dcsimg

Beth i'w wneud os nad oes arnoch angen Trwydded Deledu

View in English
Woman giving advice to a man
 
Talk about it
Efallai y byddwch eisiau i rywun rydych yn ei adnabod edrych ar hyn gyda chi, er mwyn gallu ei drafod.

No device icon

Cofiwch, does arnoch ddim angen Trwydded Deledu os:

  • nid ydych yn gwylio unrhyw sianel teledu, fel BBC, ITV, Channel 4, U&Dave a sianeli rhyngwladol
  • nid ydych yn gwylio teledu ar unrhyw wasanaeth talu, fel Sky, Virgin Media a EE TV
  • nid ydych yn gwylio teledu byw unrhyw wasanaethau ffrydio, fel YouTube a Amazon Prime Video
  • nid ydych yn defnyddio BBC iPlayer

Mae hyn yn cynnwys recordio a lawr lwytho ar unrhyw ddyfais.

Does arnoch ddim angen Trwydded Deledu chwaith os yw eich cartref yn wag ac nad oes neb yn byw yno.

contact us icon

Os nad oes arnoch angen trwydded, rhowch wybod i ni.

Gallwch:

  • ddweud wrthym ar y wefan yma
  • siarad â ni ar 0300 790 6114*
  • ysgrifennu atom yn TV Licensing, Darlington DL98 1TL.

Unwaith y byddwch yn dweud wrthym nad oes arnoch angen Trwydded Deledu, byddwn yn rhoi’r gorau i anfon llythyrau atoch.  Bydd eich cadarnhad dim angen trwydded yn rhoi gwybod i chi am ba mor hir y bydd yn para.

Yna byddwn yn cysylltu â chi eto i wirio nad oes ei angen arnoch o hyd trwydded.


Pam mae angen i chi ddweud wrthym:

Efallai y byddwn yn anfon swyddog i’ch cartref oherwydd, os na fyddwch yn cael Trwydded Deledu pan fydd arnoch angen un, fe fyddwch yn torri'r gyfraith. Mae hyn yn golygu y gallech orfod mynd i’r llys ac fe allech gael dirwy. Gallai’r ddirwy fod hyd at £1,000. Yn Guernsey, gall y ddirwy fod hyd at £2,000.

*Nid yw galwadau i’n rhifau 0300 yn costio dim mwy na galwad ar gyfradd genedlaethol i rif 01 neu 02, boed o ffôn symudol neu linell dir. Os ydych yn cael munudau cynhwysol, bydd galwadau i rif 0300 yn cael eu cynnwys yn rhad ac am ddim.