchol i Drwyddedu Teledu ar gyfer Lle Anadlu – mae angen gwneud hyn drwy ddarparwr cyngor ar ddyledion.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, ffoniwch y rhif cywir isod:

Os ydych eisoes yn talu trwy Ddebyd Uniongyrchol, ffoniwch 0300 790 6042*

Os ydych yn talu am eich trwydded gan ddefnyddio Cerdyn Talu Trwyddedu Teledu, ffoniwch 0300 555 0286*

Mae ein llinellau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener o 08:30am tan 06:30pm.

*Nid yw galwadau i’n rhifau 0300 yn costio dim mwy na galwad ar gyfradd genedlaethol i rif 01 neu 02, boed o ffôn symudol neu linell dir. Os ydych yn cael munudau cynhwysol, bydd galwadau i rif 0300 yn cael eu cynnwys yn rhad ac am ddim.

 

General information about TV Licensing is available in other languages: