dcsimg

Croeso i bolisi preifatrwydd Trwyddedu Teledu

Cyflwyniad

Y BBC a’i rôl fel awdurdod Trwyddedu Teledu

Pwy sy’n rheoli eich data personol?

Sut i gysylltu â ni

Sut rydym yn defnyddio eich data personol

Sut rydym yn diogelu eich data personol?

Lle rydym yn storio eich data personol

Eich hawliau

Sut rydym yn defnyddio cwcis a thechnolegau tebyg

Newidiadau i’r Polisi hwn



Cyflwyniad

Mae’r Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig (y “BBC”, “ni”, “ein”) wedi ymrwymo i ddiogelu eich data personol. 

Yn ogystal â bod yn brif ddarlledwr gwasanaeth cyhoeddus y DU, mae’r BBC hefyd yn gyfrifol am gasglu ffi’r Drwydded Deledu a gorfodi’r gofyniad cyfreithiol i feddu ar Drwydded Deledu. Mae ‘Trwyddedu Teledu’ yn nod masnach i’r BBC ac mae’n cael ei ddefnyddio gan y BBC, a chwmnïau sy’n cael eu contractio gan y BBC, i weinyddu’r system trwyddedu teledu.

Mae’r Polisi Preifatrwydd hwn yn egluro sut bydd eich data personol yn cael ei gasglu, ei ddefnyddio a’i rannu fel rhan o’r gwaith o weithredu’r Drwydded Deledu, ac mae’n nodi eich hawliau o dan y gyfraith diogelu data berthnasol.

Mae data personol yn cynnwys gwybodaeth amdanoch chi neu berson arall fel enw ar y drwydded, manylion cyswllt, manylion ariannol a chyfeiriad protocol rhyngrwyd (IP) dyfais sy’n cael ei defnyddio i gael mynediad at ein gwefannau a’n apiau.

I gael rhagor o wybodaeth am sut mae’r BBC yn prosesu eich data personol pan fyddwch yn defnyddio ein gwasanaethau a’n cynnyrch, darllenwch Bolisi Preifatrwydd y BBC ac unrhyw wybodaeth preifatrwydd ychwanegol sy’n cael ei darparu fel rhan o gynnyrch neu wasanaeth penodol y BBC.

Pan fydd y Polisi hwn yn cyfeirio at unigolyn sydd â Thrwydded Deledu, mae’n cynnwys y sawl sy’n prynu ac yn talu am Drwydded Deledu, ac unrhyw un arall sy’n manteisio ar y Drwydded Deledu. Gallai hyn fod yn aelodau o aelwyd, ymwelwyr a gweithwyr mewn gweithle.



Y BBC a’i rôl fel awdurdod Trwyddedu Teledu

Mae’r BBC yn ddarlledwr gwasanaeth cyhoeddus a sefydlwyd gan Siarter Frenhinol. Ein Cenhadaeth yw gweithredu er budd y cyhoedd, gan wasanaethu cynulleidfaoedd drwy ddarparu allbwn a gwasanaethau diduedd, unigryw o ansawdd uchel sy’n hysbysu, yn addysgu ac yn diddanu.

Mae rhagor o fanylion am ein swyddogaethau, sut rydym yn cael ein hariannu a’n rheoleiddio wedi’u nodi mewn statud, gan gynnwys Deddf Cyfathrebiadau 2003, Cytundeb Fframwaith y BBC gyda’r llywodraeth, a Fframwaith Gweithredu a Thrwydded Weithredu Ofcom.

Rhagor o wybodaeth am rôl y BBC fel Awdurdod Trwyddedu Teledu

Yn ogystal â bod yn brif ddarlledwr gwasanaeth cyhoeddus y DU, rydym hefyd yn gyfrifol am gasglu ffi’r drwydded deledu, cyhoeddi trwyddedau, a gorfodi’r gwaith o gasglu ffioedd yn y DU, Beilïaeth Guernsey, Beilïaeth Jersey ac Ynys Manaw. Mae Rhan 4 o Ddeddf Cyfathrebiadau 2003 yn esbonio hyn.

Fel rhan o’n rôl, rydym yn rhoi gwybod i aelwydydd a sefydliadau pan fydd angen Trwydded Deledu arnynt. Gallant wedyn brynu un neu roi gwybod i ni nad oes angen un arnynt.

Rydym yn ymchwilio i statws cyfeiriadau didrwydded. Os oes amheuaeth o ddefnyddio derbynnydd teledu heb drwydded neu os oes digon o dystiolaeth bod trosedd yn digwydd neu wedi digwydd, a’i fod er budd y cyhoedd, byddwn naill ai’n erlyn neu’n adrodd ein canfyddiadau i’r awdurdodau perthnasol pan na fyddwn yn gallu erlyn.



Pwy sy’n rheoli eich data personol?

O dan gyfraith diogelu data, y BBC yw rheolydd y data personol sy’n cael ei gasglu a’i ddefnyddio at y dibenion a nodir yn y Polisi hwn.

Mae hyn yn golygu mai ni sy’n gyfrifol am benderfynu sut a pham mae eich data personol yn cael ei ddefnyddio, ac am gadw eich data’n ddiogel. Rydym yn gyfrifol yn gyfreithiol am eich data personol, gan gynnwys pan fydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio mewn cysylltiad â’r gweithrediadau Trwyddedu Teledu o ddydd i ddydd a gyflawnir gan gontractwyr trydydd parti ar ein rhan.



Sut i gysylltu â ni

Gallwch gysylltu â ni i wneud y canlynol:

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y Polisi hwn neu sut mae’r BBC yn prosesu eich data personol, cysylltwch â Swyddog Diogelu Data’r BBC:



Sut rydym yn defnyddio eich data personol

O dan gyfraith diogelu data, rhaid i ni gael rheswm dilys dros brosesu eich data personol at unrhyw ddiben. Gelwir hyn yn ‘sail gyfreithlon’.

Ein sail gyfreithlon dros brosesu eich data personol yw ei fod yn angenrheidiol er mwyn cyflawni ein swyddogaethau Trwyddedu Teledu. Mae hon yn dasg rydym yn ei chyflawni er budd y cyhoedd ac wrth arfer ein hawdurdod swyddogol o dan erthygl 6(1)(e) o GDPR y DU. Pan fyddwn yn prosesu eich data personol at ddibenion ein gweithgarwch gorfodi’r gyfraith er mwyn cyflawni ein swyddogaeth Trwyddedu Teledu, mae gennym hawl i wneud hynny o dan y gyfraith diogelu data.

Rydym yn prosesu data categori arbennig, fel data iechyd, ar sail budd sylweddol y cyhoedd i weithredu’r system Trwyddedu Teledu, fel ymateb i gais am addasiadau rhesymol.

Rydym hefyd yn prosesu data categori arbennig lle rydych yn rhoi caniatâd i ni ei brosesu, fel yn ystod ymweliad gan swyddog ymweld Trwyddedu Teledu.


1. Gweithredu’r Drwydded Deledu

Rydym yn prosesu eich data personol i weithredu’r system Trwyddedu Teledu fel yr esbonnir isod.

Cyhoeddi eich Trwydded Deledu

Er mwyn rhoi Trwydded Deledu i chi neu gadarnhau nad oes angen un arnoch, rydym yn casglu ac yn defnyddio data personol rydych yn ei roi i ni pan fyddwch yn defnyddio gwasanaethau’r BBC. Rydym hefyd yn defnyddio gwefannau a data y mae trydydd partïon yn ei roi i ni.

Rhagor o wybodaeth am sut rydym yn cyhoeddi eich Trwydded Deledu

Rydym yn casglu’r data personol canlynol:

  • Eich enw (os yw’n cael ei roi i ni)
  • Eich manylion cyswllt, fel cyfeiriad post, rhif ffôn a chyfeiriad e-bost
  • Gwybodaeth am eich defnydd o wasanaethau teledu (a pham nad oes angen trwydded deledu arnoch o bosib)
  • Os ydych chi dros 75 oed ac yn gwneud cais am Drwydded Deledu am ddim, eich dyddiad geni a gwybodaeth am eich hawl (neu hawl eich partner) i Gredyd Pensiwn
  • Dogfennau adnabod, lle bo angen i ddilysu
    • eich cyfeiriad
    • eich bod yn gallu cael Trwydded Deledu am ddim
    • eich bod yn gallu cymryd rhan mewn cynllun talu
    • pwy ydych chi, pan fyddwch chi wedi gofyn am gael arfer Eich Hawliau ac nad yw’r wybodaeth honno gennym yn barod

Os bydd rhywun yn gweithredu ar eich rhan (h.y. eich bod wedi’u hawdurdodi i roi eich data personol i ni) byddwn yn casglu eu henw a’u manylion cyswllt hwythau.

Rydym hefyd yn defnyddio gwybodaeth am eich iechyd neu unrhyw anableddau, os byddwch yn ei rhoi i ni. Mae hyn yn ein helpu i ddarparu gwybodaeth a chymorth hygyrch i chi.

Sut rydym yn casglu eich data personol?

Rydym yn casglu data personol rydych chi a thrydydd partïon yn ei roi i ni, a drwy eich defnydd o wasanaethau, gwefannau ac apiau Trwydded Deledu yn y ffyrdd canlynol:

  • Pan fyddwch yn prynu Trwydded Deledu, neu pan fyddwn wedi cael gwybod nad oes angen Trwydded Deledu arnoch
  • Os ydych chi, neu drydydd partïon ar eich rhan, yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni
  • Pan fyddwch yn defnyddio ein gwasanaethau, ein gwefannau a’n apiau
  • Os byddwch yn rhoi data personol i swyddog ymweld neu ganolfan gyswllt.

Mae trydydd partïon yn rhannu data â ni, fel:

  • Asiantaethau’r llywodraeth, fel yr Adran Gwaith a Phensiynau, sy’n rhannu data personol am Drwyddedau Teledu am ddim
  • Cynlluniau Llety ar gyfer Gofal Preswyl (ARC), sy’n rhannu data am Drwyddedau ARC
  • Landlordiaid, sy’n rhannu data i’n helpu i ddeall a yw tenantiaid yn byw yn eu heiddo

Categorïau proseswyr trydydd parti rydym yn eu defnyddio

Rydym yn defnyddio trydydd partïon wrth gyhoeddi eich Trwydded Deledu, i wneud pethau fel:

  • - Rheoli perfformiad y wefan
  • - Rheoli digwyddiadau a phroblemau sy’n ymwneud â TG
  • - Darparu sgwrsfotiaid AI ar y gwefannau
  • - Gweithredu gwefannau
  • - Cefnogi ein swyddfa gefn
  • - Cynnal data a meddalwedd
  • - Rhoi Trwyddedau Teledu am ddim

Bydd rhywfaint o ddata personol yn cael ei brosesu y tu allan i'r DU yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, Awstralia ac India.

Mae trosglwyddo data personol yn rhyngwladol yn cael ei ddiogelu gan benderfyniadau digonolrwydd y DU a chymalau cytundebol safonol.

Gyda pha drydydd partïon ydyn ni’n rhannu eich data personol?

Mewn amgylchiadau penodol, rydym yn rhannu eich data personol â thrydydd partïon, sy’n defnyddio’r data at eu dibenion eu hunain (fel rheolyddion data), fel yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP). 

Am faint ydyn ni’n cadw eich data personol?

Rydym yn cadw eich data personol cyhyd ag y mae ei angen at ei ddiben, sydd wedi’i nodi yn y Polisi hwn. Mae gan bob pwrpas union gyfnod cadw. Mae hyn wedi’i nodi yn ein Polisi Cadw, sy’n cael ei adolygu gennym yn rheolaidd.

Rydym yn cadw data personol i reoli eich Trwydded Deledu am gyfnod y berthynas â’r cwsmer.

Rydym yn cadw data ar gyfeiriadau trwyddedig a didrwydded (gan gynnwys pan fyddwch yn rhoi gwybod i ni nad oes angen Trwydded Deledu arnoch) cyhyd ag y bo angen i sicrhau bod ein cronfa ddata cwsmeriaid yn gyfredol.

Byddwn yn cadw eich data personol yn hirach os oes ei angen am resymau cyfreithiol neu reoleiddiol, fel delio â chwynion.

Casglu Ffi’r Drwydded

Rydym yn defnyddio eich data personol i’n helpu i gasglu ffi’r Drwydded Deledu. Mae hyn yn cynnwys rhoi unrhyw ad-daliadau a chysylltu â chi os bydd taliad wedi methu.

Rhagor o wybodaeth am gasglu Ffi’r Drwydded

Rydym yn prosesu’r data personol canlynol rydych chi a thrydydd partïon yn ei rannu â ni yn y ffyrdd canlynol:

  • Eich enw, os yw’n cael ei roi i ni pan fyddwn yn cyhoeddi eich Trwydded Deledu
  • Eich manylion cyswllt, fel cyfeiriad post, rhif ffôn a chyfeiriad e-bost
  • Manylion eich cyfrif banc neu gerdyn credyd/debyd
  • Data taliadau a thrafodion, er enghraifft drwy ddefnyddio ein gwefannau neu wrth ffonio ein canolfannau cyswllt
  • Eich cerdyn talu Trwyddedu Teledu os byddwch yn talu gydag arian parod ac yn rhoi caniatâd i ni gadw'r wybodaeth hon. Dim ond y rhai sy’n helpu i dalu tuag at eich Trwydded Deledu sy’n gallu gweld y wybodaeth hon

Os bydd rhywun yn talu am eich Trwydded Deledu ar eich rhan, byddwn yn casglu’r data personol hwn ganddynt.

