Mae yna dros 24.8 miliwn o drwyddedau mewn grym a’n nod yw darparu gwasanaeth da i’n cwsmeriaid i gyd. Lle ceir problem, rydym yn dibynnu ar adborth gan ein cwsmeriaid i geisio unioni pethau cyn gynted â phosib a gwella ein gwasanaethau. Mae sicrhau bod ein proses gwynion yn delio â phryderon ein cwsmeriaid yn bwysig iawn i ni, a dyna pam fod gan ein proses gwyno ardystiad ISO10002.
Sut i gyflwyno cwyn |
---|
Cam 1a: Os hoffech wneud cwyn, gwnewch gais trwy lythyr at y cyfeiriad perthnasol isod, neu defnyddiwch ein Ffurflen cysylltu â ni a nodi "Cwyn" o fewn eich cwestiwn. |
Cwyn gyffredinol
Customer Relations |
Cwyn am gynllun cerdyn talu Trwyddedu Teledu
Payment Card Customer Relations |
Cwyn am gynllun cerdyn cynilo Trwyddedu Teledu
TSC Customer Relations |
Cwynion am raglenniAr gyfer cwynion am un o raglenni’r BBC, cysylltwch â:
BBC Complaints Ffôn: 03700 100 222 Os hoffech gwyno am raglenni ar sianeli eraill, cysylltwch â’r darlledwr perthnasol yn uniongyrchol. |
Problemau/cwynion am dderbyniad |
---|
Am help gyda phroblemau derbyniad, cysylltwch â Chyngor Derbyniad y BBC yn:
BBC Reception Advice Ffôn: 03700 100 123 Gwefan: www.bbc.co.uk/reception Angen mwy o gymorth neu gyngor? Edrychwch ar ein tudalen Derbyniad teledu a radio. |
Os nad ydych yn fodlon â’ch ymateb |
---|
Cam 1b: Ysgrifennwch at y Cyfarwyddwr Gweithrediadau yn:
TV Licensing Bydd y Cyfarwyddwr Gweithrediadau yn adolygu’ch cwyn wreiddiol a’r ymateb iddi ac yn sicrhau bod ymchwiliad priodol wedi bod i’r mater. Os nad ydych yn fodlon â’r ymateb hwn, ewch i gam 2. |
Sylwch nes y rhoddir rhybudd pellach, dylid anfon pob gohebiaeth cwynion at Gyfarwyddwr Rheoli Refeniw’r BBC at Drwyddedu Teledu yn Darlington. Lle mae’n bosib, rydym yn eich annog i gynnwys cyfeiriad e-bost er mwyn osgoi oedi ychwanegol. Cam 2: Ysgrifennwch at Gyfarwyddwr Rheoli Refeniw’r BBC yn:
Director of Revenue and Customer Management Dylech gysylltu â’r Cyfarwyddwr Rheoli Refeniw o fewn 20 diwrnod gwaith o’r dyddiad y cawsoch yr ymateb yng Ngham 1b. Bydd y BBC yn adolygu pob gohebiaeth am eich cwyn ac yn gofyn i Drwyddedu Teledu esbonio’r camau a gymerwyd. Byddant yn barnu a oedd y camau hyn yn ddigonol ac a oedd Trwyddedu Teledu wedi gweithredu’n briodol. Nod y BBC yw ateb cwynion cymhleth o fewn 35 diwrnod gwaith. Mae’r BBC yn anelu at ateb cwynion cymhleth o fewn 35 diwrnod gwaith. Os nad ydych yn fodlon a’r ateb hwn, ewch i gam 3. |
Cam 3: Ysgrifennwch yn ôl at Gyfarwyddwr Rheoli Refeniw’r BBC yn:
Director of Revenue and Customer Management Bydd ymateb y Cyfarwyddwr Rheoli Refeniw yn cynnwys gwybodaeth am beth i’w wneud os ydych am fynd â'ch pryderon ymhellach. Yn dibynnu ar natur eich cwyn, gallwch gael eich cyfeirio gan y Cyfarwyddwr Rheoli Refeniw i’r Uned Cwynion Golygyddol (ECU) neu efallai y gofynnir i chi atgyfeirio i’r Ombwdsman. |
Os nad ydych yn fodlon â’ch ateb |
---|
Cyfeirio cwyn at yr OmbwdsmanOs byddwch yn parhau’n anfodlon â’r ffordd yr ymdriniwyd â’ch cwyn yn dilyn ymateb gan Cyfarwyddwr Rheoli Refeniw dros y BBC, gallwch gyfeirio’r mater at gynllun datrys anghydfod annibynnol. Mae’r BBC wedi dewis Dispute Resolution Ombudsman, sy’n annibynnol ar y BBC, i adolygu cwynion Trwyddedu Teledu lle’r ydym wedi methu eu datrys yn uniongyrchol â’r achwynydd. Ar ôl dihysbyddu trefn gwyno’r BBC, erbyn hyn gallwch gyfeirio eich achos at yr Ombwdsman ar gyfer eu hystyriaeth. Isod mae’r manylion cyswllt angenrheidiol;
Dispute Resolution Ombudsman 0333 241 3209
Cyfeirio cwyn at yr Uned Cwynion Golygyddol (ECU)Ni all yr ECU ond ystyried cwynion am bolisïau’r BBC sy’n rheoli’r fframwaith y mae Trwyddedu Teledu yn gweithredu oddi mewn iddo (na all yr Ombwdsman ei ystyried). Rhaid i chi gysylltu â’r ECU o fewn 20 diwrnod gwaith i’r dyddiad y cawsoch yr ymateb yng Ngham 2. Bydd yr ECU yn ceisio ateb cwynion cymhleth o fewn 35 diwrnod gwaith. Ble na all y BBC ymchwilioMae’n bosib na fydd ymchwiliad i’ch cwyn os ystyrir ei bod yn flinderus, ailadroddus neu os ymchwiliwyd iddi o’r blaen. |