dcsimg

Sut i ddiweddaru eich manylion banc neu wybodaeth bersonol

View in English
Man updating his details on the TV Licensing website

Mae’n bwysig bod ein cofnodion yn cael eu diweddaru. Felly, os oes unrhyw newidiadau i’ch manylion banc neu wybodaeth arall amdanoch chi, dyma sut i roi gwybod i ni.

Credit/debit card icon

Sut i ddiweddaru eich manylion banc:

Gallwch newid eich manylion banc ar y wefan yma. Hefyd, os ydych yn talu am eich trwydded trwy Ddebyd Uniongyrchol, gallwch newid y diwrnod y bydd taliadau’n cael eu casglu o’ch cyfrif.

I ddiweddaru eich manylion banc, bydd angen i chi roi gwybod:

  • rhif eich Trwydded Deledu
  • eich enw olaf
  • eich côd post
  • y manylion banc sy gennym ar eich cyfer (rhif y cyfrif banc a chôd didoli).
Ddim yn gwybod rhif eich trwydded?

Bank details update checklist

Sut i ddiweddaru eich gwybodaeth bersonol:

Gallwch newid manylion eraill amdanoch ar y wefan yma. Pethau fel:

  • eich enw
  • y cyfeiriad ar eich Trwydded Deledu
  • y cyfeiriad y gallwn ysgrifennu atoch
  • eich cyfeiriad e-bost
  • eich rhif ffôn
  • sut hoffech dderbyn eich trwydded.

Bydd arnoch angen eich Trwydded Deledu i wneud hyn.

Ddim yn gwybod rhif eich trwydded?


laptop

Clywed gennym trwy e-bost, yn hytrach na thrwy’r post

Gallwch newid sut rydych eisiau clywed gennym. Pan ddaw’n adeg adnewyddu eich trwydded, gallwn anfon llythyrau atgoffa atoch trwy e-bost yn hytrach nag anfon llythyrau drwy’r post.

Gallwch ddewis cael Trwydded Deledu ddi-bapur hefyd. Mae hyn yn golygu y byddwn yn anfon e-bost atoch pan fydd eich Trwydded Deledu yn adnewyddu, yn hytrach nag anfon trwydded bapur yn y post.

Dysgwch sut i newid i Drwydded Deledu ar lein yn hytrach na Thrwydded Deledu bapur.


question mark icon

A oes arnoch angen rhagor o gymorth? Gallwch siarad ag un o’n cynghorwyr ar 0300 790 6114*.

*Nid yw galwadau i’n rhifau 0300 yn costio dim mwy na galwad ar gyfradd genedlaethol i rif 01 neu 02, boed o ffôn symudol neu linell dir. Os ydych yn cael munudau cynhwysol, bydd galwadau i rif 0300 yn cael eu cynnwys yn rhad ac am ddim.