dcsimg

Sut i ganslo Trwydded Deledu a gofyn am ad-daliad

View in English
Two people talking
 
Talk about it
Efallai y byddwch eisiau i rywun rydych yn ei adnabod edrych ar hyn gyda chi, er mwyn gallu ei drafod.

No device icon

Mae yna ychydig o resymau pam y byddai angen i chi ganslo eich Trwydded Deledu:

  • Fyddwch chi ddim yn gwylio neu'n recordio teledu byw ar unrhyw sianel neu ddyfais a fyddwch chi ddim yn lawrlwytho neu'n gwylio rhaglenni'r BBC ar BBC iPlayer erbyn hyn.
  • Rydych yn symud i gyfeiriad sydd â Thrwydded Deledu yn barod.
  • Rydych yn symud i gartref gofal.
  • Rydych yn symud dramor.
  • Mae deiliad y drwydded wedi marw.
  • Mae gennych ddwy drwydded ar gyfer yr un cyfeiriad.

Os ydych yn talu am eich trwydded gyda cherdyn talu Trwyddedu Teledu (cynllun arian parod), ffoniwch 0300 555 0286*.

Os ydych yn talu am eich trwydded trwy Ddebyd Uniongyrchol, ffoniwch 0300 790 0368*.

Dyma'r amseroedd y gallwch ffonio:

Llun i Gwener: 08:30 tan 18:30
Dydd Sadwrn, Sul a gwyliau cyhoeddus: ar gau

refund icon

Sut i ofyn am ad-daliad:

Mae’n bosib y byddwch yn gallu cael ad-daliad ar eich Trwydded Deledu os na fydd arnoch ei hangen eto cyn iddi ddod i ben, a bod o leiaf un mis cyfan ar ôl arni.

Os ydych yn talu am eich trwydded gyda cherdyn talu Trwyddedu Teledu (cynllun arian parod), ffoniwch 0300 555 0286*.

Os ydych yn talu am eich trwydded trwy Ddebyd Uniongyrchol, ffoniwch 0300 790 0368*.

Dyma'r amseroedd y gallwch ffonio:

Llun i Gwener: 08:30 tan 18:30
Dydd Sadwrn, Sul a gwyliau cyhoeddus: ar gau

*Nid yw galwadau i’n rhifau 0300 yn costio dim mwy na galwad ar gyfradd genedlaethol i rif 01 neu 02, boed o ffôn symudol neu linell dir. Os ydych yn cael munudau cynhwysol, bydd galwadau i rif 0300 yn cael eu cynnwys yn rhad ac am ddim.