dcsimg

Croeso i bolisi preifatrwydd Trwyddedu Teledu





Mae’r polisi hwn yn egluro pa ddata personol rydym yn ei gasglu oddi wrthych ac amdanoch, pwy sydd â mynediad ato, pam rydym yn ei gasglu, yr hyn rydym yn ei wneud â'ch data, am ba hyd rydym yn ei gadw a beth yw eich hawliau.

Mae eich preifatrwydd yn bwysig i ni

Pan fyddwch yn talu am Drwydded Deledu, yn diweddaru eich manylion, neu'n cael unrhyw gyswllt arall â Thrwyddedu Teledu, byddwch yn rhoi data personol i ni. Fel sefydliad cyfrifol gyda rhwymedigaethau cyhoeddus, byddwn yn cydymffurfio â chyfraith diogelu data wrth gasglu a defnyddio eich data.

Mae'r gyfraith hon yn cael ei galw'n Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR), ac fe ddaeth i rym ar 25 Mai 2018. Mae'r GDPR yn mynnu y dylai data personol:

  • Gael ei ddefnyddio'n gyfreithlon, yn deg a thryloyw
  • Cael ei gasglu at ddiben penodol, a pheidio â chael ei ddefnyddio am unrhyw reswm arall
  • Cael ei gyfyngu i'r hyn sy'n angenrheidiol
  • Bod yn gywir ac wedi'i ddiweddaru, gyda chamgymeriadau'n cael eu newid yn gyflym
  • Peidio â chael ei gadw'n hwy nag sydd angen
  • Bod yn ddiogel, a'i warchod rhag camddefnydd, colled neu ddifrod.

Rydym yn cydymffurfio â Deddf Diogelu Data 2018.

Yn y polisi hwn mae gwybodaeth bwysig am y ffordd y byddwn yn prosesu eich data personol. Fe ddylech ei ddarllen yn ofalus. Dysgwch fwy am yr hyn rydym yn ei wneud gyda'ch data personol.

Dolenni at wefannau eraill

Gall gwefan Trwyddedu Teledu gynnwys dolenni a chyfeiriadau at wefannau eraill. Dylech fod yn ymwybodol nad yw’r Polisi Preifatrwydd hwn yn gymwys i’r gwefannau hynny. Rydym yn eich annog i ddarllen polisi preifatrwydd unrhyw wefan arall y byddwch yn ymweld â nhw.

Ein haddewid o ran preifatrwydd

Mae'r GDPR a Deddf Diogelu Data 2018 yn cynnwys egwyddorion y mae'n rhaid i sefydliadau eu dilyn i ddiogelu data eu cwsmeriaid. Fe gafodd ein haddewid o ran preifatrwydd ei seilio ar yr egwyddorion hyn.

  1. Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio ar gyfer y diben cyfreithlon o weithredu system Trwyddedu Teledu (gan gynnwys rhoi trwyddedau, casglu ffïoedd a gorfodi’r gofyniad i gael trwydded) ac ni fyddwn yn defnyddio eich data mewn unrhyw ffordd arall sydd heb fod yn gysylltiedig â'r diben hwn.
  2. Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio'n gyfreithlon, yn deg a thryloyw. Ni fyddwn byth yn gwerthu eich data. Ni fyddwn yn ei rannu ag unrhyw un y tu allan i'r BBC, Trwyddedu Teledu a'i gyflenwyr oni bai fod gennym reswm cyfreithlon i wneud hynny (er enghraifft, i rannu gwybodaeth gyda’r heddlu) a'n bod yn cael caniatâd neu'n gorfod ei ddatgelu o dan y gyfraith.
  3. Bydd y data personol a gasglwn yn cael ei gyfyngu i'r hyn sy'n berthnasol ac yn angenrheidiol i ni i roi a rheoli eich Trwydded Deledu, neu i gadarnhau nad oes arnoch angen trwydded.
  4. Byddwn yn dweud wrthych pam y mae arnom angen y wybodaeth y byddwn yn gofyn amdani.
  5. Ni fyddwn yn cadw eich data personol yn hwy nag sydd angen er diben gweinyddu system Trwyddedu Teledu. Dysgwch fwy am faint rydym yn cadw eich data personol .
  6. Byddwn yn ceisio cadw eich data personol yn gywir ac wedi'i ddiweddaru, a newid manylion anghywir yn gyflym.
  7. Byddwn yn cymryd pob cam rhesymol i ddiogelu eich data personol rhag defnydd heb awdurdod neu anghyfreithlon, colled, difrod neu ddinistriad. Dysgwch fwy am ddiogelu data.
  8. Byddwn yn cyfathrebu â chi ynghylch y system Trwyddedu Teledu (er enghraifft, hysbysiadau adnewyddu a negeseuon eraill sy’n anelu at sicrhau eich bod wedi'ch trwyddedu'n gywir) ond byddwn yn gwneud hyn gyn lleied â phosib. Dysgwch fwy am y ffordd y byddwn yn cysylltu â chi.
  9. Byddwn yn egluro pwy ydym ni wrth gysylltu â chi ac yn dweud wrthych sut i gysylltu â ni. Dysgwch fwy am y ffordd y byddwn yn cysylltu â chi.
  10. Os byddwch yn cysylltu â ni, gallwn ofyn cwestiynau am y data personol a roesoch i ni i'n cynorthwyo i'ch adnabod – mae hyn er eich diogelwch.
  11. Byddwn yn rhoi eich preifatrwydd yn gyntaf bob amser. Byddwn yn cadw at y safonau uchaf, ac yn ymroi i ddiogelu eich preifatrwydd trwy gadw eich gwybodaeth yn saff.

Mae'r gyfraith yn rhoi hawliau i chi mewn perthynas â'ch data. Fe all yr hawliau hynny gael eu cymhwyso'n wahanol os ydym yn ymchwilio i chi, neu os ydych yn wynebu achos llys. Dysgwch fwy am eich hawliau.

Chwe egwyddor i ddiogelu
eich preifatrwydd

Ymddiriedaeth. Pwy ydym ni a'r hyn rydym yn ei wneud.
Bod yn Agored. Pa ddata rydym yn ei gasglu, yr hyn rydym yn ei wneud gyda'r data a pham.
Diogelwch. Sut rydym yn diogelu eich data.
Tegwch. Sut rydym yn parchu eich hawliau cyfreithiol i'ch data.
Cywirdeb. Sut byddwn yn sicrhau bod eich data yn gywir.
Cyfathrebu. Cysylltu a chi, a sut gallwch gysylltu a ni.


Ymddiriedaeth

Amdanom ni

Byddwn yn rhoi gwybod i bobl pryd mae arnyn nhw angen Trwydded Deledu. Byddwn yn anfon llythyrau ac e-byst adnewyddu a delio ag ymholiadau, yn ogystal â cheisiadau a thaliadau. Byddwn hefyd yn cadw cronfa ddata o gyfeiriadau trwyddedig a heb eu trwyddedu yn y Deyrnas Unedig. Byddwn yn defnyddio hon i adnabod, ysgrifennu ac ymweld â phobl allai fod yn defnyddio offer derbyn teledu heb Drwydded Deledu ddilys neu weithiau y rhai a ddywedodd wrthym nad oes arnynt angen trwydded.

Mae ‘Trwyddedu Teledu' yn nod masnach y BBC. Mae'r nod masnach hwn yn cael ei ddefnyddio gan y BBC mewn perthynas â'i swyddogaethau Trwyddedu Teledu a dan drwydded gan gwmnïau dan gontract gan y BBC i weinyddu casglu ffi'r drwydded a gorfodi system Trwyddedu Teledu. Mae’r BBC yn awdurdod cyhoeddus mewn perthynas â'i swyddogaethau trwyddedu teledu.

Mae gennym ddyletswydd statudol dan Ran 4 Deddf Cyfathrebu 2003 i gasglu a gorfodi ffi'r drwydded. Rydym yn gweithredu system Trwyddedu Teledu ac rydym yn gyfrifol am reoli'r holl ddata sy'n uniongyrchol gysylltiedig â'r system honno. Mae hyn yn cynnwys rhoi trwyddedau, casglu ffïoedd a gorfodi'r gofyniad cyfreithiol i gael Trwydded Deledu.

