Gallwch hefyd lawrlwytho eich rhestr wirio prifysgol:
Rhestr wirio’r brifysgol (PDF 234KB yn agor mewn ffenestr newydd)
Cofio’r pethau defnyddiol ar gyfer blwyddyn i’w chofio.
Mae symud i’r brifysgol yn gyffrous, ond gyda chymaint yn digwydd mae’n hawdd anghofio ambell beth. Er mwyn helpu i wneud y symud mawr mor ddidrafferth â phosib, dyma rai eitemau defnyddiol i’w pacio (pob un wedi’i argymell gan fyfyrwyr) – a phethau i’w gwneud pan fyddwch yn cyrraedd y campws.
Y gegin:
Cyllyll a ffyrc, platiau, powlenni, mygiau a gwydrau
Sosbenni, cyllyll cegin a byrddau torri
Tupperware ar gyfer bwyd dros ben
Blendiwr bach (grêt ar gyfer brecwast cyflym pan ydych wedi cysgu’n hwyr)
Stash o fyrbrydau ar gyfer eich stafell
Stafell wely:
Cwpl o setiau duvet a blancedi
Basged neu fag golchi dillad
Deunydd ysgrifennu a llyfrau nodiadau
Charger ffôn sbâr a batris
Clustffonau
Gliniadur (a bacpac i’w gario o gwmpas y campws)
Monitor ychwanegol i wylio teledu neu ddwy sgrîn ar gyfer traethodau mawr
Stafell ymolchi:
Tywelion llaw a bath
Sychwr gwallt, cynnyrch gwallt a brwshis
Bag ymolchi, yn enwedig os ydych yn rhannu stafell ymolchi
Eich hoff bethau ymolchi
Fflip-fflops neu esgidiau ysgafn
Hangers dillad
Pecyn cymorth cyntaf
Basgedi storio
Lluniau o’ch teulu neu ffrindiau (heb anghofio’r Blu Tack)
Goleuadau LED i addurno eich stafell
Seinydd symudol
Hwfer bach
Planhigyn tŷ
Dyddiadur a chalendr
Potyn ar gyfer newid mân neu fanion
Trwydded Deledu
Casglu cerdyn adnabod eich campws
Cael trefn ar eich cwpwrdd ac oergell
Cysylltu â’r rhyngrwyd
Dod o hyd i’r siop fwyd agosaf
Rhoi taith o amgylch eich lle newydd ar Instagram i ffrindiau gartref
Dod o hyd i’r londrét ar y safle a’i brofi
Archwilio Ffair y Glas (ewch â bag tote ar gyfer yr holl nwyddau am ddim)
Prynu cerdyn teithio myfyrwyr
Cyfnewid hoff raglenni a ffilmiau gyda’ch ffrindiau newydd yn y fflat
Ond cyn i chi wylio eich hoff sioeau (neu unrhyw sioeau newydd) ar deledu byw neu BBC iPlayer, bydd angen...