dcsimg

Sut i symud Trwydded Deledu i gartref newydd

View in English
Couple on a laptop in a new home
Talk about it
Efallai y byddwch eisiau i rywun rydych yn ei adnabod edrych ar hyn gyda chi, er mwyn gallu ei drafod.

moving house icon

Sut i symud Trwydded Deledu i gartref newydd:

Pan fyddwch yn symud tŷ, fydd eich Trwydded Deledu ddim yn symud gyda chi yn awtomatig. Felly, bydd angen i chi ddiweddaru eich trwydded gyda manylion eich cyfeiriad newydd.

I wneud hyn, bydd angen i chi:

  • Fewngofnodi i’n gwefan gan ddefnyddio rhif eich Trwydded Deledu. Bydd angen i chi roi eich enw olaf hefyd a’r côd post sydd ar eich Trwydded Deledu.
  • Dilynwch y camau y byddwch yn eu cael pan fyddwch wedi mewngofnodi.

Ddim yn gwybod rhif eich trwydded?

Gallwch roi gwybod i ni eich bod yn symud hyd at 3 mis cyn symud.

elderly person with carer icon

Beth i’w wneud os ydych yn symud i gartref gofal preswyl:

Os byddwch yn symud i gartref gofal, lle byddwch yn byw gyda phobl eraill a staff i ofalu amdanoch, fe all eich Trwydded Deledu gostio £7.50 am flwyddyn yn unig.

Gofynnwch i’r person â chyfrifoldeb am y cartref wneud cais am Drwydded Deledu i chi.