Mae'r BBC yn gyfrifol am y data personol rydych yn ei gyflenwi i Drwyddedu Teledu. Yng nghyfraith diogelu data, gelwir hyn yn bod yn rheolydd data. Mae hyn yn golygu y byddwn yn penderfynu sut i gasglu a defnyddio eich data fel rhan o'n dyletswydd i weinyddu'r Drwydded Deledu. Rydym yn gyfrifol am sicrhau bod eich data yn cael ei ddefnydio mewn dull cyfreithlon, teg a thryloyw.

Mae'r BBC hefyd yn pennu rheolau caeth ynghylch y ffordd y bydd ei gyflenwyr yn casglu, yn cadw ac yn ymdrin â data personol. Mae contractwyr y BBC yn broseswyr data o fewn y gyfraith. Prif gontractwyr Trwyddedu Teledu yw: Capita, Adare, Communisis Postal, Havas, PayPoint, RAPP (formerly Proximity) ac Target. Mae'r sefydliadau hyn hefyd yn rhwym gan gyfraith diogelu data, yn ogystal â'n hymrwymiad i'n chwe egwyddor i ddiogelu eich data personol.

Newidiadau i'r polisi hwn

Byddwn yn mynd ati'n rheolaidd i adolygu pam ein bod yn dal data personol. Gallwn ddiwygio'r polisi hwn os bydd y ffordd y byddwn yn prosesu eich data, neu'r gyfraith yn gysylltiedig â hyn, yn newid. Os byddwn yn gwneud unrhyw newidiadau sylweddol i'r ffordd y byddwn yn prosesu eich data ar gyfer Trwyddedu Teledu, byddwn yn rhoi gwybod i chi drwy eich cyfeirio at fersiynau newydd o'r polisi hwn ar tvlicensing.co.uk.

Yn ôl i'r ddewislen

Bod yn Agored

Yr hyn y mae'r gyfraith yn ei ddweud a'r hyn y mae'n ei olygu i Drwyddedu Teledu a'ch data

Mae'r gyfraith yn mynnu ein bod yn agored gyda chi ynghylch pa ddata personol rydym yn ei gasglu, a'r hyn rydym yn ei wneud gyda'r data hwnnw. Byddwn yn casglu'r data sydd ei angen arnom yn unig er y diben penodol a chyfreithlon o weithredu system Trwyddedu Teledu. Rhaid i ni ddefnyddio data personol - ac ni fyddwn ond yn gwneud hynny - i gyflawni ein dyletswydd cyhoeddus a chyfreithlon i weithredu’r system Trwyddedu Teledu.

Eich data a'r hyn rydym yn ei wneud gyda'ch data

Os byddwn yn dal eich data personol, fe'ch gelwir yn wrthrych y data yng ngolwg y gyfraith. Mae bod yn agored gyda chi yn golygu bod yn glir ynghylch sut a pham rydym yn defnyddio eich data personol.

Rhaid i sefydliadau fod â rheswm cyfreithlon i gasglu a defnyddio data personol. O safbwynt Trwyddedu Teledu, mae'r data yn ein galluogi i weithredu system Trwyddedu Teledu. Byddwn yn cynnal y dasg hon er budd y cyhoedd ac wrth gyflawni awdurdod swyddogol, dan Ran 4 Deddf Cyfathrebu 2003. Dyma'r brif sail gyfreithiol dros gasglu a defnyddio data personol.

Pa ddata personol fyddwn ni'n ei gasglu?

Yn ôl y gyfraith, rhaid i'r data y byddwn yn ei gasglu fod yn gyfyngedig i'r hyn sy'n angenrheidiol a pherthnasol ar gyfer ein diben. Mae hyn yn golygu y gallwn ddal ambell ddarn o ddata amdanoch gan gynnwys (ond heb ei gyfyngu i):

  • Eich enw
  • Eich cyfeiriad(au) postio
  • Eich rhif(au) ffôn
  • Manylion cyswllt eraill fel cyfeiriad e-bost
  • Manylion eich cyfrif banc neu gerdyn credyd/debyd*
  • Rhif eich Trwydded Deledu (neu rif aelodaeth ar gyfer rhai o'n cynlluniau talu arian parod)
  • Unrhyw newid i'ch cyfeiriad neu fanylion cyswllt
  • Gwybodaeth am daliadau am eich trwydded
  • Pan fyddwch yn dweud wrthym nad oes arnoch angen trwydded
  • Gwybodaeth am ymweliad â’ch eiddo, neu’r hyn fydd yn digwydd yn eich eiddo os bydd ein Swyddogion Ymweld yn galw.
  • Manylion unrhyw gŵyn y byddwch yn ei gwneud
  • Galwadau ffôn at Drwyddedu Teledu ac oddi wrth Drwyddedu Teledu sy'n cael eu recordio at ddibenion ansawdd, archwilio ac hyfforddiant
  • Pa dudalennau y byddwch yn ymweld â nhw ar ein gwefan
  • Sut byddwch yn cyrraedd ein gwefan (er enghraifft, os gwnaethoch chi glicio ar ddolen mewn e-bost neu ar wefan arall)
  • Cofnodion o ohebiaeth os byddwch yn cysylltu â ni
  • Newidiadau y byddwch yn eu gwneud i wybodaeth a rowch i ni
  • Ble’r ydym wedi anfon llythyrau a’u bod wedi’u dychwelyd atom oherwydd nad yw'r derbynnydd yn byw yno bellach
  • Eich ymatebion i arolygon cwsmeriaid ac arolygon ymchwil i'r farchnad a gynhelir ar ein rhan. Fel arfer mae'r rhain yn ddi-enw. Byddwn yn dweud wrthych os nad ydynt yn ddi-enw cyn i chi gytuno i gymryd rhan. Gallwch hefyd ddweud wrth yr ymchwilydd a ydych yn fodlon iddynt roi eich enw a'ch manylion cyswllt i ni
  • Rhif eich ffôn symudol at ddibenion cynnal arolygon (SMS) ar fodlonrwydd cwsmeriaid am eich profiad gyda ni a thecstio cadarnhad o rai trafodion – byddwn yn casglu rhif eich ffôn symudol yn awtomatig at y dibenion hyn. Sylwch, gallwn gasglu rhif eich ffôn symudol yn uniongyrchol dros y ffôn neu gyswllt uniongyrchol arall oddi wrthych at ddibenion cysylltu
  • Os byddwch yn gwneud cais am drwydded dros 75 am ddim gallwn ofyn i chi am dystiolaeth o’ch oedran, eich bod yn derbyn Credyd Pensiwn, a’ch rhif Yswiriant Gwladol. Mae hyn yn caniatáu i ni weld a ydych yn gymwys, a gallwn rannu eich data gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau ar gyfer y diben hwnnw, gan gynnwys gweld a oes unrhyw un a oedd â thrwydded dros 75 am ddim wedi marw erbyn hyn. Pan fydd hynny’n digwydd, bydd y drwydded yn parhau tan y dyddiad dod i ben fel y bydd unrhyw un arall yn y cartref yn parhau wedi’i drwyddedu, a byddwn yn ysgrifennu at y cyfeiriad ychydig cyn y dyddiad dod i ben i weld pa drwydded y gallai fod ei hangen
  • Weithiau gallwn ofyn am ffordd arall o brofi pwy ydych chi neu i chi brofi eich bod yn preswylio mewn cyfeiriad
  • Cyfeiriadau IP (ni fyddwn yn defnyddio’r rhain oni bai fod hynny’n hollol angenrheidiol, e.e. at ddibenion sy’n gysylltiedig â diogelwch)
  • Data a gesglir o rannau eraill o'r BBC, er enghraifft, i weld a ydych a sut rydych yn defnyddio BBC iPlayer pan fyddwch wedi dweud wrthym nad oes arnoch angen Trwydded Deledu
  • Data ynghylch pryd rydych yn agor e-byst y byddwch yn eu derbyn oddi wrthym

Mae gennych ddewis o ran a ydych yn rhoi rhywfaint o ddata personol i ni, ond mae gwybodaeth sylfaenol fel eich enw a'ch cyfeiriad yn hanfodol i ni. Hebddi, mae'n bosib na fyddwn yn gallu rhoi Trwydded Deledu i chi, na chofnodi nad oes arnoch angen trwydded.

* Byddwn yn cadw manylion cardiau ar ein system ddiogel, gyda chaniatâd deiliad y cerdyn a byddwn yn dileu'r manylion hyn pan ddaw i ben. Byddwn bob amser yn gofyn caniatâd cyn casglu unrhyw daliadau pellach.