Sut rydym yn casglu eich data personol?

Rydym yn casglu’r data personol rydych chi a thrydydd partïon yn ei rannu â ni yn y ffyrdd canlynol:

  • Drwy ein gwefannau a’n apiau
  • Drwy ein canolfannau cyswllt
  • Drwy’r post
  • Os byddwch yn rhoi data personol i swyddog ymweld
  • O leoliadau PayPoint

Categorïau proseswyr trydydd parti rydym yn eu defnyddio

Rydym yn defnyddio trydydd partïon sy’n ein helpu i gasglu Ffi’r Drwydded, i wneud pethau fel:

  • - Dilysu a chadarnhau manylion adnabod cwsmeriaid
  • - Ein helpu ni i hwyluso trefniadau debyd uniongyrchol a thrafodion talu gyda cherdyn
  • - Darparu’r porth gwe er mwyn i gwsmeriaid Cynllun Talu Syml Trwyddedu Teledu fewngofnodi, gwneud taliadau a gweld eu hamserlen talu
  • - Delio â thaliadau ac anfon negeseuon SMS.

Gyda pha drydydd partïon ydyn ni’n rhannu eich data personol?

Mewn amgylchiadau penodol, rydym yn rhannu data personol â thrydydd partïon, sy’n defnyddio’r data at eu dibenion eu hunain (fel rheolyddion data), fel Pay UK (BACS) a PayPoint.
 

Darparwyr Taliadau

Oni bai eich bod yn talu gydag arian parod, rydym yn rhannu eich data personol â darparwyr taliadau sy’n gweithredu fel rheolyddion data ar gyfer rhywfaint o waith prosesu data, er mwyn i ni allu derbyn eich taliad. Gallai’r rhain fod yn sefydliadau ariannol – er enghraifft eich banc, darparwr eich cerdyn, neu ein banc. Gallant hefyd fod yn gynlluniau cerdyn talu, fel Visa neu MasterCard.

Gall y darparwyr taliadau hyn drosglwyddo data y tu allan i’r DU. I gael rhagor o wybodaeth am sut maen nhw’n defnyddio eich data, a ydyn nhw’n ei drosglwyddo y tu allan i’r DU, a’r mesurau diogelu perthnasol i ddiogelu eich data, rydym yn argymell eich bod yn darllen polisïau preifatrwydd eich banc neu ddarparwr eich cerdyn (fel Mastercard neu Visa).

Gallwch hefyd ddarllen mwy am sut mae ein banc, NatWest, a’n triniwr cardiau, Barclays, yn prosesu eich data personol yn eu polisïau preifatrwydd.

Am faint ydyn ni’n cadw eich data personol?

Dim ond cyhyd ag y bo angen y byddwn yn cadw eich data personol. Mae gan bob pwrpas sy’n cael ei ddisgrifio yn y Polisi hwn union gyfnod o ran cadw data personol. Mae hyn wedi’i nodi yn ein Polisi Cadw, sy’n cael ei adolygu gennym yn rheolaidd.

Delio â hysbysiadau, ymholiadau a chwynion

Rydym yn defnyddio eich data personol pan fyddwch yn cysylltu â ni, er enghraifft os oes gennych ymholiad neu gŵyn. Mae’n caniatáu i ni ystyried neu ymateb i’r hyn rydych chi’n ei ddweud wrthym.

Gallwch anfon hysbysiadau atom (er enghraifft, os nad oes angen Trwydded Deledu arnoch), gofyn cwestiwn a chwyno am Trwyddedu Teledu drwy fynd i’r dudalen Help a Chysylltu â Ni, lle gallwch ein e-bostio, neu drwy ffonio 0300 790 6130 neu ysgrifennu atom yn TV Licensing, Darlington, DL98 1TL.

Rhagor o wybodaeth am ddelio â hysbysiadau, ymholiadau a chwynion

Sut rydym yn casglu eich data personol

Rydym yn casglu’r data personol rydych yn ei rannu â ni yn y ffyrdd canlynol:

  • Pan fyddwch yn rhoi gwybod i ni am rywbeth (er enghraifft nad oes angen Trwydded Deledu arnoch chi)
  • Pan fyddwch yn gwneud ymholiad
  • Pan fyddwch yn cwyno

Categorïau proseswyr trydydd parti rydym yn eu defnyddio

Rydym yn defnyddio trydydd partïon sy’n ein helpu i wneud y canlynol:

  • - Delio â hysbysiadau, ymholiadau a chwynion
  • - Darparu dull adnabod llais rhyngweithiol (IVR) i gadarnhau pwy yw cwsmeriaid

Bydd rhywfaint o ddata personol yn cael ei brosesu y tu allan i'r DU yn Guernsey, Jersey ac Ynys Manaw.

Mae trosglwyddo data personol yn rhyngwladol yn cael ei ddiogelu gan benderfyniadau digonolrwydd y DU.

Gyda pha drydydd partïon ydyn ni’n rhannu eich data personol?

Mewn amgylchiadau penodol, rydym yn rhannu data personol â thrydydd partïon, sy’n defnyddio’r data at eu dibenion eu hunain (fel rheolyddion data), fel Adrannau Gwasanaethau Cymdeithasol Ynysoedd y Sianel.

Am faint ydyn ni’n cadw eich data personol?

Byddwn yn cadw eich data personol cyhyd ag y bo angen. Mae gan bob pwrpas sy’n cael ei ddisgrifio yn y Polisi hwn union gyfnod o ran cadw data personol. Mae hyn wedi’i nodi yn ein Polisi Cadw, sy’n cael ei adolygu gennym yn rheolaidd.

Rydym yn dileu data personol fel a ganlyn:

  • Recordiadau ffôn o fewn 13 mis
  • Cofnodion o gwynion o fewn tair neu saith mlynedd (yn dibynnu ar lefel uwchgyfeirio’r gŵyn)
  • Ymatebion arolygon boddhad cwsmeriaid o fewn 18 mis

Cyfathrebu

O bryd i’w gilydd, efallai y byddwn yn anfon gohebiaeth atoch am Trwyddedu Teledu, er enghraifft drwy’r post, e-bost neu neges destun. Maen nhw’n ein helpu ni i wneud y canlynol:

  • Cyhoeddi Trwydded Deledu
  • Egluro mwy am Trwyddedu Teledu, fel pa weithgareddau sydd angen Trwydded Deledu, sut mae talu, a beth sy’n digwydd os nad ydych chi’n talu
  • Esbonio cynllun talu, taliadau wedi’u methu, dyddiadau dod i ben a chymorth gydag adnewyddu
  • Holi am eiddo heb drwydded

Penderfyniadau Awtomataidd

Rydym yn defnyddio eich data personol i wneud penderfyniadau awtomataidd ynghylch pa gyfathrebiadau i’w hanfon neu eu dangos i chi. Fel rhan o hyn, efallai y byddwn hefyd yn defnyddio penderfyniadau o’r fath i’ch rhoi mewn grŵp penodol o gwsmeriaid sydd â nodweddion tebyg.

Mae hyn yn ein helpu i wneud yn siŵr bod ein penderfyniadau’n gyflym, yn deg, yn effeithlon ac yn gywir, yn seiliedig ar yr hyn rydym yn ei wybod.

Rydym yn defnyddio penderfyniadau awtomataidd i wneud y canlynol:

  • Rhoi gwybod i chi am daliadau wedi’u methu
  • Awgrymu cynlluniau talu mwy addas
  • Atal rhai dyfeisiau rhag gweld rhai negeseuon os cafodd y ddyfais ei defnyddio i brynu Trwydded Deledu drwy tvlicensing.co.uk
  • Anfon llythyrau at gwsmeriaid heb drwydded
  • Cyhoeddi Trwyddedau Teledu wedi’u hadnewyddu
  • Penderfynu pa negeseuon i’w dangos ar wefannau trydydd parti a rhwydweithiau cyfryngau cymdeithasol
  • Gofyn am ail-ddatganiadau Dim Angen Trwydded

Sut rydym yn defnyddio eich data personol?

Rydym yn defnyddio’r data personol rydych yn ei rannu â ni i wneud y canlynol:

  • Helpu i awgrymu cynlluniau talu mwy priodol i gwsmeriaid sy’n methu taliadau
  • Annog cwsmeriaid sydd â Thrwydded Deledu bapur i ddweud na i bapur
  • Deall tueddiadau pan fydd cwsmeriaid heb drwydded yn defnyddio gwasanaethau sydd angen Trwydded Deledu, fel BBC iPlayer
  • Cynnal ymchwil cwsmeriaid drwy arolygon. Mae hyn yn ein helpu i wella’r cynllun Trwyddedu Teledu.  Gallwch ddewis cymryd rhan ai peidio
  • Edrych ar ffyrdd newydd o gyrraedd cwsmeriaid nad oes ganddynt Drwydded Deledu ac sydd mewn grwpiau tebyg. Mae hyn er mwyn i ni allu dweud wrthyn nhw pa wasanaethau:
    • Sy’n cael eu hariannu gan y Drwydded Deledu
    • Y mae ganddynt hawl i’w defnyddio ar ôl prynu Trwydded Deledu
Rhagor o wybodaeth am sut rydym yn prosesu eich data pan fyddwn yn cyfathrebu â chi

Sut rydym yn casglu eich data personol

Rydym yn casglu’r data personol rydych chi a thrydydd partïon yn ei rannu â ni i’n helpu ni i gyfathrebu â chi ac i wella ein gwasanaethau yn y ffyrdd canlynol:

  • Data personol rydych yn ei rannu â ni fel eich enw, eich manylion cyswllt a’ch gwybodaeth ariannol (gan gynnwys dull talu, cofnod o daliadau/taliadau wedi’u methu a dyddiad dod i ben eich Trwydded Deledu). Mae hyn yn ein helpu i gysylltu â chi ynghylch eich Trwydded.
  • Data rydym yn ei gasglu pan fyddwch yn defnyddio ein gwefannau, ein gwasanaethau a’n apiau, fel pan fydd taliad yn cael ei wneud neu pan fydd taliad yn methu.
  • Mae sefydliadau trydydd parti dibynadwy sy’n gweithio gyda ni (fel darparwyr data trydydd parti) yn rhoi data rydych wedi’i roi iddynt i ni. Ni fyddwn byth yn defnyddio’r data trydydd parti hwn at ddibenion marchnata.
  • Rydym yn defnyddio technoleg yn ein negeseuon e-bost i ddeall a wnaethoch agor yr e-bost, sawl gwaith y gwnaethoch agor yr e-bost a pha ddyfais roeddech wedi’i defnyddio. Mae hyn yn ein helpu i ddeall a yw ein negeseuon e-bost yn cael eu darllen ac a ydynt yn effeithiol.
  • Mae gwefannau trydydd parti a rhwydweithiau cyfryngau cymdeithasol yn defnyddio data personol sydd ganddynt i’n helpu i wneud y canlynol:
    • creu grwpiau neu ‘segmentau’ o gwsmeriaid sy’n rhannu nodweddion tebyg a dangos negeseuon perthnasol iddynt am Trwyddedu Teledu ar wefannau trydydd parti a rhwydweithiau cyfryngau cymdeithasol.
    • deall a yw ein negeseuon yn cael eu darllen ac a ydynt yn effeithiol gan ddefnyddio data ystadegol.
  • Mae data sy’n cael ei gasglu gan y BBC yn cael ei rannu â ni fel a ganlyn:
    • Defnyddio gwasanaethau’r BBC (fel unrhyw hanes o ddefnyddio cynnwys y BBC drwy bbc.co.uk a BBC iPlayer);
    • Data sy’n cael ei roi i’r BBC (fel drwy Gyfrif BBC). I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch Bolisi Preifatrwydd y BBC

Efallai y byddwn hefyd yn eich gwahodd i gymryd rhan yn ein harolygon o bryd i’w gilydd. Os byddwch yn cytuno i gymryd rhan, yn y rhan fwyaf o achosion ni fyddwn yn casglu gwybodaeth a fydd yn datgelu pwy ydych chi. Os byddwn yn bwriadu casglu data personol i’n helpu i gysylltu â chi a deall eich ymatebion, byddwn yn rhoi gwybod i chi cyn i ni ei gasglu. Yna, gallwch benderfynu a ydych am gymryd rhan yn yr arolwg. Gallwch optio allan o gael gwahoddiadau i gymryd rhan yn y dyfodol drwy ein e-bostio neu ein ffonio ar 0300 790 6130.

