dcsimg

Telerau ac Amodau

 

Ynghylch eich Trwydded Deledu

Mae’r drwydded yma’n gadael i chi ddefnyddio a gosod offer derbyn teledu yn y lle trwyddedig. Rydych wedi’ch trwyddedu i:

  • wylio a recordio rhaglenni wrth iddyn nhw gael eu dangos ar deledu neu’n fyw ar wasanaeth teledu ar lein, gan gynnwys rhaglenni wedi’u ffrydio dros y rhyngrwyd a rhaglenni lloeren o’r tu allan i’r Deyrnas Unedig, a
  • gwylio a lawrlwytho rhaglenni’r BBC ar alw, gan gynnwys teledu dal i fyny, ar BBC iPlayer.

Gall hyn fod ar unrhyw ddyfais, gan gynnwys setiau teledu, cyfrifiaduron bwrdd gwaith, gliniaduron, ffonau symudol, tabledi, consolau gemau, bocsys digidol, peiriannau recordio DVD, Blu-ray a VHS, neu unrhyw beth arall.

Fe allwch chi ac unrhyw un sydd fel arfer yn byw yma gyda chi:

  • Ddefnyddio a gosod offer derbyn teledu yma yn y lle trwyddedig.
  • Defnyddio a gosod offer derbyn teledu mewn cerbydau, cychod a charafanau (ac eithrio carafanau nad ydynt yn rhai teithiol pan fydd rhywun yn gwylio neu’n recordio’r teledu yn y lle trwyddedig).
  • Defnyddio offer derbyn teledu yn unrhyw le ar unrhyw ddyfais sy’n rhedeg yn gyfan gwbl ar ei batrïau mewnol ei hun.

Fe allwch chi ac unrhyw un sydd fel arfer yn gweithio yma gyda chi:

  • Ddefnyddio a gosod offer derbyn teledu yma yn y lle trwyddedig.
  • Defnyddio a gosod offer derbyn teledu mewn cerbydau, cychod neu garafanau am esymau busnes.

Nid yw’r drwydded yma’n trwyddedu mannau lle mae tenantiaid, lojars neu westeion sy’n talu yn preswylio yno’n unig. Mae’n bosib hefyd na fydd y drwydded yn trwyddedu mannau hunangynhwysol, mannau gyda threfniadau cyfreithiol ar wahân neu fannau mewn safleoedd busnes sy’n cael eu defnyddio am reswm gwahanol. Cysylltwch â ni i gael gwybod mwy.

Amodau eraill

Gallwn ganslo neu newid eich trwydded. Os byddwn yn ei chanslo, fe wnawn ni roi gwybod i chi. Os byddwn yn newid amodau’r drwydded, byddwn yn cyhoeddi hysbysiad cyffredinol ar wefan y BBC ac, os byddwn yn ystyried hynny’n briodol, mewn cyfryngau cenedlaethol eraill. Gall ein Swyddogion ymweld i edrych ar ein cofnodion ac archwilio eich offer derbyn teledu. Does dim rhaid i chi adael iddyn nhw ddod i mewn. Rhaid i’ch offer derbyn teledu beidio ag achosi ymyriant afresymol i dderbyniad radio neu deledu.

Hyd yn oed os oes gennych deledu du a gwyn, mae arnoch angen trwydded lliw i recordio unrhyw deledu byw neu lawrlwytho rhaglenni’r BBC ar BBC iPlayer. Cysylltwch â ni i gael gwybod mwy.