Categorïau arbennig a data personol sensitif

Mae cyfraith diogelu data yn trin rhai mathau o ddata personol yn sensitif (a elwir yn ‘ddata categorïau arbennig’ o fewn y gyfraith) ac mae rheolau ychwanegol o ran sut y caiff ei ddefnyddio. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am darddiad hiliol neu ethnig, barn wleidyddol neu farn arall, cyfeiriadedd rhywiol a iechyd. Byddwn hefyd yn casglu rhywfaint o wybodaeth nad yw'n cael ei hystyried yn ‘ddata categorïau arbennig’ o fewn y gyfraith ond sydd serch hynny'n fwy sensitif (er enghraifft, gwybodaeth am gyfeiriad lle darganfyddir sydd heb drwydded pan fo angen trwydded arno).

Fel arfer, ni fydd angen i ni gasglu data personol sensitif, ac eithrio:

  • Gallwn brosesu data ar namau neu gyflyrau iechyd corfforol a meddyliol, er enghraifft, wrth reoli achosion ymweld neu reoli cwynion.
  • Os byddwch yn gwneud cais am Drwydded Deledu gonsesiwn i bobl ddall, byddwn yn cofnodi hyn a gofyn am dystiolaeth ategol (gall hyn gynnwys data sy’n ymwneud â phlentyn os yw'r consesiwn ar ran plentyn)
  • Gallwn gasglu tystiolaeth amdanoch, megis:
    • a fyddai'n well gennych dderbyn negeseuon ar ffurf wahanol, e.e. llythyrau mewn Braille
    • a ydych yn anabl, gan gynnwys os bydd rhywun sy'n gweithredu drosoch yn dweud wrthym eich bod yn anabl
    • nad ydych yn siarad Saesneg yn dda
    • a oes gennych amgylchiadau personol sy'n eich gwneud yn agored i niwed neu angen cefnogaeth ychwanegol
  • Gallwn hefyd gasglu gwybodaeth fel hyn i'n cynorthwyo i wella ein gwasanaethau a chwrdd â'n rhwymedigaethau dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Ein sail gyfreithiol dros gasglu'r wybodaeth hon yw er mwyn cynnal ein swyddogaethau statudol mewn cysylltiad â system Trwyddedu Teledu. Ystyrir bod hyn yn rheswm sydd o fudd sylweddol i'r cyhoedd.

Data personol gan drydydd partïon

Gallwn hefyd ddefnyddio data personol gan drydydd partïon. Mae hyn yn cynorthwyo i gadw ein cronfa ddata mor gywir â phosib, a hefyd yn ein cynorthwyo i gysylltu â'r bobl iawn ar yr adeg iawn. Mae'r sefydliadau hyn yn cynnwys cyflenwyr data a all ddarparu’r mathau canlynol o ddata:

  • Dangosyddion symud tŷ
  • Dangosyddion bod rhywun yn preswylio mewn cyfeiriad
  • Data cyswllt ychwanegol ar gyfer deiliaid trwyddedau
  • Dosbarthiadau geo-demograffig o fathau o gwsmeriaid
  • Dosbarthiadau o fathau o gartrefi
  • Enwau busnesau newydd
  • Dosbarthiadau o mathau o fusnesau
  • Dosbarthiadau o fathau o eiddo preswyl a masnachol

Beth fyddwn ni'n ei wneud â'r wybodaeth y byddwn yn ei chasglu?

Byddwn yn defnyddio eich data personol mewn perthynas â system Trwyddedu Teledu yn unig. Mae hyn yn golygu y byddwn yn ei ddefnyddio i reoli eich Trwydded Deledu, casglu a gorfodi ffi'r drwydded a'n cynorthwyo i sicrhau bod statws a manylion eich trwydded yn cael eu cofnodi'n gywir ar y gronfa ddata.

Ymhlith pethau eraill, mae hyn yn golygu y gallwn ddefnyddio eich manylion i:

  • Nodi pwy ydych chi trwy gadarnhau eich manylion personol (e.e. enw a chyfeiriad)
  • Cadarnhau a oes angen trwydded
  • Rheoli trafodion ariannol, eich cynllun talu, cynllun arian parod neu gerdyn cynilo
  • Eich atgoffa pryd y bydd angen adnewyddu eich trwydded
  • Anfon negeseuon gwasanaeth awtomataidd i'ch cynorthwyo i barhau wedi'ch trwyddedu
  • Dweud wrthych os ydym wedi methu casglu taliad gennych
  • Ein cynorthwyo i ddewis pa negeseuon gwasanaeth i'w hanfon atoch
  • Gweld a ydych yn gymwys i gael trwydded gonsesiwn
  • Prosesu cais am Drwydded Deledu dros 75 am ddim, neu ei hadnewyddu os oes gennych un yn barod
  • Gweld a oes ad-daliad yn ddyledus i chi, a phrosesu'r taliad os ydych yn gymwys
  • Monitro galwadau yn y Ganolfan Gyswllt at ddibenion hyfforddi ac ansawdd a thrafodion yn ein Swyddfa Gefn at ddibenion hyfforddi
  • Penderfynu a ddylai Swyddog Ymweld alw heibio eich cyfeiriad
  • Erlyn troseddau Trwyddedu Teledu a chynnal cofnod o droseddau Trwyddedu Teledu
  • Eich gwahodd i gymryd rhan mewn arolygon a gwaith ymchwil am Drwyddedu Teledu (e.e. ar ôl i chi gysylltu â ni) ac yna prosesu’r canlyniadau. Mae hyn o gymorth i ni wella ein gwasanaeth. Does dim rhaid i chi gymryd rhan a gallwch hefyd optio allan o wahoddiadau yn y dyfodol os ydych yn dymuno, a byddwn yn egluro sut bydd hyn yn cael ei gyflawni petaech yn gofyn am hyn.

Byddwn hefyd yn defnyddio data na fydd yn cael ei ddefnyddio i'ch adnabod yn bersonol at ddibenion ystadegol a dadansoddol. Byddwn yn gwneud hyn:

  • I wella ein gwefan, llythyrau, e-byst a hysbysebu ar lein
  • Wrth adrodd i Fwrdd y BBC a chyrff eraill am ein perfformiad
  • At ddibenion ystadegol neu ymchwil
  • I'n cynorthwyo i wella gweithrediad system Trwyddedu Teledu.

Am faint fyddwn ni'n cadw eich data personol?

Yn ôl y gyfraith rhaid i ddata personol beidio â chael ei gadw'n hwy nag sydd angen er diben gweithredu system Trwyddedu Teledu.

Byddwn yn dal data personol er mwyn gallu eich adnabod chi a'ch cyfeiriad, i'n cynorthwyo i gasglu a gorfodi ffi'r drwydded a chadw cofnodion hanesyddol ac archwiliadwy.

Byddwn yn cadw data personol (er enghraifft, gwybodaeth sylfaenol am gyfrifon) am gyhyd ag y bydd cwsmer yn dal yr un drwydded gyda ni. At ei gilydd bydd data yn cael ei ddal am hyd at saith mlynedd, er y gall hyn amrywio, gan ddibynnu ar ba fath o ddata ydyw.

Byddwn yn penderfynu am ba hyd i gadw eich data personol trwy ofyn y cwestiynau canlynol i ni'n hunain:

  • Pam mae arnom angen y data a pham fyddai ar ein cwsmeriaid fod angen i ni ddal gafael arno?
  • A oes unrhyw gyfraith neu ganllaw y dylem eu hystyried?
  • Allwn ni sicrhau ei fod yn parhau'n gywir ac wedi'i ddiweddaru?

Byddwn yn dal gafael ar rai mathau o ddata personol rhag ofn y bydd angen i ni gyfeirio ato'n ddiweddarach neu gysylltu â chi eto, er enghraifft:

  • Byddwn yn cadw recordiadau ffôn am 13 mis
  • Byddwn yn cadw cofnodion o gwynion am dair blynedd neu saith mlynedd, gan ddibynnu ar lefel uwchgyfeirio’r gŵyn.