Categorïau proseswyr trydydd parti rydym yn eu defnyddio

Rydym yn defnyddio trydydd partïon wrth gyfathrebu â chi ynghylch Trwyddedu Teledu, i wneud pethau fel:

  • - Ein helpu ni i anfon gohebiaeth drwy’r post, SMS ac e-bost
  • - Darparu ar gyfer dosbarthu cardiau galw Trwyddedu Teledu â llaw i gyfeiriadau didrwydded
  • - Rhoi enwau, cyfeiriadau a chyfeiriadau e-bost lle nad yw’r rhain yn hysbys i ni
  • - Ein helpu ni i reoli ein harolygon cwsmeriaid
  • - Rheoli, targedu a dadansoddi ein hymgyrchoedd cyfathrebu i gwsmeriaid a chyfeiriadau didrwydded
  • - Rhoi data geo-ddemograffig i ni i’n helpu i ddeall cwsmeriaid a chartrefi
  • - Gwirio newidiadau mewn deiliadaeth eiddo
  • - Cyfieithu ein cyfathrebiadau
  • - Gwneud addasiadau rhesymol i gyfathrebiadau â phobl ddall

Bydd rhywfaint o ddata personol yn cael ei brosesu y tu allan i'r DU yn Guernsey, Jersey, Ynys Manaw a’r Unol Daleithiau.

Mae trosglwyddo data personol yn rhyngwladol yn cael ei ddiogelu gan benderfyniadau digonolrwydd y DU a chymalau cytundebol safonol.

Gyda pha drydydd partïon ydyn ni’n rhannu eich data personol?

Mewn amgylchiadau penodol, rydym yn rhannu data personol â thrydydd partïon, sy’n defnyddio’r data at eu dibenion eu hunain (fel rheolyddion data), fel Swyddfa’r Post a Swyddfa’r Post Ynysoedd y Sianel.

Am faint ydyn ni’n cadw eich data personol?

Byddwn yn cadw eich data personol cyhyd ag y bo angen. Mae gan bob pwrpas sy’n cael ei ddisgrifio yn y Polisi hwn union gyfnod o ran cadw data personol. Mae hyn wedi’i nodi yn ein Polisi Cadw, sy’n cael ei adolygu gennym yn rheolaidd.

Rydym yn cadw data personol fel a ganlyn:

  • Mae ymgyrchoedd negeseuon (fel enw eiddo trwyddedig a chyfeiriad post/e-bost neu gyfeiriad eiddo didrwydded) yn cael eu cadw am hyd at dri mis
  • Mae dadansoddiad o grwpiau neu ‘segmentau’ neu ddiddordebau cwsmeriaid yn cael eu cadw am hyd at chwe blynedd
  • Mae hanes cyswllt (fel dyddiadau anfon a derbyn llythyrau a negeseuon e-bost) yn cael eu cadw am hyd at saith mlynedd
  • Bydd data personol sy’n cael ei roi i ni gan ddarparwr data trydydd parti yn cael ei ddileu ar ôl ei ddefnyddio i wirio ansawdd ein cronfa ddata cwsmeriaid neu i gysylltu ag unigolion.

Rydym yn cadw gwybodaeth ystadegol am gyfnod amhenodol i’n helpu i fesur effeithiolrwydd ein cyfathrebiadau. Nid yw hwn yn ddata personol gan na ellir adnabod unrhyw unigolyn o’r wybodaeth honno.

Rydym yn defnyddio eich data personol i gyfathrebu â chi drwy nifer o sianeli gwahanol, fel drwy’r post ac e-bost. Er nad ydyn ni’n marchnata’n uniongyrchol [marchnata’n uniongyrchol drwy e-bost], rydym yn dal yn cynnig dewis optio allan cyfyngedig i’n cwsmeriaid ar gyfer cyfathrebiadau e-bost. Fodd bynnag, os byddwch yn penderfynu defnyddio ein gwasanaethau Trwyddedu Teledu ar-lein yn nes ymlaen, byddwch yn cael eich optio yn ôl i mewn i negeseuon e-bost gennym, hyd yn oed os oeddech wedi optio allan o’r blaen. Felly, nid yw’n bosib ar hyn o bryd i chi optio allan yn barhaol o’r holl ohebiaeth e-bost gennym.

Ni allwch optio allan o gyfathrebiadau drwy’r post, gan fod angen o leiaf un sianel arnom i gysylltu â chi. Gallwch hefyd ddewis cyfeiriad gohebu arall os ydych yn dymuno i ni beidio ag anfon gohebiaeth i’ch cyfeiriad trwyddedig. Fodd bynnag, os byddwch yn rhoi cyfeiriad e-bost, byddwn yn ymdrechu i’ch e-bostio yn hytrach nag anfon gohebiaeth drwy’r post.

Hysbysiadau e-bost ac electronig

Mae gennym ddyletswydd gyhoeddus i gadw costau mor isel â phosib ac i leihau ein hôl troed carbon. Felly, os yw’n bosib, byddai’n well gennym gysylltu â chi’n electronig, er enghraifft drwy e-bost neu neges destun.

Os ydych chi wedi rhoi eich cyfeiriad e-bost i ni, byddwn yn ei ddefnyddio i anfon e-byst atoch ynghylch eich Trwydded Deledu, gan gynnwys anfon dolen i’ch Trwydded Deledu ar-lein atoch. Fodd bynnag, os yw’n well gennych gael eich Trwydded Deledu drwy’r post, gallwch optio allan o dderbyn Trwydded Deledu ar-lein drwy fewngofnodi i’n gwefan i newid i drwydded bapur.

Gallwch roi gwybod i ni nad ydych yn dymuno cael negeseuon e-bost ar wefan Trwyddedu Teledu. Ond efallai y byddwch yn optio yn ôl i gael negeseuon e-bost yn y dyfodol, fel y disgrifir isod.

Pryd bynnag y byddwch yn defnyddio ein gwasanaethau Trwyddedu Teledu ar-lein, fel adnewyddu eich trwydded, newid eich cyfeiriad neu eich manylion banc, neu roi gwybod i ni nad oes angen trwydded arnoch, bydd angen i chi roi cyfeiriad e-bost. Drwy wneud hynny, byddwch yn cael eich optio yn ôl i mewn i negeseuon e-bost, hyd yn oed os ydych wedi optio allan o’r blaen. Bydd y cyfeiriad e-bost hwn wedyn yn cael ei ddefnyddio i anfon e-bost atoch gyda gwybodaeth yn cadarnhau eich trafodiad ar-lein a/neu os bydd angen i ni gysylltu â chi ynghylch y trafodiad, er enghraifft os oedd problem gyda’ch taliad adnewyddu.

Rhagor o wybodaeth am hysbysiadau e-bost ac electronig

Gallwch ein e-bostio neu ein ffonio ar 0300 790 6130 i ddweud wrthym am beidio â chysylltu â chi drwy e-bost. O hynny ymlaen, os bydd angen i ni gysylltu â chi, byddwn yn eich ffonio neu’n ysgrifennu atoch (os ydych chi wedi rhoi cyfeiriad post), oni bai eich bod yn rhoi eich cyfeiriad e-bost i ni ar ôl optio allan o ohebiaeth e-bost fel y disgrifir yn yr adran uchod.

Os ydych yn talu am eich Trwydded Deledu gan ddefnyddio’r Cynllun Talu Syml, a’ch bod am i ni roi’r gorau i anfon e-byst atoch, gallwch ysgrifennu atom yn: Tîm y Cynllun Talu Syml, TV Licensing, PO BOX 923, Casnewydd NP20 9PR neu ein ffonio ar 0300 300 1030.

Ar hyn o bryd, oherwydd cyfyngiadau ar systemau, ni allwn eich e-bostio os oes gennych Drwydded Deledu am ddim, neu os ydych yn talu am eich Trwydded Deledu gan ddefnyddio Cerdyn Talu Trwyddedu Teledu.

Negeseuon testun

Os ydych chi wedi rhoi rhif ffôn symudol i ni, efallai y byddwn yn ei ddefnyddio i anfon negeseuon testun SMS atoch am eich Trwydded Deledu, lle bo hynny’n briodol. Er enghraifft i roi gwybod i chi os oes taliad wedi methu. Fodd bynnag, byddwn yn cyfathrebu â chi’n bennaf drwy e-bost neu drwy’r post.

Rydym yn anfon negeseuon testun at gwsmeriaid mewn segmentau penodol, er enghraifft arolygon boddhad cwsmeriaid, cwsmeriaid arian parod sy’n methu taliadau, neu roi gwybod i gwsmeriaid debyd uniongyrchol am eu taliad cyntaf un. Mewn rhai sefyllfaoedd, byddwch yn gallu optio allan o’r cyfathrebiadau hyn, er enghraifft arolygon boddhad cwsmeriaid.

Rhagor o wybodaeth am negeseuon testun

Os hoffech chi ddweud wrthym am beidio ag anfon negeseuon testun atoch, gallwch ein e-bostio neu ein ffonio ar 0300 790 6130. O hynny ymlaen, os bydd angen i ni gysylltu â chi, byddwn yn eich ffonio neu’n eich e-bostio (os ydych chi wedi rhoi cyfeiriad e-bost).

Os ydych yn talu am eich Trwydded Deledu gan ddefnyddio’r Cynllun Talu Syml, a’ch bod am i ni roi’r gorau i anfon negeseuon testun atoch, gallwch ysgrifennu atom yn: Tîm y Cynllun Talu Syml, TV Licensing, PO BOX 923, Casnewydd NP20 9PR neu ein ffonio ar 0300 300 1030.

Gwefannau trydydd parti a rhwydweithiau cyfryngau cymdeithasol

Rydym yn gweithio gyda phartneriaid trydydd parti dibynadwy, fel rhwydweithiau cyfryngau cymdeithasol a chyhoeddwyr gwefannau trydydd parti eraill, i nodi grwpiau o unigolion sydd â nodweddion demograffig a/neu ymddygiadol cyffredin. Mae hyn yn ein helpu i deilwra negeseuon Trwyddedu Teledu i grwpiau penodol o unigolion ar wefannau’r rhwydweithiau trydydd parti hyn. Rydym yn gwneud hyn drwy rannu eich data cyswllt wedi’i amgryptio (fel eich cyfeiriad post neu gyfeiriad e-bost) â’n partneriaid trydydd parti, sydd wedyn yn cael ei gymharu â gwybodaeth wedi’i hamgryptio sy’n cael ei chadw ganddynt. Ar ôl dod o hyd i gyfatebiad, bydd yr wybodaeth hon wedyn yn cael ei defnyddio i’ch grwpio chi gydag unigolion eraill sy’n rhannu eich nodweddion, a bydd neges Trwyddedu Teledu wedi’i theilwra yn cael ei chyflwyno i’r unigolion hyn ar y rhwydwaith neu’r wefan trydydd parti.

Rhagor o wybodaeth am wefannau trydydd parti a rhwydweithiau cyfryngau cymdeithasol

Mae gwefannau trydydd parti a rhwydweithiau cyfryngau cymdeithasol yn rhoi gwybodaeth i ni i’n helpu i fesur effeithiolrwydd ein negeseuon ar wefannau a rhwydweithiau cyfryngau cymdeithasol, a’n hymgyrchoedd negeseuon. Mae hyn yn ein helpu i ddeall a yw ein negeseuon yn cael eu darllen ac a yw pobl yn clicio arnynt. Mae hyn yn ein helpu i deilwra ein hymgyrchoedd negeseuon i sicrhau eu bod yn berthnasol ac yn effeithiol, ac i ddylunio gwasanaethau ar gyfer gwahanol grwpiau o gwsmeriaid.

Mae ein hymgyrchoedd negeseuon yn helpu’r BBC i gyflawni ein swyddogaeth gyhoeddus i gasglu ffi’r Drwydded Deledu ac i orfodi’r gofyniad i feddu ar Drwydded Deledu. Rydym yn darparu gwybodaeth berthnasol sy’n rhoi gwybod i ddefnyddwyr pan fydd angen Trwydded Deledu a sut mae prynu un.

Ein Diweddaru Ni

Rydym yn cymryd camau i sicrhau bod ein cofnodion yn gywir ac yn gyfredol.

Er mwyn cadw’r wybodaeth sy’n cael ei storio gennym yn gyfredol, rydym yn defnyddio’r data personol rydych yn ei rannu â ni a’r data personol rydym yn ei gael amdanoch gan ein darparwyr data trydydd parti dibynadwy.

Gallwch ein helpu i ddiweddaru eich data personol drwy roi gwybod i ni:

  • Eich bod wedi symud
  • Bod eich cyfeiriad e-bost neu eich rhif ffôn wedi newid
  • Bod eich enw wedi newid neu wedi cael ei gamsillafu
  • Bod eich cod post yn anghywir
  • Bod eich manylion banc wedi newid
  • Eich bod yn newid fformat eich trwydded, fel dewis trwydded di-bapur
  • Eich bod am ganslo eich Trwydded Deledu
  • Nad oes angen Trwydded Deledu arnoch chi

Gallwch hefyd ofyn i ni ddiweddaru unrhyw ran o’ch data personol os ydych chi’n credu ei fod yn anghywir, yn hen, neu’n anghyflawn ar unrhyw adeg drwy un o’r ffyrdd canlynol:

Rhagor o wybodaeth am ein diweddaru

Sut rydym yn casglu eich data personol?