Y broses erlyn

Y BBC yw'r awdurdod trwyddedu. Mae hyn yn golygu ein bod yn gorfodi'r gofyniad i gael Trwydded Deledu. Gallwn erlyn pobl sydd angen trwydded ond sydd heb un – neu riportio i'r awdurdod erlyn priodol yn yr Alban ac Ynysoedd y Sianel – dan Ran 4 Deddf Cyfathrebu 2003. Mae Trwyddedu Teledu hefyd yn ‘erlynydd perthnasol’ at ddibenion y weithred un ynad dan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003, yng Nghymru a Lloegr.

At ei gilydd fel arfer bydd y GDPR yn berthnasol i ddata personol sy'n cael ei brosesu gan awdurdodau cymwys at ddibenion gorfodi'r gyfraith (atal, ymchwilio, canfod neu erlyn troseddau) ond mae’n cael ei liniaru gan y Gyfarwyddeb Gorfodi’r Gyfraith.

Os bydd Swyddog Ymweld yn galw heibio eiddo, gall gasglu gwybodaeth i brofi bod rhywun yn y cyfeiriad hwnnw wedi bod yn ymhel â gweithgarwch sy’n galw am Drwydded Deledu, heb fod â thrwydded.

Os bydd Swyddog Ymweld yn galw heibio eich cyfeiriad fe fyddan nhw'n dangos yn union pwy ydyn nhw, a gallant hefyd gasglu'r data canlynol:

  • Eich enw
  • Eich cyfeiriad(au) postio
  • Eich rhif(au) ffôn
  • Manylion cyswllt eraill fel cyfeiriad e-bost.
  • Dyddiad geni a rhif Yswiriant Gwladol.

O bryd i'w gilydd, gallwn gael data personol o ffynonellau eraill fel asiantaethau gorfodi'r gyfraith, cynrychiolwyr cyfreithiol, llysoedd, llywodraeth leol, cyflenwyr nwyddau a gwasanaethau ac aelodau'r cyhoedd.

Byddwn hefyd yn prosesu data personol mewn perthynas â throseddau (gan gynnwys troseddau honedig), achosion troseddol, canlyniadau a dedfrydau at ddibenion gorfodi'r gyfraith.

Gall y wybodaeth hon gael ei defnyddio i anfon negeseuon gorfodi yn gofyn i chi gael trwydded, i’ch cynorthwyo i barhau wedi'ch trwyddedu neu i weld a oes arnoch angen trwydded o hyd.

Bydd y dystiolaeth a gasglwyd gennym yn cael ei defnyddio, ynghyd ag unrhyw wybodaeth ychwanegol a all fod gennym, i wneud y penderfyniad i erlyn. Gallwn ysgrifennu at yr unigolyn dan sylw, i roi gwybod iddynt am y penderfyniad hwnnw a gallwn ddefnyddio'r wybodaeth honno maes o law i benderfynu a fyddwn yn ymweld â nhw yn dilyn erlyniad.

Gallwn drosglwyddo eich gwybodaeth at lys barn os byddwn yn penderfynu eich erlyn (neu os bydd awdurdod erlyn wedi penderfynu eich erlyn, gan ddibynnu ar ble bydd yr erlyniad yn digwydd).

Mae gennych hawliau dan Ddeddf Diogelu Data 2018, hyd yn oed pan fyddwn yn ‘prosesu eich data at ddibenion gorfodi ’, ond mae’r rhain yn wahanol i’ch hawliau dan y GDPR yn y tri maes canlynol:

  • Yr hawl i gael mynediad at eich data personol a gweld gwybodaeth am y data hwnnw
  • Yr hawl i ddiweddaru eich data personol os yw'n anghywir
  • Yr hawl i ddileu eich data personol, neu gyfyngu ar y ffordd y byddwn yn ei ddefnyddio.

Dysgwch fwy am eich hawliau mewn perthynas â'ch data personol at ddibenion Gorfodi'r Gyfraith.

Yn ôl i'r ddewislen

Diogelwch

Yr hyn y mae'r gyfraith yn ei ddweud, a'r hyn y mae'n ei olygu i Drwyddedu Teledu a'ch data

Mae cyfraith diogelu data yn ein cyfarwyddo i gymryd pob cam priodol i gadw eich data personol yn ddiogel. Mae hyn yn golygu bod raid i ni gymryd camau i'w ddiogelu rhag defnydd heb awdurdod neu anghyfreithlon, a rhag ei golli, ei ddinistrio neu ei ddifrodi'n ddamweiniol.

A fydd eich data personol yn cael ei gadw'n ddiogel?

Mae eich data personol yn bersonol i chi, a dylai barhau'n saff, a phreifat. Rydym yn gwybod bod hyn yn hanfodol ar gyfer cynnal eich ymddiriedaeth yn Nhrwyddedu Teledu. Byddwn yn diogelu eich manylion mewn nifer o wahanol ffyrdd. Yn eu plith mae hyfforddi staff, buddsoddi mewn technoleg a dilyn gweithdrefnau caeth o ran trin a storio.

Mae’r data personol y byddwn yn ei gasglu wedi’i gyfyngu i wybodaeth sy'n berthnasol ac yn angenrheidiol, er mwyn i ni i roi a rheoli eich Trwydded Deledu, neu i gadarnhau nad oes arnoch angen trwydded. Byddwn yn cymryd pob cam priodol i gadw eich data yn ddiogel. Byddwn bob amser yn dilyn cyfraith diogelu data a cheisio cymhwyso arferion gorau ar gyfer diogelwch gwybodaeth.

Mae ein systemau diogelwch technoleg a gwybodaeth yno i ddiogelu eich data personol. Byddwn yn cymhwyso dulliau amgryptio gyda'r diweddaraf ac mae gennym bolisïau penodol yn eu lle, gyda deunyddiau hyfforddi staff a chontractau un pwrpas i sicrhau bod data personol yn cael ei ddiogelu'n llawn. Mae hyn yn ceisio atal colli eich data, ei ddifrodi, neu ei ddinistrio, neu ei ddefnyddio heb awdurdod neu’n anghyfreithlon.

Byddwn yn hyfforddi ein staff i ofalu am eich data personol a rhoi canllawiau manwl iddynt ar ofynion diogelwch. Felly os byddwch yn cysylltu â ni, byddwn bob amser yn gofyn i chi brofi pwy ydych chi cyn i ni rannu unrhyw ddata gyda chi.

Nid yw e-bost yn ddiogel bob amser. Oni bai eich bod yn ei ddiogelu gyda chyfrinair neu'n ei amgryptio, gallai rhywun arall ei ddarllen. Os ydych yn dymuno anfon e-bost atom, yn ogystal â'ch ymholiad, dylech anfon gwybodaeth bersonol ddigonol i ganiatáu i ni eich adnabod, er enghraifft eich enw, cyfeiriad a rhif y drwydded. Rydym yn argymell nad ydych yn cynnwys manylion banc neu gerdyn credyd mewn e-bost. Pan fyddwn yn eich e-bostio, byddwn yn profi'n glir pwy ydym ni ond os bydd gennych unrhyw bryderon am yr anfonwr, darllenwch ein cyngor am sgamiau e-bost.

A fydd eich data yn cael ei symud y tu allan i'r Ardal Economaidd Ewropeaidd?

Bydd y rhan fwyaf o'ch data personol yn cael ei drin a'i storio o fewn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw. Bydd rhywfaint yn cael ei brosesu y tu allan i'r Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE).

Ni fyddwn ond yn caniatáu trosglwyddo data pan fyddwn yn hollol fodlon fod data ein cwsmeriaid yn ddiogel. Y mae rhwymedigaeth gytundebol ar ein cyflenwyr i ymgorffori mesurau technegol, trefniadol ac archwiliadwy i’w prosesau eu hunain, i sicrhau bod unrhyw ddata yn cael ei drosglwyddo’n saff.

Yn ôl i'r ddewislen

Tegwch

Yr hyn y mae'r gyfraith yn ei ddweud a'r hyn y mae'n ei olygu i Drwyddedu Teledu a'ch data

Mae cyfraith diogelu data yn rhoi hawliau clir i chi mewn perthynas â'ch data personol, ac mae'n rhoi rheolau clir i ni ynghylch ei ddefnyddio. Mae'r gyfraith yn dweud bod raid i ni ddefnyddio eich data yn gyfreithlon, yn deg a thryloyw. Mae hyn yn golygu dweud wrthych sut byddwn yn defnyddio eich data, gyda phwy y gallwn ei rannu, a gadael i chi weld pa ddata rydym yn ei ddal amdanoch, os byddwch yn gofyn. Gallwch ofyn i ni gywiro gwallau yn eich data, ac weithiau gallwch ofyn i ni ei ddileu.

Sut i gael gwybod pa ddata personol rydym yn ei ddal amdanoch chi

Mae gennych hawl i wybod pa wybodaeth rydym yn ei dal amdanoch chi. Gallwch ofyn am gael gweld y data personol penodol rydym yn ei ddal amdanoch chi. Gelwir hyn yn Gais Gwrthrych am Wybodaeth, neu SAR (dan GDPR gelwir hyn yn hawl mynediad).

Fyddwn ni ddim yn codi am y cais cyntaf, ond gallwn godi ffi resymol os yw'r cais yn ailadroddus neu'n afresymol. Dylid ymateb i gais am wybodaeth dan gyfraith diogelu data o fewn un mis.

A fyddwn yn rhannu eich data personol gydag unrhyw un?

Ni fyddwn yn rhannu eich data personol gydag unrhyw un arall oni bai fod budd cyfreithlon o’i rannu. Er enghraifft, gallwn dderbyn ceisiadau cyfreithlon oddi wrth asiantaethau gorfodi’r gyfraith, neu sefydliadau tebyg, fel yr heddlu neu’r Adran Gwaith a Phensiynau. Weithiau byddwn yn rhannu gwybodaeth gyda rhannau eraill o'r BBC. Byddwn yn gwneud hyn, er enghraifft, i weld a ydych yn defnyddio BBC iPlayer ac a oes gennych Drwydded Deledu.

Os byddwch yn gwneud cais “di-bapur” i drefnu Debyd Uniongyrchol i dalu am Drwydded Deledu dan gynllun rhandaliadau 75+ (e.e. rydych yn gwneud cais ar lein neu dros y ffôn) byddwn yn rhannu eich teitl, enw, cyfeiriad a manylion banc gydag asiantaeth gwirio dynodiad trydydd parti i ddilysu eich manylion banc. Mae hyn er mwyn cydymffurfio â rheolau Gwasanaeth Clirio Awtomataidd y Bancwyr, (“BACS”, awdurdod y Deyrnas Unedig sy’n gyfrifol am glirio taliadau trwy Ddebyd Uniongyrchol).

Gallwn hefyd gasglu data gan sefydliadau eraill i ddilysu'r data sydd gennym yn barod, neu i ychwanegu gwybodaeth nad yw gennym. Er enghraifft, mae'n bosib y bydd angen i ni gadarnhau a oes preswylwyr mewn cyfeiriad, neu sicrhau bod y wybodaeth ar ein cronfa ddata ein hunain yn gywir. Ymhlith y sefydliadau hyn mae:

  • Cwmnīau gwasanaethau marchnata a datrysiadau
  • Perchnogion data trydydd parti
  • Cwmnīau prosesu data
  • Cwmnīau ymchwil i’r farchnad

Mae'r cyflenwyr hyn dan gontract i ni, ac yn gweithio ar ein rhan. Maen nhw'n ddarostyngedig i'r un deddfau diogelu data â ni. Dysgwch fwy am drydydd partïon.

Eich hawliau fel gwrthrych data

  1. Yr hawl i gywiro

    Os byddwn yn dal data personol amdanoch sydd wedi dyddio neu'n anghyflawn, gallwch ofyn i ni ei gywiro.

  2. Yr hawl i ddileu data oddi ar ein systemau

    Mewn rhai amgylchiadau, gallwch ofyn i ni ddileu eich data personol. Efallai y bydd angen i ni gadw rhai manylion er mwyn gallu cysylltu â chi'n bersonol ynghylch eich trwydded neu statws eich trwydded.

    Y mae rhywfaint o ddata personol y mae gennym hawl cyfreithlon i'w gadw a'i ddefnyddio, ac ni fyddwch yn gallu ei ddileu.

  3. Yr hawl i gyfyngu ar brosesu

    Gallwch ofyn i ni gyfyngu ar ein defnydd o'ch data personol. Gallwch wneud hyn os yw'n anghywir, neu os ydych wedi gwrthwynebu i ni ei ddefnyddio a'ch bod yn aros am ein hymateb.

  4. Yr hawl i wrthwynebu prosesu

    Gallwch wrthwynebu Trwyddedu Teledu yn defnyddio eich data personol.

    Mae cyfraith diogelu data yn rhoi hawl i chi wrthwynebu Trwyddedu Teledu yn defnyddio eich data personol. Fodd bynnag, ni fydd yr hawl hwnnw'n cael ei ganiatáu'n awtomatig. Mae hyn oherwydd, petaem yn methu defnyddio eich data personol bellach, byddai'n effeithio ar ein gallu i gyflawni ein dyletswyddau cyfreithiol.

I gael gwybod sut i arfer eich hawliau mewn perthynas â chael mynediad at eich data personol, e-bostiwch tvl.policy@capita.co.uk. Neu ysgrifennwch at y Data Protection Manager, TV Licensing, Darlington, DL98 1TL.

Ar ôl cysylltu â ni, os nad ydych yn fodlon â'n hymateb, mae'r gyfraith hefyd yn rhoi hawl i chi gysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) (agor mewn ffenestr newydd) i gwyno am y ffordd rydym yn defnyddio eich data personol. Dan rai amgylchiadau, gallwch hefyd ofyn i'r ICO weithredu ar eich rhan i edrych ar y ffordd rydym yn defnyddio eich data.

Yn ôl i'r ddewislen

Cywirdeb

Yr hyn y mae'r gyfraith yn ei ddweud, a'r hyn y mae'n ei olygu i Drwyddedu Teledu a'ch data

Rhaid cadw eich data personol yn gywir ac wedi'i ddiweddaru, gan gymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod unrhyw anghywirdeb yn cael ei ddileu neu ei gywiro. Mae hyn yn golygu os bydd camgymeriad neu wall yn cael eu darganfod, gennych chi neu gennym ni, byddwn yn cywiro hynny.

Pa mor gywir yw'r data sy'n cael ei ddal ar ein systemau?

Byddwn yn cymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod ein cofnodion yn gywir. Gallwch ofyn i ni ddiweddaru unrhyw ddata personol os ydych yn meddwl ei fod yn anghywir, wedi dyddio, neu'n anghyflawn.

Helpwch ni i ddiweddaru eich data personol. Er enghraifft, rhowch wybod os byddwch yn symud, os bydd eich cyfeiriad e-bost neu rif ffôn yn newid, os bydd eich cyfenw yn newid neu os cafodd ei gamsillafu, neu os yw eich côd post yn anghywir.

Os yw eich manylion wedi newid, y ffordd hawsaf o roi gwybod i ni yw diweddaru eich manylion ar ein gwefan.

Gallwch hefyd weld, gwirio a lawrlwytho eich Trwydded Deledu.

Neu, gallwch roi gwybod i ni am newidiadau trwy ffonio 0300 790 6131 neu ysgrifennu at TV Licensing, Darlington DL98 1TL, gan roi'r manylion sydd gennym amdanoch ar hyn o bryd, ynghyd â'r rhai cywir.

Mae diweddaru eich manylion yn golygu y byddwch yn derbyn negeseuon gwasanaeth hanfodol a defnyddiol yn unig gennym am eich Trwydded Deledu, i sicrhau eich bod wedi'ch trwyddedu'n gywir. Mae’n golygu hefyd fod gennym gofnod cywir ar ein system, os nad oes arnoch angen trwydded.

Os oes gennych ganiatâd i ddiweddaru manylion personol ar ran deiliad trwydded, gallwn ofyn i chi ddarparu tystiolaeth eu bod wedi caniatáu i chi wneud hyn.

Yn ôl i'r ddewislen

Cyfathrebu

Sut byddwn yn cysylltu â chi

Gallwn ddefnyddio eich enw, cyfeiriad, cyfeiriad e-bost a rhif ffôn pan fydd angen i ni gysylltu â chi. Mae ein negeseuon gwasanaeth wedi'u cynllunio i'ch cynorthwyo i barhau wedi'ch trwyddedu, neu gadarnhau nad oes arnoch angen trwydded.

Mae ein dyletswydd cyhoeddus i gasglu ffi'r drwydded yn mynnu ein bod yn cadw costau mor isel â phosib. Felly byddai'n well gennym gysylltu â chi trwy e-bost. Mae gwneud hyn yn arbed arian i ni, y gellir ei fuddsoddi wedyn yn rhaglenni a gwasanaethau'r BBC.