Rydym yn casglu’r data personol rydych chi a thrydydd partïon yn ei roi i ni fel a ganlyn:

  • Os byddwch yn cysylltu â ni
  • Pan fyddwch yn defnyddio ein gwasanaethau, ein gwefannau a’n apiau, fel a ydych wedi prynu Trwydded Deledu a’ch cyfeiriad protocol rhyngrwyd (IP) gan ddefnyddio cwcis a thechnolegau tebyg
  • Gan sefydliadau trydydd parti dibynadwy sy’n gweithio gyda ni, gan gynnwys:
    • Darparwyr data trydydd parti
    • Asiantaethau’r llywodraeth mewn perthynas â Thrwyddedau Teledu am ddim, gan gynnwys yr Adran Gwaith a Phensiynau, gweinyddiaeth ddatganoledig Gogledd Iwerddon a Llywodraethau Guernsey, Jersey ac Ynys Manaw
    • Cynlluniau Llety ar gyfer Gofal Preswyl (ARC) mewn perthynas â Thrwyddedau ARC
    • Landlordiaid mewn perthynas â thenantiaid eu heiddo

Darparwyr Data Trydydd Parti

Mae sefydliadau dibynadwy y gallech fod wedi ymgysylltu â nhw yn rhoi data i ni. Mae hyn yn ein helpu i ddeall a yw’r data personol sydd gennym amdanoch yn gywir drwy ei gymharu â’r data sydd ganddynt amdanoch yn eu cronfeydd data o ffynonellau sydd ar gael i’r cyhoedd (fel y Gofrestr Etholiadol wedi’i golygu) a data rydych wedi’i roi iddynt (fel drwy bryniannau neu arolygon).  Mae hyn yn cynnwys trydydd partïon fel Equifax, Experian, Arolwg Ordnans, Read Group a’r Post Brenhinol.

Rydym yn defnyddio data personol i’n cynorthwyo fel a ganlyn:

  • Cysylltu enw â manylion cyswllt, fel cyfeiriad post neu gyfeiriad e-bost
  • Deall gwybodaeth ddemograffig, fel nodweddion grwpiau aelwydydd
  • Deall newidiadau i eiddo, fel newidiadau mewn deiliadaeth, a yw’r deiliad yn symud allan, defnydd a math o eiddo (preswyl neu fusnes)

Y Post Brenhinol

Mae’r BBC yn cael gwybodaeth am gyfeiriadau post eiddo gan y Post Brenhinol (Ffeil Cyfeiriadau Cod Post). Rydym yn defnyddio’r wybodaeth hon i sicrhau bod ein cronfa ddata cwsmeriaid yn gywir, fel ychwanegu cyfeiriadau newydd a dileu cyfeiriadau nad ydynt yn bodoli mwyach.

Cronfa cyfeiriadau

Mae gan y BBC fynediad at ddata cronfa cyfeiriadau’r Arolwg Ordnans, fel aelod o Gytundeb Geo-ofodol y Sector Cyhoeddus. Mae Trwyddedu Teledu’n defnyddio’r data hwn i nodi a deall mwy am gyfeiriadau sydd gennym ar ein cronfa ddata, gan gynnwys lleoliad geo-ofodol, ac i nodi unrhyw gyfeiriadau nad oes gennym yn y gronfa ddata o bosib.

Categorïau proseswyr trydydd parti rydym yn eu defnyddio

Rydym yn defnyddio trydydd partïon pan fyddwch yn diweddaru’r wybodaeth bersonol sydd gennym, er enghraifft:

  • - Rheoli a diweddaru ein cronfa ddata
  • - Gwirio cywirdeb enwau, cyfeiriadau a rhifau ffôn cwsmeriaid sydd yn ein cronfa ddata cwsmeriaid
  • - Gwirio a fu newid yn neiliadaeth yr eiddo
  • - Cyfateb cyfeiriadau e-bost cwsmeriaid i wybodaeth arall sydd gennym
  • - Darparu gwasanaethau archifol

Gyda pha drydydd partïon ydyn ni’n rhannu eich data personol?

Mewn amgylchiadau penodol, rydym yn rhannu data personol â thrydydd partïon, sy’n defnyddio’r data at eu dibenion eu hunain (fel rheolyddion data), fel yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP).

Mae’r BBC hefyd yn rhannu cyfeiriadau Ffeil Cyfeiriadau Cod Post â’r Post Brenhinol fel rhan o’r broses i sicrhau bod ein cronfa ddata cwsmeriaid yn gywir. Efallai y bydd y Post Brenhinol yn gallu adnabod deiliaid cyfeiriadau yn y DU os ydynt yn defnyddio gwybodaeth arall sydd ganddynt. Y Post Brenhinol yw’r rheolydd data sy’n gyfrifol am ddiogelu a phrosesu’r data personol mae’n ei ddal. Gallwch weld gwefan cynnyrch Ffeil Cyfeiriadau Cod Post y Post Brenhinol i gael rhagor o wybodaeth am sut mae’r Post Brenhinol yn prosesu data personol.

Am faint ydyn ni’n cadw eich data personol?

Byddwn yn cadw eich data personol cyhyd ag y bo angen. Mae gan bob pwrpas sy’n cael ei ddisgrifio yn y Polisi hwn union gyfnod o ran cadw data personol. Mae hyn wedi’i nodi yn ein Polisi Cadw, sy’n cael ei adolygu gennym yn rheolaidd.

Bydd data personol sy’n cael ei roi i ni gan ddarparwr data trydydd parti yn cael ei ddileu ar ôl ei ddefnyddio i wirio ansawdd ein cronfa ddata cwsmeriaid neu i gysylltu ag unigolion.

Cronfa Ddata Trwyddedu Teledu

Rydym yn defnyddio eich data personol i sicrhau bod ein cronfa ddata cyfeiriadau trwyddedig a didrwydded yn gyfredol ac yn gywir.

Rhagor o wybodaeth am Gronfa Ddata Trwyddedu Teledu

Sut rydym yn casglu eich data personol?

Rydym yn casglu data personol rydych chi a thrydydd partïon yn ei rannu â ni yn y ffyrdd canlynol:

  • Pan fyddwch yn defnyddio ein gwasanaethau, ein gwefannau a’n apiau, fel a ydych wedi prynu Trwydded Deledu a’ch cyfeiriad protocol rhyngrwyd (IP)
  • Pan fyddwch yn defnyddio gwefannau a chynnyrch y BBC, fel BBC iPlayer
  • Gan ddarparwyr data trydydd parti dibynadwy os ydych wedi rhoi data iddynt (fel cyfeiriad e-bost)
  • Pan fyddwch yn ein diweddaru

Categorïau proseswyr trydydd parti rydym yn eu defnyddio

Rydym yn defnyddio trydydd partïon i’n helpu i reoli Cronfa Ddata Trwyddedu Teledu, i wneud pethau fel:

  • - Darparu cyfeiriadau e-bost mewn cyfeiriadau lle nad oes cyfeiriad e-bost yn hysbys yn ein cronfa ddata.
  • - Gwirio cywirdeb y cyfeiriadau sydd yn ein cronfa ddata cwsmeriaid yn erbyn y data sy’n cael ei gadw gan eraill

Gyda pha drydydd partïon ydyn ni’n rhannu eich data personol?

Mewn amgylchiadau penodol, rydym yn rhannu data personol â thrydydd partïon, sy’n defnyddio’r data at eu dibenion eu hunain (fel rheolyddion data), fel y Post Brenhinol.

Am faint ydyn ni’n cadw eich data personol?

Byddwn yn cadw eich data personol cyhyd ag y bo angen. Mae gan bob pwrpas sy’n cael ei ddisgrifio yn y Polisi hwn union gyfnod o ran cadw data personol. Mae hyn wedi’i nodi yn ein Polisi Cadw, sy’n cael ei adolygu gennym yn rheolaidd.

Bydd data personol sy’n cael ei roi i ni gan ddarparwr data trydydd parti yn cael ei ddileu ar ôl ei ddefnyddio i wirio ansawdd ein cronfa ddata cwsmeriaid neu i gysylltu ag unigolion.

Byddwn yn dileu eich data personol rydym yn ei gasglu mewn perthynas â’ch defnydd o gynnyrch y BBC fel yr esbonnir ym Mholisi Preifatrwydd y BBC – Am ba mor hir fyddwch chi'n cadw fy ngwybodaeth?

Gwella Trwyddedu Teledu

Rydym yn cadw golwg ar yr ymatebion a gawn i’n hymgyrchoedd, ein gwerthiannau Trwydded Deledu, i honiadau nad oes angen Trwydded Deledu, ac i gwynion ac ymholiadau.

Mae hyn yn ein helpu i wneud y canlynol:

  • Nodi tueddiadau yn anghenion ein cwsmeriaid
  • Mesur ein perfformiad
  • Adrodd i’r cyrff sy’n ein llywodraethu a’n rheoleiddio, fel Bwrdd y BBC a’r llywodraeth
Rhagor o wybodaeth am sut rydym yn prosesu eich data personol wrth wella Trwyddedu Teledu

Sut rydym yn casglu eich data personol?

Rydym yn casglu data personol fel a ganlyn:

  • Gan ddarparwyr data trydydd parti
  • Gan ffynonellau data sydd ar gael i’r cyhoedd
  • Data rydych yn ei roi i’r BBC drwy eich Cyfrif BBC
  • Data sy’n cael ei gasglu gan y BBC pan fyddwch yn defnyddio gwasanaethau’r BBC, gan gynnwys bbc.co.uk a BBC iPlayer.

Am faint ydyn ni’n cadw eich data personol?

Byddwn yn cadw eich data personol cyhyd ag y bo angen. Mae gan bob pwrpas sy’n cael ei ddisgrifio yn y Polisi hwn union gyfnod o ran cadw data personol. Mae hyn wedi’i nodi yn ein Polisi Cadw, sy’n cael ei adolygu gennym yn rheolaidd.

Rydym yn cadw rhywfaint o wybodaeth ystadegol am gyfnod amhenodol i’n helpu i ddeall anghenion ein cwsmeriaid ac i barhau i wella ein perfformiad dros amser.

Gorfodi’r Gyfraith

Mae’n drosedd defnyddio derbynnydd teledu neu wylio BBC iPlayer (ac eithrio S4C ar-alw) heb Drwydded Deledu. O dan Ran 4 o Ddeddf Cyfathrebiadau 2003, y BBC yw’r awdurdod Trwyddedu Teledu yn y DU ac mae ganddo’r swyddogaeth gyfreithiol o orfodi’r gofyniad i gael Trwydded Deledu.

Fel rhan o’r rôl hon, efallai y byddwn yn defnyddio eich data personol i wneud y canlynol:

  • Ymchwilio os ydym yn credu bod rhywun yn defnyddio derbynnydd teledu heb Drwydded Deledu. Gallai hyn olygu ymweld ag eiddo
  • Gwneud cais am warant chwilio neu ganiatáu’r defnydd o offer canfod, lle bo hynny’n angenrheidiol ac yn gymesur
  • Erlyn pan fydd angen. Gall hyn gynnwys gwybodaeth am droseddau yn y gorffennol, gan gynnwys troseddau honedig.
Rhagor o wybodaeth am orfodi’r gyfraith

Ymchwilio i achosion o osgoi talu’r Drwydded Deledu

Rydym yn defnyddio data personol, gan gynnwys unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud â’ch defnydd o wasanaethau sy’n gofyn am Drwydded Deledu, i ganfod pobl sy’n osgoi talu’r Drwydded Deledu. Mae’n bosib y bydd ymchwiliad i amheuaeth o osgoi talu yn golygu ymweliad ag eiddo.

Rhagor o wybodaeth am ymchwilio i achosion o osgoi talu’r Drwydded Deledu

Os bydd swyddog yn ymweld â’ch cyfeiriad, bydd yn dweud yn glir beth yw ei swydd, a bydd yn gofyn i chi ddarparu’r data personol canlynol os bydd angen:

  • Eich enw
  • Eich cyfeiriad post
  • Eich rhif ffôn
  • Manylion cyswllt eraill, fel cyfeiriad e-bost
  • Dyddiad geni a rhif Yswiriant Gwladol (os nad yw gennym eisoes)
  • Gwybodaeth am eich defnydd o wasanaethau teledu
  • Gwybodaeth mewn perthynas ag amgylchiadau personol, gan gynnwys a fyddai modd eich ystyried yn ‘agored i niwed’ a bod angen cymorth ychwanegol arnoch
  • Rhagor o wybodaeth a allai helpu i egluro eich statws o ran Trwydded Deledu. 

Camerâu corff sy’n cael eu gwisgo gan swyddogion ymweld

Gall prosesydd data’r BBC ar gyfer gweinyddu Trwyddedu Teledu, Capita Plc, gasglu data personol drwy gamerâu corff sy’n cael eu gwisgo gan eu swyddogion ymweld er mwyn diogelu iechyd a diogelwch y swyddogion hyn.