Felly os ydych wedi rhoi cyfeiriad e-bost i ni, byddwn yn ei ddefnyddio i gysylltu â chi gyda negeseuon gwasanaeth hanfodol yn unig, gan gynnwys dolen at eich Trwydded Deledu ar lein (oni bai eich bod wedi gofyn i ni ei hanfon drwy’r post). Ar hyn o bryd, oherwydd cyfyngiadau ar ein systemau, ni allwn anfon negeseuon gwasanaeth safonol atoch trwy e-bost os oes gennych Drwydded Deledu dros 75, neu os ydych yn talu am eich Trwydded Deledu gan ddefnyddio cerdyn talu Trwyddedu Teledu.

Gallwch ddweud wrthym os nad ydych eisiau i ni gysylltu â chi trwy e-bost. Ond dylech nodi, mae hyn yn golygu y bydd raid i ni ysgrifennu atoch drwy'r post, ac efallai y bydd angen i ni eich ffonio yn lle hynny.

Os ydych wedi rhoi rhif ffôn symudol i ni, gallwn anfon negeseuon SMS atoch. Er enghraifft, i roi gwybod i chi fod taliad wedi methu.

Os ydych eisiau dweud wrthym am beidio ag anfon negeseuon testun atoch, gallwch anfon e-bost atom, ein ffonio ar 0300 790 6042* neu ysgrifennu atom yn TV Licensing, Darlington, DL98 1TL. O hynny ymlaen, os bydd arnom angen cysylltu â chi, byddwn yn eich ffonio yn lle hynny, yn ysgrifennu atoch trwy’r post neu’n anfon e-bost atoch (os ydych wedi darparu cyfeiriad e-bost).

Sylwch os ydych yn talu am eich Trwydded Deledu gan ddefnyddio’r Cynllun Talu Syml, a’ch bod eisiau i ni roi’r gorau i anfon e-byst neu negeseuon testun atoch, gallwch ysgrifennu atom yn:
Tîm y Cynllun Talu Syml, Trwyddedu Teledu, BLWCH POST 923, Casnewydd NP20 9PR. Neu gallwch ein ffonio ar 0300 300 1030.

Sut gallwch gysylltu â ni

Ynghylch eich Trwydded Deledu neu Drwyddedu Teledu

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am eich Trwydded Deledu neu am Drwyddedu Teledu, dyma sut i gysylltu â ni.

Ynghylch ein Polisi Preifatrwydd neu eich data

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, sylwadau neu gwynion am Bolisi Preifatrwydd Trwyddedu Teledu, ysgrifennwch atom yn:

TV Licensing Data Protection Officer
BBC TV Licensing Management Team
Broadcast Centre BC2 C6
White City Place
201 Wood Lane
Llundain W12 7TP

Fodd bynnag, os yw’n well gennych, gallwch e-bostio Swyddog Diogelu Data y BBC (agor mewn ffenestr newydd) neu ysgrifennu atynt yn BBC DPO, BC2 A4, 201 Wood Lane, W12 7TP.

Mae'r gyfraith yn rhoi hawl i chi gysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) (agor mewn ffenestr newydd) ynghylch y ffordd y byddwn yn defnyddio eich data personol. Rhif cofrestredig ICO y Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig yw Z517352X.

Yn ôl i'r ddewislen

Y Defnydd o Gwcis

Tabl cynnwys

Beth yw cwci?

Allaf i bori drwy wefan Trwyddedu Teledu heb dderbyn unrhyw gwcis?

Sut mae Trwyddedu Teledu yn defnyddio cwcis

Cwcis sy'n cael eu defnyddio ar wefan Trwyddedu Teledu

Technolegau olrhain eraill

Sut gallaf weld a rheoli cwcis?

Dolenni eraill gyda mwy o wybodaeth am gwcis

Dolenni perthnasol at wefannau eraill

Cwci yw ychydig bach o ddata sy'n cael ei storio ar eich cyfrifiadur neu ddyfais symudol gan wefan, er mwyn gallu adfer y wybodaeth yn y cwci yn ddiweddarach.

Gall gwefan anfon ei gwci ei hun i'ch dyfais. Mae'n unigryw i'ch porwr gwe chi a bydd yn cynnwys gwybodaeth fel cyfeirnod adnabod unigryw, y safle rydych yn pori drwyddo a rhif unigryw sy'n caniatáu i wefan gofio eich dewisiadau, neu beth rydych wedi'i deipio a'ch cynnydd trwy ffurflen ar lein.

Trwy ddefnyddio cwcis, bydd gwefannau yn gallu olrhain nifer yr ymwelwyr sydd ganddynt a mynd ati hefyd i gofnodi nifer yr ymwelwyr sydd ganddynt ac i ble'r aethant nesaf. Defnyddir technolegau tebyg i weld a gafodd e-bost ei ddarllen neu a yw unigolyn wedi clicio ar ddolen.

Allaf i bori drwy wefan Trwyddedu Teledu heb dderbyn unrhyw gwcis?

Gan ddibynnu ar y porwr gwe rydych yn ei ddefnyddio, mae'n bosib y byddwch yn gallu dewis derbyn neu wrthod cwcis. Os byddwch yn gosod eich cyfrifiadur i wrthod cwcis, gallwch bori o hyd yn tvlicensing.co.uk. Ond, ni fydd rhai nodweddion pwysig ar gael i chi, gan gynnwys talu am eich Trwydded Deledu a diweddaru eich manylion. Trwy barhau i ddefnyddio ein gwefan rydych yn cydsynio i’n cwcis – ond gallwch gael gwybod hefyd sut i reoli ein defnydd ar gwcis.

Sut mae Trwyddedu Teledu yn defnyddio cwcis

Mae cwcis yn gadael i ni adnabod eich dyfais ac olrhain y rhyngweithio unigryw gyda gwefan Trwyddedu Teledu. Ni fyddwn byth yn defnyddio cwcis i greu proffil personol ohonoch - a byddwn yn asesu perfformiad y wefan yn anhysbys, heb eich adnabod chi'n bersonol (oni bai ein bod yn gorfod gwneud hynny mewn ymateb i unrhyw weithgarwch troseddol neu’n gysylltiedig â diogelwch sydd wedi effeithio ar ein cwsmeriaid).

Cwcis sy'n gwbl angenrheidiol

Byddwn yn defnyddio cwcis sy'n gwbl angenrheidiol i'ch galluogi i symud o amgylch y safle neu ddarparu nodweddion rydych wedi gofyn amdanynt - er enghraifft, talu am eich Trwydded Deledu neu ddiweddaru eich manylion.

Cwcis perfformiad

Byddwn hefyd yn defnyddio cwcis er mwyn ein helpu i fesur a gwella perfformiad ein gwefan, er mwyn i chi gael gwell profiad wrth bori a helpu i fesur effeithiolrwydd ein cyfathrebiadau ar lein, llythyrau ac e-byst.

Cwcis hysbysebu

Yn olaf, gallwn hefyd ddefnyddio cwcis hysbysebu er mwyn cyflwyno hysbysebion mwy perthnasol ar wefannau eraill i gwsmeriaid sydd wedi ymweld â gwefan Trwyddedu Teledu o’r blaen ac sydd efallai heb gwblhau prynu trwydded (mae’n bosib y cewch eich annog ar ddyfais wahanol i’r un roeddech yn ei defnyddio’n flaenorol). Mae’r cwcis hyn yn cael eu defnyddio hefyd i gyfyngu ar nifer yr adegau y byddwch yn gweld hysbyseb yn ogystal â chynorthwyo i fesur pa mor effeithiol yw ein hymgyrchoedd.

  • Bydd cwcis parti cyntaf yn cael eu gosod ar ein gwefan gan Drwyddedu Teledu (y BBC a'i gyflenwyr). Dim ond y nhw all adfer y wybodaeth yn y cwcis hyn.
  • Mae cwcis trydydd parti yn cael eu gosod gan Havas Media Ltd, un o gyflenwyr dan gontract gan y BBC. Mae Havas yn defnyddio cwmnïau trydydd parti fel Amazon, Google Doubleclick ac Adwords i ddarparu hysbysebion perthnasol ar lein (baneri ar wefannau eraill a hysbysebion ar beiriannau chwilio) i annog pobl i brynu trwydded neu newid eu manylion. Defnyddir y cwcis hyn i fonitro perfformiad cyffredinol yr hysbysebion hynny.
  • Dysgwch sut gallwch weld a rheoli’r cwcis rydym yn eu defnyddio.

Cwcis sy'n cael eu defnyddio ar wefan Trwyddedu Teledu:

Hollol angenrheidiol:

  • JSESSIONID
  • TVL-JSESSIONID

Mae hwn yn creu cod adnabod unigryw (rhif ar hap sy’n benodol yn unig i'ch sesiwn ar y wefan) fel y gallwn storio’r data ynghylch eich sesiwn. Mae’n dod i ben ar ddiwedd eich sesiwn (pan fyddwch yn gadael gwefan Trwyddedu Teledu) a bydd yn cael ei ddileu oddi ar eich dyfais pan fyddwch yn cau eich porwr.

  • ROUTEID
  • SSROUTEID
  • CSROUTEID

Gan fod ein gwefan yn defnyddio mwy nag un gweinydd, defnyddir y cwci hwn i wneud yn siwr fod y gweithgaredd i gyd o fewn eich ymweliad yn cael ei gyfeirio at yr un un. Mae’n dod i ben ar ddiwedd eich sesiwn (pan fyddwch yn gadael gwefan Trwyddedu Teledu) a bydd yn cael ei ddileu pan fyddwch yn cau eich porwr.

X-Mapping

Defnyddir hwn i gadw sesiwn eich porwr yn gyfan a bydd yn cael ei ddileu pan fyddwch yn cau eich porwr.

  • Incap_ses_
  • Visid_incap_

Defnyddir y cwcis hyn i gynnal diogelwch a pherfformiad gwefan Trwyddedu Teledu. Mae'r cyntaf yn dod i ben ar ddiwedd eich sesiwn bori – gelwir hefyd yn cwci sesiwn. Mae'r ail yn dod i ben ar ôl dwy flynedd.

tvlicensingCookieConsent

Mae hwn yn cael ei ddal trwy arddangos baner i chi y tro cyntaf y bydd porwr eich dyfais yn ymweld â'n gwefan (neu'r tro nesaf y byddwch yn ymweld â'r safle ar ôl clirio cwcis o'ch porwr).

Byddwch yn derbyn un ai pan fyddwch yn derbyn y faner neu pan fyddwch yn parhau i bori'r wefan.

Bydd y cwci hwn yn dod i ben ar ôl 5 mlynedd.

firstVisit

Mae'r cwci hwn yn cael ei ddal trwy arddangos baner sy’n egluro ein defnydd o gwcis y tro cyntaf y bydd porwr eich dyfais yn ymweld â gwefan y Cynllun Talu Syml (neu'r tro nesaf y byddwch yn ymweld â'r safle ar ôl clirio cwcis o'ch porwr). Mae’r cwci hwn yn parhau hyd nes y byddwch yn ei glirio o’ch porwr.

Cwcis perfformiad:

WT_FPC (WebTrends)

Defnyddir y cwci hwn yn anhysbys i olrhain eich sesiwn ar wefan Trwyddedu Teledu, fel rhan o system olrhain sesiwn Webtrends. Bydd Trwyddedu Teledu yn defnyddio WebTrends i fonitro a gwella teithiau cwsmeriaid ar y wefan. Mae'n dod i ben ar ôl 10 mlynedd.

ACOOKIE

Defnyddir hwn yn anhysbys i olrhain eich sesiwn gan barth WebTrends Data Collector, i wella adrodd WebTrends Analytics pan fydd safleoedd ar fwy nag un parth. Mae'n dod i ben ar ôl 2 flynedd.

wt. (Webtrends Optimize)

Mae’r cwcis hyn yn cael eu defnyddio i ganiatáu i ni fesur a rhoi prawf ar berfformiad gwelliannau i gynnwys a swyddogaethau ar wefan Trwyddedu Teledu. Maen nhw hefyd yn caniatáu i ni ddarparu negeseuon gwasanaeth i gwsmeriaid ychwanegol ac awgrymiadau defnyddiol pan fo angen. Mae’r cwcis hyn yn dod i ben ar ddiwedd eich sesiwn (pan fyddwch yn gadael gwefan Trwyddedu Teledu) a byddant yn cael eu dileu oddi ar eich dyfais pan fyddwch yn cau eich porwr.

Google Analytics

Bydd Trwyddedu Teledu yn defnyddio Google Analytics i fonitro sut bydd cwsmeriaid yn rhyngweithio â’n gwefannau. Byddwn yn dadansoddi'r data hwn i wella perfformiad y wefan. Ewch i Google Analytics (agor mewn ffenestr newydd) i gael rhagor o fanylion am y mathau o dagiau y maent yn eu defnyddio.

Cwcis hysbysebu trydydd parti:

Google Doubleclick

Mae hyn yn ein helpu i ddeall/gwella teithiau cwsmeriaid, ac i deilwra cyfathrebiadau i ddyfeisiau a ddefnyddir i wneud defnydd o beiriannau chwilio a gwefannau trydydd parti ar ôl gadael y wefan Trwyddedu Teledu. Gwnawn hyn trwy fesur a yw dyfais defnyddiwr yn:

  • Gwneud trafodiad (e.e. prynu trwydded deledu neu’n diweddaru manylion y drwydded)
  • Gadael y wefan heb gwblhau trafodiad
  • Erych ar dudalennau penodol a rhyngweithio â nhw ar y wefan Trwyddedu Teledu ar ôl edrych ar gyfathrebiad ar-lein gan Drwyddedu Teledu (e.e. baner)

Gall y cwcis hyn barhau hyd at 390 diwrnod.

Google Adwords

Mae hyn yn ein helpu i ddeall/gwella teithiau cwsmeriaid, ac i deilwra cyfathrebiadau i ddyfeisiau a ddefnyddir i wneud defnydd o beiriannau chwilio a gwefannau trydydd parti ar ôl gadael y wefan Trwyddedu Teledu. Gwnawn hyn trwy fesur a yw dyfais defnyddiwr yn:

  • Gwneud trafodiad (e.e. prynu trwydded deledu neu’n diweddaru manylion y drwydded)
  • Gadael y wefan heb gwblhau trafodiad
  • Edrych ar dudalennau penodol a rhyngweithio â nhw ar y wefan Trwyddedu Teledu ar ôl edrych ar gyfathrebiad ar-lein gan Drwyddedu Teledu (e.e. baner)

Gall y cwcis hyn barhau am uchafswm o 390 diwrnod.

Xandr

Mae hyn yn ein helpu i ddeall/gwella teithiau cwsmeriaid, ac i deilwra cyfathrebiadau i ddyfeisiau a ddefnyddir i wneud defnydd o beiriannau chwilio a gwefannau trydydd parti ar ôl gadael y wefan Trwyddedu Teledu. Gwnawn hyn trwy fesur a yw dyfais defnyddiwr yn:

  • Gwneud trafodiad (e.e. prynu trwydded deledu neu’n diweddaru manylion y drwydded)
  • Gadael y wefan heb gwblhau trafodiad
  • Edrych ar dudalennau penodol a rhyngweithio â nhw ar y wefan Trwyddedu Teledu ar ôl edrych ar gyfathrebiad ar-lein gan Drwyddedu Teledu (e.e. baner)

Gall y cwcis hyn barhau am uchafswm o 90 diwrnod.

Hysbysebu Amazon

Mae hyn yn ein helpu i ddeall/gwella teithiau cwsmeriaid, ac i deilwra cyfathrebiadau i ddyfeisiau a ddefnyddir i wneud defnydd o beiriannau chwilio a gwefannau trydydd parti ar ôl gadael y wefan Trwyddedu Teledu. Gwnawn hyn trwy fesur a yw dyfais defnyddiwr yn:

  • Gwneud trafodiad (e.e. prynu trwydded deledu neu’n diweddaru manylion y drwydded)
  • Gadael y wefan heb gwblhau trafodiad
  • Edrych ar dudalennau penodol a rhyngweithio â nhw ar y wefan Trwyddedu Teledu ar ôl edrych ar gyfathrebiad ar-lein gan Drwyddedu Teledu (e.e. baner)

Gall y cwcis hyn barhau am uchafswm o 400 diwrnod.