Capita yw rheolydd data'r data personol mae'n ei gasglu a'i brosesu drwy ddefnyddio camerâu corff i ddiogelu iechyd a diogelwch eu swyddogion ymweld fel y rheolir gan Hysbysiad Preifatrwydd Camerâu Corff Capita.

Erlyn achosion o osgoi talu’r Drwydded Deledu 

Rydym yn prosesu data personol, gan gynnwys data sy’n ymwneud â throseddau (gan gynnwys troseddau honedig), achosion troseddol, canlyniadau a dedfrydau at ddibenion erlyn lle bo hynny’n briodol.

Rhagor o wybodaeth am erlyn achosion o osgoi talu’r Drwydded Deledu

Defnyddir tystiolaeth o ddefnyddio derbynnydd teledu ac unrhyw wybodaeth gysylltiedig ychwanegol sy’n cael ei gadw i wneud y canlynol:

  • Llywio ein penderfyniad ynghylch a yw’n briodol erlyn (gan gynnwys ystyried a yw erlyn er budd y cyhoedd)
  • Diweddaru ein cofnodion, gan gynnwys ein cronfa ddata eiddo trwyddedig a didrwydded
  • Ein helpu i benderfynu a fydd swyddog yn ymweld ag eiddo.

Byddwn yn ysgrifennu atoch i roi gwybod i chi am unrhyw un o’r penderfyniadau uchod, lle bo hynny’n briodol.

Sut mae penderfyniad i erlyn yn cael ei wneud

Mae penderfyniad i erlyn ai peidio yn cael ei wneud drwy’r broses ganlynol:

  • Cymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon ac Ynys Manaw – Byddwn yn trosglwyddo eich data personol i lys priodol os bydd penderfyniad i erlyn yn cael ei wneud.
  • Yr Alban, Jersey a Guernsey – awdurdod erlyn sy’n penderfynu a ddylid erlyn. Byddwn yn trosglwyddo eich data personol i’r awdurdod hwnnw. Yr awdurdod perthnasol fydd rheolydd eich data wedyn a bydd yn defnyddio’r data i benderfynu a ddylid eich erlyn ac (os felly) i gynnal yr erlyniad, neu i waredu’r achos mewn ffyrdd eraill (e.e. yn yr Alban, i roi “cosb ariannol”).

Sut rydym yn casglu eich data personol?

Rydym yn casglu’r data rydych yn ei roi i ni fel sy’n cael ei egluro yn Ymchwilio i achosion o osgoi talu’r Drwydded Deledu ac weithiau gallwn hefyd gael data personol o ffynonellau eraill fel asiantaethau gorfodi’r gyfraith, cynrychiolwyr cyfreithiol, llysoedd, awdurdodau lleol, cyflenwyr nwyddau a gwasanaethau, ac aelodau o’r cyhoedd.

Categorïau proseswyr trydydd parti rydym yn eu defnyddio

Rydym yn defnyddio trydydd partïon i’n helpu i orfodi’r gyfraith, i wneud pethau fel:

  • - Darparu atebion i reoli camau gweithredu mewn perthynas ag erlyniad

Bydd rhywfaint o ddata personol yn cael ei brosesu y tu allan i'r DU yn Guernsey, Jersey ac Ynys Manaw

Mae trosglwyddo data personol yn rhyngwladol yn cael ei ddiogelu gan benderfyniadau digonolrwydd y DU.

Gyda pha drydydd partïon ydyn ni’n rhannu eich data personol?

Mewn amgylchiadau penodol, rydym yn rhannu data personol â thrydydd partïon, sy’n defnyddio’r data at eu dibenion eu hunain (fel rheolyddion data), fel:

  • Llysoedd barn ac awdurdodau cenedlaethol yn y DU, ac endidau y tu allan i’r DU yn Guernsey, Jersey, ac Ynys Manaw ar gyfer erlyn pobl sy’n osgoi talu am drwydded deledu, fel:
    • Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Fawrhydi
    • Swyddfa’r Goron a’r Gwasanaeth Caffael Ariannol
    • Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Gogledd Iwerddon
    • Llysoedd Barn Ynys Manaw
  • Awdurdodau Lleol
  • Yr Heddlu a Swyddogion y Gyfraith yn y DU a’r tu allan i’r DU yn Guernsey, Jersey ac Ynys Manaw
  • Asiantaethau gorfodi’r gyfraith, cynrychiolwyr cyfreithiol, llysoedd, awdurdodau lleol i’n helpu i erlyn pobl sy’n osgoi talu am Drwydded Deledu
  • Asiantiaid a chynrychiolwyr cyfreithiol, fel cyfreithwyr a bargyfreithwyr
  • Cwmnïau adloniant a’r cyfryngau, fel Sky, BT, a Virgin

Efallai y byddwn hefyd yn rhannu eich data personol pan fydd y gyfraith yn mynnu neu’n caniatáu i ni wneud hynny. Mae hyn yn cynnwys lle mae angen i ni amddiffyn neu orfodi ein hawliau, neu orfodi ein hawdurdod swyddogol.

Efallai y bydd awdurdodau cyhoeddus eraill, fel yr heddlu, yn gofyn am ddata personol hefyd. Caiff y ceisiadau hyn eu hystyried fesul achos a byddwn yn cydbwyso eich preifatrwydd yn erbyn pwysigrwydd y rhesymau dros wneud y cais (e.e. i ymchwilio i droseddau difrifol).

Am faint ydyn ni’n cadw eich data personol?

Byddwn yn cadw eich data personol cyhyd ag sy’n angenrheidiol at y dibenion a ddisgrifir yn y Polisi hwn a’n Polisi Cadw, sy’n cael ei adolygu’n rheolaidd gennym.

Byddwn yn cadw eich data personol cyhyd ag y bo angen i benderfynu a ddylid anfon swyddog ymweld i’ch eiddo ac yn achos aildroseddu neu apêl, bydd y data personol hwn yn effeithio ar unrhyw benderfyniad ac efallai y caiff ei ddatgelu i’r llys.

Eich hawliau

Mae gennych hawliau mewn perthynas â’r data personol rydym yn ei brosesu amdanoch at ddibenion gorfodi’r gyfraith o dan Ran 3 o Ddeddf Diogelu Data 2018. I gael rhagor o wybodaeth am yr hawliau sy’n berthnasol pan fydd eich data personol yn cael ei brosesu at ddibenion gorfodi’r gyfraith, edrychwch ar eich Hawliau.

2. Gwella gwasanaethau’r BBC

I wella gwasanaethau’r BBC, rydym weithiau’n defnyddio data personol fel y disgrifir yn y polisi. Rydym yn nodi sut rydym yn gwneud hynny ym Mholisi Preifatrwydd y BBC ac yn y polisi hwn.

Mae’r BBC yn defnyddio gwybodaeth am ei gynulleidfa i helpu i wneud penderfyniadau ynghylch pa gynnwys i’w greu. Hoffwn fod yn siŵr ein bod ni’n creu rhywbeth i bawb – yn enwedig grwpiau sydd wedi cael eu gwasanaethu’n wael gan y BBC yn y gorffennol.

Rhagor o wybodaeth am wella gwasanaethau'r BBC

Am faint ydyn ni’n cadw eich data personol?

Bydd y BBC yn dileu eich data personol i wella gwasanaethau’r BBC fel yr esbonnir ym Mholisi Preifatrwydd y BBC – Am ba mor hir fyddwch chi'n cadw fy ngwybodaeth?


Sut rydym yn diogelu eich data personol?

Rydym wedi ymrwymo’n gryf i gadw eich data personol yn ddiogel.

Er mwyn gwneud hyn, rydym yn casglu dim ond y data sydd ei angen arnom. Mae gennym dimau pwrpasol i wneud yn siŵr bod eich data’n cael ei gadw mor ddiogel â phosib.

Os ydych chi’n poeni bod eich cyfrif Trwydded Deledu, eich cyfrif BBC neu ddata personol arall sydd gan y BBC wedi cael ei beryglu, cysylltwch â ni ar unwaith.

Lle rydym yn storio eich data personol

Rydym yn storio eich data personol ar ein gweinyddion yn y DU.

Weithiau byddwn yn anfon eich data personol yn ddiogel y tu allan i’r DU pan fydd data’n cael ei brosesu ar ein rhan. Er enghraifft, rydym yn gwneud hyn ar gyfer rhai o’n cyfathrebiadau, newidiadau cyfeiriad, a cheisiadau am ad-daliadau. Dim ond os ydym yn fodlon â’r lefelau diogelwch a’r mesurau diogelu sydd ar waith i ddiogelu eich data personol y byddwn yn gwneud hyn.

Gweler adrannau perthnasol y Polisi hwn ar gyfer lleoliad unrhyw ddata rydym yn ei brosesu y tu allan i’r DU a’r mesurau diogelu perthnasol sy’n diogelu eich data personol.

Eich hawliau

Mae gennych hawliau mewn perthynas â’r data personol sydd gennym amdanoch.  Er bod rhai o’r hawliau hyn yn berthnasol yn gyffredinol, dim ond mewn rhai amgylchiadau cyfyngedig y mae rhai hawliau’n berthnasol.  Nid yw rhai yn berthnasol (neu maen nhw’n berthnasol mewn ffordd wahanol) mewn perthynas â data personol sy’n cael ei gadw at ddibenion gorfodi’r gyfraith. Efallai y bydd angen manylion adnabod arnom i wneud yn siŵr mai chi yw chi cyn gallwn weithredu eich cais i arfer eich hawliau.

I gael rhagor o fanylion am eich hawliau, gallwch gysylltu â’n Swyddog Diogelu Data.

Mae esboniad llawn o sut i arfer eich hawliau isod.

Rhagor o wybodaeth am eich hawliau
  • Eich hawl i gael mynediad

Mae gennych hawl i wybod pa ddata personol sydd gennym amdanoch. Os byddwch yn gofyn i ni, byddwn yn cadarnhau a ydym yn prosesu eich data personol ac, os felly, yn rhoi copi o’r data personol hwnnw i chi.

Nid oes rhaid talu i wneud cais fel arfer, ond gallwn godi ffi resymol os yw’r cais yn ailadroddus neu’n afresymol.  Yn gyffredinol, mae’n rhaid i ni ymateb i gais o fewn mis.

  • Eich hawl i wneud cywiriadau (“yr hawl i gywiro”)

Mae gennych hawl i ofyn i ni gywiro unrhyw ddata personol anghywir neu anghyflawn sydd gennym amdanoch chi.

  • Eich hawl i ddileu gwybodaeth (hawl i gael eich anghofio)

Gallwch ofyn i ni ddileu eich data personol mewn rhai amgylchiadau, fel pan nad oes ei angen arnom mwyach. Bydd gennym hawl i gadw lefel sylfaenol o wybodaeth amdanoch er mwyn cyflawni ein swyddogaethau Trwyddedu Teledu yn briodol.

  • Eich hawl i gyfyngu ar brosesu data personol

Mae gennych hawl i ofyn i ni gyfyngu neu atal prosesu eich data personol mewn rhai amgylchiadau. Er enghraifft, os ydych yn anghytuno â chywirdeb y data personol sydd gennym, neu eich bod yn gwrthwynebu i ni ei brosesu.

Efallai y bydd rhesymau pam mae angen i ni barhau i brosesu eich data personol, ac os felly gallwn wrthod eich cais.

Byddwn yn dweud wrthych cyn i ni godi unrhyw gyfyngiad.

  • Eich hawl i gludadwyedd data

Mae gennych hawl i gael gafael ar ddata personol rydych wedi’i roi i ni er mwyn i chi allu ei ailddefnyddio rhywle arall neu i ofyn i ni ei drosglwyddo i drydydd parti o’ch dewis.

  • Eich hawl i wrthwynebu

Gallwch ofyn i ni roi’r gorau i brosesu eich data personol mewn rhai amgylchiadau. Byddwn yn rhoi’r gorau i brosesu eich data personol os ydym yn dibynnu ar ein buddiannau cyfreithlon ein hunain neu fuddiannau cyfreithlon rhywun arall i brosesu eich data personol, oni bai fod gennym sail gyfreithlon gadarn dros barhau i’w brosesu neu fod angen y data am resymau cyfreithiol.

  • Eich hawliau mewn perthynas â gwneud penderfyniadau awtomataidd a phroffilio

Mae gennych hawl i beidio â bod yn destun penderfyniad awtomataidd sy'n seiliedig ar brosesu awtomatig yn unig, sy'n cynhyrchu effaith gyfreithiol neu effaith arwyddocaol debyg. Gallwch ofyn i berson ei adolygu.

  • Eich hawl i gyflwyno cwyn i’r awdurdod goruchwylio

Hoffem helpu i ddatrys unrhyw bryderon neu gwynion sydd gennych. Os hoffech wneud cwyn neu drafod sut rydym yn prosesu eich data personol, gallwch chi gysylltu â’n Swyddog Diogelu Data drwy e-bostio dataprotection.officer@bbc.co.uk.