Hysbysebu Yahoo

Mae hyn yn ein helpu i ddeall/gwella teithiau cwsmeriaid, ac i deilwra cyfathrebiadau i ddyfeisiau a ddefnyddir i wneud defnydd o beiriannau chwilio a gwefannau trydydd parti ar ôl gadael y wefan Trwyddedu Teledu. Gwnawn hyn trwy fesur a yw dyfais defnyddiwr yn:

  • Gwneud trafodiad (e.e. prynu trwydded deledu neu’n diweddaru manylion y drwydded)
  • Gadael y wefan heb gwblhau trafodiad
  • Edrych ar dudalennau penodol a rhyngweithio â nhw ar y wefan Trwyddedu Teledu ar ôl edrych ar gyfathrebiad ar-lein gan Drwyddedu Teledu (e.e. baner)

Gall y cwcis hyn barhau am uchafswm o 365 diwrnod.

Meta Pixel

Mae hyn yn ein helpu i ddeall/gwella teithiau cwsmeriaid, ac i deilwra cyfathrebiadau i ddyfeisiau a ddefnyddir i wneud defnydd o beiriannau chwilio a gwefannau trydydd parti ar ôl gadael y wefan Trwyddedu Teledu. Gwnawn hyn trwy fesur a yw dyfais defnyddiwr yn:

  • Gwneud trafodiad (e.e. prynu trwydded deledu neu’n diweddaru manylion y drwydded)
  • Gadael y wefan heb gwblhau trafodiad
  • Edrych ar dudalennau penodol a rhyngweithio â nhw ar y wefan Trwyddedu Teledu ar ôl edrych ar gyfathrebiad ar-lein gan Drwyddedu Teledu (e.e. baner)

Gall y cwcis hyn barhau am uchafswm o 390 diwrnod.

Snapchat Pixel

Mae hyn yn ein helpu i ddeall/gwella teithiau cwsmeriaid, ac i deilwra cyfathrebiadau i ddyfeisiau a ddefnyddir i wneud defnydd o beiriannau chwilio a gwefannau trydydd parti ar ôl gadael y wefan Trwyddedu Teledu. Gwnawn hyn trwy fesur a yw dyfais defnyddiwr yn:

  • Gwneud trafodiad (e.e. prynu trwydded deledu neu’n diweddaru manylion y drwydded)
  • Gadael y wefan heb gwblhau trafodiad
  • Edrych ar dudalennau penodol a rhyngweithio â nhw ar y wefan Trwyddedu Teledu ar ôl edrych ar gyfathrebiad ar-lein gan Drwyddedu Teledu (e.e. baner)

Gall y cwcis hyn barhau am uchafswm o 396 diwrnod.

Cyfrifoldeb y gwefannau trydydd parti eu hunain yw darparu gwybodaeth am gwcis nad ydynt yn rhai Trwyddedu Teledu a allai gael eu cyflwyno oddi ar eu gwefannau. Rydym yn argymell eich bod yn bwrw golwg dros bolisi cwcis unrhyw safleoedd allanol os hoffech wybod mwy am sut maent yn eu defnyddio.

Technolegau olrhain eraill

Cyfeiriadau Protocol y Rhyngrwyd

Cesglir gwybodaeth dechnegol amdanoch hefyd trwy ddefnyddio cyfeiriadau Protocol y Rhyngrwyd (IP). Mae cyfeiriad IP yn rhif a roddir ar eich cyfrifiadur gan Ddarparwr Gwasanaethau'r Rhyngrwyd (ISP), er mwyn i chi allu mynd ar y Rhyngrwyd.

Yn y rhan fwyaf o achosion mae cyfeiriad IP yn ddynamig (gan olygu ei fod yn newid o bryd i'w gilydd wrth i chi gysylltu â'r Rhyngrwyd), yn hytrach nag yn statig (yn unigryw i gyfrifiadur defnyddiwr neilltuol). Byddwn yn logio cyfeiriad IP unrhyw ddefnyddiwr sy'n ymweld â'r wefan, yn bennaf i olrhain geo-leoliad a deall sut bydd pobl yn rhyngweithio â'n gwefan. Gellir defnyddio cyfeiriad IP ynghyd ag allweddi webtrends hefyd dan amgylchiadau eithriadol i adnabod cwsmeriaid y gallai digwyddiad diogelwch fod wedi effeithio arnynt.

Sut gallaf weld a rheoli cwcis?

I weld cwcis sydd wedi'u storio ar eich cyfrifiadur neu ddyfais symudol, dylech edrych ar osodiadau eich porwr. Os nad ydych yn dymuno derbyn cwcis, gallwch addasu eich porwr er mwyn iddo roi gwybod i chi pan fydd cwcis yn cael eu hanfon ato, neu gallwch wrthod cwcis yn gyfan gwbl. Gallwch hefyd ddileu cwcis sydd wedi'u gosod yn barod.

Os byddwch yn gosod eich cyfrifiadur i wrthod cwcis, gallwch bori yn tvlicensing.co.uk o hyd ond ni fydd rhai nodweddion penodol ar gael i chi. Er enghraifft, ni fyddwch yn gallu talu am eich Trwydded deledu na diweddaru eich manylion.

Fel arfer gallwch reoli pob cwci trwy eich porwr gwe. Fel arfer mae'r gosodiadau hyn ar gael yn newislen Options neu Preferences eich porwr. I ddeall y gosodiadau hyn, gallai'r dolenni canlynol fod yn ddefnyddiol, neu gallwch ddefnyddio'r opsiwn Help yn eich porwr am fwy o fanylion.

Gosodiadau cwcis yn Internet Explorer (agor mewn ffenestr newydd)

Gosodiadau cwcis yn Firefox (agor mewn ffenestr newydd)

Gosodiadau cwcis yn Chrome (agor mewn ffenestr newydd)

Gosodiadau cwcis yn Safari web (agor mewn ffenestr newydd) ac iOS (agor mewn ffenestr newydd).

Neu, ewch i www.aboutcookies.org (agor mewn ffenestr newydd) sy'n cynnwys cyfarwyddiadau cynhwysfawr ar gyfer amryw o wahanol borwyr.

I reoli cwcis hysbysebu trydydd parti, bydd angen i chi fynd i'r adran polisi cwcis ar eu gwefannau i gael gwybod sut byddant yn defnyddio cwcis a sut i'w rheoli. Mae'r dolenni isod at ddarparwyr cwcis rydym yn eu defnyddio ar hyn o bryd ar wefannau Trwyddedu Teledu.

Polisi cwcis Amazon (agor mewn ffenestr newydd)

Polisi cwcis Google (agor mewn ffenestr newydd)

 

Ymhlith rhai hysbysebion wedi’u targedu y byddwn ni (neu ddarparwr gwasanaeth sy’n gweithredu ar ein rhan) yn eu harddangos i chi ar sail gwybodaeth am eich gweithgareddau ar lein ar draws gwefannau ac eiddo rhyngweithiol eraill a weithredir gan drydydd partïon, gallant gynnwys yr eicon “Ad Choices” neu ddull arall o optio allan rhag derbyn hysbysebion ar sail diddordebau. Gallwch glicio ar eicon AdChoices neu fynd i www.aboutads.info i dderbyn rhagor o wybodaeth am gasglu a defnyddio gwybodaeth am eich gweithgareddau ar lein ar gyfer hysbysebu ar sail diddordebau.

Youronlinechoices.com/uk/ (agor mewn ffenestr newydd)

ghostery.com (agor mewn ffenestr newydd)

BBC – Ynghylch cwcis

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (agor mewn ffenestr newydd)

Aboutcookies.org (agor mewn ffenestr newydd)

Allaboutcookies.org (agor mewn ffenestr newydd)

Yn ôl i'r ddewislen

Diolch am ddarllen Polisi Preifatrwydd Trwyddedu Teledu

Gallwch hefyd ddarllen Polisi Preifatrwydd y BBC.

Fe gafodd Polisi Preifatrwydd Trwyddedu Teledu ei ddiweddaru ddiwethaf ar 7 Medi 2023.

*Nid yw galwadau i’n rhifau 0300 yn costio dim mwy na galwad ar gyfradd genedlaethol i rif 01 neu 02, boed o ffôn symudol neu linell dir. Os ydych yn cael munudau cynhwysol, bydd galwadau i rif 0300 yn cael eu cynnwys yn rhad ac am ddim.