  • Sut i arfer unrhyw un o’r hawliau hyn

I arfer unrhyw un o’ch Hawliau, e-bostiwch tvl.policy@capita.co.uk neu ysgrifennwch at y Rheolwr Diogelu Data, TV Licensing, Darlington, DL98 1TL.

Os byddwch yn gwneud cais, efallai y byddwn yn dweud wrthych fod angen i ni wirio pwy ydych chi os oes gennym amheuon rhesymol ynghylch pwy ydych chi. Mae gennym hawl i ofyn am wybodaeth resymol a chymesur i gadarnhau pwy ydych chi, ac efallai y byddwn yn oedi cyn delio ag unrhyw gais nes daw’r wybodaeth hon i law.

  • Gofyn cwestiwn neu gwyno am sut rydym yn prosesu eich data personol

Hoffem helpu i ddatrys unrhyw bryderon neu gwynion sydd gennych.  Os hoffech ofyn cwestiwn neu wneud cwyn ynghylch sut rydym yn prosesu eich data personol, cysylltwch â Swyddog Diogelu Data’r BBC drwy e-bostio dataprotection.officer@bbc.co.uk.

Os ydych chi’n dal i boeni am y ffordd rydym wedi delio â’ch data personol, gallwch godi eich pryder gyda Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth – https://ico.org.uk/. Fodd bynnag, mae Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yn argymell eich bod yn ceisio datrys eich ymholiad neu gŵyn gyda ni cyn cysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth os oes modd.


Sut rydym yn defnyddio cwcis a thechnolegau tebyg

I gasglu gwybodaeth am sut rydych yn defnyddio ein cynnyrch a’n gwasanaethau, mae ein gwefannau a’n apiau, fel tvlicensing.co.uk ac Ap TVL Pay, yn casglu ac yn storio gwybodaeth gan ddefnyddio cwcis a thechnolegau tebyg.

Ni allwn ddefnyddio cwcis heb eich caniatâd oni bai eu bod yn “gwbl angenrheidiol”.

I gael gwybodaeth am y defnydd o gwcis a thechnolegau tebyg sy’n berthnasol i gynnyrch a gwasanaethau’r BBC (ar wahân i gynnyrch a gwasanaethau Trwyddedu Teledu’r BBC), edrychwch ar Bolisi Preifatrwydd y BBC – Cwcis.

Beth yw cwcis a thechnolegau tebyg?

Cwcis

Darnau bach o destun yw cwcis sy’n cael eu storio ar eich gliniadur, eich dyfais tabled neu eich ffôn pan fyddwch yn ymweld â gwefan neu’n defnyddio ap. Maen nhw’n cadw darnau o wybodaeth (fel a ydych chi newydd fewngofnodi neu ar ba dudalennau ydych chi newydd edrych) i wneud eich profiad pori yn fwy llyfn. Maen nhw hefyd yn anfon gwybodaeth yn ôl at berchnogion y wefan a/neu’r ap.

Rhagor o wybodaeth am gwcis

Rydym yn defnyddio cwcis i wneud y canlynol:

  • eich adnabod chi, gan ddefnyddio data sy’n nodi cyfrifiaduron neu ddyfeisiau eraill rydych yn eu defnyddio i gysylltu â’r rhyngrwyd, fel eich cyfeiriad Protocol Rhyngrwyd (IP). Mae hyn yn ein helpu i’ch cofio bob tro rydych yn ymweld â’n gwefannau neu’n pori drwyddynt
  • eich mewngofnodi i gyfrif ar-lein
  • eich helpu i wneud taliad
  • eich helpu i wneud newidiadau i'ch manylion banc a'ch manylion cyswllt
  • deall pa fath o ddyfais rydych yn ei defnyddio i’n helpu ni i sicrhau bod ein gwefan yn arddangos yn effeithiol
  • dadansoddi sut mae ein gwefannau’n perfformio, cyfrif faint o ymwelwyr rydym yn eu cael i’n helpu i wella profiad defnyddwyr o’n gwasanaethau ar-lein.

Rydym hefyd yn defnyddio:

  • Storio ar ddyfeisiau, fel dewis arall yn lle cwcis ar gyfer cael gafael ar wasanaethau drwy apiau (yn hytrach na phorwr) i ddarparu’r un swyddogaethau â chwcis ar rai dyfeisiau a gwasanaethau.
  • Technoleg yn ein negeseuon e-bost i ddeall a wnaethoch agor yr e-bost, sawl gwaith y gwnaethoch agor yr e-bost a pha ddyfais roeddech wedi’i defnyddio.

Yn y Polisi hwn byddwn yn cyfeirio at yr holl dechnolegau hyn gyda’i gilydd fel “Cwcis”.

Sut ydyn ni’n eu dosbarthu?

Mae “cwcis parti cyntaf” yn cael eu defnyddio’n uniongyrchol gan y BBC ar ein gwefannau a’n apiau. Dim ond ni sy’n gallu casglu a defnyddio gwybodaeth o’r cwcis hyn.

Mae “cwcis trydydd parti” yn cael eu defnyddio gan sefydliadau eraill fel llwyfannau, asiantaethau cyfryngau a darparwyr trydydd parti.

Er enghraifft negeseuon a baneri ar wefannau trydydd parti, rhwydweithiau cyfryngau cymdeithasol a pheiriannau chwilio. Mae hyn yn ein helpu i sicrhau bod negeseuon Trwyddedu Teledu yn berthnasol ac yn effeithiol.

Mae “cwcis sesiwn” yn para dim ond pan fyddwch yn defnyddio gwefan neu ap. Maen nhw’n rhoi’r gorau i gasglu neu storio data ar ôl i chi roi’r gorau i ddefnyddio gwefan neu ap, neu pan fyddwch yn cau eich porwr.

Mae “cwcis parhaus” yn dal ar waith am gyfnod hyd yn oed ar ôl i chi roi’r gorau i ddefnyddio gwefan neu ap. Mae ganddynt ddyddiad penodol pan fyddant yn rhoi’r gorau i gasglu neu storio data.

Cwcis cwbl angenrheidiol

Rydym yn defnyddio cwcis parti cyntaf cwbl angenrheidiol sy’n darparu nodweddion hanfodol gwefan Trwyddedu Teledu, na fyddant yn gweithio heb gwcis. Er enghraifft, cwcis sydd eu hangen i dalu am eich Trwydded Deledu neu i ddiweddaru’r data personol rydym yn ei storio o dan y Polisi hwn.

Mae’r BBC hefyd yn defnyddio cwcis cwbl angenrheidiol i gydymffurfio â rhwymedigaethau cyfreithiol y BBC o dan ei Siarter Brenhinol, ei gytundeb â’r Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, a’i rheoleiddiwr, Ofcom.

Cwcis perfformiad

Rydym yn defnyddio cwcis swyddogaethol parti cyntaf i’n helpu i wneud y canlynol: 

  • Profi, mesur a gwella perfformiad ein gwefannau 
  • Gwirio effeithiolrwydd ein gwefannau, ein negeseuon ar-lein a’n negeseuon e-bost.

Cwcis swyddogaethol

Rydym yn defnyddio cwcis swyddogaethol parti cyntaf i’n helpu i wneud y canlynol:

  • Cynnal arolygon
  • Gwella eich profiad pori

Cwcis cyfathrebu trydydd parti

Rydym yn defnyddio cwcis trydydd parti i wneud ein negeseuon Trwyddedu Teledu yn fwy perthnasol drwy wneud y canlynol:

  • Peidio â dangos negeseuon ar ddyfeisiau sydd wedi cael eu defnyddio i brynu Trwydded Deledu ar tvlicensing.co.uk
  • Dangos negeseuon ar wefannau trydydd parti, er enghraifft pan fydd dyfais yn cael ei defnyddio i ddechrau prynu Trwydded Deledu yn tvlicensing.co.uk ond heb orffen gwneud hynny. Os caiff dyfais arall ei defnyddio, efallai na fydd yr un defnyddiwr yn cael y neges hon
  • Cyfyngu ar sawl gwaith y bydd dyfais yn dangos negeseuon am Trwyddedu Teledu
  • Gwirio effeithiolrwydd negeseuon Trwyddedu Teledu. Er enghraifft, drwy storio gwybodaeth ynghylch a oedd cwsmer wedi prynu Trwydded Deledu ar ôl clicio neges.
Rhagor o wybodaeth am sut rydym yn dosbarthu cwcis

Cwcis y mae Trwyddedu Teledu’n eu defnyddio

Cwcis cwbl angenrheidiol

Enw’r cwci  Pwrpas Hyd
JSESSIONID Mae’r cwci hwn yn cael ei ddefnyddio i greu dynodwr unigryw (rhif ar hap sy’n benodol i’ch sesiwn ar y wefan) er mwyn i ni allu storio data amdani. Mae’n dod i ben ar ddiwedd eich sesiwn (pan fyddwch yn gadael gwefan Trwyddedu Teledu) ac yn cael ei dynnu oddi ar eich dyfais pan fyddwch yn cau eich porwr. Sesiwn 
SSROUTEID Mae’r cwci hwn yn cael ei ddefnyddio i wneud yn siŵr bod yr holl weithgarwch yn ystod eich ymweliad wedi’i gyfeirio at yr un gweinydd. Mae hyn oherwydd bod ein gwefan yn defnyddio mwy nag un gweinydd. Mae’n dod i ben ar ddiwedd eich sesiwn (pan fyddwch yn gadael gwefan Trwyddedu Teledu) ac yn cael ei dynnu pan fyddwch yn cau eich porwr. Sesiwn 
ROUTEID Mae’r cwci hwn yn cael ei ddefnyddio i wneud yn siŵr bod yr holl weithgarwch yn ystod eich ymweliad wedi’i gyfeirio at yr un gweinydd. Mae’n dod i ben ar ddiwedd eich sesiwn (pan fyddwch yn gadael gwefan Trwyddedu Teledu) ac yn cael ei dynnu pan fyddwch yn cau eich porwr. Sesiwn
TVL-JSESSIONID Mae’r cwci hwn yn cael ei ddefnyddio i greu dynodwr unigryw (rhif ar hap sy’n benodol i’ch sesiwn ar y wefan) er mwyn i ni allu storio data amdani. Mae’n dod i ben ar ddiwedd eich sesiwn (pan fyddwch yn gadael gwefan Trwyddedu Teledu) ac yn cael ei dynnu oddi ar eich dyfais pan fyddwch yn cau eich porwr. Sesiwn 
CSROUTEID Mae’r cwci hwn yn cael ei ddefnyddio i wneud yn siŵr bod yr holl weithgarwch yn ystod eich ymweliad wedi’i gyfeirio at yr un gweinydd. Mae’n dod i ben ar ddiwedd eich sesiwn (pan fyddwch yn gadael gwefan Trwyddedu Teledu) ac yn cael ei dynnu pan fyddwch yn cau eich porwr. Sesiwn 
tvlicensingCookieConsent Mae’r cwci hwn yn cael ei ddefnyddio i ddangos baner i chi y tro cyntaf y bydd porwr eich dyfais yn ymweld â’n gwefan (neu’r tro nesaf y byddwch yn ymweld â’r wefan ar ôl clirio cwcis o’ch porwr). Byddwch yn derbyn naill ai pan fyddwch yn derbyn y faner neu’n parhau i bori drwy’r wefan. Gall y cwci hwn barhau am uchafswm o 400 diwrnod. 400 diwrnod
NSC_WT.CCD.IUUQ.uwmjdfotjoh_443 Mae’r cwci hwn yn cael ei ddefnyddio i sicrhau bod data traffig a defnyddwyr yn cael ei gyfeirio at y lleoliadau cywir lle mae gwefan yn cael ei lletya ar fwy nag un gweinydd, er mwyn i’r defnyddiwr gael profiad cyson. Sesiwn 
incap_ses Mae’r cwci hwn yn cael ei ddefnyddio i gynnal diogelwch a pherfformiad gwefan Trwyddedu Teledu. Mae’n dod i ben ar ddiwedd sesiwn eich porwr. Sesiwn 
visid_incap Mae’r cwci hwn yn cael ei ddefnyddio i gynnal diogelwch a pherfformiad gwefan Trwyddedu Teledu. Gall y cwci hwn barhau am uchafswm o 364 diwrnod. 364 diwrnod
X-Mapping Mae’r cwci hwn yn cael ei ddefnyddio i gadw sesiwn eich porwr yn gyfan ac mae’n cael ei dynnu pan fyddwch yn cau eich porwr. Sesiwn 
_wt.user
_wt.mode
_wt.control
_wt.conversion
Mae’r cwcis Webtrends Optimize hyn yn cael eu defnyddio i sicrhau bod y tudalennau a’r cynnwys sy’n cael eu dangos ar ein gwefan yn gyson i bob defnyddiwr. Maen nhw’n caniatáu i ni brofi a chymharu dyluniadau tudalen amgen er mwyn gwella’r profiad ar wefan Trwyddedu Teledu. Mae’r rhan fwyaf o’r cwcis hyn yn dod i ben ar ddiwedd eich sesiwn (pan fyddwch yn gadael gwefan Trwyddedu Teledu) ac yn cael eu tynnu oddi ar eich dyfais pan fyddwch yn cau eich porwr. Parhaus a Sesiwn (hyd at 90 diwrnod) 
_pcid
_pctx
_pprv
pa_user
Mae Trwyddedu Teledu’n defnyddio Piano Analytics i fonitro sut mae cwsmeriaid yn rhyngweithio â’n gwefannau. Rydym yn dadansoddi’r data hwn i wella perfformiad y wefan a sicrhau ein bod yn darparu’r profiad gorau i bawb sy’n ymweld â’r wefan. Parhaus (395 diwrnod)

Cwcis swyddogaethol

Rhith-gynorthwyydd (LoveAmi)

Mae’r cwcis hyn yn ofynnol er mwyn i ni ddarparu gwasanaeth Rhith-gynorthwyydd Trwyddedu Teledu i ymwelwyr â’r wefan.

Enw’r cwci Pwrpas Hyd
sr-data Mae’r cwci hwn yn cael ei ddefnyddio i adnabod defnyddiwr blaenorol. Gall y cwci hwn barhau am uchafswm o 1 diwrnod. Diwrnod
sr-In Mae’r cwci hwn yn cael ei ddefnyddio i ganfod iaith y porwr.  Diwrnod
sr-cur Mae’r cwci hwn yn cael ei ddefnyddio i adnabod dechrau sesiwn. Sesiwn
sr-tts-muted Mae’r cwci hwn yn cael ei ddefnyddio i adnabod pan fydd defnyddiwr yn lleihau sgwrs. Sesiwn
sr-ec Mae’r cwci hwn yn cael ei ddefnyddio i adnabod pan fydd defnyddiwr yn ymweld â thudalen. Sesiwn
sr-cl Mae’r cwci hwn yn cael ei ddefnyddio i adnabod pan fydd teclyn yn cael ei gau. Sesiwn
sr-lc Mae’r cwci hwn yn cael ei ddefnyddio i adnabod y sgwrs gyntaf. Sesiwn
SrIMin & srMin Mae’r cwci hwn yn cael ei ddefnyddio i adnabod pan fydd teclyn yn cael ei leihau. Sesiwn
sr-bt Mae’r cwci hwn yn cael ei ddefnyddio i adnabod pan fydd y bathodyn Ami yn cael ei glicio. Sesiwn
sr-sea-rdr Mae’r cwci hwn yn cael ei ddefnyddio i adnabod pan fydd tudalen yn cael ei newid yn ystod sgwrs. Sesiwn
sr-act Mae’r cwci hwn yn cael ei ddefnyddio i bennu os na roddir ymateb gan Ami. Sesiwn
srinSe Mae’r cwci hwn yn cael ei ddefnyddio ar gyfer tracio trosi. Sesiwn
AWSALB Mae'r cwci hwn yn cael ei ddefnyddio i anfon gwybodaeth rhwng y gwrthbwysydd llwyth a'r ddyfais i helpu i reoli perfformiad. Gall barhau am uchafswm o 6 diwrnod. 6 diwrnod
sr-li Mae’r cwci hwn yn cael ei ddefnyddio i ddilysu’r dangosfwrdd Ami. Sesiwn
AWSALBCORS Mae’r cwci hwn yn cael ei ddefnyddio i sicrhau sefydlogrwydd perfformiad pan fydd llawer o bobl ar y dudalen neu’n defnyddio Ami ar yr un pryd. Gall barhau am uchafswm o 6 diwrnod. 6 diwrnod

Cwcis perfformiad

Google Analytics

Mae Trwyddedu Teledu’n defnyddio Google Analytics i fonitro sut mae cwsmeriaid yn rhyngweithio â’n gwefannau. Rydym yn dadansoddi’r data hwn i wella perfformiad y wefan a sicrhau ein bod yn darparu’r profiad gorau i bawb sy’n ymweld â’r wefan. Ewch i Google Analytics (yn agor mewn ffenestr newydd) i gael rhagor o fanylion am y mathau o dagiau maen nhw’n eu defnyddio.

Enw’r cwci Pwrpas Hyd
_ga Mae’r cwci hwn yn cael ei ddefnyddio i storio a chyfrif sawl gwaith mae tudalen wedi cael ei gweld. Gall barhau am uchafswm o 391 diwrnod. 391 diwrnod
___utmvc Mae’r cwci hwn yn cael ei ddefnyddio i alluogi Google Analytics i weithio. Sesiwn
_gcl_au Mae’r cwci hwn yn cael ei ddefnyddio i fesur teithiau cwsmeriaid ar y wefan. Mae’n casglu data crynodeb sy’n ein galluogi i nodi pa dudalennau gwe mae ymwelwyr yn ymweld â nhw amlaf neu sawl ymwelydd sy’n cwblhau trafodion, fel prynu trwydded neu newid manylion cwsmeriaid neu drwyddedau, er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau ar-lein. 

Gall y cwci hwn barhau am uchafswm o 90 diwrnod.
90 diwrnod

Contentsquare (Dadansoddiad uwch o wefannau)

Rydym yn defnyddio Contentsquare i’n helpu i ddeall sut mae defnyddwyr yn rhyngweithio â’n gwefan. Mae’n ein galluogi i weld pa gynnwys allai fod yn ddefnyddiol i ddefnyddwyr, ac mae’n ein helpu i nodi problemau o ran defnydd ac i sbarduno gwelliannau i’n gwefan.

Enw’r cwci Pwrpas Hyd
_cs_id Mae’r cwci hwn yn storio data technegol am ddefnyddwyr. 396 diwrnod
_cs_s Mae’r cwci hwn yn storio data ailchwarae sesiwn. Mae’n para am 30 munud. Sesiwn
_cs_c Mae’r cwci hwn yn storio caniatâd defnyddwyr ar ddefnyddio data sesiynau mewn prosesau ailchwarae (heb ei fasgio o’i gymharu â masgio llawn). 396 diwrnod
_cs_cvars Mae’r cwci hwn yn storio’r newidynnau personol wedi’u hamgodio ag URL o’r sesiwn. Sesiwn
_cs_ex Mae’r cwci hwn yn cofnodi pan fydd y defnyddiwr yn cael ei eithrio rhag tracio. 30 diwrnod
_cs_optout Mae’r cwci hwn yn cofnodi pan fydd y defnyddiwr wedi optio allan o dracio.  396 diwrnod
_cs_t Mae’r cwci hwn yn gwirio a yw’r porwr yn gallu delio â chwcis ac yn gosod fflagiau. Mae wedyn yn cael ei dynnu’n syth. Sesiwn
_cs_samesite Mae’r cwci hwn yn gwirio a yw’r porwr yn gallu delio â’r fflag SameSite. Mae wedyn yn cael ei dynnu’n syth. Sesiwn
_cs_root-domain Mae’r cwci hwn yn storio prif enw parth wedi’i amgodio ag URI y wefan. Mae wedyn yn cael ei dynnu’n syth. Sesiwn
_cs_debug Mae’r cwci hwn yn galluogi/analluogi ymddygiad penodol y Tag at ddibenion difa chwilod. Sesiwn
_hjUserAttributesHash Mae’r cwci hwn yn nodi a yw unrhyw briodoledd defnyddiwr wedi newid ac angen ei diweddaru. Sesiwn
_hjUserAttributes Mae’r cwci hwn yn storio priodoleddau defnyddwyr sy’n cael eu hanfon drwy’r API Adnabod. Dim cyfnod dod i ben penodol
_hjClosedSurveyInvites Mae’r cwci hwn yn sicrhau nad yw’r un gwahoddiad yn ailymddangos os yw wedi cael ei ddangos yn barod. Yn cael ei osod pan fydd defnyddiwr yn rhyngweithio â moddol gwahoddiad Arolwg Dolen. 365 diwrnod
_hjDonePolls Mae’r cwci hwn yn sicrhau nad yw’r un arolwg yn ailymddangos os yw wedi cael ei lenwi yn barod. 365 diwrnod
_hjMinimizedPolls Mae’r cwci hwn yn sicrhau bod yr arolwg yn aros wedi’i leihau pan fydd y defnyddiwr yn llywio drwy eich gwefan. Yn cael ei osod pan fydd defnyddiwr yn lleihau arolwg ar y wefan. 365 diwrnod
_hp2_hld Mae’r cwci hwn yn cael ei ddefnyddio i benderfynu ar ba barth y gellir gosod cwci (gan fod parthau ôl-ddodiaid cyhoeddus yn rhwystro gosod cwcis ar y lefel uchaf). Mae wedyn yn cael ei dynnu’n syth. Sesiwn
_hp5_event_props.ENV_ID Mae’r cwci hwn yn cofnodi priodweddau’r digwyddiad. 395 diwrnod
_hp5_meta.ENV_ID Mae’r cwci hwn yn cynnwys yr holl fetaddata sy’n gysylltiedig â defnyddiwr/sesiwn. 395 diwrnod
_cs_mk_aa Mae’r cwci hwn yn sicrhau bod dimensiynau Adobe Analytics ac eVars yn cael eu gosod unwaith bob 30 munud yn unig. Sesiwn
_cs_mk_ga Mae’r cwci hwn yn sicrhau bod dimensiynau Google Analytics ac eVars yn cael eu gosod unwaith bob 30 munud yn unig. Sesiwn
_cs_tld{nnnnnnnnnnnnn}. Mae’r cwcis hyn yn cael eu cynhyrchu ar gyfer integreiddiadau Google Analytics ac Adobe Analytics sy’n helpu i bennu’r prif barth i greu cwcis integreiddio arno. Mae wedyn yn cael ei dynnu’n syth. Sesiwn

Cwcis cyfathrebu trydydd parti

Google Doubleclick

Mae’r cwcis hyn yn cael eu defnyddio i fesur effeithiolrwydd cyfathrebiadau ar-lein Trwyddedu Teledu. Maen nhw’n tracio gweithgarwch ar y wefan ar ôl i’r defnyddiwr weld cyfathrebiadau ar-lein Trwyddedu Teledu (e.e. baneri). Mae Tagiau Floodlight yn cael eu defnyddio ar dudalennau penodol ar wefan Trwyddedu Teledu er mwyn gallu gosod cwcis ar borwr defnyddiwr. Mae’r tagiau hyn yn darllen y data a ddarparwyd gan y cwci Doubleclick “id” a gan gyflenwyr eraill sy’n cael eu gwasanaethu ar wahanol adegau ar ein rhan.

Os byddwch yn mewngofnodi, neu’n gwneud trafodiad ar wefan Trwyddedu Teledu, mae’n bosib y bydd y data sy’n cael ei gasglu yn cael ei gyfateb yn ôl i gronfa ddata Trwyddedu Teledu at ddibenion dadansoddi. Rydym yn dadansoddi teithiau cwsmeriaid fel hyn er mwyn ein helpu i wella profiad ar-lein ein cwsmeriaid.

Gall y cwcis hyn barhau am uchafswm o 390 diwrnod.

Enw’r cwci Hyd
__Secure-3PSIDCC 365 diwrnod
__Secure-1PSIDCC 365 diwrnod
SIDCC 365 diwrnod
__Secure-3PAPISID 390 diwrnod
SAPISID 390 diwrnod
APISID 390 diwrnod
__Secure-1PAPISID 390 diwrnod
HSID 390 diwrnod
SSID 390 diwrnod
__Secure-3PSID 390 diwrnod
__Secure-1PSID 390 diwrnod
SID 390 diwrnod
.DDMMUI-PROFILE 7 diwrnod
1P_JAR 30 diwrnod
NID 183 diwrnod
AEC 170 diwrnod
SEARCH_SAMESITE 170 diwrnod
__Secure-ENID 386 diwrnod
OGPC 20 diwrnod
IDE 388 diwrnod
DSID 6 diwrnod
XSRF-TOKEN Sesiwn

Cwcis cyfathrebu ar-lein eraill

Rydym yn defnyddio’r cwcis canlynol i’n galluogi i fesur perfformiad ein cyfathrebiadau ar-lein.

Meta

Enw’r cwci Pwrpas Hyd
sb Mae’r cwci hwn yn cael ei ddefnyddio gan Facebook i storio manylion porwr. 397 diwrnod
datr Mae’r cwci hwn yn cael ei ddefnyddio i adnabod y porwr gwe sy’n cael ei ddefnyddio i gysylltu â Facebook, yn annibynnol ar y defnyddiwr sydd wedi mewngofnodi. 391 diwrnod
dpr Mae’r cwci hwn yn cael ei ddefnyddio gan Facebook i storio manylion porwr. 4 diwrnod
wd Mae’r cwci hwn yn cael ei ddefnyddio gan Facebook i storio dimensiynau ffenestr y porwr ac i optimeiddio rendrad y dudalen. 7 diwrnod
_fbp Mae’r cwci hwn yn cael ei ddefnyddio gan Facebook i ddarparu cyfres o gynnyrch hysbysebu fel cynigion amser real gan hysbysebwyr trydydd parti. 90 diwrnod

Xandr

Enw’r cwci Pwrpas Hyd
uuid2
Mae’r cwcis hyn yn cael eu defnyddio i’n helpu i ddeall a gwella teithiau cwsmeriaid, ac i deilwra cyfathrebiadau i ddyfeisiau sy’n cael eu defnyddio i gael mynediad at wefannau a pheiriannau chwilio trydydd parti ar ôl gadael gwefan Trwyddedu Teledu. 

Rydym yn gwneud hyn drwy fesur a yw dyfais defnyddiwr:
 
  • Yn gwneud trafodiad (e.e. wedi prynu trwydded neu wedi diweddaru manylion y drwydded) 
  • Yn gadael y wefan heb gwblhau trafodiad 
  • Yn gweld ac yn rhyngweithio â thudalennau penodol ar wefan Trwyddedu Teledu ar ôl gweld cyfathrebiad ar-lein Trwyddedu Teledu (e.e. baner)
90 diwrnod
anj 90 diwrnod

Amazon

Enw’r cwci Pwrpas Hyd
ad-id
Mae’r cwcis hyn yn cael eu defnyddio i ddeall / gwella teithiau cwsmeriaid, ac i deilwra cyfathrebiadau i ddyfeisiau sy’n cael eu defnyddio i gael mynediad at wefannau a pheiriannau chwilio trydydd parti ar ôl gadael gwefan Trwyddedu Teledu. 
 
Rydym yn gwneud hyn drwy fesur a yw dyfais defnyddiwr:
 
  • Yn gwneud trafodiad (e.e. wedi prynu trwydded neu wedi diweddaru manylion y drwydded) 
  • Yn gadael y wefan heb gwblhau trafodiad
  • Yn gweld ac yn rhyngweithio â thudalennau penodol ar wefan Trwyddedu Teledu ar ôl gweld cyfathrebiad ar-lein Trwyddedu Teledu (e.e. baner)
206 diwrnod
ad-privacy 400 diwrnod

Yahoo

Enw’r cwci Pwrpas Hyd
IDSYNC
Mae’r cwcis hyn yn cael eu defnyddio i’n helpu i ddeall a gwella teithiau cwsmeriaid, ac i deilwra cyfathrebiadau i ddyfeisiau sy’n cael eu defnyddio i gael mynediad at wefannau a pheiriannau chwilio trydydd parti ar ôl gadael gwefan Trwyddedu Teledu. 

Rydym yn gwneud hyn drwy fesur a yw dyfais defnyddiwr:
 
  • Yn gwneud trafodiad (e.e. wedi prynu trwydded neu wedi diweddaru manylion y drwydded)
  • Yn gadael y wefan heb gwblhau trafodiad
  • Yn gweld ac yn rhyngweithio â thudalennau penodol ar wefan Trwyddedu Teledu ar ôl gweld cyfathrebiad ar-lein Trwyddedu Teledu (e.e. baner)
329 diwrnod
tbla_id 329 diwrnod
A3 365 diwrnod
A1 329 diwrnod

Teads

Enw’r cwci Pwrpas Hyd
ar_debug
Mae’r cwcis hyn yn cael eu defnyddio i’n helpu i ddeall a gwella teithiau cwsmeriaid, ac i deilwra cyfathrebiadau i ddyfeisiau sy’n cael eu defnyddio i gael mynediad at wefannau a pheiriannau chwilio trydydd parti ar ôl gadael gwefan Trwyddedu Teledu.

Rydym yn gwneud hyn drwy fesur a yw dyfais defnyddiwr:
 
  • Yn gwneud trafodiad (e.e. wedi prynu trwydded neu wedi diweddaru manylion y drwydded)
  • Yn gadael y wefan heb gwblhau trafodiad
  • Yn gweld ac yn rhyngweithio â thudalennau penodol ar wefan Trwyddedu Teledu ar ôl gweld cyfathrebiad ar-lein Trwyddedu Teledu (e.e. baner)
396 diwrnod
tt_viewer 396 diwrnod

Snapchat

Enw’r cwci Pwrpas Hyd
_scid
Mae’r cwcis hyn yn cael eu defnyddio i’n helpu i ddeall a gwella teithiau cwsmeriaid, ac i deilwra cyfathrebiadau i ddyfeisiau sy’n cael eu defnyddio i gael mynediad at wefannau a pheiriannau chwilio trydydd parti ar ôl gadael gwefan Trwyddedu Teledu.

Rydym yn gwneud hyn drwy fesur a yw dyfais defnyddiwr: 
 
  • Yn gwneud trafodiad (e.e. wedi prynu trwydded neu wedi diweddaru manylion y drwydded) 
  • Yn gadael y wefan heb gwblhau trafodiad 
  • Yn gweld ac yn rhyngweithio â thudalennau penodol ar wefan Trwyddedu Teledu ar ôl gweld cyfathrebiad ar-lein Trwyddedu Teledu (e.e. baner)
384 diwrnod
_scid_r 396 diwrnod
sc_at 341 diwrnod
_sctr 365 diwrnod

BING

Enw’r cwci Pwrpas Hyd
MUID
Mae’r cwcis hyn yn cael eu defnyddio i’n helpu i ddeall a gwella teithiau cwsmeriaid, ac i deilwra cyfathrebiadau i ddyfeisiau sy’n cael eu defnyddio i gael mynediad at wefannau a pheiriannau chwilio trydydd parti ar ôl gadael gwefan Trwyddedu Teledu.

Rydym yn gwneud hyn drwy fesur a yw dyfais defnyddiwr: 
 
  • Yn gwneud trafodiad (e.e. wedi prynu trwydded neu wedi diweddaru manylion y drwydded) 
  • Yn gadael y wefan heb gwblhau trafodiad 
  • Yn gweld ac yn rhyngweithio â thudalennau penodol ar wefan Trwyddedu Teledu ar ôl gweld cyfathrebiad ar-lein Trwyddedu Teledu (e.e. baner)
387 diwrnod
SRCHD 390 diwrnod
SRCHHPGUSR 390 diwrnod
SRCHUID 390 diwrnod
SRCHUSR 390 diwrnod
SUID 1 diwrnod
_SS 0 diwrnod

YouTube (Google)

Mae’r cwcis hyn yn ein galluogi i blannu fideos ar ein gwefan sy’n cael eu lletya ar ein sianel YouTube – TV Licensing. Maen nhw’n caniatáu i Google fesur a thracio sut mae defnyddwyr yn defnyddio eu gwasanaethau, a dangos cyfathrebiadau ar-lein wedi’u targedu.

Enw’r cwci Pwrpas Hyd
CONSENT Mae’r cwcis hyn yn cael eu defnyddio gan YouTube (Google) i gasglu data defnyddwyr drwy fideos sydd wedi’u plannu ar wefannau, sy’n cael eu cyfuno â data proffil o wasanaethau eraill Google er mwyn dangos cyfathrebiadau ar-lein wedi’u targedu i ymwelwyr â’r we ar draws ystod eang o’u gwefannau eu hunain a gwefannau eraill. 729 diwrnod
YSC 0 diwrnod
VISITOR_INFO1_LIVE Mae’r cwcis hyn yn cael eu defnyddio gan YouTube (Google) i dracio lefelau gwylio fideos. 179 diwrnod

TikTok

Mae’r cwcis hyn yn ein galluogi i fesur perfformiad ein cyfathrebiadau ar-lein.

Enw’r cwci Pwrpas Hyd
_ttp
Mae’r cwcis hyn yn cael eu defnyddio i’n helpu i ddeall a gwella teithiau cwsmeriaid, ac i deilwra cyfathrebiadau i ddyfeisiau sy’n cael eu defnyddio i gael mynediad at wefannau a pheiriannau chwilio trydydd parti ar ôl gadael gwefan Trwyddedu Teledu.

Rydym yn gwneud hyn drwy fesur a yw dyfais defnyddiwr:
 
  • Yn gwneud trafodiad (e.e. wedi prynu trwydded neu wedi diweddaru manylion y drwydded)
  • Yn gadael y wefan heb gwblhau trafodiad
  • Yn gweld ac yn rhyngweithio â thudalennau penodol ar wefan Trwyddedu Teledu ar ôl gweld cyfathrebiad ar-lein Trwyddedu Teledu (e.e. baner)
Gall y cwci hwn barhau am uchafswm o 390 diwrnod.
390 diwrnod
Technolegau tracio eraill

Cyfeiriadau Protocol Rhyngrwyd

Mae gwybodaeth dechnegol amdanoch hefyd yn cael ei chasglu drwy ddefnyddio cyfeiriadau Protocol Rhyngrwyd (IP). Mae cyfeiriad IP yn rhif sydd wedi’i neilltuo i’ch cyfrifiadur gan eich Darparwr Gwasanaeth Rhyngrwyd (ISP) er mwyn i chi gael mynediad i’r Rhyngrwyd.

Yn y rhan fwyaf o achosion, mae cyfeiriad IP yn ddeinamig (sy'n golygu ei fod yn newid o bryd i'w gilydd wrth i chi gysylltu â'r Rhyngrwyd), yn hytrach na statig (yn unigryw i gyfrifiadur defnyddiwr penodol). Rydym yn cofnodi cyfeiriad IP unrhyw ddefnyddiwr sy’n ymweld â’r wefan, yn bennaf i dracio lleoliad a deall sut mae pobl yn rhyngweithio â’n gwefan. Efallai y bydd cyfeiriad IP, ynghyd ag allweddi Webtrends, hefyd yn cael eu defnyddio mewn amgylchiadau eithriadol i nodi cwsmeriaid y gallai digwyddiad diogelwch fod wedi effeithio arnynt.

Rheoli cwcis drwy osodiadau eich porwr neu eich ffôn

I weld y cwcis sydd wedi cael eu storio ar eich cyfrifiadur neu eich dyfais symudol, edrychwch ar osodiadau eich porwr.

Os ydych am ddileu neu wrthod pob cwci, gallwch addasu eich porwr fel ei fod yn rhoi gwybod i chi pan fyddant yn cael eu hanfon ato, neu gallwch wrthod cwcis yn gyfan gwbl. Gallwch hefyd ddileu cwcis sydd wedi’u gosod yn barod.

Os byddwch yn gosod eich porwr i wrthod pob cwci, gallwch bori ein gwefannau a’n apiau o hyd, ond ni fydd rhai nodweddion pwysig ar gael i chi. Er enghraifft, ni fyddwch yn gallu talu am eich Trwydded Deledu na diweddaru’r data personol rydym yn ei storio. Byddwch yn dal i weld negeseuon ar wefannau trydydd parti a rhwydweithiau cyfryngau cymdeithasol, ond efallai na fyddant yn berthnasol i chi.

Rheoli cwcis drwy eich porwr gwe

Fel arfer, gallwch reoli pob cwci drwy eich porwr gwe. Fel arfer, gallwch ddod o hyd i'r gosodiadau hyn yn newislen Opsiynau neu Ddewisiadau eich porwr.

I ddeall y gosodiadau hyn, gall y dolenni canlynol fod yn ddefnyddiol, neu gallwch ddefnyddio'r opsiwn Help yn eich porwr i gael rhagor o fanylion.

Porwr Cymorth
Google Chrome https://support.google.com/chrome/answer/95647?hl=en
Firefox https://support.mozilla.org/en-US/kb/clear-cookies-and-site-data-firefox
Safari https://support.apple.com/en-gb/guide/safari/sfri11471/mac
Safari iOS https://support.apple.com/en-us/HT201265
Android https://support.google.com/chrome/answer/95647?hl=en&co=GENIE.Platform%3Dandroid&oco=1
Internet Explorer https://support.microsoft.com/en-gb/help/17442/windows-internet-explorer-delete-manage-cookies
Microsoft Edge https://support.microsoft.com/en-gb/help/4027947/microsoft-edge-delete-cookies

Neu, ewch i www.aboutcookies.org sy’n cynnwys cyfarwyddiadau cynhwysfawr ar gyfer amrywiaeth eang o borwyr.

Rheoli cwcis drwy eich ffôn neu eich dyfais tabled

I reoli cwcis drwy eich ffôn neu eich dyfais tabled, ewch i’r ardal preifatrwydd yng ngosodiadau eich dyfais.


Newidiadau i’r Polisi hwn

Byddwn yn diweddaru’r Polisi hwn o bryd i’w gilydd i adlewyrchu unrhyw newidiadau i’n defnydd o’ch data personol.

Efallai y byddwn hefyd yn gwneud newidiadau yn ôl yr angen i gydymffurfio â newidiadau yn y gyfraith berthnasol neu ofynion rheoleiddio.

Os byddwn yn gwneud unrhyw newidiadau sylweddol, byddwn yn rhoi gwybod i chi am newidiadau o’r fath. Gall hyn fod drwy gyfathrebu fel ar ein gwefan, drwy e-bost, yn y wasg neu drwy’r post.

Rydym yn eich annog i adolygu’r Polisi hwn o bryd i’w gilydd i gael gwybod sut rydym yn defnyddio eich data personol.

Cyhoeddwyd: 07/11/2024

Fersiwn